Agenda item

I ystyried cais Mr A

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

Penderfyniad:

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

       Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

       Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

       Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

       Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

       Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

       Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol, adroddiad yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA)

 

Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor ganiatáu y cais.

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir y pwyntiau cosb ar ei drwydded a’i amgylchiadau personol.

 

PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

·      GofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·      ffurflen gais yr ymgeisydd

·      adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS ac adroddiad Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau

·      sylwadau ar lafar gan yr ymgeisydd

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol

 

Cefndir

 

Yn Medi 2022 derbyniodd yr ymgeisydd 6 pwynt cosb arnodedig ar ei drwydded am Dorri Gofynion (Breach of Requirements) rheoli cerbyd, ffôn symudol ac ati.

 

CYMALAU PERTHNASOL Y POLISI

 

Mae rhan 12 o’r Polisi yn ymwneud â chollfarnau moduro gyda pharagraff 12.3 yn nodi y bydd cais yn cael ei wrthod os oes collfarn yn erbyn yr ymgeisydd ac nad yw wedi bod yn rhydd rhag collfarn am 6 mis o leiaf.

 

Mae paragraff 13.3 yn nodi y “Gallai mwy nag un gollfarn am fân drosedd traffig neu fater arall i'w ystyried arwain at wrthod cais, yn enwedig os oes sawl collfarn neu faterion eraill i’w hystyried ar gyfer yr un drosedd, e.e. goryrru. Mae’n bosibl y caiff gyrrwr trwyddedig ei gyfeirio at sylw'r Pwyllgor Trwyddedu os oes mwy na dwy drosedd ac/neu gyfanswm o 6 phwynt ar ei drwydded

 

CASGLIADAU

 

Ystyriodd yr Is-bwyllgor esboniad yr ymgeisydd o’r amgylchiadau a arweiniodd at y gollfarn ynghyd ag argymhelliad y swyddogion o ganiatáu y cais. Er mai codi ffôn oedd wedi disgyn a wnaeth yr ymgeisydd, amlygwyd bod defnyddio / gafael mewn ffôn wrth yrru yn fater difrifol a bellach yn anghyfreithlon. Serch hynny, derbyniwyd esboniad yr ymgeisydd o amgylchiadau penodol y digwyddiad yma.

 

Roedd yr Is-bwyllgor yn falch o nodi bod yr ymgeisydd yn derbyn cyfrifoldeb am y weithred ac wedi cyfaddef yn onest ac agored o fod wedi gwneud camgymeriad. Roedd yr Is-bwyllgor hefyd yn falch o nodi ei fod wedi hysbysu Awdurdod Trwyddedu Ynys Môn o’r digwyddiad.

 

O ystyried amgylchiadau’r drosedd, roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon nad oedd unrhyw beth i awgrymu y byddai’r ymgeisydd yn peryglu cwsmeriaid wrth yrru. Wedi pwyso a mesur yr holl ffactorau yn ofalus penderfynodd yr Is-bwyllgor o blaid caniatáu y cais a bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal trwydded gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd.