Bonna Pizza, 23 Holyhead
Rd, Bangor LL57 2EU
I ystyried y cais
Penderfyniad:
Cofnod:
Bona Pizza, 23 Ffordd Caergybi, Bangor
Croesawodd y Cadeirydd
bawb i’r cyfarfod.
a)
Adroddiad yr
Adran Trwyddedu
Amlygodd y Rheolwr
Trwyddedu nad oedd yr Aelodau Lleol wedi cyflwyno sylwadau, ond yn awyddus i
annerch yr Is-bwyllgor os byddai’r holl bartïon yn derbyn hynny.
Mewn ymateb,
nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd eu bod yn derbyn anerchiad yr Aelodau Lleol,
ond yn dymuno nodi bod amserlen bendant wedi ei gosod ar gyfer cyflwyno
sylwadau.
Cyflwynwyd
adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer siop
bwyd poeth i’w gario allan yn gwerthu pizza, kebabs, byrgyrs a sglodion; y cais
yn cael ei gyflwyno mewn perthynas â darparu lluniaeth hwyr yn y nos ac oddi ar
yr eiddo.
Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod
y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau
perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i
hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu
cynnwys ar y drwydded.
Tynnwyd sylw at yr
ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd bod
gwrthwynebiadau i’r cais wedi eu derbyn gan aelodau o’r cyhoedd ar sail niwsans
cyhoeddus, yn benodol mewn perthynas tebygol mewn sŵn yn hwyr yn y nos gan
gwsmeriaid, yn ogystal â niwsans arogleuon. Nodwyd hefyd bod deiseb wedi ei
derbyn yn cyfeirio at bryderon mewn perthynas ar Amcanion Trwyddedu o Atal
Niwsans Cyhoeddus a Diogelwch y Cyhoedd. Amlygwyd bod Heddlu Gogledd Cymru yn
argymell amodau TCC i’w cynnwys ar y drwydded ynghyd a sicrhau bod staff yn
derbyn hyfforddiant mewn perthynas â holl agweddau’r Ddeddf Trwyddedu. Nid oedd
gan y Gwasanaeth Tân wrthwynebiad i’r cais
Argymhellwyd i’r
Pwyllgor ganiatáu’r cais yn unol â sylwadau’r Heddlu a gofynion Deddf Drwyddedu
2003.
a)
Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:
·
Cyfle i Aelodau’r is-bwyllgor ofyn cwestiynau i
gynrychiolydd y Cyngor.
·
Ar ddisgresiwn y Cadeirydd, yr ymgeisydd neu ei
gynrychiolydd i ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor.
·
Rhoi cyfle i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd
ymhelaethu ar y cais a galw tystion
·
Rhoi cyfle i Aelodau’r is-bwyllgor ofyn cwestiynau
i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd
·
Ar ddisgresiwn y Cadeirydd gall cynrychiolydd y
Cyngor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd
·
Rhoi gwahoddiad i bob Ymgynghorai gefnogi unrhyw
sylwadau ysgrifenedig
·
Rhoi cyfle i gynrychiolydd y Cyngor a’r ymgeisydd
neu ei gynrychiolydd grynhoi eu
hachos.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r ‘angen’ i’r
eiddo fod yn agored hyd 3:30am, nododd y Rheolwr Trwyddedu bod ardal Bangor
Uchaf yn ardal drwyddedig hwyr -
byddai’r eiddo yma yn cyfateb i oriau trwyddedig dau eiddo pryd ar glud arall
yn yr ardal.
Wrth ymhelaethu ar
y cais, nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd:
·
Ei bod yn sicrhau bod gan y ddau ymgeisydd brofiad
helaeth o weithio yn y diwydiant bwyd (cyfnod o 25 mlynedd)
·
Bod oriau agor bwriededig yn cyfateb i oriau 2
eiddo arall yn yr un ardal ynghyd a siop
gyfleus oedd yn agor 24 awr
·
Bod gofyn am hanner awr ychwanegol ar nos Lun a
Mercher gan mai rhain yw prif nosweithiau allan y myfyrwyr a’u bod yn dymuno
manteisio ar hyn
·
Bod Stryd Albert cryn bellter o’r eiddo ac felly ni
fydd yn cael effaith uniongyrchol gan sŵn ac arogleuon bwyd
·
Bod cyfeiriad at wydrau ar y pafin yn gamarweiniol
- ni fydd gwydr yn cael ei ddefnyddio gan yr ymgeiswyr - dim ond caniau diod
·
Bod yr ymgeiswyr yn ecogyfeillgar - am osgoi
defnyddio hambyrddau polystyren
·
Ni fydd cynnydd mewn sŵn - bydd y sŵn yn
cael ei wasgaru o’r siopau presennol - hynny yw, dim sŵn ychwanegol
Cyng. Huw Wyn Jones (Aelod Lleol)
·
Bod agor tan 3:30am yn afresymol, yn enwedig ar nos
Lun
·
Bod Bangor Uchaf yn dueddol o gau lawr o gwmpas
1:00am ac felly pam bod angen i’r eiddo yma agor yn llawer hwyrach?
·
Pryder y gall greu ‘marchnad newydd’ gyda phobl yn
teithio o bell i gael bwyd am oriau man y bore
·
Pryder am gynnydd mewn parcio a sŵn
·
Bod Albert Street yn cefnu ar yr eiddo
Cyng. Medwyn Hughes
·
Derbyn bydd y sŵn yn cael ei wasgaru, ond nid
yw hyn yn gwneud yr ardal yn llai distaw
·
Er bod mesurau wedi eu cynnwys ar gyfer
gwaharddiadau, sut bydd y rhain yn cael eu monitro? A yw’r Heddlu yn monitro’r
sefyllfa?
·
Angen ystyried effaith niwsans cyhoeddus, sŵn,
sbwriel ac arogleuon ar drigolion lleol
Elizabeth Williams (Heddlu Gogledd Cymru)
·
Wedi cynnal trafodaethau gyda’r ymgeisydd sydd wedi
cytuno i osod TCC
·
Dim cwynion o’r safle na thystiolaeth i
wrthwynebu’r cais
Mewn ymateb i gwestiwn gan un o Aelodau’r Is-bwyllgor am hanes o drwbl
ym Mangor Uchaf ar ôl hanner nos, nodwyd nad oedd llawer o gwynion wedi dod i
law. Gyda’r tafarnau yn cau am 1:00am nid oedd cwynion wedi eu derbyn am y
llefydd bwyta nac o drosedd ac anrhefn.
Yn manteisio ar y
cyfle i grynhoi eu hachos, nododd y Rheolwr Trwyddedu;
·
Bod y cais yn un am drwydded lluniaeth hwyr a bod
busnesau tebyg yn yr ardal eisoes wedi derbyn trwydded lluniaeth hwyr
·
Derbyn bod potensial o greu niwsans sŵn ond
amodau wedi eu gosod
·
Yr atodlen weithredol yn rhoi addewid bod yr
ymgeiswyr yn cadw at yr amodau, ond bod modd i unrhyw barti gyflwyno cais i
adolygu’r drwydded os bydd problemau yn codi o’r eiddo
·
Nad oedd tystiolaeth benodol o’r eiddo gan yr Uned
Trwyddedu yn awgrymu bod y cais yn tanseilio’r amcanion trwyddedu
Yn manteisio ar y
cyfle i grynhoi eu hachos, nododd cynrychiolydd yr ymgeiswyr, eu bod yn
unigolion profiadol ac yn gyfarwydd gyda gweithio ym Mangor Uchaf. Ategwyd eu
bod yn rhedeg busnes effeithiol ac yn barod i gadw at amodau; eu bod yn ecogyfeillgar
ac nad oeddynt eisiau creu unrhyw ddrwgdeimlad.
b)
Diolchwyd i bawb am gyflwyno sylwadau ar y cais.
Ymneilltuodd yr ymatebwyr a’r Rheolwr Trwyddedu o’r cyfarfod tra bu i
aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.
Wrth gyrraedd y penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor
ffurflen gais yr ymgeisydd, sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y partïon â
diddordeb, adroddiad y Swyddog Trwyddedu ynghyd â sylwadau llafar pob
parti yn bresennol yn y gwrandawiad.
Ystyriwyd Polisi Trwyddedu’r
Cyngor a chanllawiau’r Swyddfa Gartref. Rhoddodd yr Is-bwyllgor
ystyriaeth briodol i’r holl sylwadau gan eu pwyso a’u mesur yn erbyn yr amcanion trwyddedu o dan y Ddeddf Trwyddedu
2003, sef:
i.
Atal trosedd ac anhrefn
ii.
Atal niwsans cyhoeddus
iii.
Sicrhau diogelwch cyhoeddus
iv.
Gwarchod plant rhag niwed
Diystyrwyd sylwadau ddaeth i law i’r graddau eu bod yn amherthnasol i’r
amcanion uchod.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.
Rhoddwyd y
drwydded fel a ganlyn:
Oriau agor
Dydd Sul 16:00 -
02:30
Dydd Llun 16:00 -
03:00
Dydd Mawrth 16:00
- 02:30
Dydd Mercher
16:00 - 03:00
Dydd Iau 16:00 -
02:30
Dydd Gwener 16:00
- 03:30
Dydd Sadwrn 16:00
- 03:30
Lluniaeth Hwyr Yn
Y Nos: Ar ac oddi ar yr eiddo.
Dydd Sul 16:00 -
02:30
Dydd Llun 16:00 -
03:00
Dydd Mawrth 16:00
- 02:30
Dydd Mercher
16:00 - 03:00
Dydd Iau 16:00 -
02:30
Dydd Gwener 16:00
- 03:30
Dydd Sadwrn 16:00
- 03:30
Ymgorffori'r materion sydd wedi eu rhagnodi
yn Atodlen Weithredol (Rhan M) y cais fel amodau ar y drwydded.
Ymgorffori'r amodau a argymhellwyd gan yr
Heddlu fel amodau i’r drwydded.
Rhesymau
Yng nghyd-destun
Trosedd ac Anhrefn ni chyflwynwyd unrhyw dystiolaeth o broblemau mewn perthynas â’r
eiddo. Cyflwynwyd sylwadau gan yr Heddlu yn argymell amodau, a cadarnhaodd yr
ymgeisydd ei fod yn hapus iddynt gael eu cynnwys fel amodau ar y drwydded.
Roedd yr Is-bwyllgor yn pwysleisio pwysigrwydd cadw at amodau’r Heddlu a’r angen i gadw recordiadau teledu cylch
cyfyng am oleiaf mis.
Yng nghyd-destun
Atal niwsans cyhoeddus, roedd yr Is-bwyllgor yn nodi ac yn cydnabod y
pryderon a gyflwynwyd yn y sylwadau ysgrifenedig ac a fynegwyd yn y
gwrandawiad. Bwriad y cais serch hynny oedd dod ag amseroedd agor yr eiddo i
gyfateb gydag oriau agor eiddo cyffelyb cyfagos (er ychydig o amrywiaeth mewn
perthynas â nos Lun a Mercher, nid oedd yn arwyddocaol ym marn yr Is-bwyllgor).
Ni chyflwynwyd unrhyw dystiolaeth fod problemau yn tarddu o’r eiddo, na thystiolaeth
i awgrymu y byddai caniatáu’r cais
yn arwain at broblemau. Fel y nodwyd yn ystod y gwrandawiad, pe bai problemau
yn codi, roedd y ddeddfwriaeth yn caniatáu gwneud cais i adolygu’r drwydded.
O dan yr
amgylchiadau roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod y cais yn gydnaws â’r pedwar
amcan trwyddedu, ac felly caniatawyd y cais.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol
drwy lythyr i bawb oedd wedi cyflwyno sylwadau ysgrifenedig. Ategwyd bod gan
bob parti i’r cais yr hawl i gyflwyno apêl yn Llys Ynadon Caernarfon yn erbyn
penderfyniad yr Is-bwyllgor. Dylid cyfeirio unrhyw apêl o’r fath drwy roi
rhybudd o apêl i’r Prif Weithredwr, Llys Ynadon Llandudno, Llandudno, o fewn
cyfnod o 21 diwrnod gan gychwyn â’r dyddiad y bydd yr apelydd yn derbyn llythyr
(neu gopi ohono) yn cadarnhau’r penderfyniad.
Dogfennau ategol: