I gyflwyno
gwybodaeth am gyfraniad yr adran i’r Polisi Iaith.
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad
gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Addysg
a thynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:
- Sicrhawyd bod Polisi Iaith Addysg Cyngor Gwynedd
wedi cael ei wreiddio drwy holl waith yr Adran Addysg ac ysgolion y sir.
- Eglurwyd bod ymgynghoriad llawn wedi cael ei gynnal ar ddrafft o Gynllun
Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSGA). Ymhelaethwyd bod y CSGA yn weithredol
ers mis Medi 2022. Eglurwyd y byddai’n cael ei fonitro’n gyson gan Weinidog y
Gymraeg ac Addysg Llywodraeth Cymru a bod yr adran yn mynd i ddefnyddio’r
cynllun fel dogfen fyw er mwyn sicrhau bod sefyllfa unigryw Gwynedd yn cael ei
adlewyrchu ynddo.
- Tynnwyd sylw penodol at fyd rhithiol ‘Aberwla’ fel darpariaeth arloesol
y Gyfundrefn Addysg Drochi. Bu i swyddogion Llywodraeth Cymru ymweld â’r safle
trochi newydd ym Mangor yn ddiweddar i weld y dysgwyr a oedd yn
newydd-ddyfodiaid yn defnyddio cyfarpar rhithwir er mwyn caffael y Gymraeg drwy
fynychu archfarchnad rithwir Aberwla. Canmolwyd y dull cyfoes a blaengar o godi
hyder plant i ddefnyddio’r Gymraeg mewn sefyllfaoedd gwahanol, fyddai’n eu
galluogi maes o law i ddefnyddio’u sgiliau yn y gymuned. Canmolwyd staff y
ganolfan drochi am eu gwaith arbennig ar y prosiect newydd yma.
- Yng
nghyd-destun recriwtio, nodwyd fod rhai heriau recriwtio yn rhai o
wasanaethau’r Adran megis arlwyo a glanhau, a bod problemau recriwtio athrawon
ar gyfer pynciau penodol mewn ysgolion uwchradd yng Ngwynedd, ond pwysleisiwyd
fod yr heriau recriwtio athrawon yn her genedlaethol.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion canlynol:
Gofynnwyd a oes gan rieni’r
hawl i fynnu bod addysg eu plant yn cael ei ddarparu drwy gyfrwng y Saesneg,
gan eithrio Cymraeg fel cyfrwng dysgu. Nodwyd y byddai hynny’n gallu bod yn
niweidiol i allu’r disgyblion rheiny i dderbyn swydd yn eu hardal leol oherwydd
diffyg yn eu sgiliau Cymraeg.
-
Mewn ymateb i’r ymholiad
cadarnhaodd yr Aelod Cabinet Addysg ei bod hi’n rhannu’r pryder ond yn derbyn
bod amryw o resymau pam fod rhieni yn gofyn i’w plant gael eu haddysgu drwy
gyfrwng y Saesneg.
-
Mewn ymateb i’r ymholiad
nododd y Pennaeth Addysg bod modd i ddisgyblion dderbyn rhannau o’u haddysg
drwy gyfrwng y Saesneg o dan y cwricwlwm newydd ac yn unol a’n polisi iaith ni
yma yng Ngwynedd. Mae hyn er mwyn sicrhau bod disgyblion yn hyderus ac yn
hyfedr yn defnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg.
-
Ymhelaethwyd bod yr
ymholiad hwn yn codi gan rieni o dro i dro, a bod swyddogion yr Adran a holl
athrawon y Sir yn trafod gyda rhieni er y manteision o dderbyn addysg
ddwyieithog, gyda’r gobaith y byddent yn
fodlon dilyn yr arweiniad hwnnw. Nodwyd bod yr adran wedi gweld cynnydd yn
niferoedd y rhieni sy’n fwy brwdfrydig i ddysgu Cymraeg fel oedolion ar ôl
gweld cynnydd eu plant wrth ddysgu’r Gymraeg.
-
Cadarnhaodd y Pennaeth
Addysg fod Llywodraeth Cymru wedi gosod gwaelodlin ar faint o addysg sy’n cael
ei ddarparu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hyn wedi ei osod oddeutu 60% ar hyn o
bryd, ond bod staff ysgolion Gwynedd yn ymwybodol bod disgwyliad i’r gyfradd
yng Ngwynedd fod yn llawer uwch na hynny ac mae ysgolion yn llwyddo i gynnal
canran uchel iawn o addysg plant drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mynegwyd pryder mai 40.73% o ysgolion Gwynedd yn unig oedd
wedi cwblhau asesiadau iaith. Credir ei fod yn bwysig gwybod lefelau sgiliau
ieithyddol holl staff ysgolion. Holiwyd pa fesurau sydd gan yr adran er mwyn
sicrhau bod gan staff ysgolion gyfleoedd i ddatblygu eu sgiliau ieithyddol.
- Esboniodd y Pennaeth Addysg bod hunanasesiadau sgiliau ieithyddol yn digwydd
yn barhaus o fewn ysgolion. Er hyn, cadarnhawyd bod trafferthion recriwtio yn
golygu nad oes gan holl aelodau staff sgiliau cryf yn y Gymraeg. Mae gwaith
parhaus yn cael ei wneud gyda’r aelodau staff hynny er mwyn sicrhau eu bod yn
gwella eu sgiliau ieithyddol yn y Gymraeg, a gwneir hyn drwy gefnogaeth
hyfforddiant.
- Derbyniwyd bod canran y staff oedd wedi cyflawni’r hunanasesiad (40.73%)
yn isel a bydd yr adran yn ymdrechu i sicrhau bod mwy o staff ysgolion yn
cyflawni’r hunanasesiad yn y dyfodol.
Holwyd faint o blant Gwynedd sy’n derbyn eu haddysg
drwy gyfrwng y Saesneg.
- Mewn ymateb i’r ymholiad nododd y Pennaeth Addysg
bod sefyllfa’r Gymraeg yn amrywio o ardal i ardal. Mae hyn wedi arwain at
gynllun i gynyddu’r Gymraeg a ddefnyddir
mewn dwy ysgol uwchradd o fewn y sir. Ymhelaethwyd bod yr adran yn buddsoddi
mewn ysgolion er mwyn cael adnoddau Cymraeg mewn ardaloedd ble mae canran
siaradwyr y Gymraeg yn îs na
chyfartaledd y Sir.
- Ymhelaethodd y Pennaeth Addysg bod y cwestiwn hwn
yn un anodd i’w ateb oherwydd bod y cwricwlwm newydd wedi cael ei gyflwyno sy’n
arwain at ddarpariaeth addysg ddwyieithog yn unol a’r polisi iaith fel y
trafodwyd eisoes.
- Mewn ymateb i’r ymholiad, eglurodd Pennaeth Cynorthwyol bod gwybodaeth
am ffigyrau darpariaeth addysg yn y blynyddoedd diwethaf yn cael ei gasglu ar
hyn o bryd ond nid yw’r wybodaeth hon ar gael eto. . Gobeithir sicrhau
diffiniadau o addysg Gymraeg, addysg Saesneg ac addysg ddwyieithog er mwyn
sicrhau bod y ffigyrau a gyflwynir yn gywir. Bydd trafodaeth bellach ar y mater
pan fydd y data wedi cael ei gasglu.
Cafwyd trafodaeth am bwysigrwydd y Gymraeg fel
iaith lafar yn y dosbarth. Cydnabuwyd bod llawer o bynciau yn defnyddio
llyfrau, offer a gwefannau Saesneg er mwyn cyflwyno’r addysg ond teimlwyd bod y
defnydd o’r Gymraeg tu mewn i’r dosbarthiadau yn angenrheidiol.
Gofynnwyd i’r swyddogion am eu syniadau ar gyfer
sicrhau bod darparwyr sy’n defnyddio tir ysgolion er mwyn chwaraeon ac ati, yn
gwneud hynny drwy gyfrwng y Gymraeg. Teimlwyd bod hyn yn ddull o sicrhau bod
disgyblion yn clywed yr iaith yn cael ei defnyddio’n naturiol y tu hwnt i’r
dosbarth a hefyd gyda’r nos ac ar benwythnosau.
- Mewn ymateb i’r ymholiad sicrhaodd y Pennaeth Addysg bod pob ymdrech yn
cael ei wneud er mwyn sicrhau bod hyfforddwyr yn defnyddio'r Gymraeg ar bob
cyfle.
- Mewn ymateb i’r ymholiad nododd Pennaeth Cynorthwyol Gwasanaethau
Corfforaethol bod sgyrsiau wedi cael eu cynnal er mwyn codi ymwybyddiaeth
penaethiaid ynglŷn â’r disgwyliadau pan fo trydydd parti yn defnyddio
cyfleusterau’r ysgol. Gobeithir atgyfnerthu’r gweithdrefnau hyn gyda
phenaethiaid yng nghyd-destun y Siarter Iaith yn y dyfodol er mwyn sicrhau bod
plant yn elwa o’r digwyddiadau hyn drwy gyfrwng y Gymraeg.
Nodwyd bod niferoedd disgyblion sy’n cwblhau pum pwnc drwy gyfrwng
y Gymraeg wedi gostwng 5% ers CSGA 2016. Yn sgil hyn, gofynnwyd sut fydd yr
adran yn mesur eu bod yn cyrraedd targedau CSGA presennol. Holwyd hefyd os oedd
Fforwm Iaith wedi cael ei ddatblygu gan yr adran.
- Mewn ymateb i’r ymholiad, cadarnhaodd y Pennaeth Addysg bod y Fforwm
Iaith Addysg wedi cael ei sefydlu er mwyn sicrhau bod yr Adran yn cyrraedd
targedau’r CSGA yn llwyddiannus. Cyfaddefwyd bod yr Adran wedi cael
trafferthion i sicrhau hyn yn ystod y cyfnodau clo Covid-19 gan nad oedd y
disgyblion yn gallu dod i’r ysgol i dderbyn eu haddysg. Er hyn, mae holl
ysgolion y sir yn gweithio’n galed er mwyn sicrhau bod y lefelau hyn yn codi
unwaith eto. Mae cynrychiolaeth o’r Pwyllgor Iaith a’r Pwyllgor Craffu Addysg
ac Economi yn aelodau o’r Fforwm Iaith Addysg, a bydd modd iddynt adrodd yn ôl
yn anffurfiol ar waith y Fforwm gan roi sicrwydd o weithrediad y CSGA gan yr
Adran.
- Mewn ymateb i’r ymholiad nododd Pennaeth
Cynorthwyol Gwasanaethau Corfforaethol bod cyfarfod cyntaf y Fforwm Iaith
Addysg wedi cael ei gynnal ac mae sicrhau bod y sir yn llwyddo i gyrraedd
targedau’r CSGA yn un o’u meysydd gwaith.
Diolchwyd am yr adroddiad.
Derbyn yr
adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.
Derbyn yr adroddiad
gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.
Dogfennau ategol: