I gyflwyno
gwybodaeth am gyfraniad yr adran i’r Polisi Iaith.
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad
gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.
Cofnod:
-
Eglurwyd bod yr adran yn
delio gyda nifer o wasanaethau rheng flaen megis digartrefedd, ffoaduriaid a
chyflenwad tai. Esboniwyd bod materion corfforaethol i’r adran hefyd megis
glanhau a diogelwch y swyddfeydd. Golyga hyn bod yr adran yn ymwneud â llawer
iawn o bobl ac yn falch o adrodd bod y gwasanaethau hyn i gyd yn cael eu cynnig
yn Gymraeg / yn ddwyieithog.
-
Cadarnhawyd bod nifer o
bobl sy’n defnyddio gwasanaethau’r adran yn dod o wahanol gefndiroedd ac yn aml
iawn gydag anghenion penodol neu’n dioddef o straen. Teimla’r adran bod
cyfathrebu gyda defnyddwyr yn eu dewis iaith yn hanfodol ac mae’r adran yn
falch o lwyddo i wneud hynny.
-
Adroddwyd bod amser ac
ymdrech wedi bod gan yr adran i gynorthwyo pobl drwy’r sefyllfa bresennol yn
Wcráin. Mae’r adran wedi llwyddo i sefydlu cannoedd o bobl yn y sir am gyfnod
er mwyn rhoi lloches iddynt.
-
Mynegwyd bod 94% yn
cyrraedd lefel dynodiad iaith eu swydd, gyda’r mwyafrif helaeth o’r gweithlu
wedi cwblhau’r hunanasesiad. Rhannwyd balchder bod hyn yn gynnydd o 67% ers
Ionawr 2022. Cadarnhawyd bod 6 aelod o staff wedi mynychu hyfforddiant
ieithyddol.
-
Manylwyd bod yr adran yn
credu bod y Polisi Tai Cyffredin, sy’n rhoi blaenoriaeth am dai cymdeithasol i
unigolion â chysylltiad at Wynedd yn sicrhau bod pobl leol yn gallu byw yn eu
cymunedau. Credir bod hyn yn lleihau mudo a symudedd sy’n cael ei nodi fel
bygythiad i’r Gymraeg o fewn y Cynllun Hybu’r Gymraeg. Ymhelaethwyd bod 96%
o osodiadau tai cymdeithasol wedi mynd i
bobl â chysylltiadau lleol rhwng Medi 2021-22.
-
Soniwyd bod argyfwng tai
yn yr ardal ar hyn o bryd ac mai nod y Cynllun Gweithredu Tai yn sicrhau bod
pobl yn gallu aros yn eu cymunedau drwy amryw o gynlluniau megis Cynlluniau
Datblygu Tai Ein Hunain a chynlluniau prynwyr tro cyntaf.
-
Rhannwyd
balchder bod systemau cyfrifiadurol yr adran ar gyfer Cynllun Opsiynau Tai.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod
y drafodaeth, codwyd y materion canlynol:
Yn sgil
cymal yn yr adroddiad yn nodi gofynion statudol i hysbysebu yn Saesneg (yn
ogystal a Chymraeg) nododd rhai aelodau’r Pwyllgor y gallai hyn arwain at roi
contractwyr Cymraeg o dan anfantais.
-
Mewn ymateb i’r ymholiad
cadarnhaodd Pennaeth Adran Tai ac Eiddo bod hysbysebu’n Saesneg yn ofyniad
statudol sy’n cael ei roi ar yr adran. Er hyn, pwysleisiwyd bod yr adran yn
hysbysebu yn ddwyieithog yn aml.
-
Eglurwyd o fewn
Fframwaith y Cyngor bod Polisi Iaith Cyngor Gwynedd yn cael ei rannu gyda’r
cwmnïau yn dilyn derbyn pob cais am waith. Mae’r adran yn clymu’ cwmnïau i
ofynion ieithyddol Cymraeg o fewn y gwasanaeth maent yn ei ddarparu.
-
Yn dilyn cais,
cytunodd Pennaeth yr Adran Tai ac Eiddo i rannu’r gofyn statudol a proffiliau
ieithyddol contractwyr yr adran gyda’r aelodau.
Gofynnwyd a
yw’r adran yn gallu darparu gwybodaeth am faint o bobl sy’n aros am dai
cymunedol sy’n meddu â sgiliau ieithyddol Gymraeg ac ystyriwyd os yw’r adran yn
gallu darparu gwybodaeth benodol am Ddwyfor, Arfon a Meirionnydd er mwyn gallu
edrych os yw pobl yn aros yn eu cymunedau lleol neu’n symud i rannau gwahanol
o’r Sir.
-
Mewn ymateb i’r ymholiad
mynegodd Pennaeth Adran Tai ac Eiddo fe fyddai’r adran yn cadarnhau ffigyrau
diweddaraf rhestrau aros am dai gydag aelodau’r Pwyllgor mor fuan â phosibl.
-
Mewn ymateb i’r ymholiad
ieithyddol, cadarnhaodd Pennaeth Adran Tai ac Eiddo nad ydi’r adran yn gofyn i
unigolion sy’n ymgeisio am dŷ os ydynt yn gallu siarad Cymraeg.
Pwysleisiwyd byddai’r adran angen arweiniad cyfreithiol cyn ychwanegu gofyniad
ieithyddol wrth ymgeisio am dai, er mwyn sicrhau nad oes unrhyw reoliad neu
statud yn cael ei dorri.
Gofynnwyd am
esboniad o beth oedd ‘cysylltiad lleol’ yn ei olygu yng nghyd destun gosod tai
cymunedol, ac a oes modd gosod amod ieithyddol neu eu bod wedi derbyn eu
haddysg yng Ngwynedd, wrth i bobl ymgeisio am dŷ cymunedol.
-
Mewn ymateb i’r ymholiad
cadarnhaodd Pennaeth Adran Tai ac Eiddo mai’r Cyngor sydd wedi diffinio beth yw
ystyr y gair ‘lleol’ wrth greu'r polisi a hynny mewn ymgynghoriad â Llywodraeth
Cymru. Bu i ddiffiniadau mwy caeth gan y Cyngor gael ei wrthod gan y
Llywodraeth.
-
Ymhelaethwyd
nad oedd modd gosod amod ieithyddol o fewn y polisi bryd hynny. Credai nad
ydi’r sefyllfa wedi newid ers i’r polisi gael ei sefydlu ond nododd y byddai’n
ymholi ymhellach.
Gofynnwyd am
fwy o wybodaeth ynglŷn â Phrosiect Cynllun Gweithredu Tai.
-
Mewn ymateb i’r
ymholiad, cadarnhaodd Pennaeth Adran Tai ac Eiddo bod y prosiect hwn wedi cael
ei ddatblygu ers iddi dderbyn y swydd er mwyn sicrhau rheolaeth gref o’r
gwaith. Cadarnhawyd bod yr adran yn edrych ar dai cymunedol sydd wedi cael eu
gwerthu gydag amodau bod meddianwyr y tai yn y dyfodol yn drigolion lleol.
Ymhelaethwyd bod yr adran yn casglu data ar y pwynt hwn ac yn sicrhau bod
unrhyw bryniannau yn y dyfodol hefyd yn mynd i drigolion lleol.
Ar derfyn y
drafodaeth, datganodd y Cynghorydd Gwynfor Owen nad oedd yn cytuno gyda’r
awgrymiad o osod amod ieithyddol ar ymgeiswyr tai cymunedol. Credai hefyd ei
fod yn annheg gosod amod bod rhaid i ymgeiswyr tai cymunedol dderbyn canran o’u
haddysg yng Ngwynedd.
PENDERFYNWYD
Derbyn yr
adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.
Dogfennau ategol: