Aelod Cabinet – Y Cynghorwyr Dyfrig Siencyn a
Nia Jeffreys
Ystyried
adroddiad ar yr uchod.
Penderfyniad:
(1) Derbyn yr adroddiad, gan argymell
y dylid ystyried diwygio Gweledigaeth Cynllun Economi Ymweld Cynaliadwy Gwynedd
ac Eryri 2035 i ddarllen:-
“Economi Ymweld sy’n:-
(i) Costrelu iaith a diwylliant
Gwynedd ac Eryri;
(ii) Er budd a lles pobl, amgylchedd,
iaith a diwylliant Gwynedd ac Eryri”.
(2) Gofyn i’r Aelod Cabinet gyfleu sylwadau’r
pwyllgor i’r Cabinet.
COFNODION:
Croesawyd y
Dirprwy Arweinydd a swyddogion yr Adran Economi a Chymuned i’r cyfarfod.
Cyflwynwyd adroddiad yr Arweinydd a’r
Dirprwy Arweinydd yn gwahodd y pwyllgor i graffu:-
• Os ydi Cynllun Strategol Economi Ymweld Cynaliadwy Gwynedd ac
Eryri yn cyd-fynd ag uchelgais a blaenoriaethau’r Cyngor ar gyfer Economi
Ymweld Cynaliadwy yn y dyfodol (Atodiad 1 i’r adroddiad a gyflwynwyd i’r
pwyllgor);
• Os ydi’r strwythur gweithredu ar y cyd gydag Awdurdod y Parc
Cenedlaethol yn addas (Atodiad 2); a
• Threfniadau sefydlu Partneriaeth Economi Ymweld Cynaliadwy Newydd
i lywio gweithrediad y Cynllun Gweithredu (Atodiad 3).
Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun. Rhoddodd y Pennaeth Cynorthwyol Diwylliant
drosolwg o gynnwys yr adroddiad a’r cynllun, ac ymhelaethodd Rheolwr Partneriaethau Awdurdod Parc
Cenedlaethol Eryri ar strwythur a chamau gweithredu’r bartneriaeth.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chynnig sylwadau.
Cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau
unigol:-
·
Awgrymwyd,
gan fod twristiaeth yng Ngwynedd ac Eryri yn seiliedig i raddau helaeth ar dirwedd
yr ardal, y dylai tirfeddianwyr gael eu cynrychioli ar y bartneriaeth.
·
Nodwyd
bod elfennau perthnasol i’r drafodaeth ar goll o’r adroddiad a’r
atodiadau. Roedd tueddiad i anwybyddu
anghytuno a gwrthdaro posib’ dros adnoddau.
Roedd sôn am effaith posib’ ar y Gymraeg, ond roedd yr effaith hynny’n
sicr. Nid oedd cyfeiriad chwaith at yr
effaith ar y gwasanaeth iechyd a’r heddlu yn ystod y tymor ymwelwyr.
·
Mynegwyd
anfodlonrwydd ein bod, fel Cyngor, yn ddibynnol ar y Parc Cenedlaethol, sy’n
gorff a dim atebolrwydd democrataidd yn perthyn iddo, i fod yn rhan o’r
bartneriaeth gyda ni.
·
Nodwyd
nad oedd yr un o’r cynlluniau sy’n rhan o’r Cynllun Arosfan o fewn ardal y
Parc, ac felly nad oedd yn ateb y broblem lle mae mwyafrif y twristiaeth. Hefyd, roedd yr astudiaeth achos yn cyfeirio
at gynlluniau ar gyfer y mynyddoedd a’r llwybrau, ond gan mai’r prif beth i ni
yw’r bobl sy’n byw yn y parc, lle mae’r cynlluniau ar gyfer y trefi a’r
pentrefi yn y Parc? Hefyd, roedd y cynlluniau
ar gyfer glan môr ar goll o’r cynllun. (Gan
fod Rheolwr Partneriaethau Awdurdod
Parc Cenedlaethol Eryri wedi gorfod gadael y cyfarfod am gyfnod, gofynnwyd i’r
Ymgynghorydd Craffu anfon sylwadau’r aelod ymlaen ati.)
·
Nodwyd
bod hwn yn gynllun strategol canmoladwy iawn.
Roedd yn dda gweld y ddau awdurdod yn cydweithio’n agos, a diolchwyd i’r
Dirprwy Arweinydd a’r swyddogion am y cydweithio.
·
Mynegwyd
siomedigaeth fod y swyddog o’r Parc wedi gorfod gadael y cyfarfod, a nodwyd y
dylai uwch swyddog o’r Parc fod wedi bod yn rhan o’r drafodaeth hon.
·
Nodwyd
bod y gwaith a gyflawnwyd gan y Pennaeth Cynorthwyol Diwylliant ar y Cynllun
Rheoli Safle Treftadaeth y Byd UNESCO wedi gorfodi’r cydweithio rhwng y ddau
awdurdod i raddau gan fod y rhan fwyaf o’r ardaloedd llechi y tu allan i
ffiniau’r Parc, ond yno mae cymunedau Gwynedd.
Gan hynny, roedd angen rhoi ffiniau o’r neilltu weithiau, ac roedd
twristiaeth yn sector sydd ddim yn parchu ffiniau.
·
Canmolwyd
yr amcanion twristiaeth newydd ac awgrymwyd bod yr adroddiad hwn yn arwain y
gad i raddau o ran dechrau ystyried ardrawiad twristiaeth ar gymuned, iaith a
diwylliant, sef rhywbeth a ddaeth yn amlwg iawn i bobl adeg y cyfnodau clo pan
nad oedd yna dwristiaid yng Ngwynedd.
·
Nodwyd
ei bod yn uchelgeisiol iawn i geisio cael 3 lefel y bartneriaeth i gydweithio,
gan y byddai pawb eisiau bod yn rhan o’r bartneriaeth ar yr ochr wleidyddol.
·
Awgrymwyd,
petai’r Dreth Twristiaeth yn dod i rym, y byddai’r bartneriaeth a’r grŵp
gweithredu yn ffordd wych o benderfynu ar y grantiau fyddai’n cael eu dyrannu o
unrhyw gronfa fyddai ar gael i’r diben hynny.
·
Mynegwyd
pryder na chafodd y pwyllgor gyfle i ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar
Gynllun Trwyddedu Statudol i Ddarparwyr Llety Ymwelwyr yng Nghymru, sy’n dod i
ben ar 17 Mawrth, a holwyd beth yw ymateb y Cyngor i hyn.
·
Awgrymwyd,
er bod yna egwyddorion clodwiw a dyheadau yn y cynllun strategol, nad oes
cyfeiriad at sut mae gweithredu hynny na sut i’w fesur yn y dyfodol.
·
Nodwyd
nad oedd yna unrhyw beth yn y strategaeth ar hyn o bryd sy’n mynd i’r afael â
gor-ddatblygu twristiaeth, ac mai denu mwy yw’r neges barhaus. Cydnabyddid bod yna fuddion, e.e. mwy o
doiledau, gwaith tymhorol, ayb, ond nid ydym yn rheoli’r farchnad mewn unrhyw
ffordd, ac ni chredir bod modd i ni wneud hynny gyda’r strategaeth fel y mae.
·
Awgrymwyd
bod tueddiad i fynegi’r hyn rydym yn dymuno ei weld, yn hytrach na’r hyn nad
ydym yn dymuno ei weld. Credid bod rhai
datblygiadau yn anghynaladwy i gymunedau.
Dylid modelu ar sail yr hyn rydym yn ceisio ei osgoi, a dylai’r cynllun
gyfeirio at hynny.
·
Nodwyd
bod twristiaeth i’w groesawu, ac yn rhan o’r economi, ond mai’r her yw ei wneud
yn gynaliadwy, fel bod pobl Gwynedd yn cael buddion economaidd ohono, ac nid
swyddi tymhorol yn unig. Hefyd, bod ein
hiaith, ein diwylliant a’n treftadaeth yn cael eu gwarchod, bod yna gartrefi i
bobl fyw ynddynt, ac nad ydi’r sir yn troi’n barc gwyliau mawr.
·
Awgrymwyd,
os datblygu rhwydweithiau bysus, y dylid creu meysydd parcio mwy mewn trefi fel
Caernarfon a Phorthmadog ar gyrion y Parc, fel nag ydi ymwelwyr yn ymweld ag un
lleoliad yng Ngwynedd, neu o fewn y Parc, yn unig. I’r gwrthwyneb, nodwyd y byddai rhedeg bysus
o’r trefi yn tynnu cyflogaeth oddi ar ardal Eryri, gan y byddai’n annog pobl i
fynd yn syth yn ôl i’r trefi, yn hytrach na’u bod yn aros ac yn gwario’u harian
yn lleol o fewn ardal y Parc.
·
Nodwyd
y croesawid y bwriad i sefydlu 5 safle arosfan ar draws Gwynedd. Awgrymwyd, er enghraifft, y gellid defnyddio
tir yn agos at y Foryd yng Nghaernarfon ar gyfer y math yma o ddatblygiad,
gyda’r Cyngor Tref yn rheoli’r safle a’r elw yn mynd i’r gymuned. O bosib’ bod yna grwpiau cymunedol ledled y
sir allai ymgymryd â’r math yma o waith hefyd, gyda’r elw yn cael ei
drosglwyddo i’r cymunedau hynny.
Pwysleisiwyd hefyd bwysigrwydd yr elfen gorfodaeth, er mwyn sicrhau bod
yr arosfanau yn cael eu cadw’n lan a thaclus.
·
Canmolwyd
gwaith gwych y Timau Tacluso Ardal Ni, a phwysleisiwyd pwysigrwydd gwarchod y
buddsoddiad yma yn y cyfnod economaidd heriol sydd ohoni, gan eu bod yn gwneud
gwir wahaniaeth i gymunedau ar draws Gwynedd.
·
Awgrymwyd
nad oedd pwrpas defnyddio arian cyhoeddus i farchnata Gwynedd ac Eryri mewn
cyfnod o doriadau, gan fod digonedd o bobl yn gwybod bellach am yr ardal, ac y
byddai’n well canolbwyntio ar wella isadeiledd Gwynedd a’r Parc, gan adael yr
elfen marchnata i Croeso Cymru.
·
Nodwyd
mai un agwedd ar y mewnlifiad yw pobl yn symud i mewn i’r ardal, yn prynu tai
ac yn eu haddasu i gael incwm, ac ni chredid y dylid cefnogi twristiaeth o’r
fath. Yn hytrach, dylid cefnogi
twristiaeth lle mae’r asedau sy’n cael eu defnyddio, boed yn dir neu adeiladau,
yn nwylo brodorion, a thwristiaeth sy’n darparu cyflogaeth ar gyfer y
brodorion, eithr dim gormod o swyddi rhag annog rhagor o fewnlifiad poblogaeth.
·
Nodwyd
bod yna ymdeimlad yn gyffredinol bod cyflogau’n isel i’r rhai sy’n gyflogedig
yn y sector twristiaeth, ac y byddai’n fuddiol gwybod beth yw’r ffigurau cyflog
cyfartalog yn y maes. O ystyried ei bod
yn anodd llenwi swyddi ym maes twristiaeth, a gan nad yw diweithdra yn broblem
fawr yn lleol, rhaid gofyn oes angen y swyddi yma o gwbl? Hefyd, mae’r sector ymwelwyr yn ddibynnol
iawn ar gyflogi plant, sy’n awgrymu bod y cyflog yn isel iawn, ond ni cheir
cyfeiriad at hynny yn yr adroddiad.
·
Nodwyd
bod cwmnïau yn methu cael digon o bobl i weithio iddynt, hyd yn oed cwmnïau
sy’n cynnal twristiaeth drwy gydol y flwyddyn, a rhaid hybu cyfleoedd o’r fath
i’r bobl leol, yn ogystal â chefnogi’r busnesau eu hunain.
·
Nodwyd
bod y sector twristiaeth yng Ngwynedd yn cynnwys amrediad mawr iawn o fusnesau
a llawer o’r rhain yn fusnesau bach, ac os yw’r egwyddorion am gael eu
gweithredu’n llawn ac yn effeithiol, rhaid sicrhau bod y sector yn ei
chyfanrwydd yn prynu i mewn i hyn.
Mewn ymateb i’r sylwadau, ac i gwestiynau
gan aelodau, nodwyd:-
·
Y cytunid
y dylai tirfeddianwyr gael eu cynrychioli ar y bartneriaeth, ac y byddai’r
cylch gorchwyl drafft yn cael ei addasu i gynnwys cynrychiolwyr o’r undebau
amaeth neu gynrychiolwyr o’r tirfeddianwyr.
·
Ei
bod yn bwysig cael cynrychiolaeth o’r gwasanaethau brys ar y bartneriaeth
oherwydd y pwysau ychwanegol yn ystod y tymor gwyliau. O ran y cyfeiriad at wrthdaro posib’ dros
adnoddau, byddai’r bartneriaeth yn gyfrwng ar gyfer annog trafodaeth agored a
gonest rhwng pawb, ac roedd yr holl bartïon yn dymuno cydweithio a mynd i’r
afael â’r problemau. Nodwyd ymhellach
fod angen cyfleu’r neges i bobl sy’n dymuno ymweld â’r ardal ynglŷn â’r
angen i barchu’r amgylchedd, ac ati, a gobeithid gweithio ar y math yma o
negeseuon drwy’r cynllun. Hefyd, roedd
yna gydweithio agos yn digwydd gyda Phrifysgol Bangor, oedd wedi llwyddo i
sicrhau grantiau ar gyfer cynnal ymchwil ar adnabod effaith yr economi ymweld
ar y Gymraeg, a gobeithid y byddai’r gwaith yma’n esgor ar dystiolaeth
ddiweddar a chyfredol fyddai’n llywio blaenoriaethau’r cynllun economi ymweld
i’r dyfodol.
·
O
ran targedu cyllid ar gyfer ariannu’r blaenoriaethau, nodwyd bod y gwasanaeth
yn edrych ar sawl cronfa ariannu.
Cyflwynwyd rhai ceisiadau eisoes i ariannu rhai o’r prosiectau a
amlygwyd yn yr adroddiad strategol, boed hynny’n gronfeydd y loteri, cronfeydd
Llywodraeth Cymru, neu Lywodraeth y DU.
Hefyd, roedd yna gronfa benodol ar gael drwy Croeso Cymru ar gyfer
cefnogi gwaith rheolaeth cyrchfan, a chafwyd cryn lwyddiant yn targedu’r arian
yma yn y gorffennol. Llwyddwyd i sicrhau
arian ar gyfer cyfleusterau parcio a thoiledau, a dyma’r gronfa oedd yn
ariannu’r cynllun ‘aires’. Roedd yna
fuddsoddiad o’r gronfa yma hefyd wedi’i wneud ym Mharc Glynllifon a Pharc
Padarn, ac roedd y gwasanaeth yn edrych ar hyn o bryd ar y cyfleoedd sy’n codi
drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) ar gyfer cefnogi busnesau, y materion
diwylliannol sydd wedi codi o’r cynllun, dynodiad Safle Treftadaeth y Byd a’r
gweithgaredd yn deillio o’r Cynllun Economi Ymweld. Byddai ystyriaeth yn y fan honno i’r cynnig
arfordirol. Yn yr adborth a gafwyd o’r
grwpiau, roedd y pwysau dybryd ar yr is-adeiledd a’r angen i fuddsoddi yn hynny
yn ffactor oedd yn codi’n rheolaidd gan yr aelodau, cynrychiolwyr cymunedau a
busnesau. O ganlyniad, cynhaliwyd
adolygiad o’r is-adeiledd arfordirol, ac roedd gwaith ar droed yn drawsadrannol
i edrych ar gronfeydd posib’ i’w targedu.
·
Y
byddai’r Cyngor yn ymateb i’r ymgynghoriad ar Gynllun Trwyddedu Statudol i
Ddarparwyr Llety Ymwelwyr yng Nghymru, a bod croeso i’r aelodau gyflwyno unrhyw
sylwadau fel y gellir eu hymgorffori yn yr ymateb.
·
Y
bu’r gwasanaeth yn edrych ar ymarfer da yn rhyngwladol i fesur gweithgaredd o
ran rheolaeth cyrchfan a thwristiaeth gynaliadwy, gan ddefnyddio ffigurau ac
ystadegau o ran adrodd ar faterion economaidd.
Bellach, edrychid ar deulu ehangach o ystadegau a dangosyddion i osod
cyfeiriad ac i gynorthwyo o ran dangos cynnydd ar brosiectau penodol. Sefydlwyd grŵp ymchwil i edrych ar yr
union faterion a godwyd gan yr aelod er mwyn sicrhau bod gennym dargedau a
mesuryddion fydd yn goleuo’r broses, a hefyd fel ffordd o adrodd yn ôl i
aelodau, busnesau a chymunedau ar unrhyw gynnydd, neu ddiffyg cynnydd. Nodwyd bod gwaith hefyd yn cael ei wneud ar
asedau cyfathrebu a chyswllt gyda busnesau.
Holodd yr aelod ymhellach a fyddai modd ymgorffori hynny fel atodiad i’r
cynllun strategol, fel bod pawb yn glir bod y mesuryddion yma’n rhan
ohono. Mewn ymateb, nodwyd ei bod yn
hanfodol bod y gwaith yma’n cael ei integreiddio ac yn dylanwadu’r prif nodau
a’r amcanion. Eglurwyd ymhellach bod y
mesuryddion wedi’u tynnu allan o’r drafft cychwynnol o’r cynllun, fel bod modd
i’r bartneriaeth newydd gymryd perchnogaeth o’u cynllun gweithredu, a byddai
yna adolygiad blynyddol o’n cerrig milltir, cyn i’r bartneriaeth gytuno ar y
mesuryddion. Canolbwyntiwyd ar tua 50-60
o fesuryddion er mwyn mesur effaith pob un o’r egwyddorion, gyda’r bwriad o’u
cyflwyno i’r bartneriaeth, gan ofyn iddynt adnabod ein blaenoriaethau ni a’r
mesuryddion sy’n cael eu tracio gennym yn ystod y flwyddyn, ynghyd â’r
canlyniad disgwyliedig o’r gweithredu.
Byddai hon yn broses flynyddol fyddai’n cael ei hadolygu a’i diweddaru
mewn ymateb i flaenoriaethau’r economi ymweld a’n cymunedau, a gobeithid y
byddai hynny yn dod allan yn glir yn y broses o sefydlu’r bartneriaeth, ac wrth
iddi aeddfedu.
·
O
ran gor-ddatblygu twristiaeth a rheolaeth o’r farchnad, er y byddai modd i rai
rhannau o’r sir ddatblygu / cynnig economi ymweld, a thynnu pobl o’r ardaloedd
mwy prysur, ni chredid bod y cynllun yn ceisio denu mwy o ymwelwyr i Wynedd, yn
arbennig yn ystod yr haf. Y bwriad
fyddai annog ymwelwyr i ddod ar adegau gwahanol, ac i fynd i ardaloedd
gwahanol, gan hefyd dargedu’r marchnadoedd tramor, a sicrhau bod yna fwy o
gyfleon cyflogaeth a chyflogaeth well yn lleol, gan hefyd greu mwy o gyfleon
gyrfaol i bobl o fewn y sector economi ymweld yn lleol. Roedd yna ddymuniad hefyd i ddatblygu
twristiaeth gymunedol fel bod y buddion yn mynd yn ôl i’r gymuned leol. Roedd hyn oll yn her, ond gobeithid, drwy weithio
mewn partneriaeth, bod modd ymateb i’r her.
·
O
ran amlygu’r math o dwristiaeth y byddem yn dymuno ei osgoi, mai’r balans sy’n
anodd. Rydym yn dymuno i ymwelwyr ddod
yma, ond hefyd yn dymuno iddyn nhw barchu ein hiaith, ein diwylliant a’n
amgylchedd, fel bod twristiaeth yn dod â’r budd mwyaf i’r bobl leol.
·
O
ran parcio yn Eryri, bod gan y Parc ei gynllun trafnidiaeth gynaliadwy sy’n
edrych ar ddatblygu mwy o hybiau o amgylch y Parc er mwyn cludo pobl i mewn, ac
roedd trafodaethau parhaus yn digwydd rhwng y Parc, Cyngor Gwynedd, Cyngor
Conwy a Thrafnidiaeth Cymru ynglŷn â gweithredu’r strategaeth honno.
·
Bod
y cynllun arosfan yn cael ei ddatblygu gydag arian cronfa Pethau Bychain Croeso
Cymru. Roedd yn brosiect sy’n cael ei
arwain gan yr Adran Amgylchedd, gyda chefnogaeth yr Adran Economi, a
chyflwynwyd ceisiadau cynllunio yn ddiweddar ar gyfer 5 lleoliad ym meysydd
parcio’r Cyngor – maes parcio Shell yng Nghaernarfon, Parc Padarn, Cricieth,
Pwllheli a Bermo. Bu’n fwriad cael
cynllun yn Nhywyn hefyd, ond ni lwyddwyd i adnabod lleoliad. Eglurwyd mai cynllun peilot ydoedd, a bod y
gwaith ymchwil a gyflawnwyd o ran y diddordeb, y gwaith rheoleiddio ac adborth
y cymunedau ar gael ar gyfer busnes neu gymunedau sy’n awyddus i ddatblygu eu
cynlluniau eu hunain. O ran yr agweddau
rheolaeth, byddai’r Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd yn gweithredu pecyn
gorfodaeth dros y misoedd nesaf er mwyn taclo lleoliadau penodol sydd wedi bod
yn wirioneddol broblemus dros y 2-3 blynedd ddiwethaf. Byddai yna hefyd waith cyfathrebu i’w wneud o
ran ymarfer da a’r disgwyliadau ar y bobl hynny fydd yn defnyddio’r
arosfannau.
·
Nad
oedd y Cyngor wedi bod yn marchnata Gwynedd o gwbl yn ystod y cyfnod Cofid, nac
ar ôl hynny, a bod y gyllideb ar gyfer marchnata wedi ei chwtogi’n sylweddol
dros y blynyddoedd. Eglurwyd bod Croeso
Cymru yn dueddol o ganolbwyntio ar Gymru fel brand, yn hytrach na marchnata
ardaloedd gwahanol o Gymru, a bod lle i’r Cyngor farchnata, neu greu ymgyrch i
dargedu cynulleidfaoedd penodol, neu i bobl ymweld â’r ardal ar gyfnodau
penodol, neu i bobl beidio ag ymweld â’r ardal ar gyfnodau penodol hefyd. O ran ariannu’r is-adeiledd, byddai cyfle’n
codi’n fuan drwy gronfa newydd Y Pethau Pwysig Croeso Cymru, ynghyd â
chyfleoedd dros y 18 mis nesaf drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSBF) i
fuddsoddi yn ein cymunedau, is-adeiledd, marchnata a digwyddiadau. Nodwyd ymhellach y cytunwyd yn sgil y
toriadau i’r gyllideb marchnata bod swm sylweddol o’r buddsoddiad yna yn cael
ei ddefnyddio i gynnal gwefan Eryri Mynyddoedd a Môr, a bellach roedd manylion
dros 800 o fusnesau yn cael eu harddangos ar y wefan, gyda dros 1m yn edrych ar
y wefan mewn blwyddyn. Gwelwyd cynnydd
hefyd o 30% yn y niferoedd sy’n dilyn Eryri Mynydd a Môr ar Instagram. Gan hynny, roedd yn bwysig ein bod, ar lefel
lleol, yn amlygu beth sy’n bwysig i’r ardal a’n rhinweddau arbennig, ein
hamgylchedd, ein diwylliant a’n hiaith.
·
O
ran marchnata’r rhwydwaith bysus i bobl o ffwrdd sydd wedi arfer gyrru’n syth
o’u cartref i Eryri, nodwyd y sefydlwyd gweithgor i drafod y cynllun
trafnidiaeth a pharcio a’r gwasanaeth Sherpa, ac y bwriedid cwblhau
astudiaethau o ran sut mae ymgysylltu ac egluro beth yw’r cynnig newydd. Unwaith y byddai’r cynlluniau wedi’u cytuno,
byddai’r Gwasanaeth yn amlygu eu hargaeledd i gymunedau ac yn rhannu gwybodaeth
drwy’r Bwletin Busnes. Byddai’r
cynlluniau hefyd yn cael eu hamlygu ar y cyfryngau cymdeithasol ac ar wefan y
Cyngor, ac roedd y Tîm Cludiant Cyhoeddus yn arwain ar y gwaith, mewn cydweithrediad
â’r Adran Economi.
·
O
ran yr angen i’r sector cyfan brynu i mewn i’r egwyddorion, roedd yn amlwg o’r
ymgynghori gydag arbenigwyr Prydeinig a rhyngwladol mai’r cynlluniau rheolaeth
cyrchfan twristiaeth gynaliadwy sy’n gweithio orau yw’r rhai lle mae yna fwy o
berchnogaeth ar lefel lleol. Daeth yn
amlwg iawn hefyd o’r ymgynghori bod darparu cefnogaeth i’r sector allu prynu i
mewn i hyn a dod yn rhan o’r broses yn gorfod bod yn ganolog i unrhyw
bartneriaeth symud ymlaen. Byddai
hynny’n cael ei ystyried, felly, wrth edrych ar y pecyn cefnogaeth i
fusnesau. Roedd gwaith wedi’i gwblhau
eisoes i amlygu a chael asedau cyfathrebu i amlygu ymarfer da. Byddai rheini’n cael eu hamlygu ymhellach pan
fyddai’r cynllun yn cael ei lansio.
Roedd y Gwasanaeth yn adeiladu ar y gwaith a gyflawnwyd yn flaenorol o
ran y gwaith rheolaeth cyrchfan, ond roedd yna waith mwy manwl i’w wneud o ran
egluro, annog a dangos ymarfer da, ac amlygu’r cyfeiriad y dymunir symud iddo
i’r dyfodol. Ni fyddai pawb yn ei
dderbyn, ond roedd sawl un a fu’n rhan o’r trafodaethau hyd yma yn edrych
ymlaen at gydweithio, ac roedd y partneriaethu lleol am fod yn allweddol yn hyn
o beth. Nodwyd ymhellach mai un o
flaenoriaethau gweithredu’r cynllun oedd y bwriad i sefydlu’r llysgenhadon, neu
arweinyddion, lleol, fel bod yna berchnogaeth leol. O brofiad ardaloedd eraill, efallai na
fyddai’r unigolion hyn yn bobl sy’n ymwneud â’r sector economi ymweld, ond yn
bobl sy’n prynu i mewn i’r weledigaeth o economi ymweld cynaliadwy a
pherchnogaeth gymunedol o’r economi ymweld.
Hwn fyddai un o’r camau gweithredu cyntaf rhwng gwanwyn a haf eleni i
ddatblygu’r rhwydwaith o lysgenhadon/arweinyddion.
·
Y
disgwylid y byddai cynnydd o ran gweithrediad yn cael ei adrodd i bwyllgor ac
i’r Cabinet. Yn amlwg, byddai yna adrodd
i’r bartneriaeth hefyd, a byddai’r trefniadau arferol o adrodd i fyny yn
digwydd wedyn, gan gynnwys adrodd drwy’r drefn herio perfformiad. Eglurwyd hefyd, gan y bu’r gweithgaredd yma’n
rhan o Gynllun Gwynedd yn flaenorol, sef y Cynllun Elwa o Dwristiaeth, bod yna
adrodd uwch ar y maes yma.
Mynegwyd dymuniad i’r
weledigaeth nodi’n glir ein bod
yn dymuno cael economi ymweld sy’n costrelu iaith a diwylliant Gwynedd ac Eryri
er budd a lles pobl, amgylchedd, iaith a diwylliant Gwynedd ac Eryri. Byddai hynny’n sicrhau bod y weledigaeth ar
gyfer cael unrhyw ddatblygiad twristaidd yn parchu’r iaith a’r diwylliant, ac
nad ydym yn derbyn datblygiadau sy’n fwy estronol o ran natur, a ddim yn dangos
parch. Mewn ymateb, nodwyd mai dyma
lle’r oedd y gwaith trawsadrannol yn digwydd, ac y byddai ystyriaeth o’r
egwyddorion yn gam pwysig wrth benderfynu ar geisiadau am gymorth ariannol,
cefnogi digwyddiadau neu geisiadau cynllunio.
PENDERFYNWYD
(1) Derbyn yr adroddiad, gan argymell y dylid ystyried diwygio
Gweledigaeth Cynllun Economi Ymweld Cynaliadwy Gwynedd ac Eryri 2035 i
ddarllen:-
“Economi Ymweld sy’n:-
(i)
Costrelu iaith a diwylliant
Gwynedd ac Eryri;
(ii) Er budd a lles pobl, amgylchedd, iaith a diwylliant Gwynedd
ac Eryri”.
(2) Gofyn i’r Aelod Cabinet gyfleu sylwadau’r pwyllgor i’r
Cabinet.
Dogfennau ategol: