Cymeradwyo
briff ar gyfer yr Ymchwiliad Craffu.
Penderfyniad:
Mabwysiadu briff yr Ymchwiliad Craffu Ysgolion Uwchradd Categori 3
Gwynedd, ac ethol y Cynghorwyr Cai Larsen, Beth Lawton, Huw Rowlands, Paul
Rowlinson a Rhys Tudur i ymgymryd â gwaith yr ymchwiliad.
COFNODION:
Cyflwynwyd - briff ar gyfer Ymchwiliad
Craffu Ysgolion Uwchradd Categori 3 Gwynedd.
Gwahoddwyd y pwyllgor i fabwysiadu’r briff ac i ethol uchafswm o 5 aelod
i fod yn rhan o’r ymchwiliad, gyda’r aelodaeth yn cynnwys dim llai na dau
grŵp gwleidyddol gwahanol.
Nodwyd y gwahoddwyd aelodau i ddatgan
diddordeb o ran bod yn aelodau o’r ymchwiliad yng nghyfarfod anffurfiol y
pwyllgor ar 8 Rhagfyr, 2022, ac y derbyniwyd datganiadau o ddiddordeb gan y
Cynghorwyr Cai Larsen, Huw Rowlands, Paul Rowlinson a Rhys Tudur yn dilyn y
cyfarfod.
Sylwyd nad oedd cynrychiolaeth o
Feirionnydd ymhlith yr enwau, na merch, na chynrychiolydd o’r Grŵp
Annibynnol, ac awgrymwyd enw’r Cadeirydd, y Cynghorydd Beth Lawton.
Yna trafodwyd briff yr ymchwiliad. Nodwyd:-
·
Bod
yr adroddiad yn nodi mai’r prif gwestiwn y bydd yr ymchwiliad yn ei gyfarch yw:
‘Beth yw’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn ein hysgolion uwchradd ....’, ond
dylai hynny fod yn hysbys i’r Awdurdod.
Nid mater i’r ymchwiliad yw canfod beth yw’r ddarpariaeth, ond yn
hytrach craffu’r ddarpariaeth honno.
·
Bod
y briff yn adlewyrchu’r gwirionedd, sef nad yw’r Adran Addysg yn glir beth yw’r
ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar hyn o bryd, a bod y ffaith bod yr ymarferiad
hwn yn digwydd o gwbl yn ganlyniad diffyg monitro gwaradwyddus yn y maes yma,
ac yn taflu amheuon dros yr holl ystadegau a gasglwyd ar hyd y blynyddoedd. Roedd yr athrawon yn gwybod yn iawn pwy sy’n
gwneud asesiadau a thraethodau ym mha iaith, ac ni ddeellid pam nad yw’r Adran
Addysg yn gallu taflu goleuni ar beth yw’r ddarpariaeth gyfredol. Mewn ymateb, nododd y Cadeirydd y gobeithid y
byddai’r ymchwiliad yn taflu goleuni ar hynny.
·
Bod
y 3 ysgol a ddewiswyd i fod yn rhan o’r ymchwiliad ymhlith yr ysgolion mwyaf Cymreigaidd
yng Ngwynedd, ac na fyddai’r ymchwiliad yn canfod darlun cynrychioliadol o’r
sefyllfa ar draws y sir drwy ymweld â’r ysgolion hynny’n unig. I’r gwrthwyneb, awgrymwyd nad oedd pwynt mynd
i’r ysgolion lleiaf Cymreig, ac na chredid bod y 3 ysgol a ddewiswyd yn
gyfuniad amhriodol. Mewn ymateb,
eglurwyd bod yr Adran Addysg wedi awgrymu’r 3 ysgol (1 yn Arfon, 1 yn Nwyfor ac
1 ym Meirionnydd) ar y sail y byddai modd cynnwys ystyriaethau ôl-16 mewn 2
allan o’r 3 ysgol. Roedd y mater hefyd
wedi’i drafod yn y Fforwm Penaethiaid Uwchradd o ran pa ysgolion oedd yn fodlon
bod yn rhan o’r ymchwiliad.
·
Bod
angen sicrwydd bod y briff yn cynnwys holiadur i bob ysgol uwchradd er mwyn
cael darlun bras o’r sefyllfa ar draws y sir cyn i’r gweithgor ddewis y 3 ysgol
fwyaf cynrychioliadol er mwyn craffu yn fanwl.
·
Yn
ogystal â’r cwestiynau a restrwyd yn Rhan B o’r briff, dylid hefyd gofyn beth
yw’r waelodlin a pha gymorth mae’r Adran yn ei roi i helpu’r ysgolion i
wireddu’r nod.
·
Yn
ogystal â’r rhanddeiliaid a restrwyd yn Rhan CH o’r briff, y byddai hefyd yn
fuddiol siarad gyda’r Pennaeth Cwricwlwm, y Pennaeth Cymraeg, y Cyngor Ysgol a
chynrychiolaeth o blith y cymorthyddion.
PENDERFYNWYD mabwysiadu briff yr Ymchwiliad Craffu
Ysgolion Uwchradd Categori 3 Gwynedd, ac ethol y Cynghorwyr Cai Larsen, Beth
Lawton, Huw Rowlands, Paul Rowlinson a Rhys Tudur i ymgymryd â gwaith yr
ymchwiliad.
Dogfennau ategol: