Rhannu Gwybodaeth
o’r Cyfrifiad am niferoedd a chyfran y siaradwyr Cymraeg yng Ngwynedd.
Penderfyniad:
Cofnod:
-
Eglurwyd bod
y Cyfrifiad diweddaraf wedi cael ei gynnal ar 21ain o Fawrth, 2021, gyda’r
canlyniadau manwl am yr iaith Gymraeg yn
cael eu cyhoeddi ar 6ed Rhagfyr 2022.
-
Eglurwyd bod
y cwestiwn canlynol yn cael ei ofyn fel rhan o’r cyfrifiad a dyma ddefnyddiwyd
fel sail i’r data:
“Ydych chi’n
gallu deall, siarad, darllen, neu ysgrifennu Cymraeg?
§ Deall Cymraeg Llafar
§ Siarad Cymraeg
§ Darllen Cymraeg
§ Ysgrifennu Cymraeg
§ NEU ddim un o’r uchod”
-
Cadarnhawyd
bod canran siaradwyr Cymraeg (a oedd yn 3 oed neu hŷn) yng Ngwynedd wedi
gostwng o 65.4% yn 2011 i 64.4% yn 2021. Nodir bod hyn yn llai na’r gostyngiad
cyffredinol yn siaradwyr Cymraeg yng Nghymru sydd yn 1.2%.
-
Adroddwyd bod
canran siaradwyr Cymraeg yng Ngwynedd wedi gostwng pob degawd ers 1981 ac yn yr
amser hynny mae’r canran wedi gostwng 12.2%.
-
Datganwyd
mai’r grŵp oedran gyda’r nifer fwyaf o siaradwyr Cymraeg yw’r grŵp 3
i 15 oed. Er hyn, cadarnhawyd bod gostyngiad o 2.9% o siaradwyr Cymraeg yn y
grŵp oedran hwn.
-
Eglurwyd bod
cyfraddau siaradwyr Cymraeg yng Ngwynedd yn debyg iawn i’r patrymau a welir yng
Nghymru yn gyffredinol. Nodwyd mai’r unig grŵp oedran sy’n wahanol i
batrwm cenedlaethol ydi bod cynnydd o 0.6% o siaradwyr Cymraeg rhwng 50 a 64
oed yng Ngwynedd ond gostyngiad o 0.7% sydd dros Gymru’n gyffredinol.
-
Manylwyd ar yr 13 ardal
o fewn Gwynedd gan gadarnhau mai Dalgylch Caernarfon sydd â’r canran fwyaf o’r
siaradwyr Cymraeg (85.3%) a’r niferoedd lleiaf i weld yn ardal Bro Dysynni
(38.6%). Eglurwyd bod lleihad mewn nifer o siaradwyr Cymraeg i’w gweld mewn 10
ardal, gyda chynnydd mewn nifer siaradwyr yn ardaloedd Pen Llŷn, Dalgylch
Bangor a Bro Dysynni yn unig.
-
Cadarnhawyd bod y pum
gymdogaeth gyda’r niferoedd uchaf o siaradwyr Cymraeg wedi ei leoli yn ardal
Arfon ac mae’r pum cymdogaeth gyda’r lleiaf o siaradwyr i’w gweld yn ardal Bangor.
-
Adroddwyd mai
Llanbedrog ac Abersoch yw’r gymdogaeth gyda’r cynnydd mwyaf o siaradwyr
Cymraeg, ble mae’r gostyngiad mwyaf i’w weld yn ardal Hendre, Bangor.
-
Nodwyd bod
7.1% o’r boblogaeth wedi cadarnhau eu bod yn deall Cymraeg llafar ond methu eu
siarad. Mae hyn yn uwch na chyfradd Cymru o 5.2%. Cadarnhawyd mai’r gymdogaeth
gyda’r nifer fwyaf o bobl yn deall Cymraeg llafar ond methu ei siarad oedd
cymdogaeth Marchog.
-
Adnabuwyd
cymdogaeth Peblig, Caernarfon fel y gymdogaeth ble roedd y nifer fwyaf o bobl
yn gallu siarad Cymraeg ond ddim ei ddarllen na’i ysgrifennu.
-
Esboniwyd bod
canlyniadau’r Cyfrifiad yn dangos bod 2.3% o boblogaeth Cymru yn siarad Cymraeg
ond methu ei ddarllen nac ei ysgrifennu. Mae’r gyfradd yma ar gyfer Gwynedd yn
5.4%.
-
Pwysleisiwyd bod
gwybodaeth fanylach yn cael ei ryddhau ar lefel wardiau, a bydd gwaith yn cael
ei wneud er mwyn dadansoddi’r canlyniadau.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod
y drafodaeth, codwyd y materion canlynol:
Mynegwyd siomedigaeth
bod 37 o’r 71 cymdogaeth gyda llai na 70% o siaradwyr Cymraeg.
Gofynnwyd
sut mae’r cymdogaethau a welir yng nghanlyniadau’r Cyfrifiad yn cael eu pennu,
gan nad ydynt o reidrwydd yn bentrefi/cymunedau sy’n ymylu ei gilydd.
-
Mewn ymateb i’r ymholiad
cadarnhaodd Rheolwr Ymchwil a Gwybodaeth mai’r Swyddfa Ystadegau Gwladol sy’n
pennu’r ardaloedd. Ystyriwyd bod rhai ardaloedd wedi cael eu grwpio mewn ffordd
benodol i gyd fynd â ffiniau wardiau’r Cyngor, ond bod ffiniau wardiau wedi
cael eu diwygio ers hynny.
Canmolwyd aelod
allu Polisi Iaith Cyngor Gwynedd i sicrhau bod gan y Gymraeg le o fewn ein
cymunedau a’r byd busnes.. Er bod niferoedd siaradwyr ar y cyfan wedi gostwng,
mae’r polisi yn llwyddo i normaleiddio defnydd o’r iaith.
Rhoddwyd
ystyriaeth i lefelau hyder unigolion i siarad yr iaith. Credwyd byddai’r ffigyrau yn uwch petai bobl
rhoi hyder yn eu sgiliau ieithyddol gan fod rhai pobl yn teimlo pwysau i ddeall
a siarad Cymraeg graenus iawn er mwyn gallu’r cwestiwn dan sylw.
Holiwyd os
oedd y gwasanaeth yn edrych ar ddemograffeg er mwyn gallu edrych ar faint o
bobl sydd wedi symud i ardaloedd gwahanol, a chyfuno hynny gyda chanlyniadau’r
cyfrifiad, er mwyn cael ystadegau clir am gymunedau’r Sir.
-
Mewn ymateb i’r ymholiad
nododd Rheolwr Ymchwil a Gwybodaeth bod manylion am ddemograffeg yn cael ei
gynnwys yng nghanlyniadau’r Cyfrifiad. Er hyn, nid oes modd cymharu ystadegau
dwy ardal. Mynegwyd bydd gwybodaeth yn cael ei rannu gan y Swyddfa Ystadegau
Gwladol dros y misoedd nesaf a bydd modd edrych i mewn i wahanol feysydd fel
byddai’n cael ei ryddhau.
Mynegwyd pryder gan
rai aelodau nad ydi Polisi Iaith Cyngor Gwynedd yn ddigon cadarn a chaeth er
mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei ddefnyddio ym mhob sefyllfa. Cysidrwyd
bod angen ei ddiwygio er mwyn sicrhau bod ffigyrau defnyddwyr y Gymraeg yn
cynyddu yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a
dderbyniwyd.
Dogfennau ategol: