Cyflwynwyd gan:Cyng. Ioan Thomas
Penderfyniad:
Argymhellwyd i’r Cyngor (yn ei gyfarfod ar 2
Mawrth 2023) y dylid:
1.
Sefydlu cyllideb
o £317,880,310 ar gyfer 2023/24 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o
£227,842,930 a £90,037,380 o incwm o’r Dreth Cyngor (sy’n gynnydd o 4.95% ar
dreth anheddau unigol).
2.
Sefydlu rhaglen
gyfalaf o £67,780,150 yn 2023/24 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn Atodiad
4 i’r adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas
PENDERFYNIAD
Argymhellwyd
i’r Cyngor (yn ei gyfarfod ar 2 Mawrth 2023) y dylid:
1.
Sefydlu cyllideb o £317,880,310 ar gyfer
2023/24 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £227,842,930 a £90,037,380 o incwm
o’r Dreth Cyngor (sy’n gynnydd o 4.95% ar dreth anheddau unigol).
2.
Sefydlu rhaglen gyfalaf o £67,780,150 yn
2023/24 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn Atodiad 4 i’r adroddiad.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad a nodwyd y penderfyniad a geisir.
Nodwyd nad yw’r argymhelliad i godi treth cyngor mewn cyfnod o gostau byw
cynyddol yn argymhelliad hawdd i’w wneud wrth ystyried yr effaith ar drigolion
Gwynedd. Cyfeiriwyd ar yr heriau ariannol sydd yn wynebu Awdurdodau Lleol ar
draws Gymru yn enwedig wrth ystyried y lefelau chwyddiant diweddar sydd yn
bresennol dros 10%.
Mynegwyd bod
Cyngor Gwynedd wedi derbyn cynnydd grant o 7% ar gyfer 2023/24 sy’n welliant
sylweddol ar y setliad dangosol ac yn cyfateb i gynnydd gwerth £14.6 miliwn
mewn ariannu allanol. Er hyn pwysleisiwyd nad yw’r swm yma yn ddigonol i gwrdd
â chwyddiant a’r pwysau ychwanegol ar wasanaethau.
Cyfeiriwyd at
y ddarpariaeth am chwyddiant cyflogau sy’n £14.2 miliwn. Eglurwyd bod
chwyddiant cyflogau yng nghyllideb 2023/24 yn cynnwys elfen i gywiro’r bwlch
2022/23 gan bod y cytundeb terfynol yn uwch na’r hyn oedd wedi ei gyllidebu
amdano, yn ogystal ag ystyried chwyddiant tybiannol ar gyfer 2023/24. Soniwyd
hefyd bod darpariaeth ar gyfer chwyddiant arall o £11.1 miliwn sy’n cynnwys
£3.3 miliwn o chwyddiant ar brisiau trydan a £3 miliwn yn y maes gofal.
Argymhellwyd i
gymeradwyo bidiau gwerth £2.75 miliwn am adnoddau
parhaol ychwanegol a gyflwynwyd gan Adrannau’r Cyngor i gwrdd â phwysau anorfod
ar wasanaethau. Credwyd bod y bidiau yma yn angenrheidiol ac yn ychwanegol i’r
£3 miliwn o ychwanegiad i gyllideb Digartrefedd sy’n cael ei ariannu o’r
Premiwm Treth Cyngor.
Eglurwyd bod
yr holl fidiau a gyflwynwyd wedi cael eu herio yn drylwyr gan y Tîm Arweinyddiaeth
yn ogystal â’u hystyried yn y Seminar Cyllideb efo’r holl aelodau a gynhaliwyd
ar 26 Ionawr 2023.
I grynhoi,
nodwyd bod anghenion
gwario’r Cyngor (cyn tynnu arbedion) ar gyfer 2023/24 yn £323.1
miliwn fel sydd wedi ei nodi yn rhan 3 o’r adroddiad.
Nodwyd
yn rhan 2 fod y grant oddi wrth Lywodraeth Cymru am fod yn
£227.8
miliwn.
Golyga hyn bod bwlch gweddilliol o £95.2 miliwn angen ei lenwi. Argymhellir
cyfarch y bwlch drwy gynyddu’r Dreth Cyngor yn ogystal â defnyddio’r arbedion;
byddai defnyddio’r arbedion sydd eisoes wedi eu cymeradwyo ar gyfer 2023/24 a’r
rhai newydd yn creu cyfanswm o £5.2 miliwn fyddai’n cael ei ddefnyddio i
leihau’r bwlch ariannol. Byddai cynyddu’r Dreth Cyngor o 4.95% yn cynhyrchu
ychydig dros £90 miliwn o incwm, byddai hyn yn ddigonol i lenwi’r bwlch
ariannol.
Tynnwyd sylw
at Atodiad 4 sydd yn adlewyrchu’r gofynion cyfalaf, ynghyd â’r ariannu, er mwyn
sefydlu rhaglen gyfan gwerth £67 miliwn yn 2023/24. Nodwyd y bydd y Pennaeth
Cyllid yn nodi’r sylwadau gafodd eu derbyn gan aelodau’r Pwyllgor Llywodraethu
ac Archwilio a gynhaliwyd ar 9 Chwefror 2023.
Ychwanegodd y
Pennaeth Cyllid nad oedd pwyntiau penodol gan y Pwyllgor Llywodraethu ac
Archwilio i’r Cabinet ystyried ond y byddai yn cyfeirio at y sylwadau a
dderbyniwyd. Derbyniwyd cwestiwn am y defnydd o falensau gyda’r Pennaeth Cyllid
yn egluro pam ei fod ddim yn ddefnydd sy’n cael ei wneud gan y Cyngor; cafodd
yr ymateb hwn ei dderbyn gan y Pwyllgor. Derbyniwyd sylw ar gostau chwyddiant
ar gyflogau athrawon gan y bod sôn gan Lywodraeth Cymru am gynnydd pellach ar
gyflogau athrawon. Cwestiynwyd os byddai’n rhaid addasu’r gyllideb i gwrdd â
hyn. Mynegodd y Pennaeth Cyllid nad oes digon o fanylion wedi eu derbyn hyd yma
am y cynnig hwn ond byddem yn disgwyl i Lywodraeth
Cymru yn ariannu’r cynnydd drwy grant ychwanegol. Ategodd nad oes digon o
wybodaeth wedi ei dderbyn i addasu’r gyllideb.
Derbyniwyd
cwestiwn pellach ar y Cyd-bwyllgor Corfforedig a’i ardoll yn cynyddu. Soniwyd
bod cyfrifoldebau’r Cyd-bwyllgor Corfforedig yn parhau i dyfu drwy’r
Is-bwyllgorau rhanbarthol Cynllunio a Thrafnidiaeth sydd yn y broses o gael eu
sefydlu. Nodwyd bod penderfyniadau angen eu gwneud a cyfeiriwyd at y
trafodaethau am y bwriad o uno cyfrifoldebau llywodraethu’r CBC efo’r Bwrdd
Uchelgais Economaidd. Sicrhawyd bod y Swyddogion Cyllid yn gwneud eu gorau i
gadw costau lawr mewn perthynas â’r gwaith rhanbarthol.
Yn ogystal â’r
uchod, holodd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio os fydd y flwyddyn ariannol
2024/25 yn anoddach eto. Eglurwyd bod cynlluniau wedi eu gwneud i lenwi’r bwlch
ariannol am y ddwy flynedd nesaf ond ei bod yn
anodd rhagdybio beth fydd y lefelau chwyddiant erbyn hynny a beth fydd y
setliad. Ategwyd bod Aelodau’r Pwyllgor
yn fach
i gefnogi’r bidiau.
Yn olaf holwyd
am ddefnydd y Premiwm at bwrpasau Digartrefedd i ymdrin â gorwariant pellach
ond cyfeiriwyd at y swm benodol o £3 miliwn sydd eisoes wedi ei glustnodi ar
gyfer 2023/24 at y pwrpas hwn.
Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth
·
Gofynnwyd pe bai’r Cyngor heb gytuno i
gynyddu’r Premiwm o 100% i 150% yn ôl ym mis Rhagfyr 2022 faint yn fwy byddai’n
rhaid ei neilltuo i leddfu’r bwlch i ddelio â Digartrefedd.
·
Mewn ymateb nododd
y Pennaeth Cyllid y byddai’r bwlch yn gyfatebol â chynyddu’r Dreth Cyngor 3%
- 4%.
·
Holwyd am effaith cynyddu’r Dreth
Cyngor. Cymerwyd y cyfle i sôn am waith y tîm budd-daliadau a’r cymorth sy’n
cael ei gynnig gan y Cyngor. Soniwyd am y Cynllun Gostyngiad
Treth
Cyngor ac anogwyd trigolion Gwynedd i
ymgeisio amdano, nodwyd bod gwybodaeth bellach i’w gael ar wefan y Cyngor.
Ychwanegwyd bydd rhai yn anghymwys am y Cynllun oherwydd bod rheolau caeth yn
bodoli gan y Llywodraeth ond bod cymorth pellach ar gael gan y Cyngor o
wahanol Adrannau megis y tîm taclo tlodi i
geisio
llenwi’r bwlch. Cydnabuwyd bod swyddogion yn arfer
annog ceisiadau am fudd-daliadau ac efallai bod y bwlch yma yn un sydd angen ei
gyfarch yn y dyfodol.
·
Argymhellwyd bod unrhyw un sy’n cael
trafferthion talu’r Dreth Cyngor yn cysylltu â´r Adran ac nid yn unig y rhai
sy’n derbyn budd-daliadau, bydd cymorth ar gael i bawb.
·
Mynegwyd bod yr adroddiad yn cyfeirio at
rai elfennau cadarnhaol iawn a’n dangos gallu’r Cyngor i ddelio â risgiau.
Ychwanegwyd mai un o brif risgiau’r Cyngor dros y flwyddyn ddiwethaf oedd ei
anallu i ddarparu digon o ofal oherwydd diffyg gofalwyr. Nodwyd bellach bod y
Cyngor wrth osod y gyllideb wedi gallu cwrdd â’r pwysau hwn drwy gynyddu
cyflogau gofalwyr i lefel gystadleuol sy’n adlewyrchu eu dyletswyddau.
Gobeithiwyd y bydd hyn yn galluogi’r Cyngor i allu denu mwy o ofalwyr i wneud y
gwaith angenrheidiol yma sydd yn gam positif.
Awdur:Dewi Aeron Morgan, Pennaeth Cyllid
Dogfennau ategol: