Cyflwynwyd gan:Cyng. Dyfrig Siencyn a Cyng. Nia Jeffreys
Penderfyniad:
·
Cymeradwywyd Cynllun Strategol Gwynedd ac Eryri 2035 fel Cynllun
Strategol ar gyfer yr Economi Ymweld yn yr ardal.
·
Cymeradwywyd sefydlu Partneriaeth Gwynedd ac
Eryri 2035 yn ogystal â’r gweithdrefnau a’r strwythurau priodol fydd eu hangen
er mwyn datblygu, gweithredu a monitro’r Cynllun Strategol, Cynllun Gweithredu
Gwynedd ac Eryri 2035 a’i fesuryddion perthnasol.
·
Cytunwyd i ychwanegu bod angen dirprwyo’r hawl i’r Arweinydd, mewn
ymgynghoriad â’r Prif Weithredwr, i gadarnhau cylch gorchwyl y ddau gorff.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn
PENDERFYNIAD
·
Cymeradwywyd Cynllun Strategol Gwynedd
ac Eryri 2035 fel Cynllun Strategol ar gyfer yr Economi Ymweld yn yr ardal.
·
Cymeradwywyd sefydlu Partneriaeth
Gwynedd ac Eryri 2035 yn ogystal â’r gweithdrefnau a’r strwythurau priodol fydd
eu hangen er mwyn datblygu, gweithredu a monitro’r Cynllun Strategol, Cynllun
Gweithredu Gwynedd ac Eryri 2035 a’i fesuryddion perthnasol.
·
Cytunwyd i ychwanegu bod angen
dirprwyo’r hawl i’r Arweinydd, mewn ymgynghoriad â’r Prif Weithredwr, i
gadarnhau cylch gorchwyl y ddau gorff.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi bod y gwaith wedi cychwyn ers cyn y cyfnod Cofid a bod
trafodaethau efo partneriaid wedi bod yn digwydd yn gyson ers hynny. Mynegwyd
gwerthfawrogiad am y cydweithio agos sydd wedi bod yn digwydd rhwng y Cyngor a
Pharc Cenedlaethol Eryri a bod yr un weledigaeth ac egwyddorion sylfaenol yn
cael eu rhannu. Credwyd bod yr adroddiad yn gam pwysig i geisio llywio'r
diwydiant ymwelwyr i fod yn fwy cynaliadwy ac yn fwy atebol i’r
cymunedau.
Darparwyd
cefndir yr adroddiad gan y Pennaeth Economi a Chymuned
a nododd bod y cynllun yn ei le â’r
weledigaeth ar gyfer y dyfodol wedi ei gosod a’r prif amcanion ar gyfer y
dyfodol wedi eu hadnabod. Nodwyd bod y newid arwyddocaol i’w
weld yn y gwaith hwn drwy roi’r gymuned yn ganolog fydd yn sicrhau budd i
Wynedd o ganlyniad i’r datblygiadau yn y maes hwn i’r dyfodol.
Cyfeiriwyd at
egwyddorion Economi Ymweld Gwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri a’r amcanion sydd
wedi eu cynnwys yn rhan 3 o’r adroddiad. Bydd angen sicrhau y bydd cynllun
gweithredu clir yn ei le er mwyn gwireddu’r weledigaeth. Cynhigir strwythur
newydd ar gyfer gweithredu sy’n cynnwys Partneriaeth Economi Ymweld Cynaliadwy
Gwynedd ac Eryri, Bwrdd Llywio Economi Ymweld Cynaliadwy Gwynedd ac Eryri yn
ogystal â Grŵp Gweithredol Economi Ymweld Cynaliadwy Gwyned ac Eryri. Ceir
manylion ar y trefniadau gweithredu yn rhan 4 o’r adroddiad.
Rhedwyd drwy’r
camau nesaf a’r amserlen ar gyfer eu cwblhau. Cydnabuwyd y pwysigrwydd o
gydweithio ar draws sectorau er mwyn cyflawni’r weledigaeth. Nodwyd bod ymgynghoriadau
wedi eu cynnal ond bod mwy i’w gwneud a’i bod yn gychwyn cyfnod newydd o
weithredu’r Cynllun a chydweithio efo’r sector Economi Ymweld.
Ychwanegodd y
Swyddog Parc Cenedlaethol Eryri ei bod yn falch o gyhoeddi bod yr awdurdod wedi
mabwysiadu’r Cynllun Strategol hwn wythnos diwethaf ac yn falch iawn o’r trefniadau
a’r cydweithio. Diolchwyd i Swyddogion y Cyngor am eu gwaith.
Derbyniwyd
sylwadau o’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi gan y Dirprwy Arweinydd ble
roedd trafodaeth ddefnyddiol ac awgrymiadau adeiladol er enghraifft ehangu
aelodaeth y bartneriaeth i gynnwys y gwasanaethau brys, yr undebau amaeth a
chynrychiolwyr eraill o ran tirfeddianwyr. Nodwyd y bydd y Cyrff hyn yn cael eu
gwahodd i ymuno â’r bartneriaeth maes o law.
Eglurwyd bod
trafodaeth wedi bod ar effaith twristiaeth ar yr iaith Gymraeg a’r Heddlu,
sylwadau ynglŷn â pharcio a rhai cwestiynau i’r Parc; bydd y Swyddog Parc
Cenedlaethol yn ymateb yn uniongyrchol i’r Pwyllgor Craffu am faterion Parc
Cenedlaethol Eryri. Nododd y Dirprwy Arweinydd ei bod eisoes wedi trafod â
Swyddogion a bydd yn sicrhau fod y materion a godwyd yn cael blaenoriaeth.
Cyfeiriwyd at
y pwysigrwydd o fesur cynnydd a gosod mesuryddion i’r Cynllun Economi Ymweld a
bod hyn wedi ei grybwyll gan y Pwyllgor Craffu. Eglurwyd bod awgrym gan y
Pwyllgor Craffu i ddiwygio’r weledigaeth rhywfaint; nodwyd bod yr awgrym hwn
wedi derbyn ystyriaeth lawn ond bod teimlad bod y weledigaeth bresennol yn un
syml a chlir. Mynegwyd diolch i’r Pwyllgor Craffu am eu sylwadau.
Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth
·
Cydnabuwyd buddion yr Economi Ymweld ond
hefyd ymwybyddiaeth o’r problemau sy’n gallu
deillio ohono a mynegwyd balchder bod
y Strategaeth yma yn ceisio cyfarch y balans.
·
Canmolwyd meddylfryd y Cynllun Economi
Ymweld a bod gweledigaeth glir yn bodoli am bwysigrwydd Economi Ymweld sy’n deg
i bawb.
·
Diolchwyd i Swyddogion y Cyngor a
Swyddogion Parc Cenedlaethol Eryri am eu gwaith a mynegwyd balchder am y
cydweithio rhwng y Cyngor a’r Parc.
·
Croesawyd y Cynllun; gwnaethpwyd sylw ei
fod yn ymgais i droi’r diwydiant twristiaeth ar ei ben.
·
Mynegwyd balchder am yr enw sy’n cael ei
ddefnyddio yn y Gymraeg a’r Saesneg a credwyd bod hyn yn gam pwysig gan y
Parc.
·
Cytunwyd i ychwanegu bod angen
dirprwyo’r hawl i’r Arweinydd, mewn ymgynghoriad â’r Prif Weithredwr, i
gadarnhau cylch gorchwyl y ddau gorff i’r
Penderfyniad. Derbyniwyd yr ychwanegiad.
Awdur:Sioned E. Williams, Pennaeth Economi a Chymuned a Roland Evans, Pennaeth Cynorthwyol - Diwylliant
Dogfennau ategol: