Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Craig ab Iago

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Craig ab Iago 

 

PENDERFYNIAD 

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. 

 

TRAFODAETH  

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan gyfeirio at y niferoedd sy’n ddigartref yn y Sir a’r cynnydd yn y niferoedd sy’n cyflwyno yn ddigartref o ganlyniad i dderbyn ‘rhybudd adran 21’ gan landlordiaid (rhybudd y bydd eu tenantiaeth yn dod i ben). Nodwyd yn ystod y flwyddyn 2022 rhoddwyd 169 rhybudd ac roedd 78% o’r rhesymau a roddwyd gan landlordiaid dros gyflwyno’r rhybudd oherwydd eu bod yn gwerthu’r eiddo. Soniwyd am yr hyn mae’r Adran yn ceisio ei wneud i geisio cynnig datrysiad i’r sefyllfa er enghraifft cynnig pecynnau cefnogaeth i landlordiaid preifat. 

 

Cyfeiriwyd at y cynlluniau prynu Tai a phrynu Tir gan nodi bod 8 tŷ wedi ei brynu gyda 5 arall naill ai yn agos i gwblhau neu â chytundeb i brynu yn nwylo’r cyfreithwyr. Soniwyd hefyd am y Cynllun Cymorth Prynu Gwynedd gan nodi bod gwerth £13 miliwn o fenthyciadau ecwiti ar gael er mwyn rhoi cyfle i fwy o bobl brynu cartref oddi ar y farchnad agored yn eu cymuned leol. 

 

Adroddwyd ar y gwasanaeth Ynni newydd sydd wedi cael ei sefydlu gan nodi bod dros 570 o bobl wedi derbyn cymorth hyd yma gyda’u biliau ynni trwy dderbyn talebau ynni. Mynegwyd bod hyn yn lwyddiant ond bod y broblem wreiddiol yn cael ei greu gan y Llywodraeth gyda’r Cyngor yn ceisio ei ddatrys. Cyfeiriwyd at ddatblygiadau’r Siop un Stop gan nodi bod staff eisoes wedi eu penodi a bod yr Adran ar hyn o bryd y chwilio am enw newydd i’r ‘Siop un Stop’. 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth 

·                  Tynnwyd sylw at y nifer o dai cymdeithasol sydd wedi eu datblygu er mwyn ceisio cyrraedd yr uchelgais o 500 erbyn 2026 gan nodi bod 160 wedi eu datblygu hyd yn hyn. Gofynnwyd pa mor hawdd fydd cyrraedd yr uchelgais.  

·                  Mewn ymateb nodwyd bod y targed ddim yn hawdd ond bod arian wedi ei ymrwymo ar gyfer y ddwy flynedd nesaf a bydd yr Adran yn edrych ar yr anghenion ar draws y Sir. Nodwyd bod cynllun mewn lle dros y dair mlynedd nesaf.  

·                  Canmolwyd y Cynllun Cymorth Prynu gan nodi mai’r brif her oedd darganfod am fodolaeth y Cynllun yn y lle cyntaf. Mewn ymateb nodwyd bod fideo wedi ei greu a bod yr Adran wedi ymweld â chynghorau cymuned Dwyfor. Ategwyd y byddai’r Adran yn gwerthfawrogi unrhyw awgrymiadau pellach o ran ymgysylltu. 

·                  Cwestiynwyd os yw’r ffigwr o brynu 8 o dai yn isel a gofynnwyd os gall y Cyngor wneud unrhyw beth i helpu neu i gyflymu’r broses. 

·                  Mewn ymateb nodwyd ei bod yn anodd iawn dod o hyd i dai addas gan na all yr Adran gystadlu yn erbyn pobl leol sydd eisiau prynu, heriau staff a’r angen i wneud y gorau o’r arian sydd yn bodoli. Ychwanegwyd bod llawer o rwystrau o ran safonau tai a gofynion megis gofynion tân a maint ystafelloedd oedd yn golygu bod llawer yn anaddas. Nodwyd bod yr Adran wedi ymweld â dros 100 o dai ond oherwydd y rhesymau uchod dim ond 8 oedd yn bosib ei brynu hyd yma. 

·                  Pryderwyd am y sefyllfa yn y sector dai preifat gyda llai o landlordiaid preifat yn gosod eiddo yn y dyfodol. Cydnabuwyd bod hyn yn risg.  

·                  Cyfeiriwyd ar y sefyllfa Wcráin a’r ffoaduriaid a’r risg sylweddol sydd angen ei amlygu a’r pryderon y bydd nifer yn cyflwyno’n ddigartref. Nodwyd bod y Cyngor yn ceisio cael gwybodaeth gan y Llywodraeth ac ar hyn o bryd yn y niwl ynglŷn â dyletswyddau’r Cyngor. Ategwyd bod angen system i gefnogi’r ffoaduriaid. Mynegwyd bod trafodaethau cyfredol yn digwydd efo’r Llywodraeth. Ychwanegodd y Prif Weithredwr bod datganiad yn cael ei wneud yn y Senedd heddiw a gobeithir derbyn diweddariad yn dilyn hyn; gobeithir y bydd gwell cefnogaeth i’r ffoaduriaid.   

 

Awdur:Carys Fon Williams, Pennaeth Tai ac Eiddo

Dogfennau ategol: