Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Dyfrig Siencyn

Penderfyniad:

·        Derbyniwyd llythyr cynnig, am arian Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth Prydain, i weithredu cynllun Llewyrch o’r Llechi ar y cyd a phartneriaid o fewn y Dyffrynnoedd Llechi.

 

·        Awdurdodwyd y Pennaeth Economi a Chymuned mewn ymgynghoriad â’r Pennaeth Cyllid a Phennaeth Cyfreithiol i gytuno ar y trefniadau cytundebol a gweithredu a’r pecyn ariannol cyflawn gyda partneriaid.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys 

 

PENDERFYNIAD 

 

·       Derbyniwyd llythyr cynnig, am arian Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth Prydain, i weithredu cynllun Llewyrch o’r Llechi ar y cyd a phartneriaid o fewn y Dyffrynnoedd Llechi. 

 

·       Awdurdodwyd y Pennaeth Economi a Chymuned mewn ymgynghoriad â’r Pennaeth Cyllid a Phennaeth Cyfreithiol i gytuno ar y trefniadau cytundebol a gweithredu a’r pecyn ariannol cyflawn gyda phartneriaid. 

 

TRAFODAETH  

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi bod tri cais gan yr Adran Economi a Chymuned ac Adran Amgylchedd wedi eu cyflwyno i Gronfa Ffyniant Bro, Llywodraeth Prydain. Ni fu cais Bywiogi Bangor na chais Coridor Gwyrdd Ardudwy yn llwyddiannus, ond bu cais Llewyrch o’r Llechi yn llwyddiannus. Eglurwyd bod cadarnhad o fuddsoddiad o £18.8 miliwn wedi ei dderbyn, bydd angen gwario’r arian hwn cyn diwedd Mawrth 2025. 

 

Nodwyd bod y Cynllun Llewyrch o’r Llechi yn becyn gwerth o gwmpas £27 miliwn o gynlluniau ar draws dyffrynnoedd llechi Gwynedd sy’n ymateb i’r thema ‘buddsoddi mewn diwylliant’. Adroddwyd bod y Cynllun yn cynnig cyfleoedd a datblygiadau sydd yn cyfrannu tuag at adfywio'r cymunedau yma. Nodwyd bod manylion ar beth mae’r pecyn yn ei gynnwys wedi ei nodi yn rhan 2.2 o’r adroddiad. 

 

Ychwanegodd y Pennaeth Economi a Chymuned bod trafodaethau wedi digwydd efo’r cymunedau a bod rhaid canolbwyntio ar y prosiectau fwyaf aeddfed er mwyn gallu cwblhau’r gwaith o fewn yr amserlen. Ategwyd bod hyn yn ffactor wrth adnabod prosiectau. Nodwyd bod angen comisiynu gwaith dehongli fel rhan o’r Cynllun.  

 

Mynegwyd bod y pecyn hwn yn cyfrannu at y weledigaeth ehangach sydd wedi ei nodi yn rhan 2.3 o’r adroddiad sef i ‘Amddiffyn, cadw, gwella a chyfleu priodweddau pwysig yr ardal er mwyn atgyfnerthu hynodrwydd diwylliannol a chryfhau’r iaith Gymraeg, a dod yn sbardun pwysig i adfywio economaidd a chynhwysiad cymdeithasol.’ Credwyd bod y Cynllun yn uchelgeisiol iawn ac yn raglen tymor hir a'r gobaith yw y bydd yn arwain at gyfleoedd pellach yn y cymunedau hyn. 

 

I gloi nodwyd mai Cyngor Gwynedd fydd yn arwain ar y cais ond bydd gweithio mewn partneriaeth efo’r tair ardal sy’n rhan o’r cais yn hanfodol er mwyn gwireddu'r gwahanol brosiectau. Nodwyd y bydd angen cytuno ar gytundeb cyfreithiol rhwng Cyngor Gwynedd a’r partneriaid yn y gymuned er mwyn gwireddu’r prosiectau a chyflawni. Ychwanegwyd bod gwaith wedi cychwyn o ran trafodaethau efo’r Pennaeth Cyllid a’r Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol, felly gobeithir gallu symud ymlaen a chadarnhau’r trefniadau efo’r partneriaid. 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth 

·                  Croesawyd y buddsoddiad a’r cyfleoedd fydd yn deillio o’r Cynllun. 

·                  Holiwyd am y ffynonellau cydariannu sydd wedi eu nodi yn yr adroddiad ar dudalennau 264 a 265 a’u bod yn cael eu nodi fel ‘posib’. Gofynnwyd pa mor sicr yw’r Adran Economi a Chymuned bod y symiau a nodwyd yn mynd i’n cyrraedd.  

·                  Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Rhaglenni Adfywio ei bod yn sicr o hyn gan fod cyfarfodydd cychwynnol wedi eu cynnal er enghraifft efo Amgueddfa Cymru a’u bod yn rhan o gynlluniau ehangach ganddynt. Ychwanegwyd bod risg isel i’r cynlluniau beidio mynd yn eu blaenau, adroddwyd bellach bod Cyngor Gwynedd wedi derbyn sicrwydd o’r wedd ddatblygol gan Gronfa Treftadaeth y Loteri. 

 

Awdur:Sioned E. Williams, Pennaeth Economi a Chymuned

Dogfennau ategol: