Agenda item

Hedd Vaughan-Evans, Pennaeth Gweithrediadau a Henry Aron, Rheolwr y Rhaglen Ynni i gyflwyno’r adroddiad.

 

Penderfyniad:

 

1.       Cytuno i'r cais i newid a gyflwynwyd gan Brifysgol Bangor i gadw cam 1 o brosiect Egni o fewn Cynllun Twf Gogledd Cymru a thynnu cam 2 o'r prosiect yn ôl.

2.       Clustnodi'r cyllid a ryddheir o Egni Cam 2 i'r broses newid prosiectau ac ymestyn y sgôp fel y nodir yn yr adroddiad.

3.       Cytuno ar y sgôp a'r gofynion isafswm ar gyfer prosiectau Ynni Carbon Isel newydd fel y nodir yn yr adroddiad.

4.       Cytuno i'r amserlen ddiwygiedig a nodir yn yr adroddiad ar gyfer y broses newid prosiectau gan gynnwys lansiad ffurfiol ym mis Chwefror 2023.

5.       Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd, i weithredu'r Broses Newid Prosiectau fel y nodir yn yr adroddiad ac ymgymryd â'r holl gamau angenrheidiol i gwblhau'r dogfennau sydd eu hangen i ddechrau’r broses.

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans (Pennaeth Gweithrediadau) a Henry Aron (Rheolwr y Rhaglen Ynni).

 

PENDERFYNWYD

 

  1. Cytuno i'r cais i newid a gyflwynwyd gan Brifysgol Bangor i gadw cam 1 o brosiect Egni o fewn Cynllun Twf Gogledd Cymru a thynnu cam 2 o'r prosiect yn ôl.
  2. Clustnodi'r cyllid a ryddheir o Egni Cam 2 i'r broses newid prosiectau ac ymestyn y sgôp fel y nodir yn yr adroddiad.
  3. Cytuno ar y sgôp a'r gofynion isafswm ar gyfer prosiectau Ynni Carbon Isel newydd fel y nodir yn yr adroddiad.
  4. Cytuno i'r amserlen ddiwygiedig a nodir yn yr adroddiad ar gyfer y broses newid prosiectau gan gynnwys lansiad ffurfiol ym mis Chwefror 2023.
  5. Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd, i weithredu'r Broses Newid Prosiectau fel y nodir yn yr adroddiad ac ymgymryd â'r holl gamau angenrheidiol i gwblhau'r dogfennau sydd eu hangen i ddechrau’r broses.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae gan Gynllun Twf Gogledd Cymru broses rheoli newid yn ei lle i sicrhau bod newidiadau posib i sgôp y Cynllun Twf a'r prosiectau yn cael eu dal, eu hasesu a lle bo hynny'n berthnasol, eu hystyried gan y Bwrdd.

 

Mae’r Cytundeb Twf Terfynol yn nodi sefyllfa'r bwrdd mewn perthynas â phrosiectau amgen posib: "Rhaid i unrhyw brosiectau newydd neu amgen sydd i'w cyflwyno am ystyriaeth, ddangos eu bod yn cyflawni yn erbyn yr achos busnes rhaglen perthnasol ac amcanion yr achos busnes portffolio.  Lle mae'r prosiectau hyn o fewn yr amlen ariannol gytûn bresennol ar gyfer y bartneriaeth, byddai angen i'r Bwrdd Uchelgais Economaidd wneud penderfyniad yn eu cylch."

 

Ym mis Rhagfyr 2022, cytunodd y Bwrdd i'r meini prawf ar gyfer y broses newid prosiectau wreiddiol i'w lansio ar 16 Ionawr.  Penderfynodd y Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Bwrdd Uchelgais i oedi'r broses ar ôl cael gwybod am y cais i newid oedd i'w gyflwyno gan Brifysgol Bangor ynghylch prosiect Egni fyddai â goblygiadau i'r broses hon.

 

Mae'r prosiect Egni gyda Phrifysgol Bangor wedi bod yn adrodd yn goch ers dros 12 mis ac mae wedi bod yn cael ei adolygu gan y Swyddfa Rheoli Portffolio.  Roedd dull dau gam i'r prosiect yn cael ei ystyried gyda'r Brifysgol er mwyn cyflymu'r gwaith o'i gyflawni.

 

Sgôp gwreiddiol prosiect Egni oedd buddsoddi mewn datblygu'r isadeiledd ym Mhrifysgol Bangor a Pharc Gwyddoniaeth Menai, gwella galluedd y Gogledd a'r DU ar gyfer arloesedd mewn ynni carbon isel a meysydd cysylltiedig, gan helpu i greu'r amodau ar gyfer mewnfuddsoddiad newydd a thwf busnes yn y gadwyn gyflenwi ynni carbon isel yn y Gogledd.

 

O ganlyniad i oedi i'r gwaith o ddatblygu'r achos busnes, costau cynyddol a diffyg sicrwydd ynghylch strategaeth ystadau ehangach Prifysgol Bangor, mae'r Swyddfa Rheoli Portffolio wedi bod yn gweithio gyda'r Brifysgol i ddatblygu dull graddol i'r prosiect.  Byddai Cam 1 yn canolbwyntio ar y datblygiad llai ym Mharc Gwyddoniaeth Menai, gyda Cham 2 yn cynnwys cyfleusterau ehangach campws Prifysgol Bangor.

 

Mae Prifysgol Bangor wedi cyflwyno cais i newid i'r Bwrdd Uchelgais i gadw Cam 1 (datblygiad newydd ym Mharc Gwyddoniaeth Menai) o fewn y Cynllun Twf a thynnu Cam 2 (datblygiad ehangach campws y Brifysgol) yn ôl. 

 

TRAFODAETH

 

Manylwyd ar y cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd.

 

Gan gyfeirio at baragraff 4.9 o’r adroddiad (creu adeilad a chyfleusterau newydd ym Mharc Gwyddoniaeth Menai), holwyd sut bod nifer y swyddi net wedi cynyddu o 20 i 49, ond cyfanswm y buddsoddiad wedi lleihau.

 

Mewn ymateb, eglurwyd ei bod yn debygol bod y ffigurau gwreiddiol ar gyfer y prosiect wedi rhoi amcangyfrif llawer rhy isel o’r nifer swyddi y byddai’r prosiect yn greu, yn ogystal â rhoi amcangyfrif rhy uchel o’r buddsoddiad sector preifat fyddai’r prosiect yn ei ddenu.  Roedd hyn yn ddatblygiad positif yn nhermau swyddi, gan y byddai’r prosiect llai yn darparu mwy o swyddi, ond yn negyddol yn nhermau buddsoddiad sector preifat.  Roedd hefyd yn rhyddhau mwyafrif y £21m o gyllid y Cynlllun Twf ar gyfer chwilio am brosiectau amgen.  Nid oedd yna ofyn penodol yn nhermau cyllid cyfatebol ar gyfer prosiectau yn wreiddiol, ac roedd hyn yn amrywio o un prosiect i’r llall, yn ddibynnol ar eu natur.  Yn amlwg, roedd yna darged portffolio cyffredinol sy’n seiliedig ar y ffigurau gwreiddiol hynny, fel bod unrhyw beth ddaw allan o’r Cynllun Twf yn cyfrannu at y targedau hynny yr anelir i gyrraedd atynt drwy unrhyw brosiectau amgen fydd yn cael eu dewis gan y Bwrdd maes o law.

 

Gan gyfeirio at argymhelliad 2.5 yn yr adroddiad, sy’n gofyn am ddirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Portffolio i weithredu’r Broses Newid Prosiectau ac ymgymryd â’r holl gamau angenrheidiol i gwblhau’r dogfennau sydd eu hangen i ddechrau’r broses, nodwyd y dylai hynny ddigwydd mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd.  Gofynnwyd hefyd am ddiweddariad i’r Bwrdd ymhen 12 mis ar y niferoedd swyddi, gan fod angen gweld pryd fydd y swyddi wedi’u creu o fewn amserlen y prosiect yn ei gyfanrwydd.  Mynegwyd gobaith hefyd y byddai’r Brifysgol yn gweithio’n agos gyda diwydiannau i gynyddu cyfleoedd cyflogaeth.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chadernid y ffigurau cyflogaeth cyfredol, nodwyd bod y prosesau sicrwydd a sefydlwyd ar gyfer achosion busnes yn llawer mwy cadarn nag yn y dyddiau cynnar, cyn sefydlu’r Swyddfa Rheoli Portffolio.  Erbyn hyn, dylai’r her mae achosion busnes yn wynebu, yn arbennig o ran eu heffaith ehangach yn yr economi, yn ogystal â’r her drwy’r Broses Adolygu Gateway, ddarparu llawer mwy o sicrwydd o ran y ffigurau hyn.  Eglurwyd ymhellach y gofynnid i’r Bwrdd gymeradwyo’r cais i newid yn unig ar hyn o bryd, ac y byddai’r achos busnes llawn ar gyfer y prosiect hwn yn cael ei gyflwyno i gyfarfod Mawrth o’r Bwrdd.

 

Mewn ymateb i’r cais am ddiweddariad ar y niferoedd swyddi, nodwyd y bwriedid adrodd yn ôl i’r Bwrdd ar y swyddi sydd wedi’u creu, o leiaf yn flynyddol. 

 

Croesawyd yr awgrymiad i dderbyn ceisiadau gan brosiectau o’r rhaglenni Cysylltedd Digidol ac Arloesi mewn Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel fel rhan o’r broses.

 

Dogfennau ategol: