Agenda item

David Roberts, Cadeirydd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru a Sian Lloyd Roberts, Rheolwr Sgiliau Rhanbarthol i gyflwyno’r adroddiad.

 

Penderfyniad:

Cadarnhau'r Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth rhanbarthol a'r tair blaenoriaeth sydd wedi'u hamlinellu yn y cynllun.

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan David Roberts (Cadeirydd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru) a Sian Lloyd Roberts (Rheolwr Sgiliau Rhanbarthol).

 

PENDERFYNWYD cadarnhau'r Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth rhanbarthol a'r tair blaenoriaeth sydd wedi'u hamlinellu yn y cynllun.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth Gogledd Cymru 2023-2025 wedi'i ddatblygu fel sylfaen i ddull gweithredu strategol Llywodraeth Cymru i gyflawni darpariaeth sgiliau a chyflogaeth yn y rhanbarth.

 

Mae wedi'i gynhyrchu gan Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru yn dilyn ymgynghoriadau gyda rhanddeiliaid, darparwyr rhanbarthol a'r diwydiant rhwng Ebrill a Gorffennaf 2022.

 

Mae angen adrodd i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ar y Cynllun.

 

TRAFODAETH

 

Manylwyd ar y cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd.

 

Nodwyd bod y maes sgiliau yn greiddiol i waith y Bwrdd, ac y byddai’r Bwrdd yn falch iawn o gefnogi gwaith y Bartneriaeth Sgiliau.

 

Nodwyd bod dyletswydd cymdeithasol a moesol arnom i helpu’r dros 200,000 o bobl yng Nghymru sy’n anabl i gael mynediad i gyflogaeth, ac y byddai’n dda petai’r Bwrdd a’r Bartneriaeth Sgiliau yn gallu gweithredu ar y cyd o ran hynny.

 

Mewn ymateb, nodwyd y cytunid yn llwyr â’r sylw, a bod yr elfen economaidd yn bwysig hefyd.  Roedd angen hwyluso mynediad i bobl o bob cefndir i fyd gwaith, a’r man cychwyn oedd codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r sefyllfa.  Nodwyd bod gan bobl anabl gyfraniad aruthrol i’w wneud, ac o bosib’ bod Cofid wedi paratoi’r ffordd drwy orfodi pawb i feddwl am gyflogaeth mewn ffordd fwy hyblyg, e.e. gweithio’n rhithiol ayb.  Nodwyd ymhellach bod gan Lywodraeth Cymru bencampwyr anabledd a’u bod yn gwthio’r agenda yma yn ei flaen ar hyn o bryd.  Roedd y tîm yn awyddus i gydweithio gyda Llywodraeth Cymru yn hyn o beth, a defnyddio’r rhaglen sydd ganddynt er mwyn gwneud yn siŵr bod busnesau a chyflogwyr yn gweithio gyda ni i gael mwy o bobl anabl i’r gweithlu.  Mynegwyd dymuniad i gydweithio gyda’r Bwrdd Cyflawni Busnes yn hyn o beth hefyd er mwyn gwthio’r agenda ymlaen.

 

Croesawyd dyheadau a blaenoriaethau’r adroddiad yn fawr, ac fel partner allweddol i’r Cynllun Twf, mynegwyd dymuniad i’r holl waith, y dyheadau a’r blaenoriaethau hynny fod yn rhan annatod o bopeth mae’r Bwrdd yn wneud, a bod y Bwrdd a’r Bartneriaeth Sgiliau yn cydweithio i wireddu’r blaenoriaethau a’r dyheadau drwy’r holl brosiectau.

 

Mewn ymateb, cadarnhawyd y byddai’r Bartneriaeth Sgiliau yn falch iawn o’r cyfle i ryngweithio’n agosach gyda’r Bwrdd.  Nodwyd ymhellach bod y Bartneriaeth eisoes yn cydweithio’n agos gyda’r Swyddfa Rheoli Portffolio, ac yn cyfrannu at gyflenwi’r Cynllun Twf.  Gan hynny, roedd yn ddymuniad ganddynt adrodd i’r Bwrdd Uchelgais yn eithaf rheolaidd ar ddatblygiad y cynllun gweithredu ar gyfer y cynllun sgiliau ac i ddarparu diweddariadau.

 

Croesawyd yr amrediad eang o randdeiliaid sy’n rhan o’r cynllun, e.e. o’r maes addysg, undebau llafur, cyrff rhanbarthol ayb.

 

Cyfeiriwyd at fwriad Llywodraeth Cymru i sefydlu’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CTER), fydd yn disodli Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) ac yn gyfrifol am strategaeth, cyllido a goruchwylio’r sectorau addysg bellach, addysg uwch, addysg i oedolion a dysgu oedolion yn y gymuned a phrentisiaethau a hyfforddiant.  Nodwyd y byddai’r corff yn weithredol ymhen blwyddyn ac y byddai’n rhyngwyneb pwysig ar gyfer y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol.  Un o dasgau cyntaf y corff fyddai datblygu eu strategaeth arfaethedig ar gyfer yr holl addysg ôl-orfodol a hyfforddiant ar draws Cymru, ac roedd yn bwysig bod y strategaeth honno yn cyd-fynd â’r hyn sy’n dod o’r tu fewn i’r rhanbarth.  Gan hynny, roedd angen trafodaeth gynnar gyda’r corff, a nododd Maria Hinfelaar (Cynrychiolydd Prifysgol Glyndŵr) y byddai’n fodlon iawn cysylltu â Chadeirydd y Comisiwn i wneud y cysylltiadau hynny.

 

Mewn ymateb, nodwyd bod y trafodaethau ar lefel swyddogion wedi cychwyn eisoes, ond y byddai’n fuddiol iawn pe gellid gwneud y cysyllt gyda’r Cadeirydd.

 

Pwysleisiwyd bod y strategaeth wedi’i hysgrifennu mewn partneriaeth â’r sector addysg yn y rhanbarth a chredid ei bod yn deg dweud mai dyma’r bartneriaeth fwyaf gweithredol rhwng cyrff addysg a’r bartneriaeth sgiliau ranbarthol yng Nghymru gyfan.  Pwysleisiwyd pwysigrwydd y ddogfen, yn arbennig i’r sector addysg bellach o safbwynt arwain y trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru, gan fod hynny am fod yn hollbwysig wrth i’r tirwedd ariannu amrywiaethu, a nodwyd bod y ddogfen hon yn ffordd dda o sicrhau na cheir dyblygu ar draws yr amrywiol gynlluniau.

 

Croesawyd y sylw a roddwyd yn y ddogfen i ail-sgilio a nodwyd bod hyn yn bwysig ac yn amserol, yn enwedig yn wyneb y sôn diweddar y bydd ffatri 2 Sisters yn Llangefni yn cau.

 

Diolchwyd i David Roberts (Cadeirydd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru) a Sian Lloyd Roberts (Rheolwr Sgiliau Rhanbarthol) am y cyflwyniad ac am y gwaith o baratoi’r strategaeth.  Nodwyd y bydd y Bwrdd yn parhau â’r berthynas dda ac agos gyda’r Bartneriaeth, ac edrychir ymlaen at weld cynllun gweithredu yn deillio o’r strategaeth.

 

Dogfennau ategol: