Newid
defnydd o gartref gofal (Dosbarth Defnydd C2 - sefydliadau preswyl) i hostel
gwasanaethol ar gyfer defnydd gwyliau (Defnydd Unigryw) ynghyd a llety byw
warden cysylltiedig.
AELOD LLEOL: Cynghorydd
Elwyn Jones
Penderfyniad:
Gwrthod y cais yn
seiliedig ar y rhesymau isod:
Cofnod:
Newid
defnydd o gartref gofal (Dosbarth Defnydd C2 - sefydliadau preswyl) i hostel
gwasanaethol ar gyfer defnydd gwyliau (Defnydd Unigryw) ynghyd a llety byw
warden cysylltiedig.
Amlygodd
Arweinydd Tîm Rheolaeth
Datblygu mai cais llawn ydoedd ar gyfer newid
defnydd cyn-gartref nyrsio’r henoed (Defnydd Dosbarth C2) i ddefnydd hostel
gwyliau gwasanaethol (Defnydd Dosbarth C1 - gwestai) ynghyd a darparu llety byw
warden cyfannol ar safle ar gyrion dwyreiniol anheddle Penisarwaun. Eglurwyd bod yr
adeilad presennol yn cynnwys 30 ystafell wely; storfeydd; ceginau; ystafelloedd
eistedd; ystafell offer gwresogi; ystafelloedd ymolchi ynghyd ag ystafelloedd
gweinyddol/staff.
Adroddwyd
bod nifer o bolisïau lleol a chenedlaethol yn ymwneud a’r egwyddor o ddarparu
llety gwyliau gwasanaethol gyda Pholisi TWR 2 o’r CDLl
yn hwyluso cynigion ar gyfer llety gwyliau gwasanaethol cyn belled fod y bwriad
yn cydymffurfio gyda nifer o feini prawf.
Un o’r
meini prawf hynny yw, bod graddfa’r datblygiad arfaethedig yn briodol gan
ystyried y safle, y lleoliad a/neu anheddiad dan sylw a’i fod yn gallu cydweddu
a ffitio’n gyffyrddus i’w amgylchfyd. Mewn ymateb i’r maen prawf nodwyd, bod y
bwriad, ymysg defnyddiau cysylltiedig eraill, yn golygu darparu 30 ystafell
wely/cysgu o fewn yr adeilad presennol er nad oedd gwybodaeth bellach wedi ei
dderbyn gan yr ymgeisydd yn cyfeirio at faint o ddarpariaeth gwlâu sydd yn cael
eu cynnig o fewn yr ystafelloedd. Er nad oes bwriad i ymestyn yr adeiladwaith
presennol (ar wahân i osod to gwastad o raddfa fechan uwchben y brif fynedfa
bresennol), ystyriwyd y gallai’r bwriad, o’i ganiatáu, olygu byddai darpariaeth
ar gyfer rhwng 60 a 120 o ddeiliaid /preswylwyr yn bosibl o fewn y cyfleuster
ar yr un pryd ac, o bosib, yn barhaol drwy’r flwyddyn.
Ystyriwyd
nad yw’r datblygiad wedi ei leoli mewn ardal sy’n ardal breswyl yn bennaf,
neu’n peri niwed sylweddol i gymeriad preswyl yr ardal, ond oherwydd graddfa’r
bwriad (yn nhermau’r nifer o bobol all aros yno ar yr un adeg) a’r mynd a dod
cyson o’r safle all deillio o’r defnydd, byddai caniatáu'r bwriad yn cael
effaith andwyol sylweddol ar fwynderau trigolion lleol. Amlygwyd bod y pryder
yma yn adlewyrchu’r sylwadau a dderbyniwyd gan wrthwynebwyr i’r cais.
Yr ail
faen prawf yw nad yw’r datblygiad yn arwain at ormodedd o lety o’r fath yn yr
ardal. Mewn ymateb, ystyriwyd na fyddai caniatáu’r bwriad yn golygu gormodedd
o’r fath ddefnyddiau o fewn gymuned er gwaethaf pryderon y gwrthwynebwyr
ynglŷn â’r elfen yma o’r bwriad.
Yng
nghyd-destun mwynderau cyffredinol a phreswyl, nodwyd bod Polisi TWR 2 ynghyd
a’r CCA: Cyfleusterau a Llety i Dwristiaid yn ategu amcanion y polisi gan y dylai unrhyw ddatblygiad ar gyfer llety
gwyliau warchod buddion preswyl ynghyd a bod yn ddefnydd a fyddai’n cydweddu a
defnyddiau eiddo cyffiniol (eiddo preswyl yn yr achos hwn) o ran sŵn;
aflonyddwch traffig a diffyg preifatrwydd ar gyfer unrhyw
eiddo/cyffiniol/gerllaw.
Ategwyd
bod natur llety gwyliau math hostel yn gallu creu ad-drawiad sylweddol ar draul
mwynderau drwy greu aflonyddwch sŵn naill a’i ar ffurf symudiadau
cerbydau/cyffredinol neu ar sail ymgynnull/cymdeithasu’n allanol yn ystod y
diwrnod a/neu ar nosweithiau tywydd braf. Yn yr achos arbennig hwn, ac er bod y
Datganiad Cynllunio yn nodi byddai goruchwyliaeth 24 awr o’r cyfleuster, roedd
yr Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl) yn rhagweld byddai
defnyddio’r adeilad ar gyfer llety gwyliau math hostel o ddwysedd uchel
(posibilrwydd o gael rhwng 60 a 120 o breswylwyr ar y tro) yn anorfod o gael
effaith sylweddol ar fwynderau preswyl cyfagos ac ar gymeriad tawel a hamddenol
yr ardal leol. Ni chyflwynwyd unrhyw wybodaeth na thystiolaeth gan yr ymgeisydd
a fyddai’n argyhoeddi’r ACLl na fyddai’r bwriad yn
cael effaith negyddol sylweddol ar fwynderau trigolion a phreswylwyr lleol ar
sail creu aflonyddwch sŵn.
Yng
nghyd-destun materion trafnidiaeth amlygwyd nad oedd gan yr Uned Drafnidiaeth
bryderon ynglŷn ag addasrwydd y ffordd sirol i ymdopi a thrafnidiaeth a
fyddai’n tarddu o’r llety gwyliau/hostel, ond bod pryder ynglŷn â diffyg
llecynnau parcio oddi fewn y safle a fyddai, o bosib, yn gorfodi cerbydau i
barcio ar ochr y ffordd sirol ar draul diogelwch ffyrdd.
Mynegwyd
bod y wybodaeth a gyflwynwyd gyda’r cais gan yr asiant yn cadarnhau bod 21 i 25
llecyn parcio ffurfiol yn bresennol oddi fewn y safle a bod llecyn o dir
ychwanegol wedi ei leoli’n gyfochrog i dalcen gorllewinol yr adeilad. Ategwyd,
pe byddai egwyddor y cais yn dderbyniol i’r ACLL, byddai’n bosib i’r ymgeisydd
gyflwyno cynllun parcio cynhwysfawr ar gyfer y llety gwyliau/hostel
arfaethedig. Fodd bynnag, nid oedd y ddarpariaeth parcio a gynigiwyd
fel rhan o’r cais yn dderbyniol ar sail gofynion parcio Llywodraeth Cymru.
Wrth
asesu’r cais , gan roi ystyriaeth lawn i’r holl bolisïau perthnasol a’r
sylwadau a dderbyniwyd mewn ymateb i’r cyfnod ymgynghori ac i’r ymatebion a
dderbyniwyd gan ymgynghorwyr statudol, ystyriwyd nad oedd y bwriad, fel y’i
cyflwynwyd yn dderbyniol ar sail diffyg cydymffurfiaeth a pholisïau a chyngor
cynllunio lleol a chenedlaethol.
a)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd i’r cais y
sylwadau canlynol:
·
Ei fod yn siarad i wrthwynebu’r cais, yn gysylltiedig gyda’r
llythyrau gwrthwynebiad ac ar ran rai o’r trigolion hynny o Benisarwaen
oedd yn gwrthwynebu’r cais
·
Ei fod yn gwrthwynebu’r
cais am y rhesymau canlynol:
Rheswm 1
·
Na
oedd y cais yn briodol mewn graddfa nac yn gydnaws
efo’r defnydd blaenorol o’r adeilad.
·
Defnydd blaenorol yr adeilad oedd cartref henoed, yn cartrefu hyd
at 30 o breswylwyr yn unig. Nid oedd yn creu unrhyw effeithiau negyddol ar y
pentref.
·
Byddai’r cais yn galluogi cartrefu dros dro nifer sylweddol yn fwy
o drigolion – er nad yw’r cais yn cadarnhau faint buasai’r uchafswm o drigolion
– yn seiliedig ar y 30 llofft oddi fewn i’r adeilad, ac ar nifer o hosteli
cyffelyb yn yr ardal, gellid tybio fod i
fyny at 2 wely bunk ym mhob llofft, fyddai’n gallu
cartrefu hyd at 120 o welyau.
·
Yn seiliedig ar y manylion hyn, buasai gan y datblygiad y
potensial i fod yr hostel fwyaf o’i math yn yr ardal leol - yn fwy na’r 5 hostel
agosaf wedi eu cyfuno! Pe byddai’r uchafswm o welyau yn hanner y rhif yma,
buasai’r effaith ar gymeriad yr ardal yn sylweddol, yn enwedig gan fod Penisarwaen yn bentref bach iawn, heb unrhyw fwynderau nac
unrhyw wasanaethau cyhoeddus yn y pentref.
Rheswm 2
·
Effeithiau arwyddocaol negyddol ar ddiogelwch y ffyrdd lleol
·
Oddi fewn i’r cais cynllunio ceir nifer o gyfeiriadau tuag at y
disgwyliad fod y mwyafrif o’r trigolion, byddai yn aros yn yr hostel, yn
defnyddio cerbydau preifat eu hunain ar gyfer eu trafnidiaeth.
·
Yn seiliedig ar y disgwyliad hwn, ac mewn cymhariaeth gyda llif
traffig y cartref henoed blaenorol, buasai llif traffig yr hostel chwe gwaith
yn uwch, ac mae hyn yn debygol o fod yn amcangyfrif isel
·
Yn ogystal, yn bwysig pwysleisio fod yr un lôn sydd yn darparu
mynediad i’r safle, sef y brif lôn i mewn i’r pentref, yn gul iawn, yn
droellog, heb balmant ac eisoes gyda thagfeydd traffig.
·
Ni fydd digon o fannau parcio ar gyfer diwallu anghenion y
niferoedd o breswylwyr, gan fod y cais yn nodi bydd oddeutu 21 man parcio ar
gael yn unig.
·
Bod nifer o bwyntiau eraill sydd wedi eu hamlygu o fewn y
llythyrau gwrthwynebiad, yn enwedig y cynnydd arwyddocaol mewn llygredd
sŵn fuasai’n gysylltiedig gyda’r hostel, ynghyd â chrynodiad uchel o
hosteli tebyg yn yr ardal gyfagos yn barod.
·
Yn gofyn i’r Pwyllgor ystyried y gwrthwynebiadau wrth ystyried y
cais.
b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y sylwadau
canlynol:
·
Nad
oedd o blaid nac yn erbyn y datblygiad
·
Bod
teulu lleol wedi prynu'r eiddo
·
Yr
eiddo wedi bod yn wag ers 2018
·
Bod
angen gwneud rhywbeth efo’r ganolfan
·
Bod
cwestiynau angen eu hateb cyn dod at benderfyniad terfynol
·
Pryderon
parcio angen eu hystyried
·
Y
ffordd i’r safle yn gul, dim palmant – hyn yn creu cynnydd mewn traffig
ch)
Cynigiwyd ac eiliwyd gwrthod y cais yn unol ar argymhelliad.
d)
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y
sylwadau canlynol gan Aelodau:
·
Awgrym i gynnal mwy o drafodaethau gyda’r ymgeisydd fel bod y cais
yn cyd-fynd a pholisïau perthnasol
·
Bod y cais yn groes i ofynion 5 polisi
perthnasol
·
Bod y lon i’r safle yn anaddas – yn gul
ac nid yn hawdd ‘gyrru’ yno
·
Bod defnydd o’r gair ‘nepell’ yn yr adroddiad yn awgrymu bod y
safle yn agos i ffin datblygu'r CDLl. Golygai
‘nepell’ ‘yn bell i ffwrdd’ - y Saesneg yn gywir ‘a little outside the LDP development boundary’.
·
Byddai’r datblygiad yn ardrawiad
sylweddol ar fwynderau trigolion lleol
·
Nid oes digon o wybodaeth ynglŷn â bwriad y datblygiad i’r
dyfodol - beth fydd ‘pendraw’ y datblygiad?
·
Bod rhaid cael defnydd i’r safle – wedi
ei adael i bydru
·
Posib creu mwy o lefydd parcio - digon
o le ar y safle
Mewn ymateb i sylw
bod angen cynnal mwy o drafodaethau gyda’r ymgeisydd, nododd y Rheolwr
Cynllunio bod pob ymdrech wedi ei wneud i drafod gyda’r asiant a'r ymgeisydd. O
ganlyniad, yr argraff bennaf ar y cais yw diffyg gwybodaeth i asesu effaith y
bwriad yn llawn a dwysedd y safle.
Mewn ymateb i sylw
ynglŷn â gosod amod i reoli nifer
defnyddwyr, nododd y Pennaeth Cynorthwyol mai anodd fyddai gosod amod i reoli
pobl ac y byddai’n anodd ei orfodi fel amod cynllunio. Ategodd, gwendid mwyaf y
cais oedd diffyg gwybodaeth.
PENDERFYNWYD: GWRTHOD Y CAIS YN SEILIEDIG AR Y
RHESYMAU ISOD:
1. Ystyrir bod y bwriad fel y’i cyflwynwyd yn groes i ofynion
Polisi PCYFF 1, PCYFF 2 a TWR 2 o Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a
Môn, 2017 ynghyd a’r Cyngor a gynhwysir o fewn y ddogfen Canllaw Cynllunio
Atodol: Cyfleusterau a Llety i Dwristiaid ar sail diffyg gwybodaeth sy’n
cadarnhau'r niferoedd o wlâu a fwriedir ei ddarparu fel rhan o’r bwriad ac o
ganlyniad i’r diffyg hyn, ni ellir rhoi ystyriaeth lawn i effaith y bwriad ar
fwynderau trigolion lleol. Er hyn, ac yn seiliedig ar y wybodaeth sydd wedi ei
gyflwyno gyda’r cais, rhagwelir byddai’r bwriad, oherwydd y nifer o
ystafelloedd gwlâu a’r gallu i’r atyniad lletya nifer sylweddol o breswylwyr,
cael ad-drawiad ar fwynderau preswyl trigolion lleol ar sail cynnydd mewn aflonyddwch
sŵn a chyffredinol a fyddai’n tarddu o’r llety gwyliau/hostel arfaethedig.
2. Ystyrir bod y bwriad fel y’i cyflwynwyd yn groes i Bolisi
PCYFF 1 a gofynion Nodyn Cyngor Technegol 6: Cynllunio ar gyfer Cymunedau
Gwledig Cynaliadwy oherwydd diffyg gwybodaeth sydd wedi ei gyflwyno parthed
natur ac ehangder y llety rheolwr/warden o fewn y llety gwyliau/hostel
arfaethedig.
3. Ystyrir bod y bwriad fel y’i cyflwynwyd yn groes i ofynion
Polisi TRA 2 a TRA 4 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, 2017 ynghyd
a’r cyngor a gynhwysir yn y ddogfen Nodyn Cyngor Technegol 18: Trafnidiaeth gan
nad oes darpariaeth ddigonol o barcio o fewn y safle wedi ei gynnig ac fe all hyn,
yn ei dro, gorfodi cerbydau i barcio ar ochr (verge)
y ffordd sirol gyfochrog ar draul diogelwch ffyrdd.
Dogfennau ategol: