Agenda item

I ystyried cais Mr A

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

Penderfyniad:

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

       Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

       Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

       Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

       Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

       Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

       Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol ac adroddiad yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA)

 

Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor ganiatáu y cais.

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir y gollfarn ynghyd a’r pwyntiau cosb ar ei drwydded a’i amgylchiadau personol.

 

PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

·      GofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·      ffurflen gais yr ymgeisydd

·      adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS ac adroddiad Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau

·      sylwadau ar lafar gan yr ymgeisydd

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol

 

Cefndir

 

Yn Ionawr 1988 cafwyd yr ymgeisydd yn euog o Ymosodiad gan Achosi Gwir Niwed Corfforol (ABH) yn groes i Ddeddf Troseddau yn Erbyn y Person 1861 A.47.

 

Yn Chwefror 2022 derbyniodd yr ymgeisydd chwe phwynt cosb arnodedig ar ei drwydded am Dorri Gofynion (Breach of Requirements) rheoli cerbyd, ffôn symudol ac ati.

 

CYMALAU PERTHNASOL Y POLISI

 

Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol. Mae paragraff 2.4 yn nodi pan fydd ymgeisydd wedi'i gael yn euog o drosedd(au) neu fod mater arall/materion eraill i'w (h)ystyried yng nghyswllt hynny, ni chaiff y cyngor adolygu rhinweddau'r gollfarn honno na'r mater arall hwnnw.

 

Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.

 

Mae paragraff 6.0 o’r Polisi yn cyfarch troseddau o drais. Ym mharagraff 6.1 nodir, gan fod gyrwyr trwyddedig yn dod i gysylltiad agos gyda'r cyhoedd yn rheolaidd y byddai is-bwyllgor yn mabwysiadu safbwynt cadarn at y rhai hynny sydd â throseddau yn ymwneud a thrais.

 

Mae paragraff 6.5 o’r Polisi yn nodi y bydd cais am drwydded fel rheol yn cael ei wrthod os oes gan yr ymgeisydd fater i’w ystyried am ymosodiad  sy’n achosi gwir niwed corfforol o dan Ddeddf Trefn Gyhoeddus 1986 sydd yn llai na 3 blynedd cyn dyddiad y cais.

 

Mae paragraff 6.6 o’r Polisi yn nodi y bydd cais, fel arfer yn cael ei wrthod os oes mwy nag un gollfarn am drosedd o natur dreisgar yn erbyn yr ymgeisydd a hynny o fewn y 10 mlynedd ddiwethaf.

 

Mae rhan 12 o’r Polisi yn ymwneud â chollfarnau moduro gyda pharagraff 12.3 yn nodi y bydd cais yn cael ei wrthod os oes collfarn yn erbyn yr ymgeisydd ac nad yw wedi bod yn rhydd rhag collfarn am 6 mis o leiaf.

 

CASGLIADAU

 

Ystyriodd yr Is-bwyllgor esboniad yr ymgeisydd o’r amgylchiadau a arweiniodd at gollfarn 1988 a 2022 ynghyd ag argymhelliad y swyddog i ganiatáu y cais.

 

Daeth yr Is-bwyllgor i gasgliad bod collfarn 1988 yn drosedd o drais i bwrpas y Polisi a bod digon o amser wedi mynd heibio i’r trothwy tair blynedd ers i’r ymgeisydd gael ei ddyfarnu'n euog. Ystyriwyd esboniadau’r ymgeisydd a’r rhesymau dros ei ymddygiad yn 1988 gan dderbyn bod ei amgylchiadau yn wahanol iawn erbyn hyn. Roedd yr Is-bwyllgor hefyd yn falch o weld bod yr ymgeisydd wedi cynnwys gwybodaeth am y golfan ar ei ffurflen gais.

 

Wrth ystyried amgylchiadau’r drosedd foduro, a bod yr ymgeisydd wedi cyfaddef defnyddio ei ffôn (mewn ystâd ddiwydiannol) wrth yr Heddlu mewn ymateb i alwad yr oedd yn ei ystyried yn un o frys, amlygwyd bod defnyddio / gafael mewn ffôn wrth yrru yn fater difrifol a bellach yn anghyfreithlon. Serch hynny, derbyniwyd esboniad yr ymgeisydd o amgylchiadau penodol y digwyddiad gyda’r Is-bwyllgor yn falch o nodi bod yr ymgeisydd yn derbyn cyfrifoldeb am y weithred ac wedi cyfaddef yn onest ac agored o fod wedi defnyddio ei ffôn.

 

O ystyried amgylchiadau’r drosedd, roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon nad oedd unrhyw beth i awgrymu y byddai’r ymgeisydd yn peryglu cwsmeriaid wrth yrru. Wedi pwyso a mesur yr holl ffactorau yn ofalus penderfynodd yr Is-bwyllgor o blaid caniatáu y cais a bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal trwydded gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd