Agenda item

I ystyried cais Mr B

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

Penderfyniad:

Bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd

 

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

       Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

       Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

       Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

       Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

       Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

       Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr B am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol, adroddiad yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA)

 

Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor wrthod y cais.

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir y collfarnau ar ei gofnod DBS a’i amgylchiadau personol. Roedd ei drwydded yrru yn drwydded lân.

 

PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

        

Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

·         GofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·         ffurflen gais yr ymgeisydd

·         adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS ac adroddiad Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau

·         sylwadau ar lafar gan yr ymgeisydd

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol

 

Cefndir

 

Yn Chwefror 2022 cafwyd yr ymgeisydd yn euog ar ddau gyfrif : Ymosodiad gan achosi gwir niwed corfforol (ABH) yn groes i Ddeddf Troseddau yn Erbyn y Person 1861 A.47 ac Affräe yn groes i Ddeddf Trefn Gyhoeddus 1986 A.3 - derbyniodd yr ymgeisydd  orchymyn cosb gymunedol am dri mis

 

Yn Awst 2012 cafwyd yr ymgeisydd yn euog o Ymosodiad gan achosi gwir niwed corfforol (ABH) yn groes i Ddeddf Troseddau yn Erbyn y Person 1861 A.47 - derbyniodd yr ymgeisydd ddedfryd o 18 mis yn y carchar.

 

CYMALAU PERTHNASOL Y POLISI           

 

Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol. Mae paragraff 2.4 yn nodi pan fydd ymgeisydd wedi'i gael yn euog o drosedd(au) neu fod mater arall/materion eraill i'w (h)ystyried yng nghyswllt hynny, ni chaiff y cyngor adolygu rhinweddau'r gollfarn honno na'r mater arall hwnnw.

 

Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.

 

Mae paragraff 6.0 o’r Polisi yn cyfarch troseddau o drais. Ym mharagraff 6.1 nodir, gan fod gyrwyr trwyddedig yn dod i gysylltiad agos gyda'r cyhoedd yn rheolaidd y byddai is-bwyllgor yn mabwysiadu safbwynt cadarn at y rhai hynny sydd â throseddau yn ymwneud a thrais.

 

Mae paragraff 6.5 o’r Polisi yn nodi y bydd cais am drwydded fel rheol yn cael ei wrthod os oes gan yr ymgeisydd fater i’w ystyried am ymosodiad  sy’n achosi gwir niwed corfforol o dan Ddeddf Trefn Gyhoeddus 1986 sydd yn llai na 3 blynedd cyn dyddiad y cais.

 

Mae paragraff 6.6 o’r Polisi yn nodi y bydd cais, fel arfer yn cael ei wrthod os oes mwy nag un gollfarn am drosedd o natur dreisgar yn erbyn yr ymgeisydd a hynny o fewn y 10 mlynedd ddiwethaf.

 

 

CASGLIADAU

 

Ystyriodd yr Is-bwyllgor esboniad yr ymgeisydd o’r amgylchiadau a arweiniodd at gollfarn 2002 a 2012 ynghyd ag argymhelliad y swyddog i wrthod y cais. Daeth yr Is-bwyllgor i gasgliad bod collfarn 2002 yn drosedd o drais i bwrpas y Polisi a bod digon o amser wedi mynd heibio i’r trothwy tair blynedd ers i’r ymgeisydd gael ei ddyfarnu'n euog. Ystyriwyd esboniadau’r ymgeisydd a’r rhesymau dros ei ymddygiad yn 2002. Daeth yr Is-bwyllgor i gasgliad bod collfarn 2012 hefyd yn gollfarn am drosedd dreisgar neu drosedd debyg a bod ychydig dros 10 mlynedd wedi mynd heibio ers y drosedd honno. Ystyriwyd esboniadau’r ymgeisydd a’r rhesymau dros ei ymddygiad yn 2012. Er nad oedd gan yr ymgeisydd unrhyw hanes diweddar o aildroseddu, rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth ofalus a difrifol iawn i’r ffaith bod y ddwy drosedd yn rhai difrifol o drais, a bod yr ymgeisydd wedi cael dedfryd o 18 mis o garchar am gollfarn 2012.

 

Derbyniwyd eglurhad yr ymgeisydd bod ei amgylchiadau bellach yn wahanol iawn a'i fod wedi llwyddo i drawsnewid ei fywyd. Roedd wedi priodi, cael plant a gyda swydd gyfrifol a chyson; yn weithgar iawn yn ei gymuned leol ac yn gwneud gwaith fel hyfforddwr pêl-droed.

 

Wedi pwyso a mesur yr holl ffactorau yn ofalus penderfynodd yr Is-bwyllgor drwy benderfyniad mwyafrif, bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal trwydded gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat, er yn dymuno pwysleisio y gall unrhyw broblem yn y dyfodol arwain at gymryd camau i ddiddymu’r drwydded.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd