Ystyried yr
adroddiad a chraffu’r wybodaeth cyn i’r Cabinet argymell cyllideb 2023/24 i’r
Cyngor llawn
Penderfyniad:
Cofnod:
a)
Cyflwynwyd adroddiad gan yr
Aelod Cabinet Cyllid yn nodi fod y Cyngor wedi derbyn cynnydd grant drafft o
7.0%, sy’n cyfateb i werth £14.6m mewn ariannu allanol (cyfartaledd ledled
Cymru yn 7.9%) ar gyfer 2023/24 sy’n welliant sylweddol ar y setliad dangosol a
gyhoeddwyd yn Rhagfyr 2022. Er derbyn
setliad rhesymol eleni, adroddwyd y byddai nifer o ffactorau yn creu pwysau
gwariant ychwanegol ar wasanaethau’r Cyngor yn 2023/24 gyda’r angen i gynyddu
gwariant o £27.8m i gwrdd â phwysau ar gyllidebau’r gwasanaethau. Yn ogystal â chyfarch graddfa chwyddiant uwch
nag y bu ers sawl blwyddyn, bod cyfle i ymdrin â phwysau gwario ehangach gan
gynnwys mynd i’r afael â chostau parhaus sy’n deillio o’r argyfwng Covid-19, a
dileu neu ohirio cynlluniau arbedion nad yw’n ymarferol i’w gwireddu yn
2023/24.
Amlygwyd
mai rôl y Pwyllgor oedd craffu’r wybodaeth gan sicrhau bod y Cabinet a’r Cyngor
yn glir o’r ffeithiau sydd yn cael eu cyflwyno iddynt fel bod y penderfyniad yn
seiliedig ar wybodaeth gadarn.
Gwahoddwyd
y Pennaeth Cyllid yn ei rôl fel swyddog cyllid statudol i gyflwyno’r wybodaeth i fynegi ei farn a
manylu ar gadernid yr amcangyfrifon oedd yn sail i’r gyllideb ynghyd a’r
risgiau posib a’r camau lliniaru.
Amlygodd,
y ceisir penderfyniad y Cabinet yn ei gyfarfod 14/02/23 i argymell i’r Cyngor
Llawn (2/03/23) sefydlu cyllideb o £317,880,310 ar gyfer 2023/24 i’w ariannu
drwy Grant Llywodraeth o £227,842,930 a £90,037,380 o incwm o’r Dreth Cyngor
(gyda chynnydd o 4.95% ar dreth anheddau unigol) a sefydlu rhaglen gyfalaf o £67,780,150 yn
2023/24.
Eglurwyd
bod Gofynion Gwario Ychwanegol wedi eu hystyried yn y gyllideb ac amlygwyd y
meysydd hynny;
·
Chwyddiant Cyflogau o £14.2m -
y gyllideb yn neilltuo amcan gynnydd yng nghytundeb tâl 2023/24 o 4% ar gyfer yr
holl weithlu, a hynny ar ôl ychwanegiad i adlewyrchu’r sefyllfa fod cytundeb
tâl terfynol 2022/23 wedi bod yn uwch na’r hyn oedd wedi ei gyllido amdano
·
Chwyddiant Arall o £11.1m -
swm sy’n cynnwys darpariaeth ar gyfer ystod eang o newidiadau ar raddfa chwyddiant
meysydd penodol (Cartrefi Gofal Preswyl Annibynnol, Gofal Dibreswyl, Ynni,
Tanwydd, Cynnydd prisiau eraill).
·
Ardollau i gyrff perthnasol yn
cynyddu
·
Demograffi - lleihad net mewn nifer disgyblion a chynnydd
mewn plant yn derbyn gofal
·
Pwysau ar Wasanaethau o £5.75m
- argymell cymeradwyo bidiau gwerth £2.75m am adnoddau parhaol ychwanegol a
gyflwynwyd gan adrannau’r Cyngor i gwrdd â phwysau anorfod ar eu
gwasanaethau. Yn ychwanegol i’r bidiau
parhaol, argymhellwyd cymeradwyo ychwanegiad i’r gyllideb Digartrefedd o £3m
sydd yn cael ei ariannu o’r Premiwm Treth Cyngor, yn unol â phenderfyniad y
Cyngor llawn ar 1 Rhagfyr 2022. Nodwyd bod y bidiau a gyflwynwyd wedi eu
herio’n drylwyr gan y Tîm Arweinyddiaeth cyn eu hargymell i’w cymeradwyo gan y
Cabinet.
Cyfeiriwyd at ystyriaethau eraill lle nodwyd effaith cynnydd mewn
derbyniadau llog mewn dychweliadau wrth fuddsoddi balansau
â llif arian y Cyngor ynghyd a lleihad mewn cyfraniad pensiwn y cyflogwr yn
sgil yr ailbrisiad teirblynyddol. Amlygwyd hefyd byddai
defnyddio dull mwy darbodus i glirio dyled Gofyn Cyllido Cyfalaf mewn llai o flynyddoedd hefyd yn cynnig arbediad o
£2.4m - daw hyn yn sgil adolygu’r polisi Darpariaeth Lleiafswm Refeniw (DLlR).
Yng nghyd-destun y cynlluniau arbedion, nodwyd bod Cyngor Gwynedd wedi
gwireddu dros £33.5m o gynlluniau arbedion ers 2015/16. Amlygwyd bod arbedion
gwerth £950,250 oedd eisoes wedi eu rhaglennu i leihau bwlch Cyllideb 2023/24
wedi llithro o ganlyniad i effaith sylweddol covid-19. Bydd yr arbedion hyn yn
cael eu cyflawni yn ystod 2023/24 gyda’r cyrhaeddiad yn cael ei adolygu yn
flynyddol.
Yn dilyn derbyn gwybodaeth am y setliad gan Lywodraeth Cymru, adnabuwyd
bwlch ariannol o £12.4m dros ddwy flynedd, gyda £6.4 o arbedion eisoes wedi eu
hadnabod ar gyfer 2023/24. Y bwriad yw comisiynu gwaith pellach i sefyldu’r ail wedd o arbedion a thoriadau (oddeutu £1.6m -
£2.2m ) cyn gosod cyllideb 2024/25.
Roedd y Pennaeth Cyllid o’r farn fod y gyllideb y ar gyfer 2023/24 yn un
gadarn, digonol a chyrhaeddawy.
b)
Diolchwyd am yr adroddiad
c)
Yn ystod y drafodaeth ddilynol
nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Cytuno gyda’r farn o beidio
defnyddio balansau
·
Bod angen rhagweld y cynnig
diweddar i gynyddu cyflogau athrawon
·
Bod angen pwyso ar y Llywodraeth
i roi grant i alluogi newid
·
Bod yr adroddiad yn cynnig
manylion digonol a chadarn
·
Bod ariannu bidiau newydd i'w
groesawu
·
Bod y gostyngiad mewn
cyfraniadau pensiwn i’w groesawu ynghyd â llog ychwanegol ar falansau
·
Mai anodd fydd canfod ‘one offs‘ ar gyfer 2024/25
·
Diolch i Arlingclose
eto eleni am gyflwyniad da (ar 3ydd Chwefror)
Mewn
ymateb i gwestiwn pam nad oedd Cyngor Gwynedd fel rhai Cynghorau eraill yn
defnyddio balansau, nodwyd, er bod gan Cyngor Gwynedd
falansau iach, bod y mwyafrif wedi ei glustnodi ar
gyfer cynlluniau i wireddu Cynllun y Cyngor ac i ymdopi gyda gwariant
angenrheidiol e,e cynnydd mewn chwyddiant. Ategwyd,
os daw yn arferiad i ddefnyddio balansau, buan iawn y
bydd sefyllfa o ansefydlogrwydd.
Mewn
ymateb i gwestiwn am yr arian oedd wedi ei glustnodi ar gyfer sefydlu
Cydbwyllgor Corfforedig y Gogledd (CBC), nodwyd bod sefydlu CBC wedi ‘ei roi’
ar yr Awdurdodau Lleol ac felly bydd rhaid ymdopi gyda’r sefyllfa. Fel y bydd
trefniadau yn datblygu, nodwyd efallai bydd rhai swyddogaethau yn gostwng mewn
ymateb i gyfleoedd a sefyllfaoedd posib. Ategwyd mai Cyngor Gwynedd sy’n
darparu gwasanaethau Cyllid a Chefnogol ar gyfer y CBC a bod swyddogion yn
annog a darbwyllo cadw costau i lawr wrth sefydlu trefn.
Mewn ymateb
i gwestiwn ynglŷn â defnyddio arian premiwm rhai dosbarthau o ail gartrefi
ac eiddo gwag hir dymor i gau’r bwlch ariannol ym maes digartrefedd yn hytrach
na defnyddio reserfau o ystyried mai bwriad arian y
premiwm oedd i weithredu Cynllun Tai'r Cyngor a chadw pobl leol yn eu
cymunedau, nodwyd mai UN waith y bydd disgwyl defnyddi’r gronfa sydd eisoes
wedi ei gasglu o arian y premiwm yn cael er mwyn ymdrin â gorwariant yn y maes
digartrefedd, ac na fydd hyn yn cael effaith ar weithredu’r Cynllun Tai. Ategwyd fod trafodaethau yn digwydd gyda’r
Adran Tai ac Eiddo er mwyn gostwng y gorwariant a ragwelir yn 2022/23. Ategwyd,
yn sicr, na fydd arian y premiwm yn cael ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw faes
arall ac na fydd defnydd cyffredinol iddo.
O 2023/24 ymlaen, tan fydd newid yn y polisi Premiwm, bydd swm penodol
wedi ei glustnodi o’r Premiwm er mwyn ymdrin â chostau cynyddol digartrefedd.
PENDERFYNWYD
·
Derbyn yr adroddiad gan
nodi’r cynnwys
·
Derbyn priodoldeb
ariannol y cynigion a’r risgiau perthnasol
·
Cyflwyno sylwadau o’r drafodaeth
ar yr opsiynau i’r Cabinet eu hystyried wrth drafod Cyllideb 2023/24 yn eu
cyfarfod 14/2/23
Dogfennau ategol: