Agenda item

Cyflwyno Adroddiad monitro chwarter 3 – Cynllun Busnes Rhanbarthol 2022-2023 GwE i’r Cyd-Bwyllgor.

Penderfyniad:

·       Cymeradwyo a derbyn yr adroddiad monitro ar gyfer chwarter 3.

·        Trafodaeth bellach ar 'Strategaeth i gefnogi ymwneud rhieni a’r gymuned’  o fewn Amcan 4 y cynllun: ‘Ysgolion Cryf a Chynhwysol’, mewn cyfarfod o’r Cyd-Bwyllgor yn y dyfodol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr Adroddiad gan Reolwr Gyfarwyddwr GwE. Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:

-      Eglurwyd bod y cyfnod perthnasol hwn (Medi – Rhagfyr 2022) wedi bod yn gyfnod prysur iawn gyda llawer o ysgolion yn gweld ychydig o normalrwydd yn dychwelyd yn dilyn cyfnod Cofid-19.

-      Nodwyd bod gweithdrefnau newydd wedi cael eu rhoi mewn grym i sicrhau bod ysgolion yn adolygu perfformiad ac yn hunanasesu atebolrwydd.

-      Cyfeiriwyd at gynhadledd bwysig a gynhaliwyd ar draws y rhanbarth a oedd yn ffocysu ar ail-gyflwyno systemau i bontio’r addysg gynradd ac uwchradd.

-      Cadarnhawyd mai un o brif risgiau yn ddiweddar yw diffyg arweinyddiaeth yn y gyfundrefn. Mae penaethiaid wedi bod yn brysur iawn yn blaenoriaethu diogelwch staff a disgyblion ers rhai blynyddoedd. Nodwyd bod chwarter penaethiaid ysgolion uwchradd Gogledd Cymru wedi ymddeol o fewn y flwyddyn ddiwethaf, gan greu problemau olynol. Nodwyd hefyd bod athrawon llanw yn brin ar hyn o bryd ac mae ysgolion yn cael trafferth rhyddhau athrawon i fynychu hyfforddiant allweddol.

-      Pwysleisiwyd bod perthynas GwE gydag ysgolion yn dda iawn er y problemau staffio hyn.

 

Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Cyd-bwyllgor i rannu sylwadau a holi cwestiynau:

-      Manylwyd ar ‘Strategaeth i gefnogi ymwneud rhieni a’r gymuned’ o fewn Amcan 4 y cynllun: Ysgolion Cryf a Chynhwysolgan ofyn pa waith sy’n cael ei wneud i sicrhau bod datblygiadau o fewn y strategaeth.

o   Mewn ymateb i’r ymholiad cadarnhaodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE bod cydweithio agos yn digwydd rhwng GwE, rhieni a dysgwyr er mwyn sicrhau bod deunyddiau ar gael iddynt. Ymhelaethwyd bod gwaith yn cael ei wneud gyda Llywodraeth Cymru er mwyn ceisio gweld sut byddai’r cydweithio hyn yn digwydd yn gymdeithasol gan nad yw hynny’n glir ar hyn o bryd. Pwysleisir bod gwaith da yn cael ei wneud o fewn ysgolion ar lefel unigol i ddatblygu’r strategaeth hwn, ond bod angen cynllun clir ar gyfer y dyfodol ar sut mae ei weithredu ar lefel cymunedol a rhanbarthol.

-      Cynigwyd bod trafodaeth bellach yn cael ei gynnal ar y strategaeth hon rhwng yr Awdurdodau Lleol er mwyn rhannu arferion da a syniadau. Byddai hyn yn sicrhau bod y cynllun a’r strategaeth yn gryf ac effeithiol iawn.

o   Mewn ymateb i’r cynnig hwn, cadarnhaodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE y byddai modd trafod y mater hwn ymhellach erbyn cyfnod yr haf gan y bydd polisïau cliriach i’w gael i’w hystyried bryd hynny.

-      Cytunwyd bod anghydraddoldeb a phresenoldeb yn faterion allweddol yn dilyn cyfnod Cofid. Credir mai’r rhieni sydd angen mwy o gyswllt gyda’r ysgolion ydi’r rhai ble mae presenoldeb eu plant yn isel, ac yn ffactor mawr gyda diogelwch plant.

-      Ymhelaethwyd mai un ffactor pam bod diffygion cynllunio wedi bod ar y strategaeth hon yw bod cyllideb yn dod gan Lywodraeth Cymru am gyfnodau penodol. Credir bod hyn yn achosi trafferthion recriwtio oherwydd nad oes modd cynllunio yn hirdymor.

o   Mewn ymateb i’r sylwad, nododd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE bod hwn yn fater pwysig i’w gysidro. Os bydd yr awdurdodau lleol yn defnyddio’r arian ar gyfer taclo’r strategaeth yma yn unigol, bydd dulliau gweithio yn newid yn sylweddol ar draws y rhanbarth.

 

-      Nodwyd bod angen mesurau cryf i warchod arweinyddion a soniwyd bod gweithlu ifanc hefyd yn gadael eu swyddi oherwydd pwysau gwaith. Nodwyd bod camsyniadau yn cael eu rhannu am yrfaoedd yn y maes dysgu a bod angen newid meddylfryd athrawon newydd-gymhwysiedig.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD

 

·       Cymeradwyo a derbyn yr adroddiad monitro ar gyfer chwarter 3.

·       Trafodaeth bellach ar 'Strategaeth i gefnogi ymwneud rhieni a’r gymuned’  o fewn Amcan 4 y cynllun: ‘Ysgolion Cryf a Chynhwysol’, mewn cyfarfod o’r Cydbwyllgor yn y dyfodol.

 

Dogfennau ategol: