Agenda item

Cyflwyno gwybodaeth i aelodau’r Cyd-bwyllgor ar gynnwys Datganiad Ysgrifenedig Y Gweinidog y Gymraeg ac Addysg.

Penderfyniad:

Cyflwynwyd yr eitem yma er gwybodaeth ar gyfer yr aelodau. Penderfynwyd gwahodd Gweinidog Y Gymraeg ac Addysg i gyfarfod arbennig o’r Cyd-bwyllgor i gael trafodaeth am addysg ar draws rhanbarth y gogledd. 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr Adroddiad gan Reolwr Gyfarwyddwr GwE. Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:

-      Cadarnhawyd y cyhoeddodd Y Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ddatganiad ysgrifenedig:   ‘Gwella ysgolion a’r dirwedd o ran gwybodaeth’ ar 19 Ionawr 2023 a oedd yn amlinellu’r camau nesaf o ran datblygu ecosystem / tirwedd data a gwybodaeth newydd. Cyflwynwyd y diweddariad hwn er gwybodaeth i’r Aelodau.

-      Eglurwyd bod y datganiad ysgrifenedig yn manylu ar system wybodaeth newydd ar gyfer ysgolion ac yn rhannu argymhellion ar lefelau atebolrwydd ysgolion.

-      Atgoffwyd yr aelodau o’r cyhoeddiad annisgwyl y bydd system ‘Capio 9’ yn dychwelyd fel mesurydd atebolrwydd o haf 2023 ymlaen. Bydd y mesurydd hwn yn creu sgôr yn seiliedig ar ganlyniadau 9 cymhwyster TGAU neu gymhwyster cyfatebol. Gobeithir cael arweiniad ar y bwriad a cheisiwr wrth ail-gyflwyno’r trefniant yma pan mae’r datganiad hefyd yn gobeithio ail edrych a dileu systemau atebolrwydd presennol.

-      Ymhelaethwyd bod y Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bydd dau weithgor yn cael eu sefydlu, gydag ymarferwyr mewn ysgolion ac awdurdodau lleol i gydweithio ar weledigaeth o sut ddylai atebolrwydd ysgolion edrych yn y dyfodol.

-      Cyfeiriwyd bod system ‘samplo’ hefyd yn cael ei weithredu. Bydd hyn yn cael ei ddefnyddio er mwyn i ysgolion a swyddogion rannu syniadau a chyfrannu i wella’r system drwy enghreifftiau o arfer dda.

-      Nodwyd bod rhaid gweithredu’n ofalus wrth i fesurau atebolrwydd gael eu cyflwyno gan fod posibilrwydd bod ysgolion yn mynd i gystadleuaeth gyda’i gilydd yn hytrach na chydweithio, rhannu syniadau a gweithredu ar arferion da.

-      Pwysleisiwyd bod datganiad wedi cael ei ryddhau gan Brif Arolygydd ESTYN, yn cadarnhau bydd arolygiadau yn gweithredu yn yr un modd a’r prosesau presennol ar hyn o bryd.

 

Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Cydbwyllgor i rannu sylwadau a holi cwestiynau:

 

Mynegwyd siomiant a rhwystredigaeth nad y Llywodraeth wedi ymgynghori ag awdurdodau lleol nag ysgolion ar y diweddariadau yma. Nid oedd modd gwneud gwaith i baratoi ar gyfer y newidiadau hyn oherwydd nid oedd neb yn ymwybodol o’r datblygiadau. Nodwyd bod amseriad y cyhoeddiad yn peri gofid gan ei fod wedi cael ei gyflwyno yng nghanol blwyddyn academaidd a hynny yn fuan ar ôl canlyniadau arholiadau cynnar.

 

Pwysleisiwyd bod penaethiaid ac athrawon yn teimlo pwysau yn ddiweddar oherwydd materion ymddygiad a phresenoldeb. Tybir bod ail gyflwyno’r trefniant ‘Capio 9’ yn mynd i ychwanegu at hyn.

 

Cadarnhawyd bod rhai o aelodau’r Cyd-bwyllgor yn cyfarfod â’r Gweinidog ym mis Mawrth a bydd pryderon am y sefyllfa yn cael eu rhannu bryd hynny. Cynigwyd cynnal cyfarfod ychwanegol o’r Cyd-bwyllgor yn dilyn y cyfarfod yma er mwyn cael trafodaeth bellach am addysg yng Ngogledd Cymru gan sicrhau ystyriaethau i wella’r system a deall mesuriadau atebolrwydd, gan wahodd y Gweinidog i’r cyfarfod am sylwadau. Yn dilyn y cyfarfod hwnnw bydd y Cyd-bwyllgor yn gallu rhannu datganiad ar ran ysgolion y rhanbarth os byddai’r aelodau yn credu i hynny fod yn briodol.

 

PENDERFYNWYD

 

Cyflwynwyd yr eitem yma er gwybodaeth ar gyfer yr aelodau. Penderfynwyd gwahodd Gweinidog Y Gymraeg ac Addysg i gyfarfod arbennig o’r Cyd-bwyllgor i gael trafodaeth am addysg ar draws rhanbarth y gogledd. 

 

Dogfennau ategol: