I graffu’r
wybodaeth cyn i’r Cabinet ystyried cymeradwyo’r Cynllun Arbedion yn ei gyfarfod
ar Chwefror y 14eg
Penderfyniad:
Nodyn:
Cofnod:
a)
Cyflwynwyd
adroddiad y Cynghorydd Dyfrig Siencyn Arweinydd y Cyngor, yn gofyn i’r Pwyllgor ystyried priodoldeb y broses o
adnabod yr arbedion, a chyflwyno sylwadau i’r Cabinet eu hystyried cyn dod i
benderfyniad yn eu cyfarfod 14-02-23. Adroddwyd nad rôl y Pwyllgor oedd mynegi
barn ar beth ddylai maint yr arbedion fod neu rinweddau’r cynigion unigol sy’n
cael ei hargymell fel arbedion, ond yn hytrach sicrhau fod y Cabinet yn glir
o’r ffeithiau sydd yn cael eu cyflwyno iddynt, fel bod y penderfyniad sydd yn
cael ei gymryd yn seiliedig ar wybodaeth gadarn.
Wrth gyflwyno cefndir i’r gwaith, nodwyd, er bod
setliad gwell na’r hyn a ragwelwyd wedi ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru, bod y
swm yn annigonol i gyfarch costau a bod bwlch ariannol o £12.4m i gyrraedd
cyllideb hafal.
I ganfod arbedion, cyflwynwyd 320 o gynigion gan
Adrannau’r Cyngor (gwerth oddeutu £23m). Aseswyd pob cynnig gan y Prif
Weithredwr neu gan un o'r Cyfarwyddwyr Corfforaethol ac fe’u
gosodwyd mewn pedwar categori i gynorthwyo’r Aelodau i flaenoriaethu gydag ymwybyddiaeth o beth
fyddai’r lefel risg o weithredu unrhyw gynnig unigol.
Ategwyd bod asesiad cyfreithiol ac
asesiad ariannol lefel uchel wedi ei gwblhau ar bob cynllun unigol i sicrhau
bod modd eu cyflawni. Wrth gyflwyno
eu cynigion, roedd yr Adrannau wedi cynnwys asesiad o effaith pob cynnig ar drigolion Gwynedd ynghyd ag ystyriaeth gychwynnol i ystyriaethau
cydraddoldeb.
Dros gyfnod o dri diwrnod bu i bob Pennaeth Adran
gyflwyno eu cynigion i weithdai o Aelodau Cabinet, Cadeiryddion ac Is
Gadeiryddion Craffu ynghyd ag Arweinyddion
Grwpiau Gwleidyddol y Cyngor. Drwy gydol y broses, y prif nod oedd
ceisio darganfod cynigion fyddai’n cael y lleiaf o effaith ar drigolion Gwynedd
pe byddent yn cael eu gweithredu. Canlyniad y broses oes adnabod oddeutu £6.4m
o arbedion effeithlonrwydd y gellid eu gweithredu.
O ystyried bod y Cyngor yn wynebu bwlch ariannol o
£12.4m dros y ddwy flynedd nesaf, adroddwyd na fyddai’r wedd gyntaf o arbedion
(£6.4m) yn ddigonol i’w gyfarch, ac
mai’r bwriad oedd ail ymweld â gweddill y cynigion a gyflwynwyd gan yr adrannau
dros y misoedd nesaf. Ar sail rhagdybiaethau ariannol presennol, bydd angen
canfod cyfanswm o rhwng £8m ac £8.6m tuag at y bwlch ariannol o £12.4m - bydd
angen darganfod rhwng £1.6m a £2.2m o arbedion ychwanegol cyn gosod cyllideb
2024/25. Rhagwelir y byddai hyn yn gwthio’r Cyngor i diriogaeth toriadau yn
hytrach nac arbedion effeithlonrwydd sy’n cael eu hargymell yn yr adroddiad, a
nodwyd yr angen am fwy o gymorth gan y Pwyllgorau Craffu unigol i wynebu’r her
yma.
Diolchwyd am yr adroddiad
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â sut bydd yr
Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant yn dygymod o ystyried bod ganddynt orwariant
a llithriad mewn cynlluniau arbedion presennol, nodwyd bod rhai o’r cynlluniau bellach yn hanesyddol a bod angen
cynlluniau a syniadau newydd. Ategwyd bod amgylchiadau presennol yn wahanol
iawn i sefyllfa 2015 ac felly angen ystyried y sefyllfa yn realistig. Nodwyd
bod swm ar gyfer methiant i gyflawni wedi ei glustnodi.
Mewn ymateb i gwestiwn bod cynlluniau sylweddol o
fewn yr Adran Oedolion Iechyd a Llesiant a’r Adran Plant wedi bod mewn
bodolaeth ers tro ac os mai dyhead yw’r cynigion gerbron (sydd angen eu cwblhau
mewn dwy flynedd!), nodwyd bod y cynigion yn fwy na dyhead, ond nad oedd
cynlluniau pendant ar hyn o bryd gan and oedd achosion
busnes wedi eu llunio ar gyfer pob cynllun. O ganlyniad, bu rhaid cynnwys ffigwr risg. (Ategwyd, bod y 'Cynllun
Lleoliadau Plant’ yn symud yn ei flaen gydag achos busnes wedi ei gwblhau a
grant wedi ei adnabod).
Mewn ymateb i sylw ynglŷn â phontio’r diffyg
i gwblhau cynnig / cynllun, a’r honiad y gall hyn leihau'r ymdrech o gwblhau o
fewn y gyllideb, derbyniwyd bod rhai cynlluniau yn fwy cymhleth nag eraill a
bod angen amlygu hyn i’r Cabinet
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â gofyn
i'r holl Adrannau gynnig arbedion o 20%
ac nad oedd hyn wedi ei wireddu, nodwyd nad oedd Ysgolion a rhai Cynlluniau
Corfforaethol wedi gorfod cynnig 20% oherwydd eu bod o dan reolaeth uniongyrchol.
Mewn ymateb i sylw bod angen sicrhau na fyddai’r
cynlluniau yn cael effaith niweidiol ar waith i’r dyfodol, nodwyd, yn sicr, nad
oedd y cynigion wedi eu hystyried fel mesurau dros dro
Mewn ymateb i sylw ynglŷn â rhoi ystyriaeth i
allyriadau carbon a’r angen i gyrraedd sero net erbyn 2050, nodwyd bod rhai o’r
arbedion refeniw yn gynlluniau hinsawdd e.e. £3m o baneli solar ar 80 o
safleoedd y Cyngor.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Bod y broses wedi bod yn
drylwyr
·
Bod y gwaith
wedi ei gwblhau yn drefnus - pob Adran wedi cael cyfle i gyfrannu a’r arweiniad
wedi bod yn broffesiynol iawn
·
Da gweld bod
dwy flynedd yn cael eu hystyried a chroesawu arbedion ac nid toriadau
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r broses o
godi incwm, nodwyd bod nifer o ffactorau wedi eu hystyried ac nad oedd modd
gosod yr un canran i bob Adran gan fod rhai gwasanaethau yn cystadlu gyda’r
sector breifat. Ategwyd mai’r bwriad, mewn rhai adrannau, megis YGC, yw ymestyn
unedau o waith i greu incwm. Ategwyd bod adolygiad incwm blynyddol yn cael ei
weithredu fel rhan o osod y gyllideb.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn a’r gronfa
£1.6m ar gyfer risg ac os mai arferiad cyfrifo arferol yw cyrraedd y swm yma
ynteu resymeg arall, nodwyd mai cyfuniad o’r hyn sydd yn cael ei dderbyn ym
maes cyfrifo, rheoli prosiect ac arferiad oedd wedi ei ystyried. Ategwyd bod y
swm yn uwch na’r hyn a ddefnyddiwyd yn y gorffennol, ond bod hyn yn gyfuniad o
ymarfer da a phrofiad.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag asesiadau
cydraddoldeb effaith a’r ystyriaeth y byddai arbedion a thoriadau yn cael
effaith anwastad ar draws y Sir, nodwyd nad oedd unrhyw gynllun yn cynnig newid
penodol i un rhan o’r Sir. Ategwyd nad oedd bwriad cynnig gwasanaethau gwahanol
i rannu o’r Sir, ond rhagrybuddiwyd posibilrwydd o hyn yn yr ail wedd. Mewn sylw atodol,
awgrymwyd bod angen cynnwys hyn ar y
ffurflen asesiad effaith.
Cymerodd yr Arweinydd y cyfle i ddiolch am y
sylwadau gwerthfawr a gyflwynwyd. Ategodd bod y broses wedi bod yn fuddiol ac y
dylid efallai ystyried fel proses flynyddol.
Nododd y byddai unrhyw doriad yn debygol o gael effaith ar drigolion y
Sir ond na fyddai’r wedd gyntaf yn
cynnig toriadau i wasanaethau nac ar ddarpariaethau. Y prif nod yw ceisio
cyllideb hafal gyda’r effaith lleiaf posib ar drigolion Gwynedd.
PENDERFYNWYD
·
Bod y broses o adnabod
yr arbedion wedi bod yn heriol
·
Bod camau rhesymol, o
dan amgylchiadau heriol, wedi eu cymryd i lunio’r Cynllun Arbedion
·
Bod yr arbedion a gynigiwyd yn rhesymol a chyraeddadwy
·
Bod y risgiau a’r
goblygiadau’r penderfyniad yn glir
·
Bod yr adroddiad yn
ddigonol i alluogi’r Cabinet i wneud penderfyniad ar y Cynllun Arbedion yn ei
gyfanrwydd
·
Cyflwyno sylwadau o’r
drafodaeth ar yr adroddiad i’r Cabinet eu hystyried wrth drafod Arbedion 2023/24
yn eu cyfarfod 14/2/23
Nodyn:
·
Bod angen amlygu’r risg
o beidio cyflawni cynlluniau yn well
Bod angen amlygu na fydd effaith yr arbedion yn cael effaith anwastad ar draws y Sir
Dogfennau ategol: