I ddiweddaru’r Pwyllgor ar ganfyddiadau’r Arolygaeth Gofal a rhaglen
waith yr Adran i ymateb iddynt. Bydd Huw
ap Tegwyn a Myfanwy Moran o Arolygaeth Gofal Cymru yn
mynychu.
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad a
chanfyddiadau’r Arolygaeth Gofal gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd
yn ystod y cyfarfod.
Derbyn rhaglen waith yr
Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant i’r ymateb
COFNODION:
Amlygodd yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant
bod Arolygaeth Gofal Cymru wedi cynnal arolwg ar berfformiad Gwasanaethau
Oedolion y Cyngor yn ystod Medi 2022. Ategodd bod yr Adran yn ymwybodol o’r
materion a gafodd eu hadnabod.
Croesawyd Myfanwy Moran a
Huw ap Tegwyn (Arolygaeth Gofal Cymru) i’r cyfarfod. Darparwyd cyflwyniad i’r
Aelodau oedd yn adrodd ar ganfyddiadau Arolygiad Gwerthuso Perfformiad Gwasanaethau Oedolion Cyngor Gwynedd,
Medi
2022. Cyfeiriwyd at bedwar maes roedd yr arolygaeth
yn eu hymchwilio
ac at gryfderau’r Cyngor wrth
ymateb i’r gofynion hynny. Amlygwyd bod disgwyl
i Gyngor Gwynedd ystyried y meysydd a nodwyd i’w gwella gan gymryd camau
gweithredu priodol i fynd i’r afael â’r meysydd hynny. Bydd AGC yn monitro
cynnydd drwy weithgarwch adolygu perfformiad parhaus gyda’r Awdurdod Lleol.
Diolchwyd am y
cyflwyniad
Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau:-
·
Llongyfarch yr Adran am eu
gwaith
·
Nad oedd dim byd trawiadol wedi
ei ganfod a bod hyn yn galonogol
Mewn ymateb i sylwadau a chwestiynau gan
aelodau, nodwyd:-
·
Wrth ymgynghori gyda defnyddwyr a gofalwyr fe adolygwyd sampl
o ffeiliau gan gynnal trafodaethau a grwpiau ffocws oedd yn cynnwys
gweithwyr ym maes gofal, defnyddwyr
y Cyngor a defnyddwyr cwmnïau
preifat. Ategwyd bod llawer wedi cael
ei wneud i geisio cynnwys
llais defnyddwyr.
·
Nad oedd cyfeiriad at Wasanaethau Cefnogol na Gweithwyr Cefnogol a hynny oherwydd natur a ffiniau’r arolwg. Nodwyd bod yr elfen ‘maes’ a ‘lleoliad penodol’ ddim yn
berthnasol i’r arolwg yma gan
mai edrych ar y gwasanaeth yn gyflawn oedd
y gwaith. Yng nghyd-destun elfennau Gwasanaethau Cefnogol byddai hyn wedi ei
gasglu drwy adolygu’r ffeiliau. Ategwyd bod yr Arolygwyr wedi trafod gyda
grwpiau ffocws, Gwasanaethau Cefnogol yn y trydydd sector a’r Cyngor. Mewn ymateb, amlygwyd
os yw Gwasanaethau
Cefnogol y Cyngor yn comisiynu
Gwasanaeth Cefnogol yna dylai
gael ei ymgorffori
fel rhan o’r adroddiad
·
Gyda diffyg mewn capasiti staff a chynnydd yn y galw,
nodwyd bod yr arolwg wedi adnabod y diffyg ac wedi tynnu sylw at y mater fel un sydd angen
ei wella. Ategwyd bod cyllid ychwanegol wedi ei adnabod ar
gyfer 2022/23 i gefnogi’r gwaith ond mai anodd
yw denu gweithwyr
cymwys i weithio contractau tymor byr Er hynny,
derbyniwyd bod angen bod yn fwy creadigol
wrth gyfarch hyn i’r dyfodol.
·
Wrth dderbyn bod llawer o waith recriwtio wedi ei wneud
drwy gyhoeddi fideos a hysbysebion, a bod y broblem recriwtio yn un genedlaethol, gofynnwyd os oedd
yr Arolygaeth wedi gweld llwyddiant recriwtio mewn ardaloedd eraill ynteu arian oedd
yn gyrru’r broblem? Rhoddwyd ymateb drwy nodi bod rhai ardaloedd gyda chynlluniau gwahanol. Awgrymwyd ystyried moderneiddio gwasanethau ac ystyried esiamplau o arfer da gan Awdurdodau eraill - mentrau cymdeithasol yn engraifft dda..
·
Er nad oedd
sicrwydd bod y sefyllfa recriwtio wedi gwella nodwyd bod adolygiadau yn cael eu gwneud
yn rheolaidd.
·
I wella a datblygu systemau i sicrhau ansawdd
a gwybodaeth am berfformiad
ymhellach nodwyd bod bidiau wedi eu
cyflwyno sawl gwaith am adnodd ychwanegol i gryfhau’r
tîm ond heb
fod yn llwyddiannus.
Er bod y Gwasanaeth wedi gwneud
yn dda gyda
rhai bidiau yn y gorffennol, efallai nad yn
ddigon llwyddiannus mewn ymateb i
ddisgwyliadau’r Llywodraeth,
defnyddwyr a thwf yn y galw. Y bwriad
yw yntau gwneud cais am grantiau neu ail ddefnyddio adnoddau presennol. Os bydd galw
statudol i sicrhau ansawdd bydd rhaid ymateb.
·
Bod y Gwasanaeth yn agored i ystyried
strwythuro shifftiau fel bod modd i
ofalwyr gael sefydlogrwydd mewn gwaith arall
i gryfhau a gwella’r gweithlu. Cyfeiriwyd at enghreifftiau lle cafodd myfyrwyr
o Goleg Merion Dwyfor brofiad gwaith yn y maes a mynd
ymlaen i dderbyn cyfleodd fel gweithwyr achlysurol.
Ategwyd, petai rhywun eisiau gweithio
yn y maes gofal y gellid trafod yr oriau gwaith posib a bod yr adran yn agored
i unrhyw syniadau er mwyn denu mwy o staff.
·
Gyda’r Bwrdd Iechyd dan gryn bwysau ac yn rhoi
blaenoriaeth i wella pobl, gellid
dadleu nad yw’r elfen partneriaethol
yn derbyn yr un sylw. Er hynny gyda chydweithio gyda Phartneriaethau yn rhan o’r
Cynllun Gwella nodwyd bod cydweithio da ar lefel llinell
flaen, ond cydnabuwyd bod lle i wella ar
yr elfennau strategol
PENDERFYNWYD:
a) Derbyn yr adroddiad a chanfyddiadau’r
Arolygaeth Gofal gan nodi’r sylwadau a
gyflwynwyd yn ystod y cyfarfod.
b) Derbyn rhaglen waith yr Adran
Oedolion, Iechyd a Llesiant i’r ymateb
Dogfennau ategol: