Cyflwyno’r Asesiad Anghenion drafft i’w
graffu ac i argeisio cefnogaeth y Pwyllgor i’r Asesiad cyn ei gyflwyno i’r
Cabinet a’r Cyngor i’w gymeradwyo.
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y
cyfarfod.
Nodyn:
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad drafft gan yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant. Atgoffwyd yr
Aelodau bod Asesiad Anghenion
Poblogaeth Gogledd Cymru wedi ei gymeradwyo gan y Cyngor Llawn yn ei gyfarfod
ar 3 Mawrth 2022. Nodwyd bod yr asesiad hwnnw wedi ei lunio yn unol â gofynion
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mynegwyd bod yr
adroddiad a’r asesiad yn galluogi’r Gwasanaeth i weld y persbectif lleol ar
anghenion gofal a chymorth poblogaeth oedolion Gwynedd. Ategwyd, yn ogystal â’r
agweddau statudol a gafodd eu cynnwys yn yr adroddiad ar Ogledd Cymru, bod yr
asesiad hefyd yn cynnwys gwybodaeth fwy manwl am anghenion pobl Gwynedd yn
benodol fyddai’n cynorthwyo’r Adran i gynllunio gwasanaethau yn lleol, gwneud
penderfyniadau ar flaenoriaethau, a datblygu a thrawsnewid gwasanaethau i’r
dyfodol
Gwaned cais i’r
Pwyllgor gyflwyno sylwadau ar yr asesiad cyn ei gyflwyno i’r Cabinet a’r Cyngor
i’w gymeradwyo.
Diolchwyd am yr
adroddiad
Mewn ymateb i’r sylwadau a chwestiynau gan aelodau, nodwyd:-
·
Er derbyn yr angen i recriwtio
a chynyddu cyflogau gofalwyr, nodwyd mai un rhan o’r
ateb yw cyflogau.. Mae’n rhaid hefyd
ceisio sicrhau patrwm gwaith teg a modd o ddatblygu gyrfa yn y maes.
Cydnabuwyd bod bwlch mawr angen ei
gyfarch gyda rhai o elfennau’r broblem recriwtio tu hwnt i
allu’r Awdurdodau Lleol a bod angen arweiniad a phenderfyniadau ar lefel cenedlaethol.
·
Mewn ymateb i sylw
am gynlluniau i Gartrefi Nyrsio yn Ne Meirionnydd, nodwyd bod bwlch gwelyau nyrsio
yn Ne Meirionnydd a Phenllyn
ond bod cyfleoedd yn codi mewn rhai ardaloedd
i wella’r sefyllfa. Amlygwyd bod De
Meirionnydd yn edrych ar barhau gyda’r
gwasanaeth o addasu gwelyau preswyl ar gyfer gofal
dwys gan ystyried y posibilrwydd o ddarparu gofal nyrsio mewn rhai
unedau i’r dyfodol - Bryn Blodau yn cael ei
ystyried fel un lleoliad. Er nad oedd amserlen bendant
ar gyfer y gwaith, nodwyd bod angen sicrhau bod y gallu i ddarparu
gwasanaeth wedi ei sefydlu mewn
egwyddor ond bod angen cryfhau’r berthynas gyda’r Bwrdd Iechyd a chwblhau gwaith cyfreithiol sydd ynghlwm. Y bwriad wedi ei
adnabod fel cyfle sydd yn
hyfyw, yn faes blaenoriaeth ac yn gynwysedig yng
Nghynllun y Cyngor – a bod disgwyliadau
felly i gyflawni.
·
Wrth ymgynghori gyda gofalwyr defnyddiwyd y wybodaeth gyfredol o’r gwaith asesu
y mae gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr y 3ydd
sector yn ei gasglu ynghyd a gwybodaeth gan y Swyddog Materion Gofalwyr. Er derbyn bod y diffiniad ‘gofalwr’ yn un eang ac nad
oedd modd ymgynghori gyda phawb, wedi derbyn
y sylwadau, cyflwynwyd casgliadau’r asesiad gyda’r defnyddwyr am sylwadau pellach.
·
Yng nghyd-destun awtistiaeth, amlygwyd siom nad
oedd Cydlynydd / Swyddog Prosiect wedi ei benodi
ar gyfer datblygu Gwasanaethau Awtistiaeth er bod bwriad hysbysebu’r swydd yn yr wythnosau nesaf.
·
Croesawyd y bwriad i sicrhau
y dylai bob aelod staff sydd yn gweithio’n uniongyrchol
gyda phlant, pobl ifanc neu oedolion ymgymryd â hyfforddiant ymwybyddiaeth ASA,
er mai ar lefel gyffredinol oedd hyn. Pwysleisiwyd
bod rhaid sicrhau hyfforddiant dwys i’r rhai hynny
sydd yn ymdrin
ag awtistiaeth yn uniongyrchol. Mewn ymateb nodwyd bod hyfforddiant mandadol yn cael ei
gyflwyno i holl staff y Cyngor sydd yn cael ei
gynnwys fel un rhan o dri lefel
o hyfforddiant ASA. Bydd y rhai hynny sydd
yn ymdrin ag awtistiaeth yn uniongyrchol yn derbyn hyfforddiant ar ddwy lefel
uwch.
·
Mewn ymateb i’r Cynulliad
yn gwrthod cymeradwyo Deddf Awtistiaeth, nodwyd bod angen sicrhau bod Uned Awtistiaeth Cyngor Gwynedd yn cael ei
ymgorffori o fewn strwythurau cywir y Cyngor. Amlygwyd bod Cynllun Awtistiaeth 2021 - 23 wedi ei raglennu ar
gyfer cyfarfod mis Ebrill ac y byddai modd trafod y mater yn y cyfarfod hwnnw.
·
Bod rhestr aros am therapydd galwedigaethol yn Arfon yn
uchel oherwydd bod nifer yn disgwyl am
asesiadau arbenigol. Nodwyd bod yr achosion yn cael eu blaenoriaethu ar sail pa
mor frys yw’r angen, ond derbyniwyd, er nad oedd datrysiad tymor hir i’r
pryder, bod angen lleihau y rhestr aros.
·
Mewn ymateb i gyflwr
Cartref Fron Deg, sydd yn
adeilad o’r 70au a chyfleodd posib i adeiladu unedau
byw’n annibynnol ar dir cyfagos,
nodwyd bod cynlluniau ar y gweill i
asesu addasrwydd presennol yr adeilad ynghyd a chynlluniau Tai fyddai’n rhoi cyfle
i edrych ar ddatblygiad mwy. Derbyniwyd nad oedd y Cartref
yn ddelfrydol ar gyfer yr angen
presennol nac i’r hyn y mae’r
defnyddwyr yn ei haeddu. Er nad
oes cynlluniau pendant mewn lle, nodwyd
bod trafodaethau ynglŷn
â moderneiddio a chynyddu’r
defnydd yn cael eu cynnal.
Mae’n gyfle cyffrous sydd angen
mewnbwn Aelodau, y cyhoedd,
defnyddwyr a theuluoedd.
·
Rhagdybiaethwyd cynnydd sylweddol yng Ngwynedd mewn
pobl dros 65oed rhwng 2020 a 2040 - gyda chanlyniadau’r cyfrifiad yn adrodd yn
wahanol i’r rhagdybiaeth, bydd rhaid adolygu’r ffigyrau yn aml.
Bydd yr Adran yn cydweithio gyda’r
Uned Ymchwil a Dadansoddeg i ymchwilio
i hyn.
·
O ran defnyddio’r asesiad i’r dyfodol,
nodwyd bod yr asesiad yn gosod darlun
pum mlynedd fydd yn cael
ei ddefnyddio fel arf i
gynllunio a newid gwasanaethau. Wedi ei gyhoeddi bydd
bwriad ei addasu a’i adolygu
yn rheolaidd
Yn ystod y drafodaeth,
cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau:-
·
Bod
cynnwys yr adroddiad yn arbennig
·
Bod
cyflwyno hyfforddiant yn un o gryfderau’r Cyngor
·
Bod
angen addasu tabl nifer o gartrefi
preswyl a nyrsio fesul ardal yng
Ngwynedd i amlygu un safle yn Dolgellau ac un yn ardal Abermaw yn hytrach na dau
yn Nolgellau.
·
Tabl ‘Nifer o dai gwarchod fesul
Ardaloedd Llesiant Gwynedd’
- angen cynnwys gwybodaeth am Ardal Llesiant Llŷn
·
Croesawu gwahoddiad gan yr Aelod Cabinet i‘r Cynghorwyr
Lleol fynychu ymweliadau safle i drafod cynlluniau
ar gyfer Fron Deg, Penrhos
a Dolfeurig
·
Diolchwyd i’r tîm am eu
gwaith
PENDERFYNWYD
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y
cyfarfod.
Dogfennau ategol: