Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Dyfrig Siencyn

Penderfyniad:

Cymeradwywyd mabwysiadu’r Cynllun am y pum mlynedd nesaf (Atodiad 1) sydd yn adeiladu ar ddatblygiad y diwylliant gwaith o fewn y Cyngor.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn.     

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd mabwysiadu’r Cynllun am y pum mlynedd nesaf (Atodiad 1) sydd yn adeiladu ar ddatblygiad y diwylliant gwaith o fewn y Cyngor.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan egluro mai “Ffordd Gwynedd” yw cyfeiriad at y ffordd o weithio sydd wedi ei fabwysiadu oddi fewn i’r Cyngor er mwyn rhoi pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth. Nodwyd ei fod yn weithredol bellach ers 2015 pan mabwysiadwyd y Cynllun yn wreiddiol a bod y Prif Weithredwr blaenorol wedi bod yn bencampwr Ffordd Gwynedd. Ychwanegwyd bod y Prif Weithredwr presennol hefyd yn dymuno datblygu Ffordd Gwynedd ymhellach.

 

Nodwyd ei bod yn daith i geisio gwireddu’r diwylliant hwn a cydnabuwyd bod y cyfnod Cofid wedi arafu’r cynnydd a wnaed. Diolchwyd i’r Prif Weithredwr a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol, Geraint Owen, am eu harweiniad a’u brwdfrydedd.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol bod yr adolygiad diweddaraf o Gynllun Ffordd Gwynedd wedi ei gynnal yn 2019 ble cymeradwywyd y Cynllun presennol. Credwyd ei bod yn amserol i ddiweddaru, addasu a gwella’r Cynllun.

 

Adroddwyd bod Adrannau’r Cyngor wedi cynnal hunanasesiad o’u cynnydd fel sail i’r adolygiad diweddaraf a bod yr hunanasesiadau yma wedi cael eu herio gan weithgor o aelodau’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Nodwyd bod y casgliadau a’r argymhellion wedi eu cyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi ym mis Hydref 2022.

 

I gloi, cyflwynwyd Cynllun arfaethedig ar gyfer y pum mlynedd nesaf sydd yn crynhoi'r hyn sydd wedi ei gyflawni hyd yma ac yn adnabod y prif faterion ar gyfer y cyfnod 2023-28. Mynegwyd bod 9 is-ffrwd gwaith wedi eu cyflwyno yn y Cynllun sydd i’w gweld yn atodiad 1 o’r Adroddiad.

 

Cyfleodd y Prif Weithredwr ei ddiolchiadau i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol am arwain ar y gwaith yma yn ogystal â’r gweithgor. Ychwanegwyd bod y Cynllun yn adlewyrchu ar wersi a rhwystrau’r gorffennol gan barhau efo’r egwyddor sylfaenol o geisio dod o hyd i ffyrdd gwell o ddarparu'r hyn mae pobl Gwynedd ei angen. 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾   Gofynnwyd sut mae’r Cynllun hwn yn cyd-fynd â chydraddoldeb ac yn sicrhau tegwch i bobl Gwynedd sydd yn ganolog i ddiwylliant y Cyngor.

¾   Mewn ymateb nodwyd bod popeth sydd wedi ei gynnwys yng Nghynllun Ffordd Gwynedd wedi ei ystyried yng nghyd-destun cydraddoldeb. Nodwyd mai un o flaenoriaethau gwella penodol y Cyngor yw Merched Mewn Arweinyddiaeth sydd yn rhan bwysig o’r Cynllun hwn. Nodwyd bod cydraddoldeb ac Iaith yn prif ffrydio trwy holl weithgaredd y Cynllun ac yn rhan o ddiwylliant y Cyngor sydd wedi datblygu dros nifer o flynyddoedd. Mynegwyd balchder o allu cefnogi a hyrwyddo hyn.

¾   Mynegodd un o’r Aelodau Cabinet ei fod wedi bod yn rhan o weithgor nifer o flynyddoedd yn ôl oedd yn edrych ar Ffordd Gwynedd a'i fod yn credu’n gryf yn y ffordd yma o weithio. Ategwyd bod angen edrych ar bopeth drwy lygaid pobl Gwynedd.

¾   Croesawyd edrych ar brosesau byr a gwneud gwelliannau iddynt.

¾   Holwyd am weithio’n drawsadrannol neu gyda phartneriaid allanol gan wneud sylw y gall hyn fod yn drwsgl o ystyried systemau rhai o bartneriaid allweddol y Cyngor. Gofynnwyd sut y byddai’r drafodaeth yn cael ei gynnal efo partneriaid allanol pe baent yn gofyn i’r Cyngor ddarparu rhywbeth sy’n groes i ddiwylliant Ffordd Gwynedd.

¾   Mewn ymateb nodwyd bod cydweithio yn hanfodol yn enwedig yn y maes Gofal. Byddai angen sicrhau bod systemau yn gweithio ddigon da ac yn rhoi ffocws ar y cwsmer. Ychwanegwyd bod rhai o bartneriaid allanol y Cyngor wedi buddsoddi yn y system “Systems Thinking” a byddai’r Cyngor yn parhau i geisio dylanwadu ar ei bartneriaid.

¾   Credwyd bod yr ymrwymiad i edrych ar wasanaethau’r Cyngor drwy lygaid y defnyddwyr yn haeddu canmoliaeth. Cydnabuwyd bod y newid hwn ddim am ddigwydd dros nos ond mynegwyd balchder bod y Cyngor yn cymryd y cyfle i adolygu a dysgu er mwyn sicrhau gwelliant parhaus.

¾   Nodwyd ei bod yn dasg i geisio gwyrdroi trefniadau biwrocrataidd a dod yn ôl at egwyddorion Ffordd Gwynedd.

 

Awdur:Geraint Owen, Cyfarwyddwr Corfforaethol

Dogfennau ategol: