Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Beca Brown

Penderfyniad:

Caniatawyd i waith pellach gyda rhanddeiliaid sy’n ffurfio Consortiwm Addysg ôl-16 Gwynedd ac Ynys Môn gael ei wneud er mwyn datblygu modelau posib ar gyfer addysg ôl-16 yn Arfon sy’n deillio o’r ymgysylltu anffurfiol a gynhaliwyd ar addysg ôl-16 yn Arfon yn nhymor yr Hydref 2020.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Beca Brown

 

PENDERFYNIAD

 

Caniatawyd i waith pellach gyda rhanddeiliaid sy’n ffurfio Consortiwm Addysg ôl-16 Gwynedd ac Ynys Môn gael ei wneud er mwyn datblygu modelau posib ar gyfer addysg ôl-16 yn Arfon sy’n deillio o’r ymgysylltu anffurfiol a gynhaliwyd ar addysg ôl-16 yn Arfon yn nhymor yr Hydref 2020.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad oedd yn gofyn am ganiatâd y Cabinet i wneud gwaith pellach gyda rhanddeiliaid sy’n ffurfio Consortiwm Addysg ôl-16 Gwynedd ac Ynys Môn er mwyn datblygu modelau posib ar gyfer addysg ôl-16 yn Arfon.

 

Gofynnwyd i ail afael yn y trafodaethau a gynhaliwyd yn nhymor yr Hydref, 2020 a’u cwmpasu i themâu. Nodwyd y byddai profiadau’r pandemig yn debygol o lywio rhai ymgynghoriadau a bellach bod ystyriaethau newydd i’w cysidro o ystyried bod cyfnod wedi bod ers y trafodaethau gwreiddiol. Cynigiwyd i ail afael yn y gwaith er mwyn dod i gasgliad i fedru cynnig yr addysg a’r profiadau gorau i bobl ifanc y Sir.

 

Ychwanegodd bod y mater hwn wedi bod dan ystyriaeth ers tro. Adroddwyd bod ymgynghori da wedi digwydd efo’r Ysgolion cyn y pandemig ond bod cyfnod y pandemig wedi newid pethau e.e. drwy ddarganfod ffyrdd gwahanol o addysgu. Credwyd ei bod yn amserol ail afael yn y trafodaethau a rhoi cyfeiriad i Ysgolion y Sir.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾   Cyfeiriwyd at y sylwadau a dderbyniwyd o’r ymgynghori oedd yn nodi bod teithio’n bell yn cael effaith negyddol ar addysg dysgwyr ôl-16 yn ogystal â’r amgylchedd. Gofynnwyd a yw pethau wedi newid ers y cyfnod Cofid ac os yw pob opsiwn yn parhau i gael eu hystyried.

¾   Mewn ymateb nodwyd bod y darlun wedi newid ers y pandemig e.e. bod y dysgu o bell a ddigwyddodd yn ystod y cyfnod hwn wedi ehangu ar bosibiliadau. Cadarnhawyd y bydd pob opsiwn yn cael ystyriaeth ond tybiwyd mai rhywbeth yn y canol o ran cryfhau’r gyfundrefn fyddai pobl yn dymuno ei weld.

¾   Mynegwyd bod y Cabinet wedi unioni un peth trwy ddiddymu’r tocyn teithio ôl-16. Bellach credwyd bod y dewis wedi ei ehangu i’r plant a’r bobl ifanc drwy eu galluogi i roi ystyriaeth i ddarpariaethau sydd fwy priodol i’w hanghenion yn hytrach na’u cyfyngu i leoliad penodol.

¾   Gofynnwyd a oedd cynlluniau i edrych ar y ddarpariaeth Addysg ôl-16 yn Nwyfor a Meirionnydd. Adroddwyd nad oes darpariaeth chweched dosbarth yn bodoli yn y rhannau hyn o’r Sir a bod llawer o ganlyniad yn teithio o Ddwyfor i ardal Arfon. Credwyd bod angen edrych ar y ddarpariaeth ar draws y Sir.

¾   Mewn ymateb nodwyd mai’r cam cyntaf yw edrych ar ardal Arfon gan mai yno mae’r chweched dosbarth yn bodoli. Adroddwyd bod bwriad yn y dyfodol i edrych yn ehangach ar draws y Sir er mwyn cyrraedd y nod o unioni’r gyfundrefn ar draws Gwynedd. 

¾   Croesawyd ail edrych ar y ddarpariaeth a credwyd bod edrych ar y syniadau i gyd yn berthnasol. Holwyd os bydd ystyriaethau i ddemograffeg gan fod llai o gyllid i’r Ysgolion cynradd. Credwyd ei bod yn bwysig edrych ar yr effaith yn y dyfodol.

¾   Mewn ymateb nodwyd ei bod yn gallu cymryd blynyddoedd i ddisgyblion setlo mewn Addysg uwchradd a bod sefydliadau Addysg cynradd bychain dan anfantais o ran Cyllid. Cadarnhawyd bod yr Adran Addysg yn edrych ar hyn yn ofalus ac yn ceisio gwneud defnydd mwy effeithlon wrth ariannu.

 

Awdur:Garem Jackson, Pennaeth Addysg

Dogfennau ategol: