Sefydlu maes carafanau teithiol (19 uned) gyda bloc toiledau a gwaith cysylltiedig
AELOD LLEOL: Cynghorydd Rhys Tudur
Penderfyniad:
Gwrthod y cais, yn groes i’r argymhelliad.
Byddai’r bwriad yn
sefydlu safle carafanau teithiol newydd mewn lleoliad ble ceir gormodedd o
safleoedd carafanau teithiol a sefydlog presennol, gan beri niwed i ansawdd
gweledol y dirwedd yn ogystal ac achosi aflonyddwch sŵn a fyddai’n cael
effaith andwyol annerbyniol ar fwynderau’r cymdogion cyfagos, yn groes i amcanion
polisi TWR 5 a PCYFF 2 o Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn.
COFNODION:
Sefydlu maes carafanau teithiol
(19 uned) gyda bloc toiledau a gwaith cysylltiedig
Bu i rai Aelodau
ymweld â’r safle a’r ardal o gwmpas Afonwen bore 27ain Chwefror 2023
a)
Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais
ydoedd ar gyfer newid defnydd tir amaethyddol, i sefydlu safle carafanau teithiol
i 19 uned, ymestyn adeilad presennol i greu bloc toiledau a gwaith cysylltiedig
ar dir yn Nhŷ’n Lôn, Afonwen. Gohiriwyd y cais ym Mhwyllgor Cynllunio 16
Ionawr 2023 er mwyn i’r Aelodau gynnal ymweliad safle. Ers cyflwyno’r cais i
gyfarfod 16 Ionawr 2023, derbyniwyd un llythyr yn gwrthwynebu’r bwriad.
Nodwyd, gan mai’r
bwriad yw creu safle ar gyfer carafanau teithiol, ystyriwyd y cais o dan Bolisi
TWR 5 o Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (CDLl) sy’n gosod cyfres
o feini prawf ar gyfer caniatáu datblygiadau o’r fath. Mynegwyd bod maen prawf 1 o’r polisi yn
datgan y dylai unrhyw ddatblygiad carafanau teithiol newydd fod o ansawdd uchel
o ran dyluniad, gosodiad ac edrychiad ac wedi’i guddio’n dda gan nodweddion
presennol y dirwedd a / neu mewn lle gellir cydweddu’r unedau teithiol yn hawdd
i’r dirwedd mewn modd nad yw’n peri niwed sylweddol i’w hansawdd weledol.
Eglurwyd y
byddai’r bwriad arfaethedig wedi ei leoli mewn cae gwastad gyda choed aeddfed
ar y terfynau ac felly’n guddiedig o leoliadau cyhoeddus. Ategwyd bod bwriad
atgyfnerthu sgrinio’r safle trwy blannu gwrych newydd o goed cynhenid fel ffin
orllewinol newydd i wahanu’r cae carafanau o’r cae ehangach. Nid yw’r safle o
fewn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) nac o fewn Ardal Tirwedd
Arbennig a ni ystyriwyd y byddai’n achosi niwed arwyddocaol i ansawdd y
dirwedd. Amlygwyd bod y bwriad wedi ei ddylunio i gwrdd â gofynion trwyddedu o
safbwynt gofod a chyfleusterau - derbyniwyd fod y datblygiad yn un safonol.
Ym mhwyllgor
Ionawr 2023, amlygwyd pryderon am yr ‘effaith gronnus’ o ran agosatrwydd y
safle at safleoedd carafanau sefydlog eraill megis Hafan y Môr ac Ocean Heights
a safle teithiol Afon Wen gyferbyn a Sŵn y Môr i’r cefn. Er bod sawl safle
sefydlog a teithiol yn y cyffiniau, ni ystyriwyd yr ardal dan sylw yn esiampl o
leoliad sydd o dan bwysau aruthrol o ran datblygiadau twristiaeth o’r fath.
Mynegwyd, yn wahanol i bolisi TWR 3 sy’n ymwneud a safleoedd carafanau
sefydlog, nid yw effaith gronnus yn ystyriaeth ym meini prawf polisi TWR 5 gan
mai defnydd dros dro yw’r defnydd teithiol gyda llai o effaith na strwythurau
sefydlog. Fodd bynnag, mae’r meini prawf eu hunain yn ymateb i’r effaith
gronnus yn yr ystyr na ddylid caniatáu safleoedd mewn mannau ymwthiol nad ydynt
yn agos i’r prif rwydwaith ffyrdd.
Cyfeiriwyd at
baragraff 6.3.81 o’r polisi sydd yn nodi na ddylid caniatáu carafanau mewn
lleoliadau agored ger yr arfordir nac mewn AHNE - y safle yma wedi ei leoli i
ffwrdd o leoliad arfordirol agored a heb unrhyw ddynodiad tirwedd i’r
cyffiniau.
Yng nghyd-destun
materion cyffredinol a phreswyl nodwyd, ar sail y pellter a natur guddiedig y
cae, ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn cael effaith andwyol sylweddol nac
achosi aflonyddwch ar unrhyw drigolion cyfagos. Ystyriwyd fod y bwriad yn
dderbyniol o agwedd Polisi PCYFF 2 y CDLl sy’n ymwneud ag amddiffyn mwynderau
defnyddwyr tir cyfagos.
Yng nghyd-destun
materion bioamrywiaeth ymgynghorwyd a’r Uned Bioamrywiaeth gan fod y cae dan
sylw ynghyd â’r tir i’r gogledd a gorllewin o’r safle wedi ei adnabod yn safle
Bywyd Gwyllt Lleol. Mewn ymateb i’w sylwadau, gofynnwyd i’r datblygwr gyflwyno
Asesiad Ecolegol Cychwynnol ac yn sgil canlyniadau’r arolwg a chais am
asesiadau pellach, cyflwynwyd Arolwg Botanegol, Arolwg Moch Daear a Chynllun
Mesurau Lliniaru Bywyd Gwyllt yn ddiweddarach ar y cais. Nodwyd bod yr Uned
Bioamrywiaeth wedi cadarnhau bod yr adroddiadau wedi eu gwneud i safon dda gan
gynghori y dylai’r bwriad ddilyn y mesurau lliniaru a’r gwelliannau a
gynhigiwyd
Roedd y Swyddogion
Cynllunio yn parhau o’r farn bod y bwriad yn dderbyniol ac na fyddai’n cael
effaith niweidiol sylweddol ar y dirwedd, mwynderau’r gymdogaeth na diogelwch
ffyrdd.
b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y sylwadau
canlynol:
·
Safleoedd carafanau sefydlog ynteu symudol - yr un yw’r farn -
creu dwysedd uchel drwy Wynedd gyfan
·
Safle Hafan y Môr ac Abererch Sands yn safleoedd mawr iawn heb son
am safleoedd eraill cyfagos. Pa amgylchiadau eraill felly fyddai yn sail i
‘ormodedd’?
·
Derbyn bod TWR3 yn cyfeirio at safleoedd sefydlog a dim teithiol,
ond dyma wendid TWR5 - dim diffiniad
clir i ‘ormodedd’ - blerwch y Cynllun Datblygu o beidio gosod maen prawf i
garafanau teithiol fel sydd i garafanau sefydlog.
·
Rhaid ystyried y safbwyntiau o ddehongli polisi mewn modd priodol
- rhaid gosod diffiniad clir o ormodedd mewn polisïau i gynnwys safleoedd
teithiol.
·
Annog y pwyllgor i wrthod y cais ar sail gormodedd a chreu
diffiniad polisi gwell i’r dyfodol
c)
Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais yn unol ar argymhelliad.
ch) Yn
ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau:
·
Bod y cais yn cyfateb i ofynion polisi cyfredol
·
Bod y safle yn daclus – yr adeiladau a’r toiledau o safon uchel
·
Bod un cais wedi ei ganiatáu yn groes i ofynion polisi yn Nwyfor –
angen cysondeb
·
Bod angen ystyried sylwadau'r Aelod Lleol a’r Cyngor Cymuned sydd
yn gwrthwynebu’r cais ar sail gormodedd
·
Nad yw rhai safleoedd carafanau teithiol yn cydymffurfio gyda
rheolau o orfod symud carafanau dros y Gaeaf - dim digon o swyddogion
gorfodaeth i gadw golwg ar y sefyllfa
·
Dylai’r maen prawf ‘effaith gronnus’ fod ar gyfer teithiol a
symudol
·
Bod nifer o safleoedd carafanau yn y cylch – i’r dyfodol, un parc
carafanau fydd yr arfordir rhwng Criccieth a Pwllheli
·
Pam bod y polisi mor flêr yn diffinio ‘gormodedd’? Angen llunio
polisi newydd
·
Bod yr effaith gronnus yn annerbyniol
·
Y dylid rhestru niferoedd carafanau. Gormod o garafanau yn yr
ardal yma
·
Gormodedd / gor-dwrisitiaeth yn effeithio ar ddiwylliant, iaith,
cefnogaeth i wasanaethau ac aflonyddwch i gymdogion
d)
Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd Pennaeth Cynorthwyol Cynllunio ac Amgylchedd bod y
cais yn cyfateb i ofynion polisi cyfredol CDLl - yr adroddiad yn un clir ac yn
datgan y polisïau perthnasol ar gyfer carafanau teithiol. Y cais yn cyd-fynd
a’r gofynion. Cyfeiriwyd at gais a ganiatawyd yn groes i’r argymhelliad am 32
carafanau teithiol mewn ardal o fewn
AHNE - angen sicrhau bod y Pwyllgor yn gyson wrth weithredu polisïau. Amlygwyd
y risgiau fydd yn agored i’r Cyngor petai y cais yn cael ei wrthod.
Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd y Swyddog Monitro bod
y cais yn cyfarch y meini prawf ac os bydd awgrym o wrthod ar sail effaith
gronnus, bydd angen tystiolaeth i amlygu ardrawiad o’r sefyllfa. Ategwyd bod
rhaid i’r Pwyllgor amlygu sicrwydd cyson wrth weithredu a dehongli polisïau a
meini prawf.
dd)
Yn dilyn pleidlais
gofrestredig, disgynnodd y cynnig i ganiatáu
e) Cynigiwyd ac eiliwyd gwrthod y cais ar
sail gormodedd ac aflonyddwch gweledol
PENDERFYNWYD: GWRTHOD y cais, yn groes i’r
argymhelliad
Rheswm: Byddai’r bwriad yn sefydlu
safle carafanau teithiol newydd mewn lleoliad ble ceir gormodedd o safleoedd
carafanau teithiol a sefydlog presennol, gan beri niwed i ansawdd gweledol y
dirwedd yn ogystal ac achosi aflonyddwch sŵn a fyddai’n cael effaith
andwyol annerbyniol ar fwynderau’r cymdogion cyfagos, yn groes i amcanion
polisi TWR 5 a PCYFF 2 o Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn.
Dogfennau ategol: