Agenda item

Adeiladu ysgol gynradd unllawr newydd gyda 150 lle, meithrinfa 20 lle a Chylch Meithrin 30 lle a gwaith allanol cysylltiedig, gan gynnwys trin ffiniau, trefniadau parcio newydd a darpariaethau mynediad gwell ar gyfer adleoli Ysgol Ein Harglwyddes ar hen safle Ysgol Glanadda

 

AELODAU LLEOL: Cynghorydd Gareth Roberts, Cynghorydd Huw Wyn Jones a’r Cynghorydd Medwyn Hughes

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu'r cais yn ddarostyngedig i amodau'n ymwneud a'r materion canlynol:

1.      Amser (5 mlynedd)

2.      Yn unol â’r cynlluniau

3.      Amod Tir Llygredig

4.      Rhaid dilyn argymhellion yr Arolwg Ecolegol

5.      Rhaid cwblhau arolwg ffotograffig

6.      Sicrhau enw ac arwyddion Cymraeg / Dwyieithog

7.      Rhaid cytuno Cynllun Teithio i'r Ysgol gyda'r Uned Trafnidiaeth a gweithredu'n unol â gofynion y cynllun hwnnw

 

Nodiadau

1.   Dŵr Cymru

2.   Cyfoeth Naturiol Cymru

3.   Uned Draenio Tir

 

Cofnod:

Adeiladu ysgol gynradd unllawr newydd gyda 150 lle, meithrinfa 20 lle a Chylch Meithrin 30 lle a gwaith allanol cysylltiedig, gan gynnwys trin ffiniau, trefniadau parcio newydd a darpariaethau mynediad gwell ar gyfer adleoli Ysgol Ein Harglwyddes ar hen safle Ysgol Glanadda.

a)    Amlygodd yr Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu  mai cais ydoedd ar gyfer adeiladu ysgol newydd ar gyfer 200 o ddisgyblion a fyddai'n cynnwys meithrinfa a chylch meithrin. Byddai’r datblygiad yn galluogi adleoli Ysgol Ein Harglwyddes o'i safle presennol ger y bont rheilffordd ar Ffordd Caernarfon, Bangor, sydd ar hyn o bryd yn gweithredu o fewn adeilad a safle cyfyngedig, sy’n gwneud dysgu ac addysgu dyddiol yn heriol. Ategwyd bod yr adeilad presennol yn dod at ddiwedd ei oes wasanaethol ac mae problemau cynnal a chadw parhaus yno.

 

Adroddwyd bod y cynnig yn cwrdd gyda holl feini prawf Polisi ISA 2, sef polisi sy’n gefnogol i ddarparu cyfleusterau cymunedol newydd, ynghyd a Pholisi ISA 4 sy’n dynodi Llecynnau Agored sydd i'w gwarchod rhag datblygiad (y cae chwarae ar y safle wedi ei ddiogelu dan y dynodiad hwn).

 

Yng nghyd-destun mwynderau gweledol ystyriwyd bod y dyluniad a gyflwynwyd yn cynnig datblygiad a fyddai o raddfa a gwedd a fyddai'n addas ar gyfer ei safle dinesig. Mae'r ffaith y bydd nodweddion o gymeriad yr ysgol bresennol, megis brics Rhiwabon coch, yn cael eu hymgorffori yn y dyluniad yn pwysleisio'r dilyniant o'r sefyllfa bresennol.

 

Yng nghyd-destun mwynderau cyffredinol a phreswyl, derbyniwyd, wrth gynyddu maint yr ysgol ac annog y defnydd o fannau allanol, y gall bod cynnydd mewn sŵn i drigolion tai cyfagos. Wedi dweud hynny, dim ond am oriau cyfyngedig bydd yr ysgol yn agored a’r rhan fwyaf o’r amser hynny bydd y plant yn yr adeilad. Ar y cyfan, wrth ystyried nad oes newid defnydd i'r safle, ni ystyriwyd bydd y datblygiad yn achosi niwed arwyddocaol i fwynderau’r ardal leol na’i thrigolion yn y tymor hir er, yn anorfod, bydd peth sŵn ac aflonyddwch yn ystod y cyfnod adeiladu.

 

Wrth drafod materion priffyrdd nodwyd bod Asesiad Trafnidiaeth wedi ei gyflwyno gyda'r cais oedd yn nodi, er bod y safle wedi gweithredu’n flaenorol fel ysgol sydd â threfniant mynediad hanesyddol, bod gwelliannau ychwanegol. Derbyniwyd sylwadau oddi wrth yr Uned Trafnidiaeth oedd yn datgan pryder ynghylch effeithiau posibl y datblygiad ar lif trafnidiaeth a pharcio yn yr ardal ac ynghylch y llwybrau cerdded fydd ar gael i blant fynychu'r ysgol. Er hynny, ystyriwyd bod posib rheoli’r materion hynny os byddai’r Ysgol yn ymrwymo i Gynllun Teithio i'r Ysgol.

 

Wedi ystyried yr holl faterion cynllunio perthnasol, ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn debygol o achosi effeithiau andwyol annerbyniol hirdymor i drigolion gerllaw na’r gymuned yn gyffredinol ac y bydd modd rheoli unrhyw effeithiau byrdymor trwy osod amodau priodol ar y datblygiad.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelodau Lleol y sylwadau canlynol:

·         Eu bod yn gefnogol i’r cais

·         Bod yr hen ysgol mewn lle annifyr a phrysur

·         Bod symud i leoliad agos yn gwneud synnwyr

·         Bod y cynllun yn un da

·         Dim gwrthwynebiadau i’r cais – pawb i weld yn gefnogol

·         Cais i osod paneli solar ar yr adeilad – a yw egni adnewyddol wedi ei ystyried?

 

c)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau:

·         Bod yr hen adeilad yn un trawiadol ac mewn lle amlwg

·         Balch bod rhai o’r nodweddion traddodiadol (brics coch Rhiwabon) yn cael eu gwarchod

·         Cais i roi llechi ar y to a dim to fflat

·         Cytuno gyda’r awgrym i roi paneli solar ar y to

·         Sylw nad oedd Cyngor Dinas Bangor wedi cynnig sylwadau ar fater allweddol

·         Angen sicrhau digon o lefydd parcio i  staff a rheini

·         Croesawu ardal chwarae aml ddefnydd digonol a modern

 

ch) Mewn ymateb i sylw ynglŷn â defnyddio paneli solar, nodwyd bod modd trafod y mater gyda’r ymgeisydd, ond bod cynllun o’r fath, fel arfer yn gorfod cwrdd gyda gofynion cynaliadwyedd rheolaeth adeiladau.

 

d)    Cynigiwyd  ac eiliwyd caniatáu y cais

 

PENDERFYNWYD: Caniatáu'r cais yn ddarostyngedig i amodau'n ymwneud a'r materion canlynol:

 

1.      Amser (5 mlynedd)

2.      Yn unol â’r cynlluniau

3.      Amod Tir Llygredig

4.      Rhaid dilyn argymhellion yr Arolwg Ecolegol

5.      Rhaid cwblhau arolwg ffotograffig

6.      Sicrhau enw ac arwyddion Cymraeg / Dwyieithog

7.      Rhaid cytuno Cynllun Teithio i'r Ysgol gyda'r Uned Trafnidiaeth a gweithredu'n unol â gofynion y cynllun hwnnw

 

Nodiadau

1.   Dŵr Cymru

2.   Cyfoeth Naturiol Cymru

3.   Uned Draenio Tir

Dogfennau ategol: