Diwygio amod
1 (cyfnod cychwyn gwaith) ar ganiatâd cynllunio C17/0772/36/LL er ymestyn y cyfnod i
ddechrau'r gwaith am 5 mlynedd bellach
AELOD LLEOL:
Cynghorydd Stephen Churchman
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Caniatáu
gydag amodau
1. 5
mlynedd
2.
Sicrhau cwblhau’r datblygiad yn unol
â’r cynlluniau a dogfennau a gyflwynwyd yng nghais C17/0772/36/LL ynghyd a’r
cynllun diwygiedig o ran gwyro’r llwybr cyhoeddus ganiatawyd yng nghais
C18/0168/36/LL a’r Adroddiad Gwerthusiad Ecolegol a’r Adroddiad Asesiad
Canlyniadau Llifogydd a gyflwynwyd ar y cais cyfredol.
3. Gorffeniad
i'w gytuno (gan gynnwys lliw'r ffens)
4. Cytuno
cynllun i waredu dŵr brwnt a dŵr wyneb
5. Cytuno
cynllun rheoli amgylcheddol adeiladu
6.
Cytuno cynllun rheoli traffig
adeiladu a derbyn cymeradwyaeth Uned Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru ar faterion
mynediad (ac unrhyw amodau ychwanegol sydd yn berthnasol i hyn).
7. Cwblhau’r tirweddu o fewn y tymor
plannu cyntaf yn dilyn cwblhau’r bwriad.
8. Sicrhau
gwyro / gwarchod y llwybr.
9. Amodau
Archeolegol.
10. Amser
gweithio.
Nodyn Dŵr Cymru ac Uned Dŵr ac
Amgylchedd YGC
COFNODION:
Diwygio amod 1 (cyfnod cychwyn gwaith) ar
ganiatâd cynllunio C17/0772/36/LL er ymestyn y cyfnod i ddechrau'r gwaith am 5
mlynedd bellach
a)
Amlygodd Arweinydd Tîm Rheolaeth
Datblygu
mai cais ydoedd ar gyfer diwygio amod 1 o ganiatâd cynllunio cyfeirnod
C17/0772/36/LL ar gyfer is-orsaf newydd a seilwaith cysylltiedig er mwyn
ymestyn y cyfnod dechreuad y datblygiad am 5 mlynedd ychwanegol. Mynegwyd bod angen compownd yr is-orsaf i roi lle i'r
trawsnewidydd trydanol sengl a fyddai'n 'gostwng' foltedd 400kv cylched Pentir
-Trawsfynydd i foltedd o 132kv. Pan
gyflwynwyd cais C17/0772/36/LL roedd y gwaith yn gysylltiedig gyda’r Wylfa
newydd arfaethedig. Pan ddisgynnodd y
cynlluniau ar gyfer Wylfa newydd drwodd ni ymgymerwyd gyda’r gwaith yn
gysylltiedig gyda’r is-orsaf drydan.
Erbyn hyn mae angen yr un gwaith ar gyfer cysylltu i ffermydd gwynt
alltraeth (offshore) fel y gallent gysylltu i’r
rhwydwaith trydan ehangach.
Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor am ei fod yn ymwneud gyda safle dros 0.5
hectar.
Eglurwyd mai cais i ymestyn cyfnod cychwyn y datblygiad o 5 flynedd
ychwanegol oedd gerbron, ac nad oedd bwriad newid i’r cynllun. Ategwyd bod
egwyddor y bwriad wedi ei dderbyn a’i sefydlu eisoes gan yr Awdurdod Cynllunio
Lleol drwy ganiatâd cynllunio C17/0772/36/LL. Gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyrued felly os yw’r amgylchiadau neu’r sefyllfa bolisi
cynllunio wedi newid ers caniatáu’r cais hwn yn wreiddiol.
Nodwyd bod polisi
ISA 1 yn berthnasol i’r ddarpariaeth o isadeiledd newydd ac yn datgan bydd
cynigion am wasanaethau dŵr, trydan, nwy ac ati i wella’r ddarpariaeth, yn
cael ei ganiatáu yn amodol ar ystyriaethau cynllunio manwl. Ategwyd bod Polisi
Strategol PS5 yn y CDLl cyfredol yn cefnogi cynigion
datblygu lle gellid dangos eu bod yn gyson gydag egwyddorion datblygu cynaliadwy.
O safbwynt y datblygiad yma, dangoswyd yr angen amlwg am yr is-orsaf
arfaethedig ac er wedi ei lleoli y tu allan i unrhyw derfynau datblygu penodol;
mae'r is-orsaf wedi mynd drwy broses arfarnu dylunio a lleolwyd yr opsiwn a
ffafrir ger bodolaeth llinell drydan uwchben 400kv Pentir - Trawsfynydd.
Yng nghyd-destun
materion bioamrywiaeth, llifogydd a draenio, nodwyd na dderbyniwyd
gwrthwynebiadau gan Gyfoeth Naturiol
Cymru, yr Uned Bioamrywiaeth nac Uned Dwr ac Amgylchedd YGC
Ni ystyriwyd fod y
bwriad o ymestyn yr amser a roddwyd o dan ganiatâd rhif C17/0772/36/LL er mwyn
cychwyn ar y datblygiad yn groes i’r polisïau na’r canllawiau lleol a
chenedlaethol perthnasol a bod y bwriad yn parhau i fod yn dderbyniol yn
ddarostyngedig ar gynnwys amodau perthnasol fel y cynhwyswyd o fewn y caniatâdau blaenorol.
b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y sylwadau
canlynol:
·
Bod y cais yn un syml a chlir
·
Bod yr angen am y compownd yn parhau
·
Nad oedd unrhyw wrthwynebiadau wedi eu derbyn
·
Ei fod wedi ymgynghori gyda thrigolion lleol yn ystod y cais
gwreiddiol
·
Yr unig ‘effaith’ fydd ger y brif ffordd yn ystod y gwaith adeiladu
·
Dim gwrthwynebiad gan y Cyngor Cymuned
c)
Cynigiwyd ac eiliwyd
caniatáu y cais
PENDERFYNWYD: Caniatáu gydag
amodau
1. 5
mlynedd
2. Sicrhau cwblhau’r datblygiad yn unol â’r
cynlluniau a dogfennau a gyflwynwyd yng nghais C17/0772/36/LL ynghyd a’r
cynllun diwygiedig o ran gwyro’r llwybr cyhoeddus ganiatawyd yng nghais
C18/0168/36/LL a’r Adroddiad Gwerthusiad Ecolegol a’r Adroddiad Asesiad
Canlyniadau Llifogydd a gyflwynwyd ar y cais cyfredol.
3. Gorffeniad
i'w gytuno (gan gynnwys lliw'r ffens)
4. Cytuno
cynllun i waredu dŵr brwnt a dŵr wyneb
5. Cytuno
cynllun rheoli amgylcheddol adeiladu
6. Cytuno cynllun rheoli traffig adeiladu a
derbyn cymeradwyaeth Uned Cefnffyrdd Llywodraeth Cymru ar faterion mynediad (ac
unrhyw amodau ychwanegol sydd yn berthnasol i hyn).
7. Cwblhau’r
tirweddu o fewn y tymor plannu cyntaf yn dilyn cwblhau’r bwriad.
8. Sicrhau
gwyro / gwarchod y llwybr.
9. Amodau
Archeolegol.
10. Amser
gweithio.
Nodyn Dŵr Cymru ac Uned Dŵr ac
Amgylchedd YGC
Dogfennau ategol: