Cyflwynwyd gan:Cyng. Dyfrig Siencyn
Penderfyniad:
Cefnogwyd ymateb Cyngor Gwynedd i ymgynghoriad Croeso Cymru
ar sefydlu cynllun trwyddedu statudol yng Nghymru ar gyfer llety gwyliau.
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn
PENDERFYNIAD
Cefnogwyd ymateb Cyngor Gwynedd i
ymgynghoriad Croeso Cymru ar sefydlu cynllun trwyddedu statudol yng Nghymru ar
gyfer llety gwyliau
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi bod Llywodraeth Cymru wedi
cyhoeddi ymgynghoriad ar sefydlu cynllun trwyddedu statudol i ddarparwyr llety
ymwelwyr yng Nghymru nol ym mis Rhagfyr 2022. Nodwyd bod yr ymgynghoriad yn
ceisio adborth ar yr opsiynau posibl ar gyfer cyflwyno cynllun trwyddedu
statudol ar gyfer pob math o lety ymwelwyr a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol cael
trwydded, gyda'r nod o godi safonau yn y diwydiant Twristiaeth.
Nodwyd bod yr uchod yn fater gafodd sylw yn yr
adolygiad Tai a Thai Haf ac un o’r argymhellion bryd hynny oedd bod angen gwell
rheolaeth yn sgil rheoleiddio gosodiadau llety yng Ngwynedd ac drwy Gymru.
Mynegwyd bod cynnig
yma i reoleiddio'r holl sector llety yng Nghymru a nodwyd bod copi o’r holiadur
ynghlwm â’r adroddiad oedd yn gofyn am farn e.e. a ddylai’r Cynllun fod yn un Cenedlaethol.
Eglurwyd bod yr adborth eisoes wedi ei gyflwyno i Croeso Cymru er mwyn cyd-fynd
a’r dyddiad cau.
Ategwyd bod y Cyngor yn cefnogi’r egwyddor o
sefydlu trefn trwyddedu statudol ond y bydd y Cynllun yn un sylweddol i’w
weithredu a bydd angen adnoddau a buddsoddiad pellach gan Lywodraeth Cymru i’w
weinyddu. Pwysleisiwyd hefyd y dylai’r Cynllun fod yn un Cenedlaethol ac wedi ei
symleiddio er mwyn cael system hyblyg. Ychwanegwyd bod canran o’r Sector
Breifat wedi datgan pryder ynglŷn â’r Cynllun yn sgil Cofid, yr ystyriaethau argyfwng costau byw a’r pwysau
ariannol sy’n bodoli ar fusnesau sy’n ategu’r angen i gael system mor syml ag
sy’n bosib.
I gloi nodwyd bod y Cyngor yn cefnogi’r
ymyrraeth yma sydd yn rhan o becyn ehangach gan Lywodraeth Cymru i daclo’r maes
rheolaeth Tai, gweddnewid y gyfundrefn cynllunio yn y maes a chyflwyno treth
twristiaeth.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾ Mynegwyd cefnogaeth i’r ymateb gan nodi bod yr ymateb yn cyfleu teimlad y
Cyngor.
¾ Credwyd bydd y
drefn yma yn help i gadw golwg ar y sefydliadau sydd yn cynnig llety gwyliau.
¾ Nodwyd ei fod yn
aneglur i ba raddfa gall y Cyngor reoli niferoedd sefydliadau drwy drefn
trwyddedu ond yn hytrach gall y Cyngor reoli ansawdd a diogelwch y sefydliadau
hyn sydd yn holl bwysig.
¾ Ategwyd nad diben y gyfundrefn yma yw gosod terfyn ar niferoedd ond yn
hytrach codi safon Iechyd a Diogelwch y sefydliadau ar lefel Genedlaethol a
chreu cysondeb er mwyn sicrhau diogelwch ymwelwyr.
¾ Cytunwyd bod
sicrhau safon yn greiddiol ond pryderwyd am gapasiti
a’r angen am gymorth ariannol er mwyn gwireddu hyn.
¾ Mynegwyd bod Trefi yn dibynnu ar y sector Twristiaeth a darparwyr llety ymwelwyr
a’u bod yn rhan bwysig o’r economi. Credwyd bod yr ymateb yma yn cyd-fynd â
strategaeth Economi Ymweld Cynaliadwy’r Cyngor gan fod sicrhau safonau yn
bwysig.
¾ Cyfeiriwyd at gynllun tebyg iawn sy’n bodoli yng Ngogledd Iwerddon ar hyn y
bryd a chredwyd bod dirwy drom os yw rhywun yn gosod eu heiddo heb gofrestru.
Cadarnhawyd bod y ddirwy dros £2,000 yn ogystal â’r posibilrwydd o garchar.
Awdur:Sioned E. Williams, Pennaeth Economi a Chymuned, Sian Pennant Jones, Rheolwr Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau a Gareth Jones, Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd
Dogfennau ategol: