Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Dyfrig Siencyn

Penderfyniad:

·        Cytunwyd i Gyngor Gwynedd arwain ar gais grant a rhaglen i ddatblygu cynlluniau blaengar yn y maes gwaith economi cylchol.

 

·        Awdurdodwyd y Pennaeth Economi a Chymuned a’r Pennaeth Cyllid i dderbyn cynnig grant Economi Gylchol gan Lywodraeth Cymru a sefydlu trefniadau priodol ar gyfer cyflawni’r rhaglen yng Ngwynedd.

 

·        Cytunwyd i gytundebau partneriaethol cael ei rhoi mewn lle i bob partner sy’n amlinellu gweithdrefnau i'r prosiectau unigol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys

 

PENDERFYNIAD

 

  • Cytunwyd i Gyngor Gwynedd arwain ar gais grant a rhaglen i ddatblygu cynlluniau blaengar yn y maes gwaith economi cylchol.

 

  • Awdurdodwyd y Pennaeth Economi a Chymuned a’r Pennaeth Cyllid i dderbyn cynnig grant Economi Gylchol gan Lywodraeth Cymru a sefydlu trefniadau priodol ar gyfer cyflawni’r rhaglen yng Ngwynedd.

 

  • Cytunwyd i gytundebau partneriaethol gael eu rhoi mewn lle i bob partner sy’n amlinellu gweithdrefnau i'r prosiectau unigol.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan ategu bod angen cymeradwyaeth y Cabinet i dderbyn grant gan Lywodraeth Cymru o’u cronfa Economi Cylchol sy’n ymrwymiad o bron i £6 miliwn. Nodwyd bod hyn o ganlyniad i dros dair mlynedd o waith gan yr Adran Economi a Chymuned i ddatblygu’r Economi Cylchol yng Ngwynedd a pharatoi cais i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru i ariannu pecyn o gynlluniau. Diolchwyd i Swyddogion yr Adran am eu gwaith.

 

Manylwyd ar rai o’r cynlluniau sy’n cynnwys datblygu Llyfrgell y Pethau mewn partneriaeth gyda Gwasanaeth Llyfrgelloedd y Cyngor a Datblygu Sied Werdd i Antur Waunfawr i gynyddu ailgylchu ac ail-greu. Nodwyd bod Antur Waunfawr bellach yn casglu 11 tunnell o ddillad yr wythnos ar draws y Sir sy’n golygu llai o wastraff a mwy o gymorth i drigolion efo costau byw. Bydd cyfleoedd cyflogi hefyd yn deillio o hyn yn ogystal ag ehangu’r gwaith ail ddefnyddio ac ail bwrpasu deunyddiau megis dodrefn.

 

Nodwyd bod y Cynllun hwn yn un arloesol ac yn cyfrannu tuag at flaenoriaethau Cynllun y Cyngor megis cefnogi’r Rhaglen Cefnogi Pobl, y Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur yn ogystal â chydweithio efo’r Adran Economi a Chymuned a’r Adran Amgylchedd.

 

Mynegodd y Rheolwr Rhanbarthol ARFOR bod cydweithio agos iawn efo Llywodraeth Cymru wedi digwydd dros y blynyddoedd diwethaf. Ategwyd bod y Cynllun yn adeiladu ar waith a chynlluniau llai cafodd eu creu yn y gorffennol ac yn gyfle i’w datblygu ar raddfa fwy. Nodwyd bod Llywodraeth Cymru yn edrych i greu 80 o hybiau ail ddefnyddio ac ail greu yng Nghymru a gall y Cyngor bellach gyfrannu at 27 o’r rheini yng Ngwynedd. Nodwyd ei fod yn gyfle i roi Gwynedd ar y blaen yn y maes yma a chyfle i weithio efo partneriaid y drydydd sector gan eu galluogi i ddatblygu ymhellach.

 

Nodwyd bod nifer o brosiectau o’r newydd ac ar draws ardaloedd a chymunedau’r Sir. Credwyd ei fod yn gyfle i wneud gwahaniaeth yn y maes a gweithio’n agos efo Llywodraeth Cymru ar y blaenoriaethau hyn dros y ddwy flynedd nesaf.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾   Croesawyd buddsoddiad o’r maint yma a mynegwyd cefnogaeth lwyr i’r Cynllun.

¾   Ategwyd pwysigrwydd egwyddorion yr Economi Gylchol megis hybu trwsio, benthyg ac ail ddefnyddio fel rhan normal o fywyd.

¾   Dymunwyd gweld ail fframio pellach ar ddeunydd ail lawr neu bethau sydd wedi cael eu hailgylchu a’u bod nhw ddim yn cael ei gweld fel pethau eilradd, yn enwedig yn sgil yr argyfwng costau byw.

¾   Credwyd bod llawer o bethau cyffrous i’w gweld yn yr adroddiad a chydnabuwyd pwysigrwydd newid ymddygiad a cheisio annog rhagor o ailgylchu.

¾   Mynegwyd sylw bod angen bod yn wyliadwrus o gynaladwyedd y prosiectau hyn gan gofio gall yr arian ddod i ben felly credwyd bod angen ceisio sicrhau sut bydd y prosiectau hyn yn gynaliadwy i’r dyfodol.

¾   Mewn ymateb nodwyd bod y Rheolwr Rhanbarthol ARFOR yn gweithio ar hyn efo’r partneriaid. Nodwyd bod llawer o’r arian yn arian cyfalaf ar gyfer gweithredu’r cam nesaf a bod bwriad i gydweithio’n agos iawn dros y cyfnod nesaf i sicrhau cynaliadwyedd.

 

Awdur:Sioned E. Williams, Pennaeth Economi a Chymuned ac Anwen Davies, Rheolwr Rhanbarthol ARFOR

Dogfennau ategol: