Cyflwynwyd gan:Cyng. Nia Jeffreys
Penderfyniad:
1.1. Cymeradwywyd i orffen sefydlu Hybiau Cefnogi Pobl yn yr
13 ardal adfywio.
1.2. Caniatawyd comisiynu Gwasanaeth Cefnogi Llesiant Pobl i roi help llaw
i drigolion gyda’u hanghenion llesiant yn yr hwb a’r ardal.
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys
PENDERFYNIAD
1.1. Cymeradwywyd i orffen
sefydlu Hybiau Cefnogi Pobl yn yr 13 ardal adfywio.
1.2. Caniatawyd comisiynu Gwasanaeth Cefnogi
Llesiant Pobl i roi help llaw i drigolion gyda’u hanghenion llesiant yn yr hwb
a’r ardal.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi bod y Pennaeth
Cynorthwyol Cefnogi Teulu yn allweddol i’r gwaith yma ac y byddai yn egluro mwy
am yr hybiau a'r gwaith sy’n digwydd. Nodwyd bod y Rhaglen Cefnogi Llesiant
Pobl yn esiampl o waith traws adrannol ar draws y Cyngor am ei fod wedi deillio
o waith sawl gwasanaeth yn ogystal ag asiantaethau neu fudiadau allanol fel
Cyngor ar Bopeth.
Darparwyd crynodeb o waith a siwrne'r Rhaglen
Cefnogi Llesiant Pobl gan y Pennaeth Cynorthwyol Cefnogi Teulu. Adroddwyd bod
yr adroddiad hwn yn cyfeirio yn benodol at y rhwydwaith o hybiau sydd wedi eu
lleoli mewn Cymunedau. Eglurwyd bod yr hybiau yn ceisio dod a gwasanaethau’r
Cyngor a’i bartneriaid yn agosach at drigolion Gwynedd. Nodwyd erbyn hyn bod 11
o’r hybiau yn weithredol ar draws y Sir a bod nifer fawr o’r anghenion sy’n dod
drwy ddrysau’r hybiau yn ymwneud â’r argyfwng costau byw yn ogystal â materion
budd-daliadau, treth cyngor, mynediad i dalebau tanwydd a chyngor ar
ddigartrefedd.
Ategwyd nad yw pawb yn ymwneud â’r hybiau a bod
gwaith i’w wneud gyda rhai o’r trigolion er mwyn eu cynorthwyo i ail gysylltu
efo’r rhwydweithiau yn lleol. Ychwanegwyd bod awydd i symud ymlaen i
gomisiynu’r gwasanaeth newydd a gorffen y gwaith o sefydlu’r Hybiau Cefnogi
Pobl yn yr 13 ardal adfywio er mwy cyd-fynd â’r fframwaith adfywio.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾ Credwyd bod yr hybiau yn hynod boblogaidd, rhoddwyd enghraifft o bobl yn
ciwio yn Nolgellau i weld y Swyddog Ynni. Teimlwyd ei bod yn rhwydd cael
mynediad at y gwasanaeth a canmolwyd y gwaith sydd wedi digwydd ar sefydlu’r
hybiau cymunedol.
¾ Credwyd bod yr
hybiau yn gwneud mynediad at wasanaethau’r Cyngor yn rhwyddach gan sicrhau bod
pobl yn y gymuned yn cael y wybodaeth a’r gefnogaeth maent ei angen.
¾ Diolchwyd am yr adroddiad gan groesawu’r Rhaglen, yn enwedig o ystyried yr
heriau sydd yn wynebu trigolion yn y gymuned yn sgil yr argyfwng costau byw.
¾ Broliwyd y cyfeiriad at gefnogi grwpiau cymunedol i sefydlu Hybiau Cefnogi
Pobl a’r ymwybyddiaeth leol sydd ynghlwm a hyn, croesawyd ymestyn y math yma o
ddarpariaeth.
¾ Gwnaethpwyd sylw ei bod yn bwysig cofio am y plant a’r bobl ifanc yn y
cymunedau a cheisio eu denu a’u cynnwys gan gofio am eu hanghenion. Credwyd y
gallai’r Hybiau helpu efo darparu rhywle i’r plant a’r bobl ifanc gyfarfod ar
ôl Ysgol.
¾ Mynegwyd balchder yn y cyd-weithio gyda rhanddeiliaid eraill a bod hyn yn
gam ymlaen. Tynnwyd sylw at frolio diweddar gan asiantaeth allanol ar waith yr
Adran Gyllid yn benodol yn ymwneud â’r gwaith Treth Cyngor a’n cydweithio efo
trigolion y Sir. Diolchwyd i’r Pennaeth Cyllid a’r Swyddogion am eu gwaith.
Ategwyd bod y ganmoliaeth i’r Adran Gyllid yn uchel iawn a bod sylwadau wedi eu
derbyn gan Gyngor ar Bopeth bod y gwaith hwn yn esiampl i weddill Cymru.
¾ Diolchwyd am y
gwaith ac edrychwyd ymlaen at weld yr Hybiau yn datblygu a’r Cynllun yn mynd yn
ei flaen.
Awdur:Catrin Thomas, Pennaeth Cynorthwyol Cefnogi Teuluoedd
Dogfennau ategol: