Agenda item

I gyflwyno Gwybodaeth arm drefniadau i sicrhau cymunedau glan a thaclus.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

 

COFNODION:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Priffyrdd, Peirianneg ac Ymgynghoriaeth Gwynedd, Pennaeth Adran Priffyrdd Peirianneg ac Ymgynghoriaeth Gwynedd a’r Pennaeth Cynorthwyol. Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

-      Eglurwyd bod y gwasanaeth glanhau strydoedd yn weithredol ar bob safle ffordd gyhoeddus a ffordd fabwysiedig gan y Cyngor. Mae’r rhain wedi cael eu rhannu i barthau yn unol â’u defnydd:

o   Parthau dwysedd defnydd uchel – canol trefi yn bennaf

o   Parthau dwysedd defnydd canolig – ardaloedd preswyl yn bennaf

o   Parthau dwysedd defnydd canolig – ardaloedd llai dwys megis ffyrdd Sirol gwledig.

-      Cadarnhawyd bod y gwasanaeth casglu ac ailgylchu gwastraff wedi trosglwyddo i’r Adran Amgylchedd yn ddiweddar ac mae hyn wedi rhoi cyfle i swyddogion ail edrych ar sut mae’r ddarpariaeth yn cael ei gyflwyno. Mae’r gwasanaeth tacluso yn parhau o dan reolaeth Adran Priffyrdd, Peirianneg ac Ymgynghoriaeth Gwynedd.

-      Eglurwyd bod adolygiad o’r gwasanaeth wedi cael ei gynnal. Yn gyffredinol, cydnabuwyd bod gwaith y gwasanaeth yn dda iawn ond mae materion cyllidol ac iechyd a diogelwch i’w cyfarch.  Adroddwyd bod amserlen wedi ei osod ar gyfer cyfarch cylchdeithiau yn y dull mwyaf effeithlon erbyn diwedd yr haf.

-      Manylwyd bod ‘Cadw Cymru'n Daclus’ yn cynnal arolwg annibynnol blynyddol ar lendid strydoedd.

-      Esboniwyd bod yr adran yn cynnal treialon biniau clyfar. Mae 5 bin o fewn y treial ac maent yn defnyddio ynni solar a thechnoleg fodern i wneud cais i’w wagio yn awtomatig i’r adran pan maent yn llawn.

-      Trafodwyd bod addysgu plant a phobl Gwynedd, yn ogystal ,â chodi ymwybyddiaeth o effeithiau ysbwriel, yn rhan o broses newid ymddygiad er mwyn cyflawni buddion amgylcheddol yn y tymor hir.

-      Adroddwyd ar fwriad yr Adran i gyfuno gwasanaethau glanhau stryd, elfennau gorfodaeth a'r timau tacluso i un gwasanaeth newydd o’r enw Edrychiad Stryd.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion canlynol:

 

Mewn ymateb i ymholiadau gan aelodau, cadarnhaodd Pennaeth Adran Priffyrdd, Peirianneg ac Ymgynghoriaeth Gwynedd bod timau gorfodaeth yn wynebu trafferthion capasiti ar hyn o bryd sy’n arwain at oediad mewn gosod biniau baw cŵn newydd ar ôl i’r adran dderbyn ceisiadau. Er hyn, cadarnhawyd bod y Timau Tacluso yn anelu i ddosbarthu biniau mor fuan â phosibl gan gadarnhau mai cyfanswm cyfyngedig o finiau sydd yn cael eu cadw ym meddiant y Cyngor.

 

Nododd aelod bod rhai unigolion yn taflu sbwriel allan o’u ceir. Holodd a fyddai’n bosib bod yn fwy rhagweithiol yn y llefydd roedd hyn yn broblem gyson e.e. cilfannau. Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Adran y gellir edrych ar y lleoliad a grybwyllwyd gan yr aelod i dreialu trefniant o’r fath.

 

Holodd aelod os oedd cymhariaeth o’r costau ynghlwm â chlirio sbwriel a gwagio bin wedi ei wneud. Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Adran ei fod yn fater i’w gynnwys fel rhan o’r adolygiad.

 

Mewn ymateb i ymholiad ar y sialensiau o atal llygredd, nododd Pennaeth Adran Priffyrdd, Peirianneg ac Ymgynghoriaeth Gwynedd bod bwriad i benodi Swyddog Cyfathrebu er mwyn addysgu pobl o effeithiau llygru. Gobeithir i’r swyddog yma gael ei benodi erbyn y Pasg.

 

Rhoddwyd ystyriaeth am gyfrifoldebau unigolion i sicrhau bod eu cyfarpar ailgylchu yn gyfan i sicrhau nad ydi gwastraff yn cael ei chwythu i ffwrdd cyn ei gasglu.

 

Mewn ymholiad am gydweithio â chwmnïau mawr er mwyn canfod ffyrdd i leihau gwastraff, adroddwyd gan Bennaeth Adran Priffyrdd, Peirianneg ac Ymgynghoriaeth Gwynedd bod cysylltiad agos gyda chwmnïau wedi bod yn y gorffennol. Erbyn hyn, mae’r cysylltiadau hyn wedi dod i ben ond bod bwriad i feithrin cysylltiadau cryfach gyda chwmnïau mawr sydd yn yr ardal yn y dyfodol.

 

Rhoddwyd ystyriaeth os yw sbwriel yn cael ei ollwng o loriau ailgylchu yn ystod cylchdeithiau gan nad ydi’r drysau yn cael eu cau rhwng casgliadau. Cadarnhaodd Pennaeth Adran Priffyrdd, Peirianneg ac Ymgynghoriaeth Gwynedd y byddai hyn yn cael ei drafod gyda’r timau.

 

Trafodwyd effeithlonrwydd peilot y biniau clyfar. Mewn ymateb i ymholiad, mynegodd Pennaeth Adran Priffyrdd, Peirianneg ac Ymgynghoriaeth Gwynedd bod y peilot mewn camau cychwynnol ac nad oedd modd asesu ei effeithlonrwydd ar hyn o bryd. Cadarnhawyd bydd gan yr adran mwy o ddealltwriaeth o ganlyniadau’r peilot wrth iddo barhau.

 

Drwy gydol y drafodaeth diolchwyd i staff y gwasanaeth am eu gwaith da maent wedi ei gwblhau gan dynnu sylw penodol at rhai ardaloedd. Cadarnhaodd Pennaeth Adran Priffyrdd, Peirianneg ac Ymgynghoriaeth Gwynedd byddai diolchiadau a gwerthfawrogiad yr aelodau yn cael eu hadrodd yn ôl i’r holl dimau.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

 

Dogfennau ategol: