Agenda item

Mae Atodiad B a C ar wahân ar gyfer Aelodau’r Cabinet yn unig.

 

Mae’r ddau atodiad yn eithriedig o dan Baragraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 - Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny)

 

Mae cynnwys yr eitem yn cynnwys gwybodaeth masnachol sensitif am elfennau ariannol y prosiect. Mae hyn yn berthnasol i nifer o gartrefi preswyl a nyrsio y sector annibynnol yn benodol Atodiad B a C.

Cyflwynwyd gan:Cyng. Dilwyn Morgan

Penderfyniad:

Cymeradwywyd Achos Busnes Strategol yn Atodiad A.

 

Awdurdodwyd y Pennaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant i gyflwyno’r Achos Busnes Amlinellol Strategol i Lywodraeth Cymru i geisio am £14.6miliwn o arian Cronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ail-gydbwyso Iechyd a Gofal Cymdeithasol (IRCF) i greu datblygiad partneriaeth sector gyhoeddus ar safle Penyberth, Penrhos, mewn partneriaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) a symud ymlaen i ddatblygu Achos Busnes Amlinellol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dilwyn Morgan.      

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd Achos Busnes Strategol yn Atodiad A.

 

Awdurdodwyd y Pennaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant i gyflwyno’r Achos Busnes Amlinellol Strategol i Lywodraeth Cymru i geisio am £14.6miliwn o arian Cronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ail-gydbwyso Iechyd a Gofal Cymdeithasol (IRCF) i greu datblygiad partneriaeth sector gyhoeddus ar safle Penyberth, Penrhos, mewn partneriaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) a symud ymlaen i ddatblygu Achos Busnes Amlinellol.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan ategu bod atodiadau B a C yn atodiadau eithriedig i sylw’r Aelodau Cabinet yn unig. Darparwyd cefndir a chyd-destun i’r adroddiad gan nodi bod Cyngor Gwynedd eisoes yn ddarparwr gofal preswyl ar gyfer trigolion y Sir ac ar hyn o bryd yn darparu 50% o’r ddarpariaeth breswyl i bobl hŷn gyda’r sector annibynnol yn darparu’r gweddill. Ategwyd bod hyn yn rhan bwysig o gyfrifoldeb y Cyngor tuag at drigolion fwyaf bregus y Sir.

 

Ychwanegwyd bod holl ddarpariaeth cartrefi nyrsio'r Sir yn cael ei ddarparu gan y sector annibynnol ar hyn o bryd. Nodwyd bod barn y Llywodraeth o ran yr angen i allanoli darpariaethau yn Genedlaethol wedi newid yn ddiweddar fel sydd wedi ei nodi yn y Papur Gwyn ar Ail-gydbwyso Gofal a Chymorth. Yma nodir y buddion o gael marchnad fwy cytbwys.

 

Eglurwyd bod prinder o welyau preswyl yn Ardal Llŷn ac Eifionydd ers i Gartref Penrhos gau ddechrau Rhagfyr 2020 ac ategwyd nad oes darpariaeth o welyau nyrsio yn ardal Llŷn. Nodwyd y bydd y Bartneriaeth hon yn anelu i gynnig cartref gofal gyda nyrsio, i’w adeiladu ar safle Penyberth, Penrhos er mwyn darparu 32 o welyau preswyl a dementia, ynghyd â 25 o welyau nyrsio gyda 15 o’r rheini yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer gofal nyrsio dementia.

 

Soniwyd am yr heriau enfawr o ran recriwtio a chadw staff yn y maes. Nodwyd y bydd y prosiect yma yn edrych ar arferion gwahanol er mwyn sicrhau staff o ansawdd uchel yn ardal Llŷn.

 

Nododd yr Uwch Ymarferydd Prosiectau bod yr adroddiad yn grynodeb gweithredol o’r achos busnes sy’n cynnwys yr angen am y newid a bod y Cynllun yn cyd-fynd â sawl Strategaeth gan y Llywodraeth. Nodwyd bod y weledigaeth wedi ei chynnwys yn yr adroddiad ar gyfer y safle yn ogystal â beth yw amcanion buddsoddi’r Cyngor.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol bod y cynllun Penrhos yn ei gyfanrwydd yn un cyffrous ac arbennig. Nodwyd bod y ddarpariaeth nyrsio yn cyfarch yr angen lleol, yn enwedig y ddarpariaeth dementia gan fod diffyg darpariaeth o’r fath yn yr ardal yn ogystal â phrinder drwy’r Sir. Ategwyd ei fod yn gynllun blaengar gan y tybiwyd nad oes Cyngor Sir arall drwy Gymru yn rhedeg cartref nyrsio a bod hyn yn cael ei wneud law yn llaw efo’r Bwrdd Iechyd.

 

Cymerwyd y cyfle i ddiolch am y cydweithio efo Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr sydd

wedi llwyr ymrwymo fel partner allweddol yn ogystal â Chymdeithas Dai Clwyd Alyn.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾   Mynegwyd cefnogaeth i’r Achos Busnes a gyflwynir.

¾   Nodwyd bod rhedeg cartref nyrsio yn rhywbeth chwyldroadol nad yw’r Cyngor wedi ei wneud o’r blaen a bod y datblygiad hwn yn un cyffrous.

¾   Croesawyd yr adroddiad a’r bwriad. Mynegwyd teimlad anghyfforddus bod y sector annibynnol yn darparu’r holl ddarpariaeth cartrefi nyrsio'r Sir. Ategwyd y teimlad hwn wrth ystyried yr hyn a nodwyd ar dudalen 25 o’r Achos Busnes Strategol (atodiad A) am y niferoedd sydd ar restrau aros ar gyfer gwlâu preswyl a nyrsio a bod y darlun yn anghyflawn oherwydd nad yw’r Cyngor efo’r ffigyrau ar gyfer gwelyau nyrsio preifat.

¾   Credwyd bod y datblygiad hwn yn un cyffrous yn enwedig am na fydd yn ddatblygiad sydd yn ceisio elwa yn ariannol ond yn hytrach yn un fydd o fudd i’r gymuned.

¾   Nodwyd bod yr adroddiad yn esiampl o gydweithio agos rhwng Cyngor Gwynedd a’r Bwrdd Iechyd sydd yn rhywbeth i’w groesawu.

¾   Mynegwyd bod angen eglurder am y gwasanaeth drwy bwysleisio bod y ddarpariaeth ar gael i drigolion Meirionnydd yn ogystal â thrigolion Llŷn ac Eifionydd. Credwyd bod gwir angen y ddarpariaeth a bod yr angen gwledig yn amlwg oherwydd bod trigolion yn gorfod teithio ymhell o’u cymunedau am y ddarpariaeth.

¾   Mewn ymateb i’r sylw uchod credwyd bod ystyriaethau pellach i’r dyfodol ar gyfer dyblygu’r Cynllun mewn mannau eraill o’r Sir megis Meirionnydd.

¾   Diolchwyd i’r Uwch Ymarferydd Prosiectau am gydlynu’r holl waith a dod a’r cynllun hwn at ei gilydd.

 

 

Awdur:Aled Davies, Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant

Dogfennau ategol: