Agenda item

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Beca Brown

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

 

Cofnod:

Croesawyd yr Aelod Cabinet Addysg a swyddogion yr Adran Addysg i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg, ar gais y pwyllgor, yn cyflwyno gwybodaeth gefndirol am weledigaeth y gyfundrefn addysg drochi, ynghyd â darparu atebion i gwestiynau a dderbyniwyd ymlaen llaw gan y craffwyr ynglŷn â threfniadau’r ddarpariaeth addysg drochi yng Ngwynedd.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun gan nodi fod y ddau gynllun yn ardal Bangor, sef Prosiect Trochi Cyfnod Sylfaen Dalgylch Bangor a Phecyn Cefnogi Dysgwyr Blynyddoedd 5 a 6 i’w hannog i ddewis dilyn llwybr Addysg Gymraeg wrth drosglwyddo i’r Uwchradd yn nalgylch Bangor, yn ddarnau o waith pwysig a phellgyrhaeddol i blant yr ardal honno.  Mynegodd ei hedmygedd o’r gwaith yn y canolfannau iaith, a diolchodd yn swyddogol i’r staff am y gwaith.

 

Dangoswyd fideo byr i’r aelodau yn rhoi blas o’r Cynllun ABERWLA.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

Holwyd ar ba sail y daethpwyd i’r casgliad ei bod yn llesol i beidio trochi plant yn gynnar, ac awgrymwyd bod dod â’r plant sy’n cael eu trochi yn ôl i’r fam ysgol am ddiwrnod bob wythnos yn dadwneud y trochi sy’n digwydd yn y ganolfan iaith am y 4 diwrnod arall.

 

Mewn ymateb nodwyd:-

·         Bod pennaeth ar y fideo ABERWLA yn sôn am fanteision amlwg cael y plant yn dychwelyd i’r fam ysgol am ddiwrnod yr wythnos.

·         Bod y pandemig wedi amlygu pwysigrwydd lles, gan fod plant wedi bod am gyfnodau hir heb gael cymysgu â’u cyfoedion.  Casglwyd y byddai’n syniad da i’r plant sy’n cael eu trochi gael y cyfle i ddal i fyny â’u cyfoedion yn yr ysgolion ar un diwrnod o’r wythnos, ac roedd y trochi’n digwydd mewn cyd-destun gwahanol i raddau yn y fam ysgol, a hynny wedyn yn gynyddol wrth i’r plentyn fynd drwy’r drefn.

·         Bod penaethiaid uwchradd bellach yn adrodd ei bod yn haws perswadio rhieni i anfon eu plant i ganolfannau trochi oherwydd bod y plant hynny yn cadw rhywfaint o gyswllt hefo’u cyfoedion.

·         Mai prosiect newydd yw’r 5ed diwrnod yn yr ysgol, ac yn ogystal â’r manteision yng nghyd-destun llesiant, bod yna fanteision addysgiadol hefyd.

·         Bod y berthynas rhwng staff yr ysgolion a staff y canolfannau sy’n mynychu’r fam ysgol yn wythnosol wedi cryfhau ymhellach o ganlyniad i rannu arferion trochi, rhannu adnoddau a thrafod sut i oresgyn unrhyw heriau mae’r plant yn wynebu yn ôl yn yr ysgol.

·         Bod yr ymweliadau â’r fam ysgol yn amrywio, gyda rhai athrawon yn dymuno i staff y ganolfan aros yn y dosbarth i gefnogi’r gweithgarwch.  Roedd hynny’n annog trafodaeth ar gyrchu dulliau trochi effeithiol, ac roedd yna sefyllfaoedd hefyd lle mae plant yn derbyn sylw un i un, neu mewn grŵp bychan, a bod y plant eraill yn elwa o’r profiad hefyd.

·         Er y manteision, y cydnabyddid bod yna heriau hefyd, ac wrth ddod i ddiwedd tymor cyntaf y drefn newydd, bwriedid casglu barn rhanddeiliaid, gan bwyso a mesur a gwerthuso’r drefn newydd, ac adolygu’r trefniadau os oes angen.

·         Bod dau riant sydd wedi bod â phlant yn rhan o’r hen drefn drochi, yn ogystal â’r drefn newydd, yn canmol y drefn newydd yng nghyd-destun llesiant, gydag un fam yn sôn bod ei phlentyn yn datblygu hyder wrth ddod yn ôl at ei gyfoedion unwaith yr wythnos.

·         Bod gan y plant sgaffaldiau a chefnogaeth yn yr uned, ond gan nad oedd hynny mor amlwg yn yr ysgol, roedd dychwelyd i’r ysgol yn rhoi’r cyfle iddynt ymarfer yr hyn maent wedi dysgu yn yr uned, heb y sgaffaldiau, ac yn gyfle hefyd i’r plant ddatblygu hyder ac annibyniaeth wrth ddod yn siaradwyr newydd.

·         Bod y Gwasanaeth yn mesur cynnydd y plant yn y canolfannau, a bod bwriad hefyd i gymharu’r cynnydd dan y trefniant newydd 4 diwrnod yn erbyn y cynnydd blaenorol dan yr hen drefn 5 diwrnod.

·         O ran y cwestiwn ynglŷn â phlant meithrin, bod ymchwil yn dangos, unwaith y bo unigolyn wedi sefydlu patrwm o gyfathrebu mewn un iaith, ei bod yn anodd iawn newid hynny wedyn.  Roedd y dosbarthiadau cyfnod sylfaen yn trochi plant sy’n dod o gefndiroedd amlieithog, di-gymraeg, ac yn aml iawn plant heb iaith o gwbl.  Gan hynny, roedd yna gyrch dulliau trochi yn digwydd, ac roedd y gyfundrefn wedi cynnal hyfforddiant i’r holl glystyrau o fewn Gwynedd, ar sail clwstwr unigol gyda staff y canolfannau.

·         Y canolbwyntiwyd ar egwyddorion trochi effeithiol yn y cyfnod sylfaen yn benodol ac roedd dilyniant i’r hyfforddiant yma’n cael ei baratoi wrth i fwy a mwy o ddosbarthiadau traddodiadol Gymraeg gyda mwy o gymhlethdod yng nghyd-destun ieithyddol ddod i’r amlwg.

·         Cynhaliwyd yr hyfforddiant ym mis Medi ar ddechrau’r flwyddyn addysgol a bwriedid ail-ymweld â’r sefyllfa a gweld sut mae pethau wedi mynd yn dilyn yr hyfforddiant hwnnw, gweld beth yw’r anghenion a theilwrio cyrsiau, yn y gobaith o ymestyn i ddosbarthiadau blwyddyn 3 hefyd fel rhan o hynny.

 

Awgrymwyd bod symud plant yn ôl i’r fam ysgol am 1 diwrnod yr wythnos yn creu heriau i’r ysgol, gan greu ffrydiau yn y dosbarth, sydd wedyn yn gallu effeithio ar arferiad y Gymraeg oddi fewn i’r dosbarth.  Holwyd beth oedd y meini prawf o ran gallu athrawon yn y cyfnod sylfaen i drochi plant, a pha hyfforddiant oedd ar gael iddynt.

 

Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Na dderbynnid bod symud plant yn ôl i’r fam ysgol am 1 diwrnod yn creu ffrwd o fewn y dosbarthiadau, a bod yr athrawon a’r ysgolion yn canmol y drefn.

·         Bod y trochi yn digwydd yn naturiol yn yr ysgolion i gyd, namyn un ysgol, drwy’r cyfnod sylfaen, a bod y plant yn cwblhau eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg ar ddiwedd eu cyfnod ym Mlwyddyn 2.  Roedd deilliannau Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg yn dangos hynny, a rhaid cofio nad trochi yn y Gymraeg oedd unig swydd athro yn y blynyddoedd cynnar, a’u bod hefyd yn ymdrin â’r Cwricwlwm i Gymru ar draws ehangder y pynciau i gyd.

·         Bod y trochi yn y prif lif yn digwydd yn barhaus drwy gydol y cyfnod sylfaen, a bod hyn yn galw am fuddsoddiad amser a buddsoddiad profiadau cyfoethog trawsgwricwlaidd fel bod y plant yn caffael y Gymraeg yn naturiol.

·         Nad oedd y 10 wythnos yn y ganolfan iaith yn arfogi plant yn llwyr ar gyfer ymdopi â phob agwedd o’r cwricwlwm drwy gyfrwng y Gymraeg.  Cychwyn y daith oedd hyn, ac roedd cyfrifoldeb ar y fam ysgol i ddatblygu ac ymestyn gallu a gafael y plentyn ar yr iaith.

·         Bod pob athro yn yr ysgol yn athro iaith gan fod pob athro yn modelu iaith yn gyson, ac felly roedd pwyslais ar athrawon yn yr ysgolion cynradd i fod yn gwneud hynny, achos bod iaith y plant yn datblygu drwy wrando ac ymarfer yr iaith yn yr ysgol.

·         Y credid bod y drefn newydd yn rhagori ar yr hen drefn o anfon plentyn i’r uned iaith am 10 wythnos lawn, gan fod yna bellach weithio mewn partneriaeth, datblygu perthynas a chydweithio gan fod gan bawb fewnbwn i ddatblygiad ieithyddol y plant.

·         Bod y graddoli yma yn hwyluso’r daith ac yn arfogi’r plentyn i ddatblygu annibyniaeth a hyder, gan hefyd helpu’r athrawon i flaengynllunio a sicrhau bod y plentyn yn parhau ar y daith i gaffael iaith.

·         Bod yr hyfforddiant a ddarperir i athrawon y cyfnod sylfaen ar ddulliau trochi yn effeithiol a llwyddiannus, ac wedi’i seilio ar gyfres o egwyddorion a gynhwyswyd mewn adroddiad gan Estyn ar sail tystiolaeth drwy Gymru gyfan.  Crëwyd cyflwyniad penodol ar yr egwyddorion hynny, gan enghreifftio pob un ohonynt, e.e. sut mae gwneud hyn, beth ydi’r arfer gorau i atgyfnerthu patrwm, ayb.

·         Bod Pennaeth Cyfundrefn Addysg Drochi Gwynedd yn aelod o rwydwaith trochi cenedlaethol a sefydlwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru, ac sy’n gyfle i bawb sy’n ymwneud â throchi yn genedlaethol ddod at ei gilydd yn dymhorol i rannu arferion da.

·         Na honnid bod y sefyllfa’n berffaith, a nodwyd bod yna lawer y gellid ei wneud i rymuso a gwella wrth wrando a rhannu arferion da, cynnal cyfarfodydd staff a chynllunio’n strategol.

 

Mynegwyd cefnogaeth i’r drefn o ddychwelyd i’r fam ysgol ar y 5ed diwrnod ar y sail bod yr athro dosbarth yn gallu asesu datblygiad y plentyn dros y cyfnod, a bod colli’r cyswllt gyda’r athro dosbarth am 10 wythnos yn anodd i’r plant.  Credid hefyd bod y ffaith bod staff y ganolfan drochi yn dod i’r ysgol gyda’r plentyn ar y 5ed diwrnod yn gyfle i’r athrawon yn yr ysgol gael rhannu syniadau ac ymarfer da.  Nodwyd hefyd, gan fod bron pob ysgol gynradd yng Ngwynedd yn gwbl Gymraeg, bod y trochi yn y cyfnod sylfaen yn digwydd yn hollol naturiol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â sefyllfa Ysgol Ein Harglwyddes ym Mangor, eglurwyd bod yr ysgol honno yn y categori trosiannol.  Buddsoddwyd adnodd ychwanegol yno er mwyn gloywi a datblygu’r iaith ymhellach a nodwyd bod yna weddnewid wedi bod yn yr ysgol o ganlyniad i hynny.

 

Ar bwynt o eglurder ynglŷn â’r cyfeiriad at y term ‘ysgolion anstatudol’ yn ail baragraff cymal 4.2 o’r adroddiad, cadarnhawyd fod hynny’n cyfeirio at ganllaw’r Llywodraeth, ac nid at Ysgol Ein Harglwyddes.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â’r cyfeiriad at newid delwedd a diwylliant Ysgol Ein Harglwyddes, nodwyd y derbynnid yn llwyr mai cyfrifoldeb Llywodraethwyr ac Ymddiriedolwyr yr Esgobaeth fyddai hynny.

 

Nododd aelod, er bod rhaid derbyn bod y ddelwedd a’r diwylliant am fod yn wahanol mewn ysgol Gatholig, nad oedd hynny’n golygu na allai’r ysgol symud i gyfeiriad bod yn fwy Cymraeg.  Roedd gan Ysgol Santes Helen, Caernarfon ddelwedd a diwylliant Catholig, a hefyd yn defnyddio’r Gymraeg fel cyfrwng, ond pwysleisiwyd bod rhaid bod yn sensitif wrth ddefnyddio’r math yma o dermau.

 

Nodwyd y derbynnid y sylw yn llwyr ac y byddai’r Gwasanaeth yn gweithredu ar hynny i’r dyfodol.

 

Nodwyd bod ABERWLA yn gynllun gwych a chyffrous iawn, a holwyd a oedd cyfle i ehangu’r dechnoleg realiti rhithwir i weddill y cwricwlwm, gan weithio gyda’r cwmni animeiddio i ddenu rhagor o fuddsoddiad.

 

Mewn ymateb, nodwyd y byddai hynny’n gallu bod yn wych mewn byd delfrydol.  Credid mai’r hwyr-ddyfodiaid yng Ngwynedd oedd y plant cyntaf yn y byd i ddefnyddio’r math yma o dechnoleg i gaffael iaith, ac roedd Llywodraeth Cymru yn canmol yr hyn sy’n digwydd yng Ngwynedd.

 

Awgrymwyd mai’r ffordd orau o annog rhieni i ddewis addysg Gymraeg i’w plant yw drwy ofyn i rieni eraill, sydd eisoes wedi dewis y llwybr hwnnw i’w plant, i rannu ar fideo pam bod y penderfyniad wedi bod yn un da, yn hytrach na bod yr athrawon neu staff y Cyngor yn annog addysg Gymraeg. 

 

Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Y cytunid nad mynnu a gosod safonau monitro di-ben-draw yw’r ffordd o ddwyn pobl i’r gorlan, ac mai dwyn perswâd ac amlygu manteision economaidd bod yn amlieithog yng Nghymru sy’n gweithio orau gyda phlant a’u rhieni.

·         Ei bod yn dalcen caled argyhoeddi’r rhieni bod eu plant yn hyderus yn y Gymraeg a bod y Gwasanaeth yn gweithio gyda’r Nyth a Chwmni’r Fran Wen ym Mangor ar ddatblygu prosiect 2 flynedd, sy’n seiliedig ar waith ymchwil Schools Without Walls, lle mae’r un garfan o blant, yn ystod eu cyfnod ym mlynyddoedd 5 a 6, yn caffael iaith drwy brofiadau cyfoethog creadigol.

·         Y byddai’r Gwasanaeth yn rhannu gwybodaeth gyda’r rhieni am y datblygiad ac am y profiadau mae’r plant yn eu cael drwy gyfrwng y Gymraeg, ac yn ceisio dangos i’r rhieni pa mor hyderus yw eu plant i fod yn gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg.

·         Fel rhan o’r cynllun, byddai cyfle hefyd i’r rhieni ddod i weld eu plant yn cynnal perfformiadau a chyflwyniadau yn hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg.

·         Y gellid manteisio ar y cyfleoedd hynny i ddwyn perswâd ar y rhieni a byddai cael rhieni eraill yn rhannu eu profiad ar fideo yn rhywbeth gwerth chweil ac yn sicr o ddwyn perswâd a dylanwad.

 

Nodwyd:-

·         Y pryderid ynghylch cadarnhau'r arferion ieithyddol yn gynnar, a bod cymal 4.2 o’r adroddiad yn cyfeirio at gynllun eithriadol yn y cyfnod sylfaen.  Wrth i newidiadau demograffig fynd rhagddynt dros gyfnod o ddegawdau, yn amlwg byddai’n rhaid i’r gyfundrefn drochi ymaddasu i ddelio â hynny, a chredid y byddai’r math o gynllun sydd dan sylw yn berthnasol, neu’n mynd i fod yn berthnasol, mewn nifer o ysgolion drwy’r awdurdod ar hyn o bryd, ac yn y man.

·         Y credid bod ffocws yr adroddiad yn ormodol ar y rhai hynny sy’n mynd drwy’r gyfundrefn drochi a’u rhieni, ac nad oes ystyriaeth i weddill y plant a’u rhieni.

·         Bod cymal 3.2 yn sôn am ddarpariaeth addysg gyfunol, sy’n cael ei gydnabod fel arfer rhagorol gan Estyn, ond y pryderid bod peryg’ o greu rhaniad anfwriadol rhwng byd digidol rhithiol Cymraeg a’r byd real Saesneg, hy mai’r Gymraeg fydd iaith y cyfrifiadur, ond mai’r Saesneg fydd iaith y buarth, yn groes i’r byd go iawn lle mae’r Gymraeg yn iaith normal ymwneud wyneb yn wyneb mewn cymdeithas a’r Saesneg yn iaith ymwneud â chyfryngau electronig a digidol.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, nodwyd:-

·         Mai cynllun i ddatblygu iaith y gweithlu mewn sefyllfa unigryw yw Prosiect Trochi Cyfnod Sylfaen Dalgylch Bangor (cymal 4.2 o’r adroddiad), ac na fyddai ei angen mewn unrhyw sefyllfaoedd eraill, gan fod ein hathrawon ni yn siarad Cymraeg.

·         Na chredid bod yr adroddiad yn rhoi lles un garfan o flaen carfan arall o gwbl, a bod y cyfan yn seiliedig ar les pawb. 

·         Na rennid y pryder ynglŷn â chreu rhaniad rhwng byd rhithwir yn y Gymraeg a’r byd go iawn, ac roedd yn ofynnol sicrhau addysg a chyfundrefn sy’n apelgar i blant yr unfed ganrif ar hugain.

·         Ei bod yn hynod bwysig sicrhau ewyllys da rhieni di-gymraeg gan fod hynny yn newid bywydau.

·         Bod rhoi’r cyfle i blant ymarfer eu Cymraeg mewn man rhithiol diogel, cyn camu i’r byd go iawn, yn rhywbeth gwerthfawr iawn. 

·         O ran y sefyllfa ym Mangor, efallai bod yna fwy o ysgolion angen y gefnogaeth a’r ddarpariaeth, a bod Tîm y Gymraeg yn edrych ac yn dadansoddi data o ran hyder iaith plant yn gyson, ac yn adnabod ysgolion sydd, efallai, angen cefnogaeth ychwanegol.

·         Ar wahân i Ysgol Ein Harglwyddes, bod yna 3 ysgol arall yn ardal Bangor yn derbyn cefnogaeth hefyd, a hynny ar sail y dadansoddiad o’r data o ran hyder y plant mewn trafodaethau hefo’r ysgolion.

·         Y ceisid trochi blynyddoedd 2 i 9, cynnig cefnogaeth ôl-ofal i’r plant ar y dyddiau pontio a hyfforddi athrawon.  Nid oedd gan y Gwasanaeth y capasiti i wneud llawer mwy na hynny, ac er y gellid trochi plant meithrin, ni chredid y byddai unrhyw un yn argymell dod â phlant bychan cyfnod sylfaen i uned drochi, gan eu bod yn ddiogel yn eu hysgolion ac yn cael eu trochi yn y cyfnod sylfaen ym mhob ysgol gynradd.

 

Mynegwyd y farn bod y cynllun newydd yn rhagori ar yr hen gynllun mewn nifer o ffyrdd, h.y. trochi mwy o blant, darpariaeth gyfoethocach a mwy diddorol, mwy o leoliadau, gwell trefn llywodraethiant, creu cysondeb a mwy o ystyriaethau i anghenion ehangach y plentyn sy’n cael ei addysgu.  Er hynny, roedd yr hen drefn yn effeithiol am allbynnu plant oedd yn gallu mynd i’r prif lif a chael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.  Ni welid o’r adroddiad bod yna unrhyw beth yn y ddarpariaeth newydd fyddai’n ei gwneud yn llai tebygol bod y drefn newydd am fod yn llwyddiannus, ond holwyd a oedd gennym ffordd o fesur bod y drefn newydd o leiaf gystal â’r hen un.

 

Mewn ymateb, nodwyd:-

·       Bod yna fesurau pendant yn y drefn herio perfformiad mewnol ynglŷn â llwyddiant y drefn.  Byddai’n bosib’, maes o law, cymharu’r deilliant hefo’r deilliannau o dan yr hen drefn, ond cytunid bod y drefn newydd yn fwy cyfoes a pherthnasol i fywydau plant heddiw.

·         Bod cynnydd y plant yn cael ei fesur ar hyn o bryd ar sail lefelau’r Cwricwlwm Cenedlaethol, ond wrth gwrs yn trosglwyddo i fod yn mesur o ran cam cynnydd 1 a cham cynnydd 2.

·         Yr edrychid ar ddatblygiad ieithyddol rhyngbersonol, megis hyder y plant wrth ddefnyddio’r iaith yn gymdeithasol o ran cyfathrebu, yn ogystal â chynnal asesiad cwricwlaidd, h.y. o ran sut mae’r plant yn ymdopi â’r cwricwlwm o ran terminoleg pwnc yn yr uwchradd, ac ati.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â hyblygrwydd y drefn newydd o ran derbyn plant, nodwyd:-

·         Bod yr hyblygrwydd yn dal i fodoli, er bod y drefn yn fwy ffurfiol yn amlwg.  Rhennid dyddiadau’r cwrs a ffurflen gyfeirio gyda’r penaethiaid cynradd ac uwchradd yn dymhorol, cyn i’r fforwm mynediad ystyried a blaenoriaethu plant.  Pwysleisiwyd nad oedd yr un plentyn wedi’i wrthod.

·         Bod mwy o alw yn nhymor yr Hydref gan fod yna fwy o hwyr-ddyfodiaid yn cyrraedd yn ystod yr haf, ond ar adegau llai prysur cynigid lle ar y cwrs i blant nad ydynt yn hwyr-ddyfodiad, ond sy’n dymuno gloywi ac adennill hyder yn yr iaith. 

·         Edrychid hefyd ar sefydlu cyrsiau byr ar gyfer gloywi ac ad-ennill hyder yn ystod pythefnos olaf tymor yr haf (gan y bydd y cwrs arferol 10 wythnos wedi gorffen erbyn hynny) ac yn ystod mis Medi (cyn i’r cwrs 10 wythnos gychwyn ddechrau Hydref) ynghyd â chyrsiau 5 wythnos ar gyfer plant sydd angen hwb ychwanegol.

 

Nodwyd, er bod pob athro yn athro iaith, waeth pa bwnc mae’n dysgu, nad yw pob athro yn athro trochi, a bod angen sgiliau arbennig i ddysgu iaith i blentyn.  Holwyd a geisiwyd barn athrawon trochi arloesol am gyfoesi a moderneiddio’r ddarpariaeth.  Holwyd hefyd sut mae’r Gwasanaeth yn marchnata’r cynllun ac yn ei werthu i rieni.  Nodwyd ymhellach ei bod yn ymddangos bod y gefnogaeth i’r dysgwyr yn ôl yn y fam ysgol ar y 5ed diwrnod yn anghyson, ac nad oedd yr un sgaffaldiau cefnogaeth yn yr ysgol o ran trochi a chaffael iaith.  Yn hytrach na threulio 4 diwrnod yn y ganolfan iaith ac un diwrnod yn ôl yn yr ysgol dros gyfnod o 10 wythnos, holwyd oni fyddai’n well i’r plant gael trochi dwys a llai yn y ganolfan iaith am 5 diwrnod dros 7 wythnos dyweder, gan y byddai hynny’n llai dryslyd i’r disgybl.

 

Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod y drefn newydd yn weithredol ers tymor yn unig, a bod y Gwasanaeth yn dal i edrych ar y ddarpariaeth.  Fodd bynnag, ni chredid bod yna unrhyw dystiolaeth o gwbl bod yna unrhyw beth yn anfoddhaol.

·         Er yn derbyn bod yna wahanol farn ymysg yr aelodau, bod y rhanddeiliaid, yn blant, rhieni ac athrawon yn canmol y drefn newydd 4 diwrnod.  Roedd yn hollbwysig i’r plant gael y cyswllt gyda’r fam ysgol a’u cyfoedion, a chredid bod hynny’n gorchfygu unrhyw ddadl ynglŷn â’u cadw mewn canolfan am 5 diwrnod.

·         Bod Gwenan Ellis Jones (Cydlynydd Siarter Iaith Gymraeg Ysgolion Cynradd Gwynedd ac Ynys Môn) yn cydweithio â’r Gwasanaeth ar egwyddorion trochi, ac y byddai’r Gwasanaeth yn gwerthfawrogi sgwrs gydag arbenigwyr eraill tebyg, a chael eu mewnbwn.

·         O ran marchnata, darparwyd pamffledi, llythyr a chyflwyniad i’r ysgolion eu rhannu gyda’r rhieni, ac roedd bwriad i ymestyn y ddarpariaeth, drwy greu fideo, sy’n cyfleu’r gyfundrefn ar ei newydd wedd.

·         O ran y sylw ynglŷn ag anghysondeb y gefnogaeth yn yr ysgolion ar y 5ed diwrnod, bod y sefyllfa’n amrywio o ysgol i ysgol yn ôl beth mae’r ysgolion hynny yn ystyried fyddai’r gefnogaeth orau i’r plentyn.  Nid oedd hyn yn digwydd ar hap - roedd wedi’i flaengynllunio yn fwriadus, ac yn digwydd mewn ymgynghoriad â staff y canolfannau iaith.

 

Gofynnwyd am ragor o wybodaeth ynglŷn â sut mae’r Gwasanaeth yn darbwyllo rhieni i ddewis llwybr addysg Gymraeg i’w plant wrth drosglwyddo i’r uwchradd yn nalgylch Bangor (cymal 4.3 o’r adroddiad) ac amcan y cyrsiau byr sy’n pontio rhwng y cynradd a’r uwchradd (cymal 5.1).

 

Mewn ymateb, nodwyd:-

·         O ran darbwyllo rhieni, yn ogystal â’r cydweithio gyda’r Nyth a Chwmni’r Fran Wen, y sefydlwyd perthynas gyda Thîm Hunaniaith, sydd eisoes yn gweithio yn yr ardal, a chynhaliwyd cyfarfodydd, e.e. yn y ganolfan yn Ysgol Tryfan ar gyfer rhieni plant sy’n mynychu’r ganolfan. 

·         Y gobeithid ymestyn hyn a chreu cyswllt cryf gyda’r ysgolion cynradd yn y dalgylch drwy gydweithio gyda’r staff a Chwmni’r Fran Wen.

·         Bod y Gwasanaeth hefyd yn gweithio hefo Sbarduno, ac yn datblygu cyfleoedd gwyddonol i’r plant.  Cynhaliwyd gweithdai eisoes ar gyfer pob plentyn blwyddyn 5 a 6 ym Mangor er mwyn datblygu hyder y plant yn y Gymraeg yn drawsgwricwlaidd, yn enwedig yn y gwyddorau, a chafwyd adborth cadarnhaol iawn i hynny.

·         Y cynhaliwyd gweithdy Chwarae yn Gymraeg gyda’r Urdd, gan ddefnyddio Grant Trochi Hwyr Llywodraeth Cymru i hyfforddi plant blynyddoedd 5 a 6 ym Mangor a Thywyn i ddatblygu prosiect chwarae gyda’r plant ieuengach yn yr ysgolion.

·         Drwy gydweithio agos gyda’r ysgolion a thrwy hyrwyddo’r prosiectau, gobeithid gallu dangos i rieni bod gan eu plant y gallu a’r hyder i ddilyn llwybr addysg Gymraeg.  Gobeithid dangos i’r rhieni hefyd bod yna gefnogaeth drochi bellach ar gael i’w plant os ydynt yn dewis y llwybr cyfrwng Cymraeg, ac roedd y ganolfan iaith yn Ysgol Tryfan yn mynd i fod yn adnodd gwerthfawr ar gyfer hynny.

 

Nodwyd bod yr ystadegau niferoedd plant sy’n mynd i loywi iaith (cymal 3.6 o’r adroddiad) mewn canrannau, a holwyd beth oedd yr union ffigyrau.  Mewn ymateb, nodwyd bod 73 o’r dysgwyr wedi mynychu’r unedau iaith yn Nhymor yr Haf 2022, 65 yn Nhymor yr Hydref 2022 a 53 yn Nhymor y Gwanwyn 2023.

 

Awgrymwyd nad oedd yna gysondeb yn strwythur staffio’r gwahanol ganolfannau iaith, a bod yna lai o staff arbenigol yn y canolfannau nag yn y gorffennol.  Pryderid bod y penderfyniadau staffio yn doriadau cyllidol, yn hytrach nag yn rhywbeth sydd o fudd, nid yn unig i’r plant sy’n cael eu trochi, ond i’r plant eraill hefyd.  Ychwanegwyd na welid tystiolaeth glir o adroddiadau sy’n adrodd bod y drefn yn llwyddiannus, a phryderid bod ansawdd y gwasanaeth mewn peryg’ o lithro.

 

Mewn ymateb, eglurwyd:-

·         Nad oedd y penderfyniadau staffio yn benderfyniadau cyllidol, ac na dderbynnid y ddadl bod raid cael 2 athro mewn un ganolfan.

·         Bod y gweithlu’n hyblyg a’r system yn hyblyg i fynd i le mae’r galw fwyaf.

·         O ran y gweithlu, bod y strwythur newydd yn darparu pennaeth a dirprwy i’r gyfundrefn, ynghyd ag athrawes a chymhorthydd lefel 4 ymhob canolfan, a bod y cymorthyddion hefyd wedi’u trochi yn yr egwyddorion.

·         O dan yr hen drefn, roedd y staff yn ynysig iawn, ond o dan y gyfundrefn newydd roedd yna un strwythur, arweiniad clir, rhaglen waith, cyfle i rannu arferion da ac i ymgymryd â datblygiad proffesiynol parhaus.

·         Bod staff y canolfannau yn gweithredu fel ysgol bellach, gyda chynllun strategol a chynllun gwella yn eu lle, a bod yna gamau gweithredu pendant er mwyn sicrhau ein bod yn cyflwyno’r dulliau trochi mwyaf effeithiol yn y gyfundrefn.

·         Nad oedd y gwasanaeth wedi crebachu, a bod gennym bellach fwy o ganolfannau, sy’n gwasanaethu mwy o blant.  Hefyd, o ganlyniad i adolygu’r drefn, roedd bellach yn bosib’ rhedeg system drochi yn ystod 3 tymor y flwyddyn, lle nad oedd hynny’n bosib’ yn y trydydd tymor yn y gorffennol.

 

Nodwyd yr edrychid ymlaen at weld y ganolfan yn Nhywyn yn agor yn fuan.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

 

 

Dogfennau ategol: