Agenda item

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

 

Cofnod:

Croesawyd yr Arweinydd a swyddogion Uchelgais Gogledd Cymru i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd adroddiad yr Arweinydd ar berfformiad Chwarter 3 2022-23 Cynllun Twf Gogledd Cymru, yn unol â chais y pwyllgor.

 

Gosododd yr Arweinydd y cyd-destun drwy gyflwyno diweddariad byr ar waith y Cynllun Twf, rhywfaint o’r cefndir i sefydlu Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ynghyd â manylion y gwahanol gynlluniau sy’n berthnasol i Wynedd.  Yna rhoddodd y Pennaeth Gweithrediadau drosolwg o’r Cynllun Twf a phrif uchafbwyntiau 2022-23.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

Holwyd sut y bwriadai’r Bwrdd Uchelgais ffurfio polisi iaith ar gyfer prosiect Trawsfynydd er mwyn sicrhau na fydd y datblygiad a’r gweithlu yn Seisnigeiddio’r ardal.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod hwn yn brosiect sy’n llwyr ddibynnol ar fuddsoddiad Llywodraeth y DG, ac nad oedd yna unrhyw bendantrwydd ynglŷn â hynny.

·         O safbwynt polisi iaith, y byddai cwmni Egino yn cynnal gweithdy yn fuan i edrych ar y buddion cymdeithasol, gan gynnwys y buddion ieithyddol.

 

Nodwyd mai’r risg mwyaf o ran cyflawni amcanion y Cynllun Twf yw sicrhau buddsoddiad sector gyhoeddus a phreifat, a holwyd pa gamau y bwriedid eu cymryd petai capasiti’r sectorau hynny i fuddsoddi yn lleihau dros y blynyddoedd nesaf oherwydd y sefyllfa ariannol sydd ohoni.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod amgylchiadau economaidd wedi newid yn ddirfawr ers i’r Cynllun Twf gael ei gytuno yn 2020, a bod yr argyfwng ariannol yn her sy’n cael ei osod o’n blaenau yn gyson lle mae cyfraniad gan y sector breifat.

·         Bod y Bwrdd Cyflawni Busnes, sydd â chynrychiolwyr o’r sector breifat, yn cyfarfod i drafod prosiectau yn gyson, dan arweiniad Askar Sheibani, sy’n rhedeg ei fusnes digidol rhyngwladol ei hun ac sy’n hynod frwdfrydig dros Ogledd Cymru gyfan.

·         Mai’r unig sicrwydd y gellid ei roi ar hyn o bryd oedd bod hwn yn fater sy’n cael sylw, a chredid bod yna awydd ymysg y sector breifat i fuddsoddi, cyhyd â bod yr amgylchiadau’n iawn.

·         Bod Swyddfa Rhaglen Uchelgais Gogledd Cymru yn gweithio’n agos iawn gyda’r sector breifat ar brosiectau penodol, a bod y sector yn edrych i fuddsoddi ar hyn o bryd. 

·         Y cydnabyddid bod risg y gallai’r capasiti i fuddsoddi newid dros y blynyddoedd i ddod, ac roedd y Swyddfa Rhaglen yn gweithio’n agos iawn gyda’r 2 Lywodraeth ar hyn.  O bosib’ y byddai angen mwy o fuddsoddiad sector gyhoeddus petai’r buddsoddiad sector preifat ddim yna, ond ar hyn o bryd, roedd y sefyllfa’n edrych yn weddol bositif.

·         Bod y Swyddfa Rhaglen yn datblygu strategaeth gyda’r Bwrdd Cyflawni Busnes i sicrhau bod modd dod â’r strategaeth yma ymlaen, ac un o’r pethau penodol a wnaethpwyd fel rhan o’r galw am brosiectau newydd i’r gronfa £30m oedd rhoi pwyslais cryf ar allu busnesau i fuddsoddi fel rhan o’r broses yma.

·         Bod hyn yn ganran fawr o beth fydd yr asesiad fel bod modd sicrhau bod unrhyw brosiectau sy’n dod ymlaen yn gallu symud yn gyflym i gyflawni.  Gobeithid y byddai hynny’n lleihau rhai o’r risgiau, ond y risg mwyaf i allu cyflawni buddion y Cynllun Twf oedd dod â’r arian ymlaen i fuddsoddi yn y prosiectau yma, a byddai hynny’n risg dros gyfnod y cynllun i gyd.

 

Awgrymwyd bod y Cynllun Twf yn ymddangos fel Cynllun yr A55, a holwyd a fyddai Meirionnydd yn elwa o unrhyw gynlluniau, heblaw prosiect Trawsfynydd.

 

Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Nad Cynllun yr A55 ydoedd yn sicr, a’r nod sylfaenol oedd bod unrhyw gyfoeth a grëir allan o’r Cynllun Twf yn cael ei rannu ar draws y rhanbarth cyfan.

·         Er bod rhai cynlluniau yn rhai daearyddol, bod nifer o’r prosiectau yn rhai digidol, a bod hynny’n hynod bwysig i ardaloedd gwledig o ran cael mynediad rwydd at wasanaethau digidol.

·         Nad oedd yna gynlluniau penodol eraill ym Meirionnydd dan y Cynllun Twf, ond roedd yna gronfeydd eraill mwy lleol y gallai ardaloedd gwledig fanteisio arnynt, megis y Gronfa Ynni Cymunedol. 

 

Nodwyd bod yr Arweinydd yn siŵr o forol a brwydro i gael swyddi i Ddwyfor a Meirionnydd a dymunwyd y gorau i bob prosiect.

 

Gan gyfeirio at y Tabl Olrhain – Trosolwg o gyflawni (Rhagfyr 2022) ar dudalen 32 o’r rhaglen, gofynnwyd am ragor o fanylion a mwy o bendantrwydd ynglŷn â faint yn union o swyddi sydd wedi’u creu hyd yma.

 

Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod y tabl yn dangos y targedau unigol ar gyfer y prosiectau sy’n creu’r swyddi newydd tuag at y targed o 4,200.

·         Mai’r unig brosiect byw hyd yma oedd y Ganolfan Prosesu Signal Digidol, oedd wedi esgor ar 6 swydd newydd ym Mhrifysgol Bangor.

 

Nodwyd mai un o’r risgiau mwyaf sy’n wynebu’r Bwrdd Uchelgais yw bod costau prosiectau yn cynyddu a holwyd faint o’r arian ychwanegol i’r £30m yma fydd yn cael ei wireddu yng Ngogledd Orllewin Cymru.  Awgrymwyd bod cyfle i Wynedd gynnig prosiectau arloesol yn sgil tynnu prosiectau Safle Strategol Allweddol Bodelwyddan a Fferm Sero Net Llysfasi yn ôl o’r Cynllun Twf, a holwyd a oedd trafodaeth yn cael ei chynnal ar hyn.

 

Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Wedi i’r cyfnod cyflwyno ceisiadau ddod i ben ar 27 Mawrth, y byddai Tîm y Swyddfa Rhaglen yn sgorio’r prosiectau ar sail ymarferoldeb, pa mor fuan y gellir eu gweithredu a faint o swyddi fydd yn cael eu creu.

·         Ei bod yn hysbys eisoes y byddai un neu ddau o brosiectau i Wynedd yn cael eu cyflwyno, a diau y byddai rhagor yn dod i’r amlwg erbyn y dyddiad cau.

·         Nad oedd y dull o asesu ceisiadau yn cyfeirio at eu safle daearyddol.  Gobeithid y byddai’r prosiectau’n rhychwantu holl siroedd y Gogledd, ond roedd y tensiwn rhwng y budd rhanbarthol a’r budd penodol lleol yn rhan o’r drafodaeth galed y byddai’n rhaid i’r 6 Arweinydd ei chael er mwyn dod i ryw fath o gonsensws gwleidyddol ar y mater.

 

Croesawyd y ffaith bod prosiect Parc Bryn Cegin Bangor yn symud yn ei flaen o’r diwedd, ond gan fod gobeithion wedi’u codi droeon yn ystod yr 20 mlynedd ddiwethaf, holwyd a oedd yna gynllun gwirioneddol bellach i ddenu swyddi da i’r unedau fydd yn cael eu hadeiladu ar y safle.  Holwyd hefyd a oedd perygl bod yr holl gynllun yn y fantol bellach yn sgil y cyhoeddiad diweddar ynglŷn â sefydlu Porthladd Rhydd yng Nghaergybi.

 

Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Ei bod yn rhwystredig nad oedd unrhyw ddatblygiad wedi digwydd ym Mharc Bryn Cegin hyd yma, ond bod cynnydd da yn cael ei wneud gyda Llywodraeth Cymru yn nhermau’r cyd-fenter.

·         Bod y risg ariannol wedi’i lliniaru, gyda darpariaeth yn y cytundeb bod Llywodraeth Cymru yn gwneud cyfraniad ariannol ychwanegol petai’r costau adeiladu yn mynd uwchlaw lefel benodol.

·         Y byddai Llywodraeth Cymru yn mynd allan i dendr o fewn yr wythnos nesaf i benodi tîm proffesiynol i arwain ar y gwaith.

·         Y rhagwelid y byddai hawl cynllunio ar y safle erbyn diwedd y flwyddyn, gyda’r Achos Busnes Terfynol ar y ffordd i gael ei gymeradwyo’n derfynol gan y Bwrdd.

·         Y disgwylid y byddai’r prif gontractwr ar y safle erbyn diwedd Chwarter 1 2024, neu o bosib’ yn gynnar yn Chwarter 2 2024, gyda’r gwaith adeiladu yn cael ei gwblhau tuag at ddiwedd 2024, neu’n gynnar yn 2025.

·         Y credid bod yna gryn alw am y math yma o unedau gan fusnesau lleol a mentrau bach a chanolig yn ardal Gogledd Orllewin Cymru yn bennaf.  Credid bod yna alw gan gwmnïau sy’n dymuno ehangu, felly, ar y cyfan, byddai llawer o’r swyddi fyddai’n cael eu creu yn swyddi gwerth uwch.

·         Yr anelid at greu swyddi fydd yn cynnig cyflogau da a chyfleoedd hyfforddi da, gyda’r buddion o’r gwaith adeiladu a’r swyddi fydd yn cael eu creu ar y safle wedi’u canolbwyntio’n bennaf yn ardal Bangor.

·         Bod £6m o arian y Cynllun Twf yn cael ei fuddsoddi ym Mharc Bryn Cegin, ond gan fod costau adeiladu wedi bod mor gyfnewidiol yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf, ac er mwyn lliniaru’r risg ariannol i’r holl bartneriaid, y darparwyd yn y cytundeb bod Llywodraeth Cymru yn cyfrannu’n ychwanegol tuag at yr ariannu cyfalaf. 

·         Ei bod yn anodd rhagweld ar hyn o bryd beth fyddai effaith y cyhoeddiad ynglŷn â’r Porthladd Rhydd, ond ni ddisgwylid y byddai hyn yn fygythiad uniongyrchol i fusnesau presennol yn ardal Bangor, gan ei fod yn fwy tebygol o effeithio ar fuddsoddiad o’r tu allan.

·         Er i ni gefnogi’r cais Porthladd Rhydd, bod y cwestiwn ynglŷn â cholli busnesau i Ynys Môn, oherwydd yr amgylchedd gwell fydd yno, yn un amlwg ac yn fater i gadw golwg arno.

 

Ar bwynt o eglurder, gofynnwyd am gadarnhad mai cyfanswm y gwariant ym Mharc Bryn Cegin yw £6m, ac nad oes yna arian cyfatebol, heblaw am yr ychwanegiadau petai’r costau’n fwy na’r disgwyl.  Hefyd, er y nodwyd na chredir y byddai’r Porthladd Rhydd yn fygythiad i’r busnesau presennol ym Mangor, y pryderid y byddai unrhyw fuddsoddiad newydd yn mynd i Ynys Môn.  Holwyd hefyd a edrychwyd ar broffil gwariant y Cynllun Twf a beth yw’r goblygiadau ar y cynghorau ynglŷn â thaliadau i wasanaethu unrhyw fenthyciadau fyddai’n rhaid eu gwneud.

 

Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Y byddai Llywodraeth y DG yn talu dros 10 mlynedd, yn hytrach na dros y cyfnod 15 mlynedd y cytunwyd arno’n wreiddiol.  Roedd hyn o gymorth mawr i’r proffil gwariant, ac yn fater sy’n dod i fyny wrth drafod cyllid y Bwrdd Uchelgais.

·         Mai £6m yw cyfraniad y Cynllun Twf i’r datblygiadau ym Mharc Bryn Cegin, ac un o’r risgiau mwyaf a welwyd dros y blynyddoedd diwethaf yw’r cynnydd mewn cost.  Gobeithid bod y costau hynny’n dechrau setlo erbyn hyn, ond bu’n fygythiad sylweddol i nifer o’r prosiectau, a dyna pam y bu’n rhaid rhoi arian ychwanegol i 3 prosiect.

·         Bod proffil gwario a benthyciadau’r cynghorau yn cael ei adolygu yn flynyddol a bod yna nifer o ffactorau sy’n gallu effeithio beth fydd y costau benthyg i’r partneriaid.

·         Bod y costau yn cael eu rhannu rhwng y cynghorau a’r partneriaid eraill, y prifysgolion a’r colegau hefyd.

·         Ein bod yn elwa’n ariannol o’r sefyllfa ar hyn o bryd gan fod yna oedi wedi bod yn y proffil gwariant.  Roedd yr arian sydd wedi dod o’r 2 Lywodraeth yn ennill llog, sy’n mynd i helpu gyda’r risg o’r costau yn cynyddu yn y blynyddoedd i ddod.  Wrth symud o sefyllfa lle mae gennym arian yn y banc i sefyllfa o fod angen benthyg, byddwn yn teimlo hynny o ran costau uwch, ond roedd y sefyllfa’n dipyn mwy positif ar hyn o bryd nag a fodelwyd ar gychwyn y Cynllun Twf yn 2020 oherwydd bod yr arian yn dod yn gynt gan Lywodraeth y DG, ac oherwydd yr oedi a’r llog sy’n cronni.  Roedd y sefyllfa’n cael ei adolygu’n flynyddol gyda’r bwriad, lle gellid, o gadw unrhyw gostau benthyg i’n partneriaid mor isel â phosib’.

 

Gan gyfeirio at y Cynllun Ynni Blaengar, nodwyd bod angen buddsoddi llawer mwy mewn is-adeiladwaith cyn gallu gweithredu prosiectau o’r fath.

 

Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Y cytunid mai’r cyfyngiadau o ran y grid, neu gostau cysylltu â’r grid, yw un o’r prif rwystrau i alluogi cynlluniau o’r fath i ddod yn eu blaenau.

·         Mewn theori, y gallai’r buddsoddiad a wneir yma gael ei ddefnyddio i ddarparu is-adeiladwaith i alluogi i brosiectau ddigwydd mewn dull tebyg i’r hyn sy’n cael ei fuddsoddi yn y Prosiect Morlais i gefnogi’r isadeiledd sy’n galluogi i’r egni llanw gael ei ddal.

 

Holwyd i ba raddau y gellid bod yn gyffyrddus bod trwch y swyddi sy’n deillio o’r Cynllun Twf yn mynd i fod yn swyddi ar gyfer pobl leol, yn hytrach na’u bod yn darparu cyfleoedd ar gyfer poblogaeth o’r tu allan.  Awgrymwyd hefyd bod angen cynllunio hyfforddiant a llwybrau gyrfa ar lefel micro, fel ein bod yn edrych bron ar yrfaoedd unigolion yma.

 

Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod y gymuned gynhennid yn llawn entrepreneuriaid, er gwaethaf y tueddiad cyffredinol i feddwl nad yw’r Cymry Cymraeg gwledig yn gallu arloesi eu hunain a bod yn flaengar. 

·         Bod angen creu’r cyfleoedd i’r entrepreneuriaid hynny flodeuo, ac o safbwynt sgiliau, bod hyn yn dod i lawr i’r micro bron, ac yn cael ei ddarparu gan bobl yn lleol iawn.  Pe na roddid cyfleoedd i bobl, ni fydd yma bobl i siarad Cymraeg.  Roedd rhaid bod yn hyderus ar gyfer y dyfodol, a hyderid y byddai ein pobl gynhennid yn gafael yn y cyfleoedd sydd ar gael.

 

Nodwyd nad oedd sôn am y Bwrdd Uchelgais yn unman, e.e. Newyddion Busnes y Daily Post, Golwg, Newyddion Gwynedd, ayb, ac awgrymwyd bod angen i Uchelgais Gogledd Cymru wneud mwy i farchnata eu hunain i bobl Gwynedd.  Holwyd hefyd a oedd yna banel o bobl busnes llwyddiannus yn edrych yn wrthrychol ar gynlluniau’r Bwrdd i roi barn broffesiynol ar hyfywedd cynlluniau.

 

Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod y Bwrdd Cyflawni Busnes yn herio’r prosiectau’n fanwl. 

·         Ei bod yn anodd casglu barn busnesau micro, ac efallai y dylid ystyried ffyrdd mwy arloesol o gysylltu gyda’r busnesau bach hynny.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth, nododd yr Arweinydd:-

·         Mai Cyngor Gwynedd sy’n lletya gwaith y Bwrdd Uchelgais, ond y byddai gwaith y Bwrdd yn trosglwyddo cyn hir i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig, ac roedd yn mawr obeithio na fyddai gwaith y Bwrdd yn cael ei lesteirio mewn unrhyw fodd drwy’r symudiad statudol hwnnw.

·         Bod rôl Cadeirydd y Bwrdd Uchelgais yn fwy na chadeirio cyfarfodydd y Bwrdd yn unig, a’i fod yn cael ei weld fel cynrychiolydd y Gogledd mewn cyfarfodydd rhanbarthol a chenedlaethol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Arweinydd a’r swyddogion gan nodi fod pawb yn falch o weld rhai o’r prosiectau yn cychwyn ac yn dwyn ffrwyth.  Nododd hefyd y bydd yn ddiddorol gweld pa brosiectau newydd ddaw gerbron y Tim Rheoli Rhaglen yr wythnos nesaf, a mynegodd ei gobaith y bydd yna gynlluniau fydd o fudd i Wynedd, ac i Dde Meirionnydd.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

 

Dogfennau ategol: