Cyflwyno
adroddiad ar y cyd gan y Rheolwr Democratiaeth ac Iaith, y Pennaeth Cynorthwyol
Cefnogaeth Gorfforaethol a’r Swyddog Hyfforddiant Aelodau.
Penderfyniad:
Derbyn
yr adroddiad er gwybodaeth.
Cofnod:
Cyflwynwyd –
adroddiad ar y cyd gan y Rheolwr Democratiaeth ac Iaith, y Pennaeth Cynorthwyol
Cefnogaeth Gorfforaethol a’r Swyddog Hyfforddiant Aelodau yn manylu ar y
gefnogaeth sydd ar gael i gynghorwyr, ynghyd â diogelwch cynghorwyr.
Yn ystod y
drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-
·
Nodwyd
bod yr aflonyddu o’r oriel gyhoeddus yn ystod y Cyngor Arbennig ym mis Awst y
llynedd, a’r sylwadau a gafodd eu gwneud ar y cyfryngau cymdeithasol yn dilyn
hynny, wedi gwneud i aelodau deimlo dan fygythiad, a’i bod yn gysur bod y
Cyngor yn cymryd y materion diogelwch hyn o ddifri’.
·
Nodwyd
ei bod yn dda iawn gweld bod mwy o gyhoeddusrwydd yn cael ei roi i iechyd
meddwl aelodau a staff, a’r gefnogaeth sydd ar gael iddynt.
·
Holwyd
pwy sy’n cynnal yr asesiadau risg ar gyfer cyfarfodydd aml-leoliad, a beth
ydi’r canllawiau ar gyfer hynny. Mewn
ymateb, eglurwyd bod y Rheolwr Gwasanaethau Democratiaeth ac Iaith yn cychwyn
yr asesiad, ac yn rhannu’r wybodaeth gyda thîm o bobl, gan ystyried pa
amgylchiadau posib’ sy’n hysbys, neu beth allai ddatblygu. Nodwyd ymhellach bod y Gwasanaeth Iechyd a
Diogelwch wedi bod yn edrych ar y trefniadau sylfaenol ddylai fod mewn
llaw. Roedd rhai materion yn bethau mwy
strwythurol yn ymwneud â’r ystafell gyfarfod, ac eraill yn faterion rheolaethol. Gofynnid i aelodau’r cyhoedd adael eu bagiau
yn y loceri y tu allan i Siambr Dafydd Orwig, a
nodwyd bod mwy o waith i’w wneud ar ddyluniad yr oriel gyhoeddus yn y
Siambr. Y tu hwnt i hynny, byddai’n
fater o uchafu’r sefyllfa wrth i ni ddod yn ymwybodol o fygythiadau penodol,
neu fod yna faterion cynhennus yn codi, er, wrth gwrs, nad oedd bob amser yn
amlwg ymlaen llaw bod mater am fod yn un cynhennus.
·
Nodwyd
bod cyfrifoldeb ar aelodau i drafod materion sensitif mewn ffordd gall a
chymedrol, gan ddefnyddio iaith weddus, ac i gadw o fewn gofynion y Cod
Ymddygiad.
·
Croesawyd
y loceri y tu allan i Siambr Dafydd Orwig, ond nodwyd
bod yr aelodau hynny sy’n eistedd yn rhes gefn y Siambr yn teimlo’n
ddiamddiffyn, a bod angen rhwystr mwy sylweddol na rhaff rhwng yr aelodau a’r
cyhoedd yn yr oriel gyhoeddus.
·
Pwysleisiwyd
pwysigrwydd diogelwch personol aelodau allan yn eu wardiau, a chadarnhawyd bod
hynny’n rhan o’r hyfforddiant Arwain yn Ddiogel erbyn hyn, sydd hefyd yn
cyfarch materion diogelwch yn ystod cyfnod etholiad ac mewn syrjeris,
ynghyd â chyngor ymarferol ynglŷn ag ymweld â chartrefi etholwyr. Nodwyd hefyd bod gan Gymdeithas Llywodraeth
Leol Cymru ganllawiau da iawn ar ddiogelwch personol, a’u bod ar gael ar y
deilsen ‘Edrych ar ôl eich hun’ ar y Fewnrwyd Aelodau.
·
Gan
gyfeirio at y sylw ym mharagraff 15 o’r adroddiad y dylai aelodau holi’r Cymorthyddion Grwpiau Gwleidyddol, ymysg eraill, am
wybodaeth am gynnwys y Fewnrwyd Aelodau, nodwyd bod yna grwpiau llai ar y
Cyngor, sydd heb gefnogaeth wleidyddol, a’u bod hwythau angen y neges yn
ogystal.
·
Gan
gyfeirio at y Cyngor Arbennig a gynhaliwyd fis Awst diwethaf, awgrymwyd nad
oedd yn ddemocrataidd bod cyn lleied â 5 aelod o’r Cyngor yn gallu galw
cyfarfod arbennig o’r Cyngor llawn, a holwyd oni ddylai’r trothwy fod yn uwch. Mewn ymateb, eglurwyd bod materion
cyfansoddiadol yn derbyn sylw ar hyn o bryd, ac y byddai’r awgrym yn cael ei
basio ymlaen i’r Swyddog Monitro.
Nodwyd, fodd bynnag, bod yr asesu yn digwydd a bod cadeiryddion yn cael
eu briffio ymlaen llaw.
·
Nodwyd
ei bod yn bwysig bod pawb yn gwybod am y gefnogaeth sydd ar gael, ac anogwyd
pob aelod i fynychu’r cwrs gwych ar y pwnc sy’n cael ei gynnal gan Gymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru.
·
Nodwyd,
er bod rhaid bod yn wyliadwrus o ran y sefyllfaoedd all godi mewn cyfarfodydd
cyhoeddus, bod rhaid gochel rhag gor-ymateb a chodi
ofn ar y cyhoedd.
·
Mewn
ymateb i gwestiwn ynglŷn â rheoli’r loceri y tu
allan i Siambr Dafydd Orwig, eglurwyd bod y swyddogion y Gwasanaeth
Democratiaeth a’r Gwasanaeth Iechyd a Diogelwch yn croesawu ac yn hebrwng y
cyhoedd i mewn i’r cyntedd, yn esbonio’r trefniadau ac yn gofyn iddyn nhw roi
eu bagiau yn y loceri.
·
Nodwyd
bod y swyddogion wedi gweithredu’n sydyn iawn adeg yr aflonyddu o’r oriel
gyhoeddus ym mis Awst, a bod diogelwch y swyddogion yn bwysig hefyd. Ategwyd y sylw a phwysleisiwyd bod diogelwch
pawb sy’n rhan o’r cyfarfod yn bwysig, yn aelodau, swyddogion, y cyhoedd ac
aelodau’r wasg.
PENDERFYNWYD
derbyn yr adroddiad er gwybodaeth.
Dogfennau ategol: