Agenda item

Cyflwyno adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau.

Penderfyniad:

Nodi a derbyn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiadau isod, a gwahoddwyd yr Aelodau i gynnig sylwadau am eu cynnwys a gofyn cwestiynau.

 

Adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau yn rhoi diweddariad cryno i’r pwyllgor ar faterion yr harbwr ar gyfer y flwyddyn a ddaw i ben Mawrth 2023.

 

Angorfeydd Aberdyfi a Chofrestru Cychod

 

·        Adroddwyd y byddai Aberdyfi Marine Services yn darparu gwasanaeth contractio angorfeydd newydd eleni. Eglurwyd bod y gwasanaeth hwn yn ychwanegol i’r gwasanaeth angori sy’n cael ei ddarparu ar hyn o bryd gan gwmni Underwater Maintenance and Inspections Services, sydd wedi bod yn weithredol yn Harbwr Aberdyfi ers sawl blwyddyn.

·        Cadarnhawyd byddai’r system gofrestru Cychod Pŵer a Chychod Dŵr Personol Cyngor Gwynedd yn parhau i gael ei weinyddu drwy drefniant ar-lein. Ychwanegwyd bydd modd i gwsmeriaid defnyddio system ar-lein er mwyn talu am eu hangorfa.

 

Côd Diogelwch Morol Phorthladdoedd

 

·        Adroddwyd bydd Cod Diogelwch Morol yr harbwr yn cael ei adolygu eleni yn ogystal â datblygu asesiadau risg newydd yn sgil datblygiadau wal cei newydd ar gyfer yr harbwr.

·        Eglurwyd bydd ‘Merchant Shipping (Watercraft) Order 2023’ yn dod yn weithredol ar 31 Mawrth eleni. Bydd y ddeddfwriaeth hon yn sicrhau bod perchnogion badau dŵr personol yn defnyddio’u peiriannau yn ddiogel. Ymhelaethwyd bod swyddogion yr harbwr yn cydweithio’n agos gyda Heddlu Gogledd Cymru er mwyn sicrhau dealltwriaeth o brosesau perthnasol yn sgil cyflwyno’r ddeddfwriaeth hon.

o   Mewn ymateb i ymholiad ar hyfforddiant badau dŵr personol, cadarnhawyd gan Harbwrfeistr Aberdyfi bod hyfforddiant ‘Waterwise Marine’ ar gael ym Mhwllheli a Phorthmadog. Ymhelaethwyd na fyddai badau dŵr personol yn gallu cael eu lansio o’r harbwr os nad oedd yswiriant dilyn arno. Er hyn, cadarnhawyd nad oedd yn ofynnol i berchnogion brofi eu bod wedi hyfforddiant ar sut i’w drin yn gywir.

o   Pwysleisiwyd pwysigrwydd bod unigolion yn cymryd rhif cofrestru unrhyw badau dŵr personol maent yn gweld yn torri rheolau a’u riportio i staff yr harbwr.

o   Rhoddwyd ystyriaeth i harbyrau ac awdurdodau cyfagos. Nodwyd er nad oes modd atal unigolion rhag lansio eu badau personol tu hwnt i’r harbwr, mae cwch yr harbwr yn teithio rhwng Tywyn ac Aberdyfi er mwyn annog pobl i aros yn saff a rhannu gwybodaeth. Nid oes sicrwydd os oes rheolau llym ar gofrestru badau dŵr personol yng Ngheredigion ar hyn o bryd ond gobeithir parhau i gydweithio gyda’r awdurdod i’w annog i’w fabwysiadu.

o   Soniwyd bod hyfforddiant padl fyrddau ar gael yn y Clwb Hwylio. Er hyn, pwysleisiwyd ei fod yn hawdd iawn i unrhyw unigolyn brynu padl-fwrdd ac felly mae’n rhaid bod yn wyliadwrus o’u defnyddwyr.

 

Materion Staffio

 

·        Croesawyd y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol i’r cyfarfod a llongyfarchwyd ar ei benodiad diweddar.

·        Adroddwyd nad oedd newidiadau ar faterion staffio yn y cyfnod diwethaf a chadarnhawyd bod yr Harbwrfeistr a’i gymhorthydd wedi ymgymryd â rhaglen o waith cynnal a chadw dros y gaeaf.

 

Materion Ariannol

 

·        Adroddwyd bod gorwariant wedi bod mewn rhai meysydd eleni megis costau staff a chostau’r cwch a cherbydau. Er hyn, mae tanwariant wedi bod  ym meysydd eiddo ac offer a chelfi. Cadarnhawyd bod £10,251 o incwm ychwanegol wedi cyrraedd yr harbwr eleni i’r hyn a rhagdybiwyd ar ddechrau’r flwyddyn ariannol. Ystyriwyd bod yr incwm hwn ar gyfer yr harbwr yn deillio o newid diweddar mewn prisiau yn ogystal â mwy o ddefnydd cyffredinol i’r harbwr.

·        Cadarnhawyd y rhagwelir tanwariant o £13,773 yn y flwyddyn ariannol hon. Er hyn, cadarnhawyd bod modd i’r cyfanswm hyn ddiwygio.

·        Eglurwyd mai’r bwriad yw cadw’r arian o’r tanwariant hwn yn yr ardal ond nid ellir rhoi sicrwydd bod modd gwneud hyn. Manylwyd bod rhaid i’r swyddogion edrych ar sefyllfa harbyrau eraill y sir cyn gwneud penderfyniad. Atgoffwyd yr aelodau mai dyma’r trefniant ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ddiwethaf pan wnaeth yr harbwr dderbyn £14,000 o harbyrau eraill i gynorthwyo gyda chostau eiddo.

·        Rhoddwyd manylder ar ffioedd yr harbwr am y flwyddyn ariannol nesaf. Manylwyd bod ffioedd yn cynyddu yn unol â chyfraddau chwyddiant y wasgfa ariannol bresennol o 8.5%. O ganlyniad, cadarnhawyd bod targedau incwm yr harbwr wedi cynyddu 8.5% hefyd. Cadarnhawyd rhai o ffioedd eraill yr harbwr:

o   Ffi cofrestru badau pŵer am flwyddyn - £60 (cynnydd o £10)

o   Ffi lansio blynyddol (gan gynnwys ffi cofrestru) - £170 (cynnydd o £20)

o   Ffioedd lawnsio - £20

o   Ffioedd lawnsio cychod llai nag 10hp - £35 (cynnydd o £5)

 

Adroddiad yr Harbwr Feistr yn crynhoi’r materion Mordwyo a Gweithredol a wnaed ac a brofwyd yn y cyfnod rhwng mis Hydref 2022 a Mawrth 2023, gan gynnwys materion cynnal a chadw.

 

Materion Mordwyo

 

·        Adroddwyd bod mwy o dywod wedi chwythu ger Penhelyg gan achosi i’r harbwr golli rhai lleoliadau angori.

·        Eglurwyd bod un Hysbysiad Lleol i Forwyr mewn grym yn Harbwr Aberdyfi. Mae’n hanfodol bod Morwyr yn mordwyo’n ofalus yn yr ardal hon.

·        Nodwyd bod gwaith adnewyddu ar  Gymhorthydd Mordwyo 5 wedi ei gwblhau yn ddiweddar a gobeithir bydd y bwi yn cael ei ddefnyddio mor fuan â phosibl.

·        Cadarnhawyd bod Tŷ’r Drindod wedi ymweld â’r harbwr yn mis Ionawr 2023 er mwyn cynnal archwiliad o gofnodion o argaeledd y cymhorthion mordwyo lleol. Esboniwyd bod canlyniad yr archwiliad yn nodi bod popeth mewn trefn ac nid oedd unrhyw faterion yn codi sydd angen sylw pellach.

 

Materion Gweithredol

 

·        Diolchwyd i holl ran-ddeiliaid lleol, adran Ymgynghoriaeth Cyngor Gwynedd a’r contractwr ar y safle , i sicrhau bod arferion gwaith diogel yn parhau yn yr harbwr wrth i’r gwaith adeiladu diweddar gael ei gynnal ar y safle.

·        Tynnwyd sylw at gyflwr strwythurol pryderus adeilad swyddfa’r harbwrfeistr a bod adran Eiddo Cyngor Gwynedd wedi cynnal archwiliad diweddar ohono.

 

Cynnal a Chadw

 

·        Adroddwyd bod staff yr harbwr wedi bod yn cynnal a chadw’r ffensio ar yr ynys i helpu pobl sy’n cerdded at y blaendraeth yn dilyn cwblhad prosiect i adnewyddu’r bont doed dros Rheilffordd Arfordir y Cambrian.

·        Eglurwyd bod y Gwasanaeth wedi cymeradwyo adnewyddu giatiau yn adwy gerddi Penhelyg yn ddiweddar.

 

Materion Eraill

 

·        Trafodwyd sefyllfa bryderus lefelau’r tywod ar y traeth sy’n effeithio ar lithrfa’r Bad Achub. Eglurwyd bod lefelau tywod wedi bod yn cynyddu ers peth amser a rhannwyd syniadau ar sut i ddelio gyda’r broblem a’i atal rhag gwaethygu eto yn y dyfodol.

·        Rhannwyd bwriad i benodi staff tymhorol ar y traeth. Gobeithir penodi dau aelod o staff erbyn diwedd mis Mai. Ystyrir cael caban newydd i’r staff ei ddefnyddio yn ystod y tymor.

 

Digwyddiadau

 

·        Cadarnhawyd bod Clwb Hwylio Dyfi wedi derbyn caniatâd ar gyfer eu rhaglen hwylio a hyfforddi a gyflwynwyd i swyddfa’r harbwr ym mis Chwefror.

 

PENDERFYNWYD

 

Nodi a derbyn yr adroddiadau.

 

Dogfennau ategol: