I ystyried
a) adroddiad gan yr Uwch Swyddog Harbyrau
b) adroddiad gan yr Harbwrfeistr
Penderfyniad:
Nodi a derbyn yr
adroddiad.
Cofnod:
Croesawyd pawb i’r cyfarfod, a nodwyd
bod nifer yn mynychu am y tro cyntaf, a chymerwyd y cyfle i bawb gyflwyno eu
hunain. Yn ychwanegol, nodwyd bod nifer
i ffwrdd yn sâl a chytunwyd i ddanfon neges i ddymuno gwellhad buan iddynt.
Yn sgil absenoldeb salwch yr Uwch
Swyddog Harbyrau, cyflwynwyd yr adroddiad gan y
Rheolwr Gwasanaeth Morwrol. Cymerodd y
Rheolwr Gwasanaeth Morwrol y cyfle i atgoffa y Pwyllgor bod Barry Davies, y
cyn-Reolwr Gwasanaeth Morwrol yn ymddeol ar y 31/3/23 ar ôl 27 mlynedd o
wasanaeth i’r Cyngor. Diolchwyd yn fawr
i Barry Davies am ei waith a’i arweiniad.
Angorfeydd Abermaw a Chofrestru Cychod
Cadarnhawyd bod gwaith cynnal a chadw wedi ei wneud ar yr
angorfeydd ‘trots’ a bod cyflwr yr offer yn
dderbyniol. Mae Contractwr Angori Lleol
wedi cadarnhau bod 2 allan o 3 angorfa ymwelwyr wedi eu codi oherwydd eu bod yn
sefyll ar fanc tywod ond bod y contractwr wedi cael trafferth gyda chodi yr angoraf
agosaf at y bont rheilffordd.
Mae y drefn o gofrestru badau pŵer
ar-lein yn weithredol erbyn hyn, sydd o gymorth mawr gyda rheoliadau GDPR. Cadarnhawyd bod y problemau cychwynnol wedi
eu datrys a’r drefn yn gyffredinol yn gweithio yn esmwyth.
Cod Diogelwch Morol Porthladdoedd
Cyfeiriwyd at y Ddeddf Newydd ar gyfer
Badau Pŵer sydd yn weithredol o 31/3/23 sef y 'Merchant Shipping (Watercraft) Order 2023', gan nodi
bod angen arweiniad pellach, er bod cyfarfod cychwynnol gyda’r Heddlu wedi
cymryd lle.
Cadarnhawyd bod yr Uwch Swyddog Harbyrau yn arwain ar y Cod Diogelwch, a bod gwaith gwella
wedi ei wneud i sicrhau bod yr Harbwr mor ddiogel â phosib, mewn cydweithrediad
a Chapten Matt Forbes,
Harbwrfeistr Conwy.
Materion Staffio
Adroddwyd bod Kane A Triggs wedi ei
benodi yn Harbwrfeistr Cynorthwyol ac fe’i croesawyd
i’w gyfarfod cyntaf. Cadarnhawyd y
bwriad i benodi pum swyddog traeth, gyda dau o’r rhain yn cychwyn cyn y
Sulgwyn, ac y bydd swyddogion yn parhau gyda y gwaith cynnal a chadw, ond nad oedd
bwriad cyflogi rhagor yn yr Harbwr.
Gwahoddwyd Aelodau i gynnig sylwadau ar
yr uchod, a nodwyd fel a ganlyn :
Mae y sustem cofrestru ar-lein yn weithredol ac unrhyw
bryderon wedi eu datrys.
Mae cais wedi dod i Swyddogion Traeth
Tymhorol dderbyn hyfforddiant cymorth cyntaf gwell. Ymhelaethwyd nad oedd amser i hyfforddi yn
ddigonol flwyddyn ddiwethaf, er cyn y cyfnod Covid
roedd cymorth cyntaf uwch yn rhan o’r anwytho, ac mae hwn yn rhywbeth sydd wedi
llithro, ond bod bwriad trefnu hyfforddiant flwyddyn yma. Nodwyd bod yr Heddlu a Chymdeithas y Bad
Achub hefyd wedi codi yr un pwynt.
Adroddwyd bod cydweithredu da ar y traethau gyda Gwylwyr y Glannau, y
Bad Achub a’r Heddlu a bod pawb yn werthfawrogol o’i gilydd. Atgyfnerthodd y Pennaeth Cynorthwyol Economi
a Chymuned y sylw am y newid mewn Deddfwriaeth ar gyfer Badau Dwr personol, yn
enwedig y pryder nad oeddynt yn disgyn i’r categori cychod, a chadarnhaodd eu
bod yn parhau i ddisgwyl canllawiau ac y bydd yn cymryd amser i dderbyn y
trefniadau gweithredol, ond cytunodd i drefnu i gylchredeg y wybodaeth pan ddaw
i law.
Holodd y Cadeirydd tybed fyddai modd i
Swyddogion ymweld â meysydd carafanau yr ardal i amlygu y Ddeddf newydd a
chadarnhawyd bod y gwaith hwn ar y gweill i atgoffa pobl am eu cyfrifoldebau.
Materion Ariannol : Sefyllfa Ariannol Harbwr Abermaw
Cyfeiriwyd at y tabl a rhoddwyd eglurhad pellach :
Costau Staffio - tanwariant o £12,948 -
o ganlyniad i ymadawiad yr Harbwr feistr blaenorol a’r oedi mewn gwneud
penodiad newydd.
Tiroedd ac Eiddo – bron yn gytûn.
Cwch a Cherbydau - (cyllideb amgen) -
wedi gwario £90 ar betrol i’r cwch. Ni
chafodd y cwch ei lansio lawer gan fod y cwch wedi bod allan o ddefnydd am
gyfnod.
Offer a Chelfi - adroddwyd bod gwariant
o £20,004 gyda buddsoddiadau mewn bwiau
ychwanegol, cadwyni, goleuadau newydd ynghyd ag ôl-gerbyd i gwch yr Harbwr.
Incwm Harbwr - £30,760 oedd y targed a £30,869 wedi ei gasglu.
Felly mae cyfanswm y gyllideb yn
£52,950 a chyfanswm y gwariant yn £45,964, gyda thanwariant o £6,986 - hyn yn
seiliedig ar drafodaethau gyda’r Uned Gyllid yn Nhachwedd
2022. Hysbyswyd y Pwyllgor y bydd y £6,986 o danwariant yn debygol o leihau
erbyn diwedd y mis.
Nododd yr Aelodau eu balchder o weld yr
incwm yn codi gan nodi bod Abermaw yn le prysur, ond nodwyd pryder y byddai yr
Harbwr yn cael ei farnu am wneud elw.
Ffioedd a Thaliadau 2023/24 – Ffioedd Angori
Cadarnhawyd bod ffioedd angori wedi
codi 8.5%, gan gadarnhau bod rhai meysydd ffioedd wedi codi yn uwch na
chwyddiant, a manylwyd fel a ganlyn :
Ffi badau pŵer ffi flaenorol yn £50 Nawr yn £60
Ffi lansio ffi flaenorol £150 Nawr yn £170
Awgrymwyd rhewi'r ffi am lansio ar £20
eleni, gyda chychod llai na 30 marchnerth yn cynyddu o £30 i £35.
Nodwyd bod yn rhaid edrych ar bob
ffynhonnell incwm, ond bod y gwasanaeth wrth gwrs yn ddibynnol ar dwristiaeth a
thywydd braf.
Nododd y Cadeirydd bod y ffioedd yn eithaf rhesymol.
ADRODDIAD YR HARBWRFEISTR
Materion Mordwyo
Cadarnhawyd bod y sianel yn ddeinamig
ac wedi symud. Mae disgwyl contractwr i
symud y cymhorthydd mordwyo cyn y Pasg.
Mae dau rybudd i forwyr ar hyn o bryd o
ganlyniad i’r tywod - (5/22 a 2/23), tra mae'r bwi tramwyo wedi ei dynnu allan
o’r dŵr yn barod i’w ail-leoli unwaith bydd y contractwr ar gael. Cadarnhawyd bod yr archwiliad gan Tŷ’r Drindod ar y cymhorthion mordwyo wedi cadarnhau
fod popeth yn cyrraedd y safon ddisgwyliedig.
Nodwyd bod anogaeth yn cael ei roi i forwyr
gysylltu gyda’r Swyddfa Forwrol yn uniongyrchol gyda neu am unrhyw wybodaeth.
Cyfeiriwyd at yr angen i brynu
ôl-gerbyd newydd, gyda’r arian wedi dod allan o’r gyllideb amgen, ac y bydd y
cwch yn cael ei lansio wythnos nesaf.
Mae gan y Gwasanaeth 4 cwch gwaith, gan gadarnhau bod y gofynion
statudol codio y cychod wedi newid a bod y gwaith buddsoddi i gydymffurfio wedi
ei wneud i gynnal arolwg strwythurol, labelu y gwifrau ac ati.
Cynnal a Chadw
Adroddwyd bod y staff wedi gwneud ac yn
parhau i wneud llawer o waith ar yr angorfeydd ac wedi cychwyn ar y gwaith o
rifo pob angorfa.
Mae staff wedi bod yn rhannu ymarfer da mewn Harbyrau eraill fel byddai modd rhannu staff petai yr angen
yn codi.
Mae gwaith da wedi ei wneud yn gosod
angorfeydd, drysau newydd, gwaith ar y storfa SS Dora
a’r Storfa Disl a gwaith twtio, a nodwyd bod yr
Harbwr yn edrych yn dda. Diolchwyd i
staff am eu gwaith.
Gwahoddwyd Aelodau i gynnig sylwadau, ac mewn ymateb nodwyd
fel a ganlyn :
Cyfeiriodd Cynrychiolydd Grŵp
Mynediad Traphont Abermaw i’r gwaith ar y bont, ac yn benodol mynediad i
ddefnyddwyr y dŵr, gan nodi bod y man rhwng y rhychwant canolog wedi ei
gyfyngu. Nid oedd y Rheolwr Gwasanaeth
Morwrol yn ymwybodol o hyn, ond nododd eu bod yn gweithio yn agos gyda Network Rail, a gyda phwynt
cyswllt yn Network Rail ar
gyfer unrhyw waith ar y bont.
Cadarnhaodd y Cymhorthydd Harbwr ei fod wedi siarad gyda’r contractwr
a’i fod yn disgwyl am ragor o wybodaeth, ac y byddai yn trefnu i rannu unrhyw
wybodaeth. Yn ychwanegol,
nodwyd bod weiren a malurion ar wely’r aber yn yr ardal ac y byddai yn
broblemus i nofwyr neu ganwyr a holiwyd a oedd bwriad rhoi sylw i hyn? Cytunwyd y byddai Cynrychiolydd y Grŵp Mynediad Traphont Abermaw yn
danfon lluniau ar gyfer gweithredu priodol gan staff yr Harbwr.
Materion Eraill
Adroddwyd bod y cwmni sydd yn
adnewyddu'r Bont yn awyddus i dynnu'r haearnau a’u cludo oddi ar y safle. Adroddwyd bod cwpwl o awgrymiadau wedi eu gwneud ond cytunwyd mai cludo ar ysgraff i Bwllheli
neu Aberystwyth fyddai'r ffordd hwylusaf.
Nodwyd gan y Cadeirydd, efallai yn ddibynnol ar gwrs y sianel y bydd yn
rhaid symud rhaid angorfeydd.
Nododd y Cadeirydd ei fod wedi clywed
si am ddyddiad ar gyfer cau y bont, a nododd bryder am y dyddiad, gan ei fod yn
agos iawn i ddechrau mis Medi.
Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol nad oedd wedi derbyn dyddiad
gan Network Rail, ond yn
anffodus nad oedd ganddo unrhyw ddylanwad ar y dyddiad.
Cyfeiriwyd mewn cyfarfod blaenorol at y
dymuniad i osod rhwystr electroneg ar Ffordd y Compound,
ond yn anffodus, nodwyd bod y costau dros £5,000 ac nad oedd bwriad ar hyn o
bryd prynu rhwystr, ond y byddai bolardiau yn cael eu
gosod mewn mannau parcio penodol.
Cadarnhawyd bod tywod wedi ei osod
ynghyd a ffensys pren, a dybiwyd yn hynod lwyddiannus gan ei fod yn rhwystr
naturiol a chadarnhawyd y bydd adran YGC yn clirio'r tywod cyn y Pasg a chlirio
y cawsai.
Nodwyd bod nifer o geisiadau am
ddigwyddiadau wedi dod i law, ac y byddai cyfathrebu gydag Aelodau Lleol ac
Aelodau Cyngor Tref yn digwydd.
Gwahoddwyd Aelodau i gynnig sylwadau, ac mewn ymateb nodwyd
fel a ganlyn :
Nodwyd ei bod yn newyddion da ynglŷn â chlirio y cawsai
cyn y Pasg, ond nodwyd bo llawer o bryderon wedi eu codi ynghyn a’r ffens, er
bod arwyddion wedi eu gosod, ynglŷn â’u diogelwch. Roedd y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol yn teimlo
bod y ffensys yn amlwg a bod arwyddion wedi eu gosod, ond yn anffodus nad oedd
modd cau y traeth. Nododd Cynrychiolydd Tref
Abermaw bod llawer o bryder wedi ei nodi, yn enwedig gan y rhai sydd yn cerdded
y traeth yn y nos.
Cwestiynwyd Dathliadau y Coroni (7/8
Mai), a chadarnhawyd nad oedd manylion pendant wedi dod i law gan Katie Price
er bod awgrym bod y Cyngor Tref yn edrych i drefnu digwyddiad stryd ar yr
8fed Fai, gyda chais i ddefnyddio y
traeth o bosib.
Wrth i’r drafodaeth ar yr eitem ddod i
ben, atgoffodd Pennaeth Cynorthwyol Economi a Chymuned pawb petai unrhyw fater
o bryder, iddynt gysylltu gyda Swyddfa yr Harbwrfeistr
yn Abermaw.
Diolchwyd i bawb am eu cyfraniad.
PENDERFYNWYD
Nodi a derbyn yr adroddiadau.
Dogfennau ategol: