Agenda item

Cyflwyno adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau.

Penderfyniad:

Nodi a derbyn yr adroddiad.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiadau isod a gwahoddwyd yr Aelodau i gynnig sylwadau am eu cynnwys a gofyn cwestiynau.

 

a)       Adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau yn rhoi diweddariad cryno i’r pwyllgor ar faterion yr harbwr ar gyfer y cyfnod rhwng mis Hydref 2023 a mis Mawrth 2024.

Tynnwyd sylw at y materion canlynol:

 

Angorfeydd a Chofrestru Cychod

Nodwyd y bydd yr Harbwrfeistr yn cynnal archwiliad o’r afon cyn cyfnod y Pasg i wirio lleoliad y cymhorthion mordwyo a phenderfynu ble i osod angorfeydd ymwelwyr yn yr harbwr. Adroddwyd bod angen i gwsmeriaid sy’n dymuno cael angorfa yn yr harbwr neu gofrestru eu  badau pŵer gwblhau’r broses ar lein drwy wefan Cyngor Gwynedd.

 

Cod Diogelwch Morwrol Porthladdoedd

Nodwyd bod y Cod Diogelwch Morwrol Porthladdoedd yn cael ei adolygu’n rheolaidd gan y gwasanaeth a’u bod yn parhau i gydymffurfio â’r Cod.

 

Materion Staffio

Adroddwyd bod yr Harbwrfeistr a’r Harbwrfeistr Cynorthwyol yn parhau i weithio o swyddfa harbwr Abermaw. Yn ychwanegol, mae’r gwasanaeth wedi penodi Nicola Salt fel Swyddog Traeth llawn amser; bydd y Swyddog Traeth wedi ei lleoli yn harbwr Abermaw ac yn gweithio ar yr arfordir rhwng Abermaw ac Aberdyfi. Nodwyd bod Math Roberts wedi ei benodi yn y Gogledd a bydd yn gweithio ar hyd yr arfordir yn ardal Porthmadog.

 

Materion Ariannol

Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol at y tabl yn yr adroddiad sy’n crynhoi’r sefyllfa ariannol ac wedi ei gategoreiddio i bump prif pennawd. Nodwyd bod y ffigyrau yn seiliedig ar adolygiad cyllidol a gafwyd efo’r cyfrifwyr ym mis Tachwedd ac yn proffwydo’r gwariant o Dachwedd tan ddiwedd Mawrth 2024.

 

Manylwyd ar y penawdau gan nodi bod y categori Gweithwyr yn ymgorffori cyflogau staff yn bennaf. Rhagwelir gorwariant o ychydig dros £3,500 yn y categori hwn yn y flwyddyn ariannol gyfredol. Eglurwyd bod hyn yn bennaf oherwydd taliadau goramser i staff oedd wedi gorfod gweithio oriau ychwanegol o ganlyniad i faterion yn codi megis digwyddiadau brys. 

 

Nodwyd bod y pennawd Eiddo yn ymwneud â chostau cyffredinol cynnal a chadw yr adeilad a’r tir o gwmpas yr harbwr. Manylwyd bod ychydig o orwariant yma. Cafwyd drysau newydd ar y storfa disel a ffenest newydd ar adeilad yr harbwr yn ogystal â chostau ychwanegol eraill. Nodwyd nad yw hyn yn anarferol o ystyried bod adeiladau yn mynd yn hŷn a bod angen eu cynnal. 

 

Soniwyd am y pennawd Trafnidiaeth gan gadarnhau nad yw’r pennawd hwn yn cynnwys costau yn ymwneud a’r cerbyd morwrol. Cyfeiria’r pennawd yma yn benodol at gwch patrôl yr harbwr sef y Powercat a’r tanwydd i’r gwch; nodwyd bod tanwariant yma o £500.

 

Nodwyd bod gorwariant o bron £12,000 o dan y pennawd Gwasanaethau a Cyflenwadau oherwydd costau sylweddol yn ystod y flwyddyn o ganlyniad i’r gwasanaeth brynu dau gymhorthydd mordwyo newydd ar gyfer yr harbwr. Yn ychwanegol bu i’r gwasanaeth orfod prynu goleuadau, offer a chadwyni i fynd efo’r ddau gymhorthydd mordwyo, yn ogystal a thalu contractwr i’w gosod.

 

Rhagwelir gwariant gwirioneddol o £8,194 o orwariant ar ôl tynnu cyfraniad o gronfeydd ac yr incwm. Nodwyd bod yr harbwr wedi casglu bron i £10,000 yn fwy na’r targed incwm a bod  incwm ychwanegol wedi ei dderbyn o ganlyniad i waith ar y traphont. Adroddwyd bod staff yr harbwr wedi cydweithio efo contractwyr a bod ad-daliad o £7,500 wedi ei dderbyn ar ôl bilio’r cwmni am waith ac amser y staff. Nodwyd bod y gyllideb mwy neu lai yn hafal ar ôl ystyried yr ychwanegiad yma.

 

Adroddwyd bod cronfeydd hanesyddol yn bodoli o ganlyniad i godi ffioedd a chafwyd mynediad i rai o’r cronfeydd i wneud gwelliannau yn yr harbyrau. Amlygwyd bod yr arian wedi ei dalu i’r gronfa yn ystod y flwyddyn ac wedi cael ei ddefnyddio er mwyn cwrdd â chostau a gwneud buddsoddiadau yn yr harbwr. Soniwyd am dri phrif brosiect yn harbwr Abermaw sef y system newydd CCTV, gosod rhwystr trydan newydd ar waelod Ffordd y Compownd ac addasiadau o fewn adeilad yr harbwr i greu gofod swyddfa.

 

Sylwadau

Mynegwyd ei bod yn braf clywed am yr holl waith sy’n mynd ymlaen ac y bydd y gwaith yn fuddiol i ansawdd yr harbwr. Cytunwyd bod y gwaith yn hanfodol i reolaeth yr harbwr ac yn ased gwerthfawr i’r staff.

 

Ffioedd a Thaliadau

Nododd y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol bod y ffioedd wedi cael eu hadolygu dechrau’r flwyddyn yn seiliedig ar y lefel chwyddiant gafodd ei sefydlu ar 7.5%. Nodwyd bod y ffioedd erbyn hyn wedi eu cadarnhau. Eglurwyd bod y system bellach yn system ar lein a bydd y system yn mynd yn fyw ar y 1af o Ebrill. Bydd ffioedd harbwr Abermaw yn cynyddu 0.5% yn uwch na lefel chwyddiant felly yn codi 8%. O ganlyniad bydd y targed incwm yn codi yn unol â chwyddiant am y flwyddyn i ddod. Ychwanegwyd bod cynnydd cyffredinol ym mhrisiau angorfeydd ac y disgwylir y bydd cyfnod prysur dros y Pasg. Bydd y gwasanaeth yn neilltuo angorfeydd ar gyfer y cwsmeriaid.

 

Soniwyd am y ffioedd lansio a chofrestru gan nodi bod rhai ffioedd wedi cynyddu. Adroddwyd bod y ffi cofrestru yn unig y flwyddyn diwethaf yn £60 a bydd yn codi i £70 eleni. Bydd y ffi blynyddol yn cynyddu o £170 i £180 a bydd y ffi lansio yn aros fel y mae gan ei fod eisoes wedi cynyddu’n sylweddol dros y dair mlynedd ddiwethaf.

 

Credwyd bod y ffioedd yn gystadleuol efo ffioedd Siroedd eraill ond bod y niferoedd sydd yn lansio a chofrestru yng Ngwynedd llawer uwch na Awdurdodau cyfagos. Cofrestrwyd 2509 o fadau pŵer flwyddyn diwethaf yng Ngwynedd o gymharu â thua 500 ym Môn. Mynegwyd ei fod yn wahaniaeth sylweddol a bod llawer o waith ynghlwm â’r system gofrestru, credwyd ei fod yn system effeithiol iawn.

 

Sylwadau

Mynegwyd gwerthfawrogiad i holl staff yr harbwr am eu gwaith dros gyfod yr Haf a credwyd bod y gyllideb, gydag ychydig o orwariant yn unig, yn dderbyniol ac yn ddealladwy.

 

 

 (b)    Adroddiad yr Harbwr Feistr yn crynhoi’r materion Mordwyo a Gweithredol a wnaed ac a brofwyd yn y cyfnod rhwng mis Hydref 2021 a mis Mawrth 2022, gan gynnwys materion cynnal a chadw.

 

         Materion Mordwyo

         Cyfeiriodd yr Harbwrfeistr Cynorthwyol at y sianel fordwyo gan nodi ei fod heb symud llawer ers y flwyddyn diwethaf a’u bod yn parhau i gadw golwg ar y sianel gan ail-leoli unrhyw gymhorthion sydd ddim yn eu safle priodol.

 

         Nodwyd bod dau hysbyseb lleol i forwyr a gobeithir bod y gwaith ar y draphont yn cael ei gwblhau erbyn diwedd y mis fel y bydd yr hysbyseb yno yn medru cael ei ddiddymu. . Adroddwyd bod Bwi rhif 1 ddim yn ei safle priodol ac ers i’r adroddiad hwn gael ei gwblhau adroddwyd bod dau Fwi arall ddim yn eu safleoedd ychwaith, sef Bwi rhif 4 a rhif 8. Nodwyd y bydd y contractwyr yn atgyweirio’r rhain cyn gynted ag y bo modd. 

 

         Materion gweithredol

         Adroddwyd bod ychydig o waith peintio ar ôl i’w wneud ar gwch patrôl Abermaw gan nodi fod y gwaith i fod i gael ei orffen yr wythnos yma. Nodwyd bod ôl-gerbydau'r harbwr yn cael eu defnyddio yn aml a bod un ôl-gerbyd bach wedi cael ei ddadgomisiynu felly ddim yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd. Ychwanegwyd bod offer VHF newydd bellach yn y swyddfa er mwyn trafod efo cychod ar y dŵr a monitro’r harbwr.

 

         Cynnal a chadw

         Eglurwyd bod angen symud angorfeydd ymwelwyr am fod y banciau tywod wedi symud a’r llanw wedi mynd yn ddyfnach ar ochr Pwynt Penrhyn. Nodwyd y bydd y gwasanaeth yn parhau i rifo’r angorfeydd ac am barhau i dynnu angorfeydd segur o ddŵr yr harbwr. Adroddwyd bod rhannau o’r pontŵn wedi eu tynnu allan o’r harbwr ar hyn o bryd ar gyfer gwaith cynnal a chadw hanfodol gan nodi mai’r Cyngor Tref sy’n delio efo’r gwaith yma yn bennaf.

 

         Materion Eraill

         Adroddwyd bod y gwasanaeth wedi gosod system CCTV newydd yn ddiweddar er mwyn gwella diogelwch yr harbwr ac i roi trosolwg o wal yr harbwr; nodwyd bod y system yma ar wahân i system y Cyngor Tref.

 

         Nodwyd bod bolardiau parcio wedi cael eu gosod ar hyd Ffordd y Compownd ar gyfer diogelwch ac i atal parcio di-drefn ar hyd y ffordd. Bydd rhwystr trydan yn cael ei osod ar waelod Ffordd y Compownd er mwyn helpu gyda diogelwch.

         O ran traeth y Friog, nodwyd bod bolardiau wedi cael eu gosod ar frig y ramp mynediad cyhoeddus at y traeth er mwyn stopio mynediad unrhyw gerbyd.

 

         I gloi cyfeiriwyd at y Digwyddiadau sydd wedi eu nodi ar dudalen 14 o’r Rhaglen gan fynegi balchder bod llawer o ddigwyddiadau yn dod yn ôl i Abermaw eleni a phopeth i weld yn mynd yn dda o ran y trefniadau.

 

         Sylwadau gan Aelodau’r Pwyllgor

         Mynegwyd balchder fod popeth i weld yn mynd yn iawn o ran trefniadau rhedeg yr harbwr a diolchwyd i’r staff am eu gwaith. Diolchwyd i’r Harbwrfeistr Cynorthwyol am ei adroddiad ac i’r Uwch Swyddog Harbyrau a’r Rheolwr Gwasanaeth Morwrol am eu gwaith, ac am gwblhau’r gwaith o fewn cyllideb gytbwys. Diolchwyd i aelodau’r Pwyllgor gan nodi ei bod yn dda cael rhanddeiliaid sy’n cyfrannu ac ymgynghori.

 

         Gofynnwyd a oedd bwriad rhoi’r bysedd yn ôl ar y pontŵn. Cadarnhaodd y Cadeirydd gan ei fod yn aelod o’r Cyngor Tref bod bwriad eu cyfuno i greu un bys yn hytrach na dau. Adroddwyd ei bod yn anodd cael fflotiau newydd a’u bod yn aros i’r gwneuthurwr ddod yn ôl atynt.

 

PENDERFYNWYD nodi a derbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: