Agenda item

I ystyried adroddiad gan Mr Barry Davies, Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig.

Cofnod:

Cyflwynwyd:                       Adroddiad y Swyddog Morwrol, Mr Barry Davies ar weithgareddau harbwr Aberdyfi gyda chyfeiriad penodol at y canlynol:-

(A)       Ffigurau angorfeydd Harbwr Aberdyfi

Cyflwynwyd y ffigurau ar gyfer 2015/16 ac fe nodwyd bod y nifer yn siomedig ond bod hyn yn deillio o dywydd anffafriol yr haf a sefyllfa fregus economi y sector forwrol. Nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

-       Bydd y nifer llai yn cael effaith ar incwm ac felly bydd angen torri ar wariant a chyllidebau. Roedd y lleihad yma’n gyffredinol ar draws y wlad ac yn ehangach, tynnwyd sylw fod rhai marinas yn Ewrop gyda uchafswm o 30% mewn defnydd o angorfeydd.

-       Hyderir bod y crebachiad yn y sector forwrol bellach wedi dod i ben a rhagwelir na fydd lleihad pellach gyda’r farchnad yn araf dyfu dros y ddwy flynedd nesaf.

-       Mae ffurf yr adroddiad a gyflwynwyd wedi newid i fod yn llai hanesyddol ac yn fwy cryno, ond nodwyd bod manylion llawn ar gael i unrhyw un sydd eisiau ar ffurf electronig neu bapur.

-       Mae Gwynedd yn llwyddo i gadw nifer y cychod pŵer yn sefydlog. Mae defnydd uchel o fadau dwr yng Ngwynedd o’i gymharu â siroedd cyfagos Ceredigion, Ynys Môn a Chonwy. Un o’r ffactorau allweddol yw’r cyfleusterau a trefniadau croesawu sydd yn cael eu cynnig i ddefnyddwyr cychod yng Ngwynedd

-       Diolchwyd yn arbennig I Bwyllgor Gwelliannau a Hysbysebu Aberdyfi am Becynnau Ymwelwyr Aberdyfi a’u safon uchel.

-       Nodwyd awydd i ehangu’r arfer llwyddiannus yma i ardaloedd eraill o Wynedd.

-       Gwnaed cais gan y Cadeirydd i nodi’r nifer o ymwelwyr ag Aberdyfi yn yr adroddiad. Cytunodd y Swyddog Morwrol a Pharciau i wneud hyn yn yr adroddiad nesaf ar gyfer mis Mawrth 2016. 

 

Penderfynwyd:      

-       Derbyn a nodi’r uchod.

-       Swyddog Morwrol a Pharciau i nodi nifer ymwelwyr yn yr adroddiad nesaf ar gyfer mis Mawrth 2016. 

 

(B)       Cod Diogelwch Morwrol

 

-       Nodwyd bod y Cod Diogelwch Morwrol wedi’i fabwysiadu’n llawn yn dilyn trafodaethau yn y Pwyllgorau Harbwr a’i fod yn cael ei adolygu’n rheolaidd. Fe ddosbarthwyd copi i’r Aelodau eisoes ac mae ar gael ar wefan y Cyngor.

-       Mae mabwysiadu’r Cod yn ymarfer da, ond nodwyd ei fod yn gallu bod yn anaddas mewn rhai sefyllfaoedd gan fod y Cod yn gofyn am yr un fath o ofynion i Harbyrau cymharol fach fel Aberdyfi a Harbyrau mawr a llawer prysurach fel Dover. Byddai’n fuddiol cael canllawiau mwy cymwys a phwrpasol ar gyfer harbyrau llai eu maint.

-       Bydd y Swyddog Morwrol a Pharciau’n anfon linc electronig at Aelodau yn dilyn ymgynghoriad gan y Llywodraeth i ddeddfwraieth arfaethedig a fyddai yn addasu pwerau diddymu harbyrau ac harbyrau cymwys.

-       Anogwyd yr Aelodau i godi unrhyw bryderon ynglŷn â harbwr Aberdyfi cyn gynted â phosibl yn dilyn y digwyddiad a gallai aelodau wneud hyn drwy gysylltu gyda’r Harbwr Feistr neu’r Swyddog Morwrol a Pharciau.

-       Yn ogystal mae lle i wyntyllu’r materion yn y Cyfarfodydd o’r Pwyllgor Harbwr yma. Trafodwyd yr achosion canlynol:

 

            Lansio Badau Dŵr Personol ar y Leri

-       Dydi Badau Dŵr Personol’ ddim yn cael eu hystyried fel cwch neu long yng ngyd- destun Deddfwriaeth Llongau Masnachol. Gallai hyn fod yn rhwystr o ran rheoli defnydd.

-       Os bydd digwyddiad gyda chwch (a bod y cwch wedi’i gofrestru) bydd yr Harbwr Feistr yn medru ymchwilio i’r mater.

-       Cafwyd hanes am ddigwyddiad peryglus lle'r oedd ‘Badau Dŵr Personol’ yn tynnu ‘donut’ a hogyn ifanc yn llywio. Bu bron i hyn achosi damwain gas yn Aberdyfi. Nodwyd rhif y ‘Badau Dŵr Personol’ a’i gyflwyno i’r Harbwr Feistr. (Ond ni ellir dilyn y mater ymhellach gan fod y perchennog wedi gwerthu’r llestr.) Roedd y ‘Badau Dŵr Personol’ wedi cael ei lansio o’r Leri yng Ngheredigion.

-       Mae’r ffaith bod y cychod yma’n cael eu lansio o’r Leri y tu allan i reolaeth Harbwr Feistr Aberdyfi yn rhwystr sylweddol i reolaeth, gan ei bod yn ymddangos nad oes modd cael cydweithrediad ar y mater gan Gyngor Ceredigion a Chyfoeth Naturiol Cymru.

-       Mae’n anodd delio gyda sefyllfaoedd fel hyn gan nad oes rheol yn cael ei thorri.

-       Mae’r Harbwr Feistr wedi bod draw at y Leri ar sawl achlysur i roi cyngor i ddefnyddwyr ac mae’n bod mor weithredol â phosibl yn y materion yma.

 

Damweiniau eraill a nodwyd

-       Dim ond 5 cwyn a gafwyd eleni. Mae hyn yn lleihad sylweddol.

-       Roedd un ddamwain wedi digwydd yng ngyffiniau’r harbwr gyda physgotwr yn colli ei fys bach ond ei fod wedi gwella.

-       Cyfeirwyd at ddamwain ddrwg ym Morfa Bychan

-       Cyfeirwyd hefyd at ddigwyddiad llynedd bu i ‘Fad Dŵr Personol’ daro 3 canŵ ar draeth y Warren ger Abersoch.

 

Sylwadau pellach

-       Bod lle i gyfleu’r neges yn gyson i ddefnyddwyr cychod bod angen ystyried diogelwch bob amser.

 

Penderfynwyd:

-       Gofyn i Aelod Cabinet Economi Gwynedd gynnal trafodaethau gyda’r Aelod Cabinet cyferbyniol yng Ngheredigion i weld a ellir gwella’r trefniadau yn y Leri.

-       Swyddog Morwrol a Pharciau Gwynedd i ymchwilio i weld a ellir trefnu bod Harbwr Feistr Aberdyfi yn cael hawl i weithredu ar y Leri

-       Llythyr yn cael ei anfon gan Gyngor Gwynedd a Chyngor Cymuned Aberdyfi at Gyngor Ceredigion i ddatgan pryder am y sefyllfa ar y Leri.

-       Swyddog Morwrol a Pharciau i weld a ellir gwneud trefniant i gyd-ariannu gyda’r Cyngor Cymuned neu wneud trefniant i wirfoddolwyr cymwys i fod allan ar y dŵr yn goruchwylio adeg gwyliau ysgolion.

-       Swyddog Morwrol a Pharciau i anfon linc electronig at Aelodau am eu sylwadau.

 

 

(C)       Mesuryddion Perfformiad

 

Nodwyd mai un o bwrpasau mesur diffygion a data perthnasol yw er mwyn rhoi gwell gwasanaeth. Awgrymwyd y mesuryddion canlynol gan yr Aelodau:

 

-       Nifer cychod

-       Nifer digwyddiadau/damweiniau gan gynnwys materion ar y traeth - e.e. tractor a threlar yn achosi niwed, anafiadau

 

Gwnaed cais i’r Aelodau yrru unrhyw awgrymiadau pellach at y Swyddog.

 

Penderfynwyd:      

-       Swyddog Morwrol a Pharciau i roi ystyriaeth i’r uchod.

-       Aelodau i anfon unrhyw sylwadau pellach ymlaen at y Swyddog.

 

 

(CH)    Mordwyo

 

Nodwyd nad oedd Rhybudd i Forwyr mewn grym yn Harbwr Aberdyfi.

 

Ystyriwyd yr wybodaeth ddiweddaraf am y Cymhorthion Mordwyol gyda’r Aelodau a gwnaed y sylwadau canlynol:

 

-       Mae’r bwi melyn newydd sy’n nodi cyfyngiad cyflymder o 4 môr filltir yn ddefnyddiol.

-       Nodwyd bod aelodau’r Bad Achub a’r cychwyr yn hapus iawn gyda lleoliadau newydd ac ansawdd y cymhorthion.

 

Penderfynwyd:       Derbyn a nodi’r uchod.

 

 

(D)       Cynnal a Chadw

 

Gofynnwyd am sylwadau’r Aelodau ynglŷn â’r gwaith sydd ar y gweill ac am unrhyw awgrymiadau pellach. Gwnaed y sylwadau canlynol:

 

-       Nodwyd bod y gost o reoli’r tywod yn Harbwr Aberdyfi a Harbwr Abermaw yn costio £20,000 yr un bob blwyddyn. Pe gellid adnabod hyn fel gwaith gwarchod rhag llifogydd gallai bod modd cael hyd at 80% o gyllid ychwanegol.

-       Natur y broblem yw pan fo’r gwynt o’r Dwyrainprin yw’r gwaddodion o dywod; pan fo’r gwynt o’r Gorllewin fe gyfyd y broblem.

-       Nodwyd bod rhwystr wedi’i osod i liniaru’r broblem a’i fod yn helpu rhyw gymaint

-       Er bod y gwaith blynyddol o reoli’r tywod yn lliniaru’r broblem, mae adegau pan fydd y sefyllfa yn gwaethygu’n sydyn ar derfyn y gwaith, gan beri i’r tywod ail-sefydlu ymhen cyfnod mor fyr â mis o amser.

 

Clwb Hwylio

-       Roedd posibilrwydd i ddatrys y broblem yn rhannol o safbwynt y defnydd gan gychod sy’n cael eu lansio ac yn glanio wrth y Clwb Hwylio.

-       Byddai defnyddio winsh bwrpasol yn fodd i gyflenwi’r angen yn ddiogel; ond bydd angen gwneud asesiad technegol i ddewis yr un addas.

-       Bydd angen cynnal cyfarfod ar wahân i wyntyllu’r mater yma gyda swyddogion o’r Cyngor, ymgynghorydd arbenigol a chynrychiolydd o’r Clwb Hwylio.

 

Amddiffynfa Forol

-       Nodwyd pryderon y gallai trosglwyddo cyfrifoldeb am reoli’r tywod i’r mater gwahanol o’r wal fel amddiffynfa golli ffocws ar yr angen i barhau i ddelio gyda’r gwaith o reoli’r tywod.

-       Mae’r gwaith cyfredol o reoli’r tywod yn cael effaith ehangach o safbwynt ymgripiad tywod yn yr ardal – y twyni tywod, maes parcio, draeniau ac

yn arbed y risg o lifogydd yn y pentref.

-       Gwaethygodd y broblem yn dilyn stormydd mawr dwy flynedd yn ôl. Mae angen rhoi ystyriaeth i’r mater yn fuan; fe allai peidio gwario’r £20,000 yn flynyddol arwain at broblemau a chostau mwy.

 

Rhaglen Waith yr Harbwr

-       Nododd yr Harbwr Feistr bod y rhaglen waith yn mynd yn ei blaen gan gynnwys y gwaith ar y Lanfa (jetty), gosod estyll, rheiliau, paentio, glanhau, gwaith ar y bwy allanol, angorfeydd ymwelwyr a chychod pŵer ac yn y blaen.

-       Gofynnwyd am unrhyw awgrymiadau pellach gan yr Aelodau.

 

Penderfynwyd:      

-       Swyddog Morwrol a Pharciau i gael mwy o fanylion am y cynllun hir dymor gyda symud tywod ar draeth Aberdyfi.

-       Cynrychiolydd y Clwb Hwylio i roi syniadau i’r Swyddog Morwrol am y winsh

-       Swyddog Morwrol i drafod gyda pheiriannydd/ymgynghorydd arbenigol

-       Swyddog Morwrol I gyflwyno adroddiad byr ar y mater uchod i gyfarfod nesa’r Pwyllgor ym mis Mawrth 2016.

-       Aelodau i nodi unrhyw awgrymiadau am waith cynnal a chadw wrth yr Harbwr Feistr.

 

 

(DD)    Materion Staff

 

-       Ni chafwyd llawer o geisiadau am waith Cymhorthydd Harbwr rhan amser rhwng Ebrill a Medi eleni.

-       Rhoddir ystyriaeth i addasu cyfnod y swydd ar gyfer 2016. 

-       Gwnaed cais i bawb godi ymwybyddiaeth o’r swydd ymysg pobl cymwys.

 

            Harbwr Feistr Aberdyfi

-       Nodwyd diolchiadau a gwerthfawrogiad Cadeirydd y Clwb Hwylio o waith ardderchog yr Harbwr Feistr, ac fe ategwyd hyn gan Gadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor yma.

 

Penderfynwyd:       Derbyn a nodi’r uchod.

 

(E)       Wal y Cei

 

-       Mae’r gwaith o ddatblygu’r cynlluniau ar gyfer uwchraddio wal y cei yn mynd rhagddynt gydag Ymgynghoriaeth Gwynedd yn arwain.

-       Bydd effaith pellgyrhaeddol o gyflawni’r gwaith gan roi budd i’r pentref cyfan, Canolfan Dyfi, Outward Bound ac ati - h.y. mae Sylfaen gadarn i’r achos busnes.

 

Cais Cynllunio

-       Cyflwynwyd y Cais Cynllunio I’r Parc Cenedlaethol ym mis Mehefin eleni

-       Cynhelir cyfarfod safle'r wythnos nesaf

-       Rhagwelir bydd gwaith dylunio manwl yn cael ei gwblhau erbyn y 13 Tachwedd 2015

-       Mae Peiriannwyr yn ymgymryd a gwaith pellach er asesu cost y cynllun mor fanwl a sydd bosibl

-       Bydd angen paratoi dogfenauTtndro

-       Bydd cais yn cael ei gyflwyno am Drwydded Forol

-       Disgwylir sylwadau pellach gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar yr Asesiad Ardrawiad Amgylcheddol.

 

Cronfa Ariannol Newydd

-       Yn dilyn y broses cynllunio byd modd gwneud cais i’r Gronfa newydd.

-       Bydd angen gwneud Datganiad o Ddiddordeb ar gyfer y Gronfa yn fuan gan obeithio y daw cyllid i weithredu yn 2018.

 

Penderfynwyd:

 

-       Nodwyd pryder yr Aelodau am arafwch y broses gynllunio ac y gallai unrhyw oedi pellach gael effaith negyddol sylweddol ar y cynllun.

-       Swyddog Morwrol a Pharciau i anfon copi electronig o lythyr Cyfoeth Naturiol Cymru at yr Aelodau.

 

(F)       Ardal Tir y Comin

            Nodwyd y pwyntiau canlynol am y safle ar gyrion y pentref:

 

-       Mae camddefnydd difrifol o’r tir gan adeiladwyr yn storio a gwaredu deunydd ar y safle.

-       Diolchwyd am gefnogaeth y Cyngor Cymuned a phawb o aelodau’r Pwyllgor am eu cefnogaeth i ddelio gyda’r mater.

-       Er bod peth gwaith tacluso wedi cymryd lle mae angen gwaith pellach i adfer y tir.

-       Nodwyd bod hawl, dwy gytundeb, gan y Clwb Hwylio i storio rhywfaint o offer ar y safle.

-       Awgrymwyd mai doeth fyddai peidio gôr ymateb i’r sefyllfa rhag i’r elfen o hawliau tir comin gael eu camddefnyddio gan rai i waethygu’r sefyllfa ymhellach

-       Yr egwyddor sylfaenol yw mai lle i storio rhai deunyddiau mewn ffordd daclus a threfnus sydd yma. Nid oes hawl i dipio a gwaredu deunyddiau ar y safle o gwbl.

 

Penderfynwyd:

-       Swyddog Morwrol a Pharciau i drefnu i gael sgip ar y safle a chydlynu’r amserlen gyda chynrychiolydd y Clwb Hwylio er mwyn cael gwirfoddolwyr i gynorthwyo gyda’r gwaith clirio a thacluso.

-       Gosod nod i gyflawni’r gwaith cyn yr haf.

 

(FF)     Pontydd Llwybr Bryn Llestair

-       Mae’r Cyngor wedi ysgwyddo’r baich o gwblhau’r gwaith

-       Mae archwiliad pont y rheilffordd yn dderbyniol ar hyn o bryd.

-       Nodwyd pryder am ddarn mawr o graig sydd angen sylw ar ran o’r llwybr.

 

(G)       Gwaredu Cychod

Nodwyd bod trefn dda ar hyn o safbwynt racio, a bod yr Harbwr feistr yn bwriadu gwaredu rhai cychod a na fydd wedi eu cofrestru gyda ‘r Cyngor.

 

(NG)    Materion Ariannol

 

Cyflwynwyd i sylw’r Aelodau:

-       Adroddiad Cyfrif Incwm a Gwariant 2014-15 ar Harbyrau Cyngor Gwynedd

-       Cyfrifon manwl ar gyfer Aberdyfi ac Abermaw

-       Ffioedd newydd 2016/17

 

Nodwyd y canlynol:

 

-       Bod gwariant sylweddol wedi digwydd  yn Aberdyfi ar yr adeiladau gwerth £17,000 + ond oherwydd trefniadau ariannol Cyngor Gwynedd bod bod hyn yn ymddangos ar y cyfrifon fel tanwariant o £16,072.

-       Nodwyd bod cyfraniad o £8,335 at gostau canolog yn dangos gwerth am arian o ystyried y gwasanaeth a gyflenwir.

-       Mae’r incwm o ffioedd a rhenti i lawr i £33,270.

-       Rhagwelir bydd cynnydd yn y ffioedd ar gyfer 2016/17 yn gynnydd bychan o 1%.

 

            Penderfynwyd: Derbyn a nodi’r uchod.

 

(H)       Digwyddiadau

 

-       Nodwyd bod Gŵyl Bwyd Môr Aberdyfi wedi bod yn llwyddiant mawr.

-       Amcanir bod tua 2000 o bobl wedi ymweld â’r pentref yn ystod y dydd.

-       Cafwyd cydweithrediad da gyda ‘Race the Train’ yn Nhywyn.

-       Diolchwyd i’r Clwb Hwylio am yr holl waith a gyflawnwyd yn wirfoddol.

-       Croesawyd y bwriad i gynnal y Digwyddiad eto'r flwyddyn nesaf. Deellir mai’r dyddiad fydd y trydydd Dydd Sadwrn ym mis Awst 2016.

 

 

Dogfennau ategol: