Agenda item

I ystyried materion ar gais yr Aelodau.

Cofnod:

Hysbysfwrdd

Roedd y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol wedi derbyn cwestiwn gan Gynghorydd Arthog a Llangelynnin yn holi ynghylch y ddau hysbysfwrdd pren oedd yn arfer bodoli ar y llwybr troed yn y Friog. Gofynnwyd pam eu bod nhw wedi cael eu tynnu oddi ar y llwybr ac os oes bwriad i’w ailosod a phryd.

 

Nododd y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol bod yr hysbysfyrddau wedi cael eu tynnu fel rhan o waith cynnal a chadw’r gwasanaeth. Eglurodd bod bwriad i’w peintio ond roedd y ddau yma wedi dirywio credwyd nad oedd pwrpas eu trwsio. Adroddwyd bod bwriad i greu rhai newydd a bod y cais wedi ei wneud ond fod y gwneuthurwr yn rhedeg yn hwyr. Ychwanegodd bod bwriad gwreiddiol i’w hailosod erbyn y Pasg ond bellach gobeithir y byddent yn ôl fyny yn eu safle priodol erbyn cyfnod Sulgwyn.

 

Cwch yn y Friog

Yr ail gwestiwn gan Gynghorydd Arthog a Llangelynnin oedd ynglŷn â llongddrylliad y cwch bach ym Mhwynt Penrhyn. Mynegwyd pryder bod y cwch yn parhau i fod yno er gwaethaf amryw o gwynion. Gofynnwyd a  oedd bwriad i gael gwared ohoni.

 

Ategodd y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol fod y sefyllfa yma yn parhau ers tro a bod y gwasanaeth wedi bod yn cyfathrebu gyda pherchennog y cwch. Nodwyd bod y gwasanaeth wedi rhoi amryw o gyfleoedd i’r perchennog wneud trefniadau i symud y cwch, ond yn anffodus nid oedd y perchennog wedi cymryd y camau priodol. Derbyniwyd bod yr Aelod Lleol yn cael cwynion a bod y sefyllfa ynghylch y gwch ‘Lady Anne’ yn rhwystredig gan ei bod yn edrych yn flêr iawn ar y safle. Er nad oedd llygredd i’r dŵr, cydnabuwyd bod llawer o sylwadau negyddol wedi ei derbyn amdani.

 

 

Adroddwyd fod staff yr harbwr wedi rhoi rhybudd ar y cwch ers diwedd wythnos diwethaf a bod y gwasanaeth efo’r pwerau i symud y cwch o dan y ddeddf berthnasol. Eglurwyd bod gan y perchennog 30 diwrnod i wneud trefniadau i symud y cwch, fel arall bydd yr awdurdod harbwr yn gwneud trefniadau gyda chontractwr lleol i’w symud. Nodwyd bod costau sylweddol ynghlwm a hyn ond gobeithir cael ad-daliad yn ôl gan berchennog y cwch maes o law.

 

Gofynnwyd i staff yr harbwr adael i aelodau’r Pwyllgor wybod pe bai diweddariad ac os bydd rhaid defnyddio contractwr. Credwyd bod gan y Cyngor y pwerau cyfreithiol i gael yr ad-daliad pe bai angen. Gofynnwyd i’r gwasanaeth ddiweddaru’r Cadeirydd a’i bod yn bwysig rhannu unrhyw ddatblygiad.

 

Aelodaeth

Nodwyd na fydd yr Aelod Cyfetholedig John Johnson yn cynrychioli Cymdeithas Pysgota Bae Ceredigion ar y Pwyllgor bellach. Yn ychwanegol ni fydd yr Aelod Cyfetholedig Martin Parouty yn parhau ar y Pwyllgor ychwaith am ei fod wedi gadael Grŵp Defnyddwyr Harbwr Abermaw, sydd ers hynny wedi dod i ben. Credwyd bod angen sgwrs am sut i wella niferoedd y Pwyllgor. Cytunwyd i’r Cadeirydd, fel yr Aelod Lleol, gael trafodaeth efo’r Rheolwr Gwasanaeth Morwrol a’r Uwch Swyddog Harbyrau gan fod rhai o aelodau hanesyddol y Pwyllgor bellach wedi gadael. Cydnabuwyd bod angen cynrychiolaeth fwy cynhwysfawr ar y Pwyllgor at ei gyfarfod nesaf yn yr Hydref. Awgrymodd y Cadeirydd y byddai yn holi o gwmpas grwpiau lleol i weld pwy sydd â diddordeb.

 

Gwnaethpwyd cais i gynnwys y cwestiynau gan aelodau yn yr Agenda; credodd aelod o’r Pwyllgor mai hyn oedd yn arfer digwydd yn y gorffennol. Derbyniwyd y pwynt gan y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol, eglurodd bod y cwestiynau weithiau yn cyrraedd yn hwyr neu ar ôl i’r adroddiadau gael eu paratoi a’u cyfieithu. Ychwanegodd os fydd y cwestiynau yn cael eu derbyn mewn da bryd ei fod yn fwy na hapus i’w cynnwys yn Agenda’r cyfarfod nesa.