Agenda item

Elgan Roberts, Rheolwr Prosiect Ynni, i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

 

1.       Bod y Bwrdd yn cymeradwyo'r Achos Busnes Amlinellol ar gyfer y prosiect Ynni Lleol Blaengar ac, yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraethau Cymru a'r DU o'r broses sicrwydd yr ymgymerwyd â hi a bod y Swyddfa Rheoli Portffolio yn rhoi sylw i'r materion sydd wedi'u nodi yn yr adroddiad, bod cais Adran 7 yn cael ei wneud i baratoi Achos Busnes Llawn i'r Bwrdd ei ystyried yn dilyn cwblhau'r broses gaffael a'r broses ganiatâd.

2.       Bod y Bwrdd yn dirprwyo i'r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd a'r Is-gadeirydd, gymeradwyaeth derfynol o'r fanyleb gaffael a'r meini prawf gwerth cymdeithasol cyn i ariannwr y prosiect ddechrau caffael.

3.       Bod y Bwrdd yn nodi y bydd y trefniadau ariannol terfynol ar gyfer y prosiect yn cael eu cytuno ar y cam Achos Busnes Llawn ac yn awdurdodi'r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â Swyddog Adran 151 a Swyddog Monitro'r Awdurdod Lletya i gytuno ar y telerau drafft i'w cymeradwyo gan y Bwrdd.

 

Cofnod:

Cyflwynodd y Cynghorydd Llinos Medi Huws (Cyngor Sir Ynys Môn) ychydig eiriau ar y cychwyn.  Nododd:-

 

·         Bod y prosiect cyffrous hwn yn rhan o gais gwreiddiol y Bwrdd, a’i bod yn braf adrodd fod y cynllun wedi aeddfedu’n sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf, a’n bod wedi dod â llawer o’n rhanddeiliaid gyda ni ar y siwrnai.

·         Bod hwn yn gynllun er mwyn cefnogi’r rhanbarth cyfan, lle'r oedd yna lefydd gweigion o ran ariannu, cefnogi ynni blaengar yn y gymuned, a chynlluniau mwy uchelgeisiol o bosib’ hefyd.

·         Y gobeithid bod yr aelodau hynny nad ydynt ar yr Bwrdd Rhaglen Ynni yn gallu gweld bod yna weledigaeth yma, bod yna bryniant i mewn gan nifer o bartneriaid, a hefyd bod cyfle yma i wneud gwahaniaeth ar y lefel gymunedol ac ar y lefel ranbarthol.

·         Y derbynnid bod yna rai risgiau ynghlwm â’r prosiect, ond er mwyn gosod uchelgais, bod rhaid cael ychydig o risg hefyd.

 

Yna manylodd Henry Aron (Rheolwr Rhaglen Ynni) ar gyd-destun a hanes y prosiect, gan ddarparu amlinelliad o’r broses sicrwydd, a cyflwynodd Elgan Roberts (Rheolwr Prosiect Ynni) fwy o fanylion ynglŷn â’r prosiect.

 

PENDERFYNWYD

 

1.              Bod y Bwrdd yn cymeradwyo'r Achos Busnes Amlinellol ar gyfer y prosiect Ynni Lleol Blaengar ac, yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraethau Cymru a'r DU o'r broses sicrwydd yr ymgymerwyd â hi a bod y Swyddfa Rheoli Portffolio yn rhoi sylw i'r materion sydd wedi'u nodi yn yr adroddiad, bod cais Adran 7 yn cael ei wneud i baratoi Achos Busnes Llawn i'r Bwrdd ei ystyried yn dilyn cwblhau'r broses gaffael a'r broses ganiatâd.

2.              Bod y Bwrdd yn dirprwyo i'r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd a'r Is-gadeirydd, gymeradwyaeth derfynol o'r fanyleb gaffael a'r meini prawf gwerth cymdeithasol cyn i ariannwr y prosiect ddechrau caffael.

3.              Bod y Bwrdd yn nodi y bydd y trefniadau ariannol terfynol ar gyfer y prosiect yn cael eu cytuno ar y cam Achos Busnes Llawn ac yn awdurdodi'r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â Swyddog Adran 151 a Swyddog Monitro'r Awdurdod Lletya i gytuno ar y telerau drafft i'w cymeradwyo gan y Bwrdd.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Ceisio cymeradwyaeth y Bwrdd i Achos Busnes Amlinellol (OBC) y prosiect Ynni Lleol Blaengar.

 

TRAFODAETH

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Tîm am y gwaith cefndirol hynod fanwl, a nododd fod hwn yn brosiect cyffrous iawn fydd yn cyffwrdd yn uniongyrchol â’n cymunedau ar draws y Gogledd yn ogystal â bod yn weledol i’n trigolion.

 

Holwyd pam bod yr adroddiad yn cyfeirio at greu 156-193 o swyddi newydd yng Ngogledd Cymru yn gysylltiedig â chyflawni a gweithredu datrysiadau ynni glân, gan i ni nodi’n flaenorol ein dymuniad i greu 2,400 o swyddi newydd drwy’r broses hon.  Mewn ymateb, eglurwyd:-

 

·         Bod y swyddi yn yr Achos Busnes Amlinellol yn seiliedig ar yr hyn a gafodd ei fodelu yn achos busnes y Rhaglen, felly roedd y targedau hynny wedi’u cario ymlaen ac yn cynnwys swyddi uniongyrchol ac anuniongyrchol yn y gadwyn gyflenwi.

·         Bod y modelu economaidd ar gyfer yr Achos Busnes Amlinellol yn seiliedig ar brosiectau tebyg mewn rhannau eraill o’r DU.  Roedd yna amrediad uwch o niferoedd swyddi, ac roedd rhai o’r niferoedd o brosiectau eraill yn uwch na’r amrediad a roddwyd yn y papur, ond edrychwyd ar groesdoriad o brosiectau tebyg, rhai prosiectau ynni mawr a rhai prosiectau llai, e.e. gosod paneli solar a phympiau gwres.

·         Mai un o’r pwyntiau allweddol wrth amcangyfrif nifer y swyddi ynghlwm â’r prosiect hwn, gan ein bod yn sefydlu cronfa, yw na allwn ond modelu a dyfalu orau y gallwn ar sail y dystiolaeth orau sydd ar gael o ran faint o swyddi y credwn y gallwn eu cyflenwi.

·         Pan fyddai’r gronfa yn cael ei lansio, y byddai yna broses ymgeisio fydd yn asesu ceisiadau yn erbyn meini prawf, ac un o’r meini prawf allweddol y byddwn yn ddefnyddio yw’r gallu i greu effaith ar ffurf swyddi, yn ogystal â chyflawni yn erbyn yr amcanion gwariant eraill o fuddsoddiad ac arbedion carbon hefyd.

 

Holwyd a oedd y Bwrdd Cyflenwi Busnes wedi bod yn rhan o’r gwaith o siapio’r cynnig oedd gerbron.  Hefyd, pwysleisiwyd yr angen i ymgysylltu gyda’r prifysgolion a’r colegau addysg bellach yn ystod y cam nesaf, gan fod peth o hyn yn ymwneud â chefnogi busnesau o safbwynt datblygu sgiliau, ail-hyfforddi ayb.  Mewn ymateb, eglurwyd:-

 

·         Bod y prosiect wedi bod gerbron y Bwrdd Cyflenwi Busnes, a bod nifer o’r sefydliadau sy’n cynrychioli’r sector breifat wedi bod yn bresennol mewn gweithdai a drefnwyd, er enghraifft, Cyngor Busnes Gogledd Cymru Merswy Dyfrdwy.  Hefyd, siaradwyd gyda llawer o’r grwpiau cefnogi busnes o fewn awdurdodau lleol a dosbarthwyd holiaduron i fusnesau drwyddynt. 

·         Bod y sector breifat wedi cyfrannu at siapio ein strategaeth, a bwriedid gwneud rhagor o ymgysylltu gyda’r sector wrth symud ymlaen.  Hefyd, o ran yr ymgysylltu gyda’r sefydliadau addysgol, gwahoddwyd y cynrychiolwyr ar ein Bwrdd i’r gweithdai, ac roedd hynny wedi bod o gymorth o ran siapio’r gwaith. 

·         Gan na fyddwn yn rheoli llawer o’r swyddi uniongyrchol, dymunid adeiladu cynllun sgiliau cysylltiedig â’n Cynllun Ymgysylltu â Rhanddeiliaid yn ystod cam nesaf y prosiect, er mwyn ystyried sut y gallwn annog cymaint â phosib’ o’r swyddi anuniongyrchol hynny i gael eu sicrhau yn lleol, a sut y gallwn gefnogi’r gadwyn gyflenwi a sicrhau bod gwybodaeth am gyfleoedd ar gael yn lleol.

 

O ran y gadwyn gyflenwi, holwyd sut y gellir sicrhau mai cwmnïau o Ogledd Cymru sy’n gwneud y gwaith.  Mewn ymateb, eglurwyd:-

 

·         Ein bod yn dymuno gweithio’n agos gyda’n hymgynghorydd cronfa ar hyn, yn ogystal ag yn nhermau sut rydym yn adeiladu hynny i mewn i’r broses ymgeisio, asesu ceisiadau sy’n dod i mewn, ag o le maent yn ffynonellu deunyddiau ac yn ffynonellu arbenigedd i’w cynorthwyo gyda’u prosiectau.

·         Y cyflawnwyd cryn waith gydag Adra a Grŵp Llandrillo Menai yn nhermau ymgysylltu a deall beth sy’n digwydd gyda’u hwb ym Mhenygroes, a hyderid y gellid cefnogi mwy o brosiectau tebyg, fydd o gymorth i gryfhau’r gadwyn gyflenwi yn lleol.

·         O safbwynt cefnogaeth, roeddem yn arddel hyblygrwydd gyda’n cronfa hefyd.  Yn hytrach na chefnogi cwmnïau i osod datrysiadau datgarboneiddio yn unig, edrychwyd hefyd ar ffyrdd o gefnogi cwmnïau cadwyn gyflenwi sy’n cynnig y datrysiadau hynny.

·         Cynhaliwyd trafodaethau gyda Banc Datblygu Cymru gan fod eu harian yn cefnogi’r math o fusnesau y gallem fod yn eu targedu, megis i roi cymorth i gadwyn gyflenwi ategu’r hyn maent yn ei wneud.

 

Holwyd pam bod y targed arian cyfatebol fel cyfartaledd ar draws y gronfa ond 75%.  Mewn ymateb, eglurwyd:-

 

·         Bod y ffigwr hwn yn deillio o’r targed gwreiddiol o’r achos busnes rhaglen.  Gan hynny, byddem yn buddsoddi’r £25m, ac yn dymuno gweld buddsoddiad yn ei gyfanrwydd o ychydig dros £100m.

·         Bod ein gwaith ymchwil i wahanol fathau o brosiectau yn awgrymu y gellid disgwyl tua 50% o gyllid cyfatebol ar gyfer prosiectau trydydd sector, 60%-70%, neu ychydig mwy na hynny, o bosib’, ar gyfer prosiectau sector preifat, ac roedd yn debygol y gellid trosoli tipyn mwy na hynny ar gyfer yr Is-gronfa Prosiectau Mawr.

·         Roedd yr ansicrwydd ar hyn o bryd yn gysylltiedig â beth fydd y galw am yr amrywiol is-gronfeydd a lle mae gennym ddyraniadau sicr ar gyfer yr is-gronfeydd hynny, ac ar hyn o bryd, roedd hynny’n cwrdd yn daclus â’r 75%.  Fodd bynnag, pe gwelid bod yna fwy o alw ar un is-gronfa nag un arall wrth i amser symud yn ei flaen, byddai’n rhaid adolygu’r sefyllfa.

·         Byddem yn edrych yn barhaus am ffynonellau ariannu eraill ar gyfer ymgeiswyr ac yn ystyried oes modd partneru gydag, e.e. Banc Datblygu Cymru, ynghyd ag unrhyw gyfleoedd ariannu eraill er mwyn trosoli cymaint â phosib’.

·         Bod yna ffyrdd gwahanol o sicrhau cyllid cyfatebol o fewn y prosiect hwn, ac roedd y strwythur cronfa ymbarél yn cael ei gynnig oherwydd y potensial o ddod â buddsoddiadau i mewn ar lefel y gronfa, yn ogystal ag ar lefel y prosiect, a dyna pam bod y swyddogion yn siarad gyda buddsoddwyr eraill.

·         Cafwyd trafodaethau gyda rhai cronfeydd pensiwn llywodraeth leol yn ogystal er mwyn gweld a fyddai ganddynt ddiddordeb mewn buddsoddi ar lefel cronfa neu is-gronfa, ac roedd potensial o ddatblygu cyllideb gyfatebol ar lefel prosiect yn ogystal.

 

Holwyd pam na chynhwyswyd datblygwyr preifat ar y rhestr o ran-ddeiliad sy’n rhan o’r asesiad effaith a’r broses ymgynghori.  Mewn ymateb, eglurwyd nad oedd nodi ‘Cymdeithasau tai cymdeithasol’ yn y rhestr rhanddeiliaid yn golygu bod datblygwyr preifat wedi’u heithrio, a’u bod wedi’u cynnwys yn y grŵp ‘busnesau’.

 

Gofynnwyd am esboniad pam fod y Gronfa Ymbarél o £25m wedi’i rhannu i 3 is-gronfa o £5m, £8m a £12m, ac awgrymwyd y byddai’n well arddel mwy o hyblygrwydd a chyfleu’r neges bod yna gyfanswm o £25m ar gael ar gyfer ceisiadau.  Mewn ymateb, eglurwyd:-

 

·         Bod y dyraniadau yn ddangosol ar hyn o bryd a byddent yn cael eu hadolygu unwaith y bydd cynghorydd y gronfa wedi’i benodi.  Mae’r dyraniadau yn seiliedig ar waith modelu lle bu i ni asesu gwahanol ddyraniadau yn ôl yr effaith y byddent yn greu.

·         Y crëwyd y gwahanol is-gronfeydd gan ein bod yn awyddus i glustnodi swm dangosol, dros dro ar gyfer pob is-gronfa.  Roedd hefyd yn caniatáu i ni gael strategaeth fuddsoddi wahanol ar gyfer pob is-gronfa yn nhermau’r arian cyfatebol a geisir ac efallai’r deilliannau disgwyliedig o amrywiol brosiectau.

·         Edrychwyd ar ambell senario gwahanol o ran dyraniadau ar gyfer pob is-gronfa, a hwn oedd y dyraniad oedd yn rhoi’r canlyniad gorau yn erbyn yr amcanion gwario, yn arbennig yn nhermau swyddi a throsoli buddsoddiadau.

·         Pe byddem yn newid y dyraniad yma ar ôl rhyw bwynt, efallai y byddai’n rhaid adolygu rhai o’r targedau hynny, ond dyma sut roedd wedi’i osod ar hyn o bryd, ac roedd rhywfaint ohono’n seiliedig ar yr adborth o’r holiaduron a ddosbarthwyd.

·         Daeth tua traean yr ymatebion o’r gymuned ynni a’r trydydd sector a tua deuparth o’r sector preifat, felly roedd yn amlwg bod yna ychydig mwy o alw o’r sector preifat, sydd i’w ddisgwyl.

·         Dymunid bod yn hyblyg gyda dyluniad y benthyciad a gellid newid, nid yn unig y buddsoddiad, ond y strategaeth fuddsoddi hefyd, os nad ydym yn defnyddio’r cronfeydd mor sydyn ag y byddem yn gobeithio a’n bod angen gwneud rhai newidiadau er mwyn sicrhau bod yr arian yn cael ei ddosbarthu.

 

Nododd y Cynghorydd Llinos Medi Huws:-

 

·         Ei bod yn bwysig nodi bod yr Bwrdd Rhaglen Ynni wedi trafod y mater hwn yn hynod fanwl ac wedi ceisio darganfod lle mae yna fylchau, lle mae angen cryfhau a hefyd lle mae gennym hyblygrwydd.

·         Bod y Bwrdd Rhaglen wedi trafod rhaniad y gronfa i 3 is-gronfa, ac yn parhau o’r farn bod angen pennu rhyw fath o ffin i gychwyn rhag i ni beidio cyflawni’r nod, ond wedi nodi hefyd bod yr hyblygrwydd yna petai angen.

 

Eglurwyd ymhellach:-

 

·         Mai’r bwriad ar hyn o bryd yw pwysleisio’r angen am hyblygrwydd, a bod angen adeiladu hyn i mewn i’r ffordd mae’r gronfa yn cael ei rheoli.

·         Unwaith y bydd y gronfa wedi’i lansio, byddwn yn monitro perfformiad ac yn gwneud newidiadau os oes angen.

·         Bod y cronfeydd sy’n bodoli eisoes a thystiolaeth yn awgrymu mai’r dadansoddiad yma fydd yn cael yr effaith fwyaf, ond mae’n rhaid i ni barhau i fod yn hyblyg.

·         Y cam nesaf fyddai caffael ymgynghorydd cronfa arbenigol i’n cynorthwyo i ddatblygu’r strategaeth fuddsoddi, fydd yn dod yn ôl i’r Bwrdd fel rhan o’r Achos Busnes Llawn.  Hefyd, fel rhan o’r broses honno, bwriedid ail-ymweld â’r dyraniad er mwyn sicrhau ei fod yn gywir cyn y lansiad cychwynnol.

 

Nododd y Cadeirydd fod yr argymhelliad ar hyn o bryd ar sail tystiolaeth o’r holl waith ymchwil sydd wedi digwydd yn y cefndir, a’r ymgynghori, ond mai cam yn unig ar y daith oedd mabwysiadu’r Achos Busnes Amlinellol.  Fel rhan o’r Achos Busnes Llawn, byddai yna waith ychwanegol llawer mwy manwl yn dod yn ôl i’r Bwrdd, ac yn cymryd i ystyriaeth y pwyntiau a godwyd yn y cyfarfod hwn, ynghyd â chyngor yr ymgynghorydd arbenigol.

 

Nododd y Cynghorydd Llinos Medi Huws fod hwn yn brosiect gwahanol a heriol iawn, ac y dymunai ddiolch i Henry Aron (Rheolwr Rhaglen Ynni) ac Elgan Roberts (Rheolwr Prosiect Ynni) am eu holl gwaith, a hefyd i’r holl bartneriaid sydd wedi bod yn rhan o’r broses.

 

Nododd y Cadeirydd ei bod yn amlwg bod yna waith cefndir sylweddol iawn wedi digwydd, ac ategodd yntau y diolchiadau i’r swyddogion.

 

Dogfennau ategol: