Cyflwynwyd gan:Cyng. Elin Walker Jones
Penderfyniad:
Derbynwyd cynnig grant i ehangu Rhaglen Dechrau’n Deg yn y
sir.
Dirprwywyd hawl i’r Pennaeth
Plant a Theuluoedd mewn ymgynghoriad a’r Pennaeth Cyllid i baratoi a chyflwyno achosion
busnes i’r Llywodraeth ar gyfer grantiau unigol Rhaglen Gyfalaf Gofal Plant a’r
Blynyddoedd Cynnar a derbyn cynigion ar ran y Cyngor.
COFNODION:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dilwyn Morgan yn absenoldeb Cyng. Elin
Walker Jones.
PENDERFYNIAD
Derbyniwyd cynnig grant i ehangu Rhaglen Dechrau’n
Deg yn y Sir.
Dirprwywyd hawl i’r Pennaeth Plant a
Theuluoedd mewn ymgynghoriad a’r Pennaeth Cyllid i baratoi a chyflwyno achosion
busnes i’r Llywodraeth ar gyfer grantiau unigol Rhaglen Gyfalaf Gofal Plant a’r
Blynyddoedd Cynnar a derbyn cynigion ar ran y Cyngor.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan gadarnhau fod Dechrau’n Deg yn ran o Raglen
Blynyddoedd Cynnar Llywodraeth Cymru. Manylwyd bod y rhaglen yn darparu gofal
plant o ansawdd uchel i deuluoedd â plant o dan 4 oed. Adroddwyd bod Dechrau’n
Deg yn ehangu ar y ddarpariaeth hyn i bob plentyn 2 oed yn Nghymru, am
ddim, drwy gydweithio mewn cytundeb â
Phlaid Cymru a Phlaid Llafur Cymru.
Eglurwyd byddai’r Rhaglen yn cael ei ehangu yn raddol gydag uchelgais o
gynnig darpariaeth gofal plant am ddim i bob plentyn 2 oed yn y dyfodol. Nodwyd
bod yr ehangiad hwn yn cyflwyno darpariaeth i oddeutu 150 o blant yn ychwanegol
i’r ddarpariaeth bresennol.
Cadarnhawyd bod 10 ardal o fewn y sir wedi cael eu hadnabod fel ardaloedd
ble dylai’r ddarpariaeth gael ei flaenoriaethu fel rhan o’r ehangiad er mwyn
targedau’r cymunedau sydd â’r gyfran tlodi plant uchaf yn y sir. Manylwyd bod
yr ardaloedd hyn wedi cael eu hadnabod fel:
·
Hendre (Bangor)
·
Penygroes
·
De Pwllheli
·
Abermaw 2
·
Hirael a Garth 2
(Bangor)
·
Porthmadog –
Tremadog
·
Bala
·
Teigl (Blaenau Ffestiniog)
·
Seiont 1 (Caernarfon)
·
Dewi (Bangor)
Adroddwyd bod Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau rhaglen gyfalaf fel rhan
o’r cytundeb cydweithio, ar gyfer cynorthwyo i fuddsoddi mewn lleoliadau gofal
plant a sicrhau bod y ddarpariaeth gofal plant o ansawdd uchel iawn. Nodwyd y
bwriad i ofyn am gymeradwyaeth y Cabinet ar geisiadau cyfalaf unigol i dderbyn
£4miliwn ychwanegol i’r maes yng Ngwynedd yn y dyfodol.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:
¾ Trafodwyd
bod yr ehangiad hwn yn ddatblygiad cadarnhaol iawn ac byddai’n gymorth
allweddol i blant sydd wedi cael eu effeithio’n anghymesur gan Pandemig
Covid-19.
¾
Ystyriwyd bod
buddion pellgyrhaeddol i’r ehangiad hwn oherwydd byddai mwy o rieni yn gallu
dychwelyd i’r gwaith gan nad oedd rhaid ystyried costau gofal plant.
¾
Rhannwyd balchder
bod cydweithio parhaus rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru yn galluogi
awdurdodau lleol i leddfu gofidion tlodi ein ardaloedd drwy’r cynigion gofal
plant am ddim, yn ogystal â’r gwasanaeth cinio am ddim mewn ysgolion.
¾ Mynegwyd
cefnogaeth i’r ehangiad hwn a thrafodwyd byddai’n ddelfrydol i’r ehangiad yma
barhau’n hirdymor. Ystyriwyd bod y Cyngor wedi wynebu trafferthion recriwtio yn
y ddiweddar a thrafodwyd sut byddai Dechrau’n Deg yn ymdopi â’r angen i recriwtio
mwy o staff er mwyn sicrhau bod yr ehangiad hwn yn weithredol yn hirdymor.
¾
Mewn ymateb i’r sylw
uchod, cydnabuwyd bod y sefyllfa staffio yn heriol ar hyn o bryd. Fodd bynnag,
roedd ymgyrch ychwanegol gan Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod modd recriwtio
yn y maes gofal plant. Ymhelaethwyd bod buddsoddiad yn cael ei wneud gan y
Llywodraeth i uwchraddio sgiliau a datblygu cymwysterau staff.
¾
Trafodwyd ymhellach
bod gwaith yn cael ei wneud er mwyn ystyried a oedd modd cyfuno swyddi gofal
plant â chymorthyddion dosbarth. Y gobaith oedd i’r
swyddi fod yn fwy deniadol i ymgeiswyr gan i’r oriau fod yn llawnach a
chytundebau hirach. Cadarnhawyd byddai hyn yn cael ei ystyried yn ffurfiol gan
Gyngor Gwynedd pe byddai canfyddiad ei fod yn bosibl, ac yn cael ei gyflwyno
fel peilot llwyddiannus.
Awdur:Marian Parry Hughes,Pennaeth Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd a Catrin Thomas, Pennaeth Cynorthwyol Cefnogi Teuluoedd
Dogfennau ategol: