Cyflwynwyd gan:Cyng. Dilwyn Morgan
Penderfyniad:
i.
Penderfynwyd byddai’r Cabinet yn argymell i’r
Cyngor Llawn ei fod yn mabwysiadu’r argymhellion yn yr adroddiad i’w
hymgorffori yng Nghynllun y Cyngor.
ii.
Cymeradwywyd yr argymhelliad o gyflwyno’r
asesiad i’r Cyngor i’w gymeradwyo.
COFNODION:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dilwyn
Morgan.
PENDERFYNIAD
i.
Penderfynwyd y byddai’r Cabinet yn argymell i’r
Cyngor Llawn ei fod yn mabwysiadu’r argymhellion yn yr adroddiad i’w
hymgorffori yng Nghynllun y Cyngor.
ii.
Cymeradwywyd yr argymhelliad o gyflwyno’r
asesiad i’r Cyngor i’w gymeradwyo.
TRAFODAETH
Nodwyd bod yr asesiad hwn o anghenion poblogaeth
oedolion Gwynedd yn rhoi darlun lleol o ofynion Gwynedd yn hytrach na’r Asesiad
Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru a gymeradwywyd gan Gyngor Gwynedd ar 3
Mawrth 2022.
Eglurwyd nad oedd Asesiad Anghenion Poblogaeth
Oedolion Gwynedd yn ofyniad statudol ond yn asesiad defnyddiol a phwysig er
mwyn galluogi’r Cyngor i gynllunio, blaenoriaethu a datblygu gwasanaethau
newydd.
Nodwyd bod y ddogfen yn nodi canran tebygol o
bobl fyddai’n dioddef o Dementia rhwng
2020-2040 yn cael ei nodi oddi fewn Graff 12 fel 34%. Roedd y ffigwr hwn, mewn
gwirionedd, yn 53% ac ymddiheurwyd am y gwall hwn o fewn y ddogfen, gan
gadarnhau y byddai’n cael ei gywiro mor fuan â phosibl.
Cadarnhawyd
bod yr asesiad yn rhoi sylw i’r themâu a grwpiau isod ac yn rhoi ystyriaeth i’r
iaith Gymraeg:
·
Pobl Hŷn
·
Anabledd
Corfforol a Nam ar y Synhwyrau
·
Anabledd Dysgu
·
Awtistiaeth
·
Iechyd Meddwl
·
Gofalwyr
·
Trais yn erbyn
merched, trais yn y cartref a thrais rhywiol
Manylwyd bod yr
asesiad yn manylu ar themâu penodol a ystyriwyd yn flaenoriaethau yng nghynllun
y Cyngor. Roedd y rhain wedi cael eu
hadnabod fel a ganlyn:
·
Gwella llesiant
unigolion.
·
Gwella ar y
gefnogaeth i ofalwyr di-dâl.
·
Sicrhau gofal
cwsmer o safon.
·
Diffyg mewn
rhai mathau o leoliadau.
·
Recriwtio staff
yn broblem enfawr ar draws y sector gofal.
· Cysoni data a gedwir ar systemau.
·
Buddsoddi mewn
gwasanaethau ataliol.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾
Diolchwyd i
swyddogion yr adran am eu gwaith caled a chynhwysfawr wrth baratoi’r asesiad.
¾
Ystyriwyd a fyddai’n
debygol y byddai bwlch yn
ymddangos rhwng gallu’r Cyngor i ddarparu gofal i oedolion, a’r niferoedd o
unigolion byddai angen ein gofal, o ystyried
bod ffigyrau rhai cyflyrau megis Dementia yn cynyddu a ffigyrau’r
boblogaeth yn gyffredinol yn gostwng.
¾
Mewn ymateb i’r sylw uchod, cadarnhawyd bod swyddogion yn cydweithio’n agos gyda
tîm ymchwil er mwyn sicrhau bod ystadegau manwl a chywir yn cael eu datblygu’n
barhaus. Manylwyd byddai hyn yn galluogi’r Cyngor i gynllunio yn effeithlon i’r
dyfodol. Pwysleisiwyd hefyd bod sefyllfaoedd argyfyngus yn ymddangos yn
bresennol drwy ymgeisio am leoliadau gofal, costau cyflogau a chynnydd mewn
costau nwyddau.
¾ Gofynnwyd sut oedd gwaith anghenion poblogaeth Gogledd Cymru, prosiect ar y
cyd gyda Sir Fôn yn sgil Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol a phrosiectau unigol
Cyngor Gwynedd yn cael ei blethu gyda’i gilydd a bod dim gwaith yn cael ei
ddyblygu.
¾
Mewn ymateb i’r
cwestiwn uchod, atgoffwyd nad oedd yr asesiad yma ar gyfer Wynedd yn ofyniad
statudol, yn annhebyg i Asesiad Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru.
Ymhelaethwyd y credwyd bod asesiad Gwynedd yn hollbwysig er mwyn derbyn
gwybodaeth am heriau penodol i’r Sir a pha wahaniaethau sy’n ymddangos o fewn
ardaloedd gwahanol ohono er mwyn creu cynlluniau effeithlon i’r dyfodol.
¾
Cadarnhawyd y byddai
swyddogion yn cadw’r asesiad hon yn fyw er mwyn diweddaru’r ffigyrau’n barhaus,
gan sicrhau bod data cywir ar gael ar unrhyw adeg oherwydd bod yr asesiad
rhanbarthol dim ond yn cael ei ddiweddaru pob 4 mlynedd.
¾
Rhoddwyd ystyriaeth i wahaniaethau mewn cyfnodau aros
am ofal cartref gan fod unigolion oedd yn byw yn Eifionydd yn aros bron 3
gwaith yn hwy nag unigolion yn ardal Caernarfon am ofal cartref. Manylwyd bod
natur fwy gwledig Eifionydd yn cyfrannu at yr ystadegyn yma ond bod y sefyllfa
wedi gwella dros y misoedd
diwethaf.
¾
Ymhellach i’r sylw
uchod, nodwyd bod y Cyngor yn cael trafferth i ddarparu tua 15% o anghenion
gofal cartref ar hyn o bryd. Adroddwyd
bod Cynllun y Cyngor yn dangos bwriad o ddarparu cefnogaeth i unigolion
mewn amrywiol ffyrdd, megis datblygiadau technolegol a gwelyau robotaidd, er mwyn lleihau’r galw am ofal cartref.
¾ Cadarnhawyd y byddai angen manteisio ar ddatblygiadau technolegol yn y
dyfodol, yn ogystal â chynnal trafodaethau rhanbarthol a chenedlaethol er mwyn
dysgu o lwyddiannau ac arferion da ardaloedd eraill a’u ymgorffori yn
narpariaeth gofal cartref yng Ngwynedd.
¾
Nodwyd bod yr
asesiad wedi cael ei wneud ar y cyd gyda swyddogion Bwrdd Iechyd Prifysgol
Betsi Cadwaladr a diolchwyd iddynt am eu parodrwydd i gydweithio.
Awdur:Aled Davies, Pennaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant
Dogfennau ategol: