Agenda item

I ddilyn: Sylwadau’r Aelod/au Lleol

Cyflwynwyd gan:Cyng. Nia Jeffreys

Penderfyniad:

Awdurdodwyd datblygu 10 uned gwaith dan reolaeth y Cyngor ym Mharc Busnes Eryri, Minffordd i gyfarch anghenion busnesau lleol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys

 

PENDERFYNIAD

 

Awdurdodwyd datblygu 10 uned gwaith dan reolaeth y Cyngor ym Mharc Busnes Eryri, Minffordd, i gyfarch anghenion busnesau lleol.

 

TRAFODAETH

 

Adroddwyd bod y Cyngor yn awyddus i gydweithio gyda phartneriaid masnachol er mwyn codi unedau busnes ble roedd angen. Ymfalchïwyd bod y Cyngor wedi cydweithio’n llwyddiannus gyda Llywodraeth Cymru ar y datblygiad yma.

 

Adroddwyd bod 37 cais am unedau busnes wedi cyrraedd y Cyngor dros y flwyddyn ddiwethaf a chadarnhawyd bod 28 (76%) ar gyfer unedau yn yr ardal dan sylw.

 

Nodwyd byddai’r cynllun hwn yn bosibl drwy glustnodi £2M o Gynllun Rheoli Asedau’r Cyngor yn ogystal ag ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i ddarparu £925,000 er mwyn sbarduno’r economi leol.

 

Eglurwyd bod swyddogion yn ymwybodol o ddiffyg argaeledd unedau busnes ar draws y Sir a gobeithiwyd y byddai’r cynllun yma yn gam tuag at waredu’r broblem yma. Pwysleisiwyd mai cychwyn ar ddatrys y broblem mae’r cynllun hwn yn hytrach na datrysiad llawn.

 

Cadarnhawyd bod swyddogion yn gweithio gyda tîmau Polisï Cynllunio Cyngor Gwynedd ac Awdurdod Cynllunio Parc Cenedlaethol Eryri er mwyn cael dealltwriaeth o anghenion ac argaeledd tir ac unedau. Bwriediwyd adeiladu rhaglen hirdymor yn seiliedig ar y gwaith cydweithio yma.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾   Cefnogwyd y cynllun gan gadarnhau bod yr angen am fwy o unedau busnes yn bodoli a'i fod yn annog pobl i aros yn eu cymunedau.

¾   Trafodwyd os oedd polisïau mewn lle er mwyn sicrhau bod yr unedau a ddatblygir yn aros o fewn reolaeth y Cyngor yn y dyfodol, yn hytrach na’u cadw dim ond pan maent yn cynhyrchu incwm. Ystyriwyd os oedd polisïau mewn lle i sicrhau hyn.

¾   Mewn ymateb i’r ymholiad uchod, cadarnhawyd bod ystyriaeth yn cael ei roi i nifer o wahanol ffyrdd bydd modd i’r Cyngor fuddsoddi mewn unedau busnes yn y dyfodol a sut gellir sicrhau perchnogaeth barhaol ohonynt. Er hyn, pwysleisiwyd bod angen cydweithio gydag awdurdodau cynllunio Cyngor Gwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri er mwyn cael dealltwriaeth o ba ardaloedd fyddai’n elwa o unedau busnes a sut y byddai’r ffordd orau o fuddsoddi.

¾   Atgoffwyd bod stoc adeiladau’r Cyngor wedi cael eu gwerthu tua 10 mlynedd yn ôl oherwydd eu bod yn heneiddio a ddim yn cael digon o ddefnydd. Ymhelaethwyd mai bwriad y Cyngor ar y pryd oedd ail-fuddsoddi’r arian hynny mewn unedau newydd, addas i bwrpas ac mewn lleoliadau ble maent ei angen. Cadarnhawyd bod y cynllun hwn yn parhau gyda’r gwaith cychwynnol hwnnw a benderfynwyd gan y Cyngor wrth waredu’r unedau blaenorol.

¾   Ystyriwyd blaenoriaethu ardaloedd ble mae’r Cyngor yn berchen ar dir neu adeiladau gwag er mwyn datblygu unedau busnes yno. Mewn ymateb i’r sylw, cydnabuwyd bod rhai asedau wedi cael eu dal yn ôl er mwyn asesu eu haddasrwydd fel safleoedd tai o fewn cynllun gweithredu tai'r Cyngor. Pwysleisiwyd bod y safleoedd hyn yn cael eu hystyried fel lleoliadau busnes os nad ydynt yn addas fel lleoliadau tai i bobl Gwynedd.

¾   Rhannwyd balchder byddai’r unedau busnes o fewn y cynllun hwn yn rhai Carbon sero net yn ôl eu defnydd a rhoddwyd ystyriaeth i ôl troed carbon y datblygiadau.

¾   Mewn ymateb i’r ymholiad, cadarnhawyd bod cynlluniau i osod paneli solar ar yr unedau yn ogystal â systemau pwmp ffynhonnell aer, a gobeithir defnyddio’r cynllun hwn fel templed i unedau a busnesau eraill i ostwng eu hôl troed carbon yn y dyfodol.

 

Awdur:Sioned E. Williams, Pennaeth Economi a Chymuned

Dogfennau ategol: