Agenda item

 

·         Network Rail

·         Trafnidiaeth Cymru

·         Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig

Cofnod:

 

NETWORK RAIL

 

Croesawyd Ben Perkins (Rheolwr Prosiect), Gareth Yates (Rheolwr Prosiect) a Sara Crombie (Rheolwr Cyfathrebu Network Rail) i’r cyfarfod

 

Diweddariad ar uwchraddio traphont Abermaw

 

Cyflwynwyd lluniau a ffeithiau allweddol ar y gwaith ar y draphont gan nodi bod y gwaith pren bellach wedi ei gwblhau ar gwaith dur ar ddechrau. Nodwyd na fydd dim newid i ddyluniad y bont wreiddiol - strwythurau dur newydd yn cael eu hadeiladu gan gwmni o Doncaster fydd yn cael eu cludo fesul darn i  Abermaw ar ddechrau’r Haf. Bydd y bont yn cau rhwng 01-09-23 a 25-11-23 i gwblhau’r gwaith (gan fanteisio ar gwblhau gwaith atgyweirio ychwanegol ar y rheilffordd tra wedi cau)

 

Diweddariad ar draphont Aberdyfi

 

Adroddwyd, fel traphont Abermaw bod angen adnewyddu’r strwythur yn llawn a’r gwaith yn cael ei gwblhau mewn dwy ran i osgoi  aflonyddwch amgylcheddol. Bydd y bont yn cau rhwng 01-09-23 a 31-10-23.

 

Diolchwyd am y diweddariad a gwerthfawrogwyd y buddsoddiad yn lleol.

           

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â galluogi mynediad at waith traphont Aberdyfi, nodwyd bod cynllun mynediad at y safle wedi cael ei gymeradwyo. Bydd y mynediad o ochr Ceredigion i’r aber gyda thrafodaethau eisoes wedi eu cynnal gyda thirfeddianwyr . Mewn ymateb i sylw pellach ynglŷn ag ail gyfeirio Llwybr yr Arfordir i fynd dros y bont yn hytrach na dros y mynyddoedd, nodwyd nad oedd hyn yn bosib oherwydd bod y bont yn rhy gul.

 

Mewn ymateb i siom bod y rheilffordd yn cau ar ddechrau mis Medi a hynny yn effeithio ar ddigwyddiadau sydd wedi eu trefnu yn lleol yn ystod y cyfnod yma,  nodwyd, er yn derbyn yr effaith ar y tymor gwyliau a digwyddiadau lleol bod rhaid sicrhau balans gyda mynediad ecolegol a’r angen am gyfnod amser o 12 wythnos i wneud y gwaith (amodau caeth ar draphont Dyfi oherwydd gwyddau sydd yn cael eu gwarchod).

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn a darpariaeth bysiau yn ystod y cyfnod cau, nodwyd bod trafodaethau yn cael eu cynnal gyda Trafnidiaeth Cymru. Unwaith bydd trefniadau wedi eu cadarnhau bydd modd rhannu’r wybodaeth. Mewn ymateb, nodwyd bod angen sicrhau gwasanaeth bysiau digonol ar gyfer digwyddiadau lleol e.e., Gŵyl Gwrw Harlech

Angen trefnu cyfarfod gyda’ Trafnidiaeth Cymru i drafod darpariaeth bysiau digonol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r amserlen, gan dderbyn bod y gwaith yn heriol ac amodau tywydd yn cael effaith, nodwyd bod y tywydd wedi’i raglennu i mewn i’r amserlen a bod gwaith o adeiladu’r gwaith dur yn datblygu yn dda. Ategwyd, bydd y bont yn cael ei chludo mewn darnau ar gefn lori i safle Morfa Madog ddiwedd Mai gydag ymarferiad o adeiladu’r bont wedi ei gynnal yn Doncaster cyn hynny. Cadarnhawyd nad oeddynt yn edrych ar gau’r bont wedi mis Tachwedd. Awgrymwyd cynnal ymweliad safle fel bod modd i’r Aelodau weld y gwaith.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ategol ynglŷn â goblygiadau cludo’r gwaith dur yn ystod tymor gwyliau, nodwyd y bydd y gwaith cludo yn golygu rhyddhau rhybudd cludiant a’r cwmni cludo yn gwneud pob ymgais i osgoi amseroedd prysur, creu cyn lleied o dagfeydd a  gwneud y daith mor gost effeithiol a phosib.

Cais i Network Rail rannu gwybodaeth a chadw cysylltiad agos gyda’r Harbwrfeistr ac Aelodau Lleol fel bod modd lleihau effaith ar y cyhoedd.

                                                           

TRAFNIDIAETH CYMRU

 

Croesawyd Gail Jones, Trafnidiaeth Cymru i’r cyfarfod i gyflwyno diweddariad ar weithgareddau Trafnidiaeth Cymru.

 

·         Bod Trafnidiaeth Cymru wedi tynnu nifer o drenau Dosbarth 175 allan o wasanaeth dros dro er mwyn cynnal gwaith gwirio a chynnal a chadw yn dilyn rhai problemau mecanyddol diweddar. Amlygwyd bod y gwaith gwirio wedi canfod bod angen atgyweirio rhai o'r trenau cyn iddynt ddychwelyd i wasanaeth. O ganlyniad, mae’n debygol y bydd tarfu ar wasanaethau teithwyr yn parhau tan ddechrau mis Ebrill. Hyn yn cael effaith ar drenau bore i Abermaw – gwasanaeth bys wedi ei drefnu

·         Bod y gwaith o osod diffibrilwyr achub bywyd yng ngorsafoedd rheilffordd wedi ei gwblhau a bod rhaglen gynhwysfawr o hyfforddiant ac ymwybyddiaeth gydag ysgolion wedi ei drefnu. Unrhyw un sydd â diddordeb pellach i gysylltu gyda GJ

·         Cyhoeddi bod Jo Edwards wedi ei phenodi fel Swyddog Cyswllt Ysgolion – bydd JE yn gyfrifol am sicrhau bod disgyblion sy'n mynychu Ysgol Tywyn ac Ysgol Ardudwy yn gwneud hynny yn ddiogel, bod disgyblion yn ymddwyn yn briodol ar y trenau, ac yn  cynnal  ymweliadau gyda’r ysgolion i drafod diogelwch rheilffordd.

·         Cyflwyno trenau 197 - trenau 2 gerbyd. Er bod capasiti seddau'r cerbydau hyn yn llai na’r cerbydau presennol, bod y cerbydau 197 yn caniatáu mynediad i wahanol ddefnyddwyr - mwy o le i gadair olwyn, mobility scooters, beics a phramiau. Ategwyd na all Trafnidiaeth Cymru redeg trenau gyda mwy na dau gerbyd ar Reilffordd Arfordir y Cambrian ar hyn o bryd oherwydd cyfyngiadau seilwaith presennol (platfformau byr a chroesfannau rheilffordd wrth ymyl gorsafoedd) - nid yw buddsoddi mewn seilwaith wedi’i ddatganoli - Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol amdano.

·         Gwaith da yn cael ei wneud rhwng  Rheilffordd Cymunedol a Cherddwyr Cymru gyda theithiau cerdded i deuluoedd wedi eu trefnu

 

Diolchwyd am y diweddariad

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag annog defnydd trenau ar gyfer cyrraedd  Eisteddfod Genedlaethol Haf 2023 ac o ganlyniad sicrhau bod darpariaeth ychwanegol ar gyfer ymwelwyr, nodwyd, ar Reilffordd Arfordir y Cambrian a Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru bydd Trafnidiaeth Cymru yn edrych i mewn i'r posibilrwydd o gyflwyno cerbydau ychwanegol i gefnogi teithiau / adegau prysur –  (fel arfer yn ystod misoedd yr haf). Nodwyd bod cynllun peilot wedi ei dreialu’n llwyddiannus, e.e, yn ystod cyngherddau a gemau rygbi yng Nghaerdydd. Os caiff ei gyflwyno ar Reilffordd Arfordir y Cambrian a Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru bydd angen cydweithio gyda’r Sir i gasglu adborth hanfodol i sicrhau’r strwythur a’i lwyddiant. Ategwyd bod Lowri Joyce Lowri.Joyce@tfw.wales yn gweithio ar fanylion teithiau penodol i’r Eisteddfod Genedlaethol.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â chyflwyno cerbydau 197 a bod maint y platfform yn cyfyngu defnydd o fwy na dau gerbyd, nodwyd bod modd herio elfen diogelwch y drysau ar y trenau a chyflwyno pedwar cerbyd yn ystod amseroedd prysur.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag os yw nifer y teithwyr wedi dychwelyd i nifer cyn covid, nodwyd bod cynnydd wedi ei weld, ond nad oedd wedi cyrraedd lefelau cyn covid. Gyda buddsoddi pellach mewn cyfleusterau ar y trenau, y gobaith yw gweld cynnydd mewn defnyddwyr.

 

Sylwadau a materion eraill a godwyd yn ystod y drafodaeth:

·         Yn croesawu buddsoddiad Trafnidiaeth Cymru yn yr ardal

·         Cais i osod camera ar loches ym Mhenrhyndeudraeth

 

HEDDLU TRAFNIDIAETH BRYDEINIG

 

Nid oedd cynrychiolydd o Heddlu Trafnidiaeth Brydeinig yn bresennol i gyflwyno adroddiad ac nad oedd ymateb i’r cais cyfarfod wedi ei dderbyn gan Yr Arolygydd Karl Anderson. Awgrymwyd bod adrannau gwahanol o’r Heddlu yn gyfrifol am ddiogelwch Rheilffordd y Cambrian gyda Heddlu Trafnidiaeth Brydeinig yn gyfrifol am y llinell hyd at Harlech a Heddlu Gogledd Cymru (Bangor) yn gyfrifol am y llinell o Harlech i Bwllheli.

Gwnaed cais i ganfod mwy o wybodaeth fyddai yn cadarnhau'r trefniant yma

 

Diolchwyd am y diweddariadau

Dymunwyd diolch i Philip Caldwell (Rheolwr Croesfan Lleol Network Rail) am ei waith arbennig a’i barodrwydd i ymateb i geisiadau am wybodaeth diogelwch bob amser.