I dderbyn ymateb i gwestiynau ffurfiol a dderbyniwyd ers y cyfarfod diwethaf:
·
Cyngor
Cymuned Llangylennin
·
Cyngor
Cymuned Llanbedr
·
Cyngor
Tref Criccieth
·
R
Goodhew (Cymdeithas Teithwyr Amwythig-Aberystwyth)
Cofnod:
Cyngor
Cymuned Llangelynnin
Cwestiwn i Network
Rail NR): Hoffai Cyngor Cymuned Llangelynnin
ofyn y cwestiwn i NR ac unrhyw barti perthnasol arall ynghylch pryd y gall
gwaith ddechrau ar Allt Friog Hill A493 parthed y wal ffin /rhwystr damwain,
gan fod hyn wedi'i amserlennu i gychwyn yn Chwarter 1 o 2023, (rydym bron ar
ddiwedd y cyfnod erbyn hyn) Mae rheolaeth traffig wedi bod ar waith ers cryn
amser bellach a dim arwydd o unrhyw waith wedi ei wneud.
Ategodd Y Cynghorydd Louise Hughes (Aelod Lleol) bod y
sefyllfa wedi bod yn destun pryder i’r ardal ers bron i 10 mlynedd ac er bod
trafodaethau ac asesiadau yn cael eu cwblhau, nid yw’r gwaith wedi dechrau.
Ateb: NR yn dal yn ymrwymedig i wneud y gwaith atgyweirio i'r wal ar
Allt Friog Fodd bynnag, bod rhai datblygiadau dros yr wythnosau diwethaf wedi newid elfennau o’r gwaith roeddynt yn
bwriadu ei wneud. Daeth i’r amlwg, wrth edrych trwy hen ddogfennau, fod llythyr
yn dyddio’n ôl i 1976 yn nodi y bydd NR yn parhau i gynnal a chadw’r wal
derfyn, ond bod y rhwystr damwain ar yr A493
yn eiddo i Cyngor Gwynedd a’r Cyngor felly yn gyfrifol am ei gynnal.
Ategwyd bod Tîm Eiddo NR wedi cysylltu â
Steffan Jones, Pennaeth Priffyrdd Cyngor Gwynedd, i geisio trafod y mater. Er
na fydd hyn yn effeithio cynlluniau NR i atgyweirio’r wal, bydd yn newid sgôp y
gwaith ac felly byddent ond yn gwneud gwaith cynnal a chadw ar yr asedau sydd o
fewn eu perchnogaeth.
O ran y broses, nodwyd bod NR wrthi yn cwblhau dyluniadau ac yn
adolygu'r costau. Wedi sicrhau cyllid digonol i gyflawni'r prosiect bydd angen
gosod amserlen i gwblhau’r gwaith. Awgrymwyd cynnal galwad Teams neu Zoom gyda chynrychiolwyr o ardal Friog - Cyngor Cymuned
Llangelynnin, Cyngor Cymuned Arthog ac Aelodau’r wardiau priodol i drafod yn
fanylach gyda Thîm Asedau NR
Nododd y Cynghorydd Dafydd Meurig
(Aelod Cabinet Amgylchedd) y buasai’n cysylltu gyda Phennaeth Priffyrdd,
Peirianneg a YGC am ddiweddariad o safbwynt y Cyngor.
Nododd Y Cyng. Louise Hughes y byddai’n croesawu gwahoddiad i gyfarfod
Teams / Zoom i drafod ymhellach ac o’i dymuniad i gael ei
chynnwys mewn unrhyw ohebiaeth pellach. Roedd hefyd yn awyddus i wahodd Aelod
Cabinet Amgylchedd ac Aelod Cabinet Priffyrdd, Peirianneg a YGC am ymweliad
safle.
Cyngor
Cymuned Llanbedr
Cwestiwn: Hoffwn wybod os a phryd
fydd Gorsaf Drên Llanbedr yn cael ei adnewyddu.
Diolchwn fod yr orsaf wedi cael
ei phaentio yn ddiweddar.
Ateb Trafnidiaeth Cymru (TC): Nid oes unrhyw ddiweddariad mewn perthynas
â gwella cyfleusterau gorsaf Llanbedr. Mae'r holl orsafoedd wedi'u cynnwys mewn
Cynllun Integredig a bod bwriad ymweld i gwblhau gwaith ail-frandio, arwyddion
a gwelliannau i asedau gorsafoedd h.y. seddi, llochesi ac ati. Fodd bynnag, nid
oes cyllid wedi’i ddyrannu ar hyn o bryd i symud ymlaen ar hyn.
Mewn ymateb, nododd yr Aelod Lleol, gyda Llywodraeth Cymru wedi gwrthod
ffordd osgoi i Lanbedr, bod angen uwchraddio a gwella
cyfleusterau gorsaf Llanbedr.
Cwestiwn: Rydym fel Cyngor Cymuned
wedi gwneud cais am fin baw cwn ger yr orsaf – gan Gyngor Gwynedd. Pe baem yn llwyddiannus gyda hwn, a fydd
yna siawns cael bin sbwriel ar yr orsaf?
Ateb TC: Bod ymateb i’r cais gyda Rheolwr yr Orsaf, Mr Dave Crunkhorn.
Bydd angen adolygu’r sefyllfa pan fydd y bin baw cŵn yn ei le.
Ategodd yr Aelod Cabinet y byddai’n tynnu sylw at y
mater i Bennaeth Adran Priffyrdd gan nodi y byddai TC yn fodlon rhoi'r bin
ysbwriel yn ei ôl pe bai'r Cyngor yn gosod bin baw ci pwrpasol gerllaw.
Cwestiwn: Bod nifer o’r Cynghorwyr sydd wedi mabwysiadu'r
Orsaf yn Llanbedr yn awyddus i
gael atebion yn ôl parthed
eu sylwadau maent yn eu
hanfon bob pythefnos. A fydd
hyn yn debyg
o ddigwydd?
Ateb TC: Cwestiwn i’r Tîm Rheilffyrdd Cymunedol – y Rheolwr Gorsaf yn delio
â cheisiadau’r mabwysiadwyr
Cwestiwn: Adnabyddir yr hen Orsaf
yma fel Halt Talwrn Bach yn y gorffennol. Beth yw posibilrwydd adennill yr hen enw yma?
Ateb TC: Wedi holi swyddogion perthnasol Trafnidiaeth Cymru ymddengys mai’r ateb yw na. Nodwyd bod newid enw gorsaf yn
rhy gymhleth o lawer, ac nid yw’n fater y byddai Trafnidiaeth Cymru yn ei
gymeradwyo.
Cwestiwn: Ymddengys bod y canllaw pren sydd yma
wedi pydru.
Ateb: Siaradwyd â gwasanaethau rheilffordd Trafnidiaeth Cymru mewn perthynas â hyn. Bu iddynt ymweld â’r
safle 29 Mawrth 2023 - y canllaw
bellach wedi’i atgyweirio.
Cwestiwn NR: Hefyd wedi derbyn cwyn
bod yr arwydd rhaglen trên yn rhy
uchel i bawb
ei ddarllen.
Ateb: Angen rhywfaint o eglurder ynghylch pa arwyddion y cyfeirir atynt? Os mai arwyddion
gerllaw'r ffordd y cyfeirir atynt hwy, ni ellid
gwneud llawer gyda’r arwyddion hynny gan eu
bod yn sefydlog. Er hynny, nodwyd bod y wybodaeth yn cael
ei ail adrodd yn yr orsaf sydd
rhyw 20 llath i ffwrdd
Cyngor Tref Criccieth
Cwestiwn: Pam bod angen talu ffi gweinyddu
o £10 y tocyn i gael ad-daliad hyd yn oed
pan mae trenau wedi eu canslo
gan y gwasanaeth e.e, oherwydd y tywydd?
Ateb TC: Nid yw TC yn codi
ffi weinyddol nac unrhyw ffi
ar deithwyr sydd wedi hawlio
iawndal am drên sydd wedi’i ohirio
neu wedi’i ganslo; yn ogystal nid
yw TC yn codi ffi pan fydd
cwsmeriaid yn hawlio iawndal.
Mae ‘Trainline’ (nid TC) yn codi
ffi archebu o £10.00 ac nid ffi hawlio
gan nad ydynt
yn cynnig iawndal am deithiau – gwerthwyr yn unig
ydynt
Mae TC yn
codi ffi weinyddol os oes
gan rywun docyn papur ac yn gwneud cais
am ad-daliad - nid yw hyn yn
berthnasol os bydd y tocyn wedi
ei brynu ar-lein.
Mae TC yn
codi ffi weinyddol os yw
teithwyr eisiau newid manylion eu tocyn e.e.
tocyn ymlaen llaw.
Nid oes ffi weinyddol nac
unrhyw ffi ar gyfer teithwyr
sydd wedi hawlio iawndal am drên sydd wedi'i
ohirio neu wedi'i ganslo.
Mae’n bwysig nodi nad yw ad-daliad
ac iawndal yr un peth.
Cwestiwn: Does dim ffens rhwng Teras Cambrian a'r rheilffordd, dim ond ychydig o wifren.
Ateb NR: Wedi
bod mewn cysylltiad â Rheolwr Croesfan Rheilffordd Criccieth sydd wedi bod i'r safle.
Nodwyd bod y ffens bresennol, sy'n ffens postyn a gwifren, yn un eithaf cyffredin o amgylch ffiniau rheilffordd, ond mae'r tîm wedi
ymweld â'r safle 31 Mawrth 23 i drafod beth sydd
yn bosib. Bydd modd rhoi
diweddariad o’r sefyllfa yn dilyn
yr ymweliad safle.
Cwestiwn: Mae’r ffens haearn pigfain
ger y groesfan reilffordd wedi torri ac yn
cael ei gweld
fel perygl.
Ateb NR: Wedi siarad â Rheolwr Croesfan sydd wedi
bod i’r safle. Bydd y ffens wen sydd wedi pydru yn
cael ei disodli
gan ffens newydd i sicrhau
bod y safle yn ddiogel.
Cwestiwn: Mae sbwriel rhwng y rheiliau ger yr orsaf yn gwneud
i’r orsaf edrych yn hyll
Ateb NR: Dim yn siŵr lle mae’r
sbwriel ond os yw ar
y traciau, bydd angen aros am ‘block line’ ac felly'r gwaith wedi ei gofnodi
gyda Chydlynydd Cynnal a Chadw yr ardal. Cyswllt hefyd wedi ei
wneud gyda Thrafnidiaeth Cymru sydd a thrydydd parti sy’n mynychu’n rheolaidd – angen gwirio pryd
fydd eu hymweliad
nesaf. Ategwyd ei bod yn anodd
iawn cadw rheolaeth o’r sbwriel
gan ei fod
yn aml yn
cael ei chwythu
yno.
Cymdeithas Teithwyr Amwythig - Aberystwyth
Cwestiwn: A oes modd i'r pwyllgor gyfarfod yn ei leoliad arferol ym Mhorthmadog ar ddyddiad y disgwylir i wasanaethau trên fod yn rhedeg yn arferol yng Nghymru a'r Gororau?
Ateb: Yng
nghyfarfod y Cyngor Llawn ar yr 2il o Ragfyr 2021 bu i’r Cyngor benderfynu ar
yr egwyddor o gynnal cyfarfodydd pwyllgorau ffurfiol yn rhithiol lle bo modd
gwneud hynny a chynnal cyfarfodydd hybrid lle bo diddordeb uchel gan y
cyhoedd. Mae’r adroddiad yn nodi mai
cyfarfodydd y Cyngor Llawn, Cabinet, pwyllgorau craffu a phwyllgor Cynllunio yn
unig sy’n cael eu cynnal yn aml leoliad (sef yn hybrid). Bydd yr holl
bwyllgorau eraill yn rhithiol llwyr gyda rhai eithriadau megis e.e, Pwyllgor
Apêl Cyflogaeth (dibynnol ar gais yr unigolyn). Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion
- ystyriaeth pan fo cyfweliadau – rhithiol fel arall Pwyllgorau ac Is
Bwyllgorau lle cynhelir gwrandawiadau quasi- farnwriaethol.
Mae’r adroddiad
wedi ei fabwysiadu yn sgil gofynion Rhan 3 Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau
(Cymru) 2021 sy’n nodi fod yn rhaid sicrhau mynediad o bell i Gynghorwyr i
bwyllgorau. Mewn geiriau eraill, nid yw
cynnal cyfarfodydd ffurfiol wyneb yn wyneb yn unig yn bosib.
Diolchwyd am y cwestiynau
Diolchwyd i Network Rail ac i Trafnidiaeth Cymru am eu cefnogaeth ac am ymateb
i’r materion a godwyd yn y Pwyllgor.
Fe’i hanogwyd i sicrhau cyfathrebu clir gyda’r cyhoedd o unrhyw
ddigwyddiadau / diweddariadau.
Gofynnodd
Rhian Williams (Rheolwr Cludiant Integredig a Diogelwch Ffyrdd Cyngor
Gwynedd) i Trafnidiaeth Cymru gysylltu yn uniongyrchol gyda’r ysgolion os bydd
y rheilffordd yn cau am unrhyw reswm e.e, llifogydd
Dogfennau ategol: