Agenda item

Ystyried adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau.

Penderfyniad:

 

  • Mewn perthynas â’r honiadau o dorri’r côd, mae’r pwyllgor wedi penderfynu bod yr Aelod wedi methu â chydymffurfio â Chod Ymddygiad Aelodau Cyngor Gwynedd yn y modd canlynol gan iddi dorri’r darpariaethau canlynol:

 

4(a) Rhaid i Aelodau gyflawni eu dyletswyddau a’u cyfrifoldebau gan roi sylw dyladwy i’r egwyddor y dylai fod cyfle cyfartal i bawb, waeth beth fo’u rhyw, eu hil, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hoed neu eu crefydd.

 

4(b) Rhaid i Aelodau ddangos parch at eraill ac ystyriaeth ohonynt.

 

6(1)(a) Rhaid i Aelodau beidio ag ymddwyn mewn ffordd y gellid yn rhesymol ei hystyried yn un sy’n dwyn anfri ar eu swydd neu ar eu hawdurdod.

 

  • Ar ôl ystyried difrifoldeb yr ymddygiad dan sylw, ac ar ôl ystyried y ffactorau lliniarol a’r ffactorau gwaethygol perthnasol, penderfynodd y Pwyllgor y dylai’r Aelod gael ei gwahardd o fod yn aelod o Gyngor Gwynedd am 1 mis.

 

  • Bod y Pwyllgor yn disgwyl i’r Aelod fanteisio ar unrhyw gyfleoedd hyfforddiant a gynigir gan y Cyngor yn y dyfodol, sy’n ymwneud ag ymddygiad aelodau. 

 

  • Y dylai’r Aelod ysgrifennu at yr Achwynydd o fewn 3 wythnos (o ddyddiad derbyn yr hysbysiad) i ymddiheuro am ei hymddygiad (gyda chopi i’r Swyddog Monitro).

 

  • Bod y Pwyllgor yn argymell i Gyngor Gwynedd ystyried os gellid darparu cymorth i aelodau mewn perthynas â gohebiaeth a dderbynnir ganddynt mewn iaith nad ydynt yn ei deall, unai yn fewnol neu drwy gyfeirio aelodau at ffynonellau eraill priodol.

 

Cofnod:

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r gwrandawiad a chyflwynodd swyddogion yr Ombwdsmon eu hunain i’r aelodau.

 

Yna esboniodd y Cadeirydd natur / fformat y gwrandawiad.

 

Cefndir

 

1. Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (“yr Ombwdsmon”) i gŵyn a wnaed gan Mr Howard Huws (“yr Achwynydd”), bod y Cynghorydd Louise Hughes (“yr Aelod”)  wedi torri Cod Ymddygiad Cyngor Gwynedd (“y Cyngor”).

 

2. Honnwyd bod yr Aelod wedi ymddwyn yn amhriodol drwy ymateb mewn Almaeneg i ddau e-bost anfonwyd ati gan yr Achwynydd yn y Gymraeg.

 

3. Daeth yr Ombwdsmon i’r penderfyniad y gallai’r Aelod fod wedi torri Cod Ymddygiad y Cyngor, yn benodol, paragraffau 4(a), 4(b) sy’n darparu:

 

“4. Mae'n rhaid i chi:

(a)  gyflawni eich dyletswyddau a’ch cyfrifoldebau gan roi ystyriaeth briodol i'r egwyddor y dylai fod cyfle cyfartal i bawb, waeth beth fo'u rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, oedran neu grefydd;

 

(b) dangos parch at bobl eraill ac ystyriaeth iddynt;

 

Canfu'r Ombwdsmon hefyd y gellid ystyried gweithredodd yr Aelod yn rhesymol fel ymddygiad a allai fod wedi torri paragraff 6 (1) (a) y Cod Ymddygiad:

 

“6 (1) Mae'n rhaid i chi:

 

(a) beidio ag ymddwyn mewn ffordd y gellid ystyried yn rhesymol ei bod yn dwyn anfri ar eich swydd neu'r awdurdod;”

 

4. Cyfeiriodd yr Ombwdsmon ei adroddiad ymchwilio at Swyddog Monitro Cyngor Gwynedd i'w ystyried gan ei Bwyllgor Safonau.

 

Y Gwrandawiad

 

5. Cyflwynodd y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau (Dirprwy Swyddog Monitro Cyngor Gwynedd), oedd yn cynghori’r Pwyllgor, ei adroddiad ar gychwyn y gwrandawiad.

 

6. Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad ysgrifenedig ymchwiliad yr Ombwdsmon, y dogfennau pellach a gyflwynwyd ymlaen llaw gan yr Aelod a’r Ombwdsmon yn unol â threfn cyn-wrandawiad y Pwyllgor, a’r dystiolaeth gan yr Awdurdod yn cadarnhau’r ddarpariaeth gyfieithu oedd ar gael pan dderbyniwyd yr e-byst gan yr Aelod.  Ystyriodd y Pwyllgor hefyd y cyflwyniadau llafar yn ystod y gwrandawiad gan Katrin Shaw, Prif Gynghorydd Cyfreithiol a Chyfarwyddwr Ymchwiliadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Swyddog Ymchwilio’r Ombwdsmon, yr Achwynydd, fel tyst, a’r Aelod ei hun.  Roedd yr Aelod wedi nodi’n flaenorol na fyddai’n bresennol, gan ei bod wedi dweud yr hyn yr oedd am ei ddweud yn ei chyflwyniadau ysgrifenedig i’r ymchwiliad. Fodd bynnag, penderfynodd fod yn bresennol, er gwaethaf y pryder a'r trallod yr oedd y mater yn ei achosi iddi, i sicrhau'r Pwyllgor ei bod yn cymryd y mater o ddifrif.

 

Y Penderfyniad

 

7. Ystyriodd y Pwyllgor yn gyntaf unrhyw ganfyddiad o ffaith yr oedd angen iddo wneud. Nid oedd unrhyw ffeithiau oedd yn destun anghydfod yn yr achos hwn.  Roedd y gŵyn yn deillio o gynnwys dau e-bost anfonwyd gan yr Aelod ar 4/12/21 a 21/2/22.  Roedd copïau o’r ddau e-bost yma yn y dystiolaeth ysgrifenedig gerbron ac nid oedd amheuaeth felly ynglŷn â’r hyn yr oedd yr Aelod wedi ei ddweud.

 

8. Aeth y Pwyllgor ymlaen i ystyried ymddygiad yr Aelod, ac ar ôl ystyriaeth ofalus o’r holl dystiolaeth a gyflwynwyd, penderfynodd y Pwyllgor fod yr Aelod wedi methu a chydymffurfio â’r Cod Ymddygiad fel a ganlyn:

 

9. Canfu’r Pwyllgor fod yr Aelod wedi torri paragraff 4(a) y Cod Ymddygiad am y rhesymau canlynol:

 

9.1 Trwy ymateb i e-byst gan yr Achwynydd yn Almaeneg roedd yr Aelod wedi gwadu’r cyfle i’r Achwynydd allu cysylltu ag aelod etholedig o’r Cyngor yn ei ddewis iaith, sef Cymraeg. Credai'r Pwyllgor y dylai fod gan bawb yr hawl i gysylltu ag aelod o'r awdurdod a derbyn yr un lefel o wasanaeth, waeth ym mha iaith y gwneir y cyswllt. Fodd bynnag, roedd yr aelod wedi trin yr Achwynydd yn wahanol oherwydd iddo ysgrifennu ati yn Gymraeg. Roedd y Gymraeg yn rhan annatod a sylfaenol o hunaniaeth ddiwylliannol yr Achwynydd ac roedd ei drin yn wahanol ar y sail hon yn wahaniaethol ym marn y Pwyllgor. Er bod yr ymatebion yn ôl pob golwg yn gofyn am gyfieithiad, mae’r ffaith iddi ddewis ysgrifennu yn Almaeneg, nad yw’n iaith swyddogol yng Nghymru, ar ddau achlysur yn dangos ym marn y Pwyllgor nad dyna oedd y bwriad mewn gwirionedd.

 

10. Canfu’r Pwyllgor fod yr Aelod wedi torri paragraff 4(b) y Cod Ymddygiad am y rhesymau canlynol:

 

10.1 Nid oedd yn rhesymol ym marn y Pwyllgor i ddehongli negeseuon yr Aelod fel ymgais ddiffuant i ddeall e-byst yr Achwynydd, nac fel ymgais i gyfleu’r teimlad o dderbyn neges mewn iaith nad oeddech yn ei deall. Ymhellach, roedd yr Achwynydd yn cysylltu â hi yn rhinwedd ei swydd fel cynrychiolydd Cylch yr Iaith, mudiad sy'n ymwneud yn benodol â hybu'r Gymraeg. 'Roedd yr aelod yn ymwybodol o hyn ac o bwysigrwydd yr iaith Gymraeg i'r Achwynydd.

 

10.2 Roedd yr Achwynydd wedi dehongli ymateb yr aelod fel sarhaus, gwatwarus a choeglyd a chredai mai dyma'r unig ddehongliad rhesymol. Er bod yr Aelod yn cyfaddef mai ymgais ‘blentynnaidd’ ar hiwmor oedd ei hateb, gwadodd ei bod yn ddirmygus o’r Gymraeg mewn unrhyw ffordd. Wrth nodi’r esboniad yr Aelod ynghylch ei bwriad, barn y Pwyllgor oedd y dylai fod wedi bod yn glir iddi na fyddai ei hatebion yn cael eu dehongli fel rhai doniol ond yn hytrach yn goeglyd ac yn ddilornus o ddewis iaith yr Achwynydd. Daeth y Pwyllgor i’r casgliad nid yn unig ei bod wedi dangos diffyg parch at yr achwynydd fel unigolyn a oedd yn dymuno ysgrifennu ati yn Gymraeg ond hefyd at y sefydliad yr oedd yn ei gynrychioli. Roedd y ffaith iddi wneud hyn ddwywaith, tua 3 mis ar wahân, yn atgyfnerthu'r canfyddiad mai gweithred fwriadol oedd hon yn hytrach na chamgymeriad byrbwyll.

 

10.3 Beth bynnag fo’r sefyllfa gyda chefnogaeth cyfieithu gan y Cyngor nodwyd na wnaeth yr Aelod unrhyw ymdrech i gael cymorth gan eraill i ddeall beth oedd cynnwys e-byst yr Achwynydd.  Petai hi’n wirioneddol dymuno deall beth oedd cynnwys yr e-byst gallai fod wedi gofyn am gymorth.

 

11. Canfu’r Pwyllgor fod yr Aelod wedi torri paragraff 6(1)(a) y Cod Ymddygiad am y rhesymau canlynol:

 

11.1 O edrych ar ymddygiad yr Aelod yn ei gyfanrwydd, roedd y Pwyllgor o’r farn ei fod yn ddigon difrifol ei natur fel ei fod yn dwyn anfri ar ei swydd fel cynghorydd ac ar ei hawdurdod.  Roedd y pwyllgor yn cytuno gyda barn yr Ombwdsmon bod ei ymddygiad wedi dangos diystyrwch o hawl yr Achwynydd i gysylltu gydag aelod etholedig drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn dangos y byddai methu â chyfathrebu yn Saesneg  yn arwain at wasanaeth o safon is gan aelod etholedig.  Cymerodd y Pwyllgor ystyriaeth hefyd o’r effaith y byddai hyn yn ei gael ar Gyngor Gwynedd yn enwedig o  ystyried pwysigrwydd a safle canolog yr iaith Gymraeg ym mhob agwedd o’i weithrediad.

 

Cosb

 

12. Roedd Pwyllgor o’r farn bod hwn yn achos difrifol o dorri cod ymddygiad yn enwedig o ystyried y ffaith ei fod wedi dwyn anfri ar swydd yr aelod ac ar yr awdurdod.  Ystyriodd yr hyn yr oedd gan yr Ombwdsmon a’r Achwynydd i’w dweud yn y gwrandawiad ynghyd â’r arweiniad a roddir yng Nghanllaw ar Gosbau Panel Dyfarnu Cymru (y “Canllawiau”).

 

13. Ystyriodd y Pwyllgor ddifrifoldeb yr ymddygiad ac yn arbennig y ffaith fod yr ymddygiad wedi dwyn anfri ar swydd ac awdurdod yr Aelod.  Cymerodd i ystyriaeth hefyd bwrpas gosod cosb sef yr angen i feithrin hyder y cyhoedd mewn democratiaeth leol a bod angen felly adlewyrchu difrifoldeb y mater.  Roedd y Pwyllgor o’r farn felly y byddai cosb yn cynnwys ataliad yn addas yn yr amgylchiadau.  Aeth y Pwyllgor ati i ystyried y ffactorau lliniarol a gwaethygol hynny a restrir yn y Canllawiau  (ym mharagraff 42):

 

14. O safbwynt ffactorau lliniarol canfu’r Pwyllgor fod y ffactorau canlynol yn berthnasol yn yr achos hwn:

 

·         hanes blaenorol o wasanaeth da (yn enwedig os yw dros gyfnod maith);

·         cydnabod ac edifarhau’r camymddwyn ac unrhyw ganlyniadau

·         ymddiheuriad, yn enwedig ymddiheuriad cynnar, i unrhyw un a gafodd ei effeithio; yn y cyd-destun yma roedd y pwyllgor yn deall ac yn derbyn esboniad yr Aelod pam na wnaeth ymddiheuro yn gynharach, sef y rhybudd gan yr Ombwdsmon yn ystod yr ymchwiliad i beidio â thrafod y mater ag unrhyw un arall.

·         cydweithredu â’r swyddog ymchwilio a’r pwyllgor safonau / PDC;

·         derbyn bod angen newid ymddygiad yn y dyfodol;

·         yn cydymffurfio â’r Cod ers y digwyddiadau a arweiniodd at y dyfarniad.

·         Yn ogystal â’r materion penodol yn y Canllawiau, cymerwyd i ystyriaeth hefyd y llythyrau a dderbyniwyd yn tystio i gymeriad yr Aelod.

 

Ystyriodd y Pwyllgor os dylid ystyried diffyg darpariaeth gyfieithu fel ffactor lliniarol yn yr achos hwn, ond penderfynodd nad oedd, am y rhesymau a roddir ym mharagraff 10.3 uchod.

 

15. Gan droi at ffactorau gwaethygol, canfu’r Pwyllgor fod y canlynol yn berthnasol yn yr achos hwn:

 

·         profiad maith, safle uchel a/neu swydd gyfrifol;

·         gweithred/gweithredoedd sydd wedi dwyn anfri ar yr awdurdod perthnasol

a/neu’r gwasanaeth cyhoeddus; - tra’n bresennol yn yr achos yma, roedd y Pwyllgor eisoes wedi ei gymryd i ystyriaeth wrth benderfynu ar ddifrifoldeb y drosedd ac felly ni ystyriwyd ef fel ffactor waethygol bellach.

 

16. Ar ôl pwyso a mesur difrifoldeb yr ymddygiad dan sylw ac ar ôl ystyried y ffactorau lliniarol a’r ffactorau gwaethygol perthnasol penderfynodd y Pwyllgor y dylai’r Aelod gael ei gwahardd o fod yn aelod o Gyngor Gwynedd am gyfnod o 1 mis.

 

17 Penderfynodd y Pwyllgor hefyd:

 

17. Ei fod yn disgwyl i’r Aelod fanteisio ar unrhyw gyfleoedd hyfforddiant a gynigir gan y Cyngor yn y dyfodol, sy’n ymwneud ag ymddygiad aelodau.

 

18. Y dylai’r Aelod ysgrifennu at yr Achwynydd o fewn 3 wythnos (o ddyddiad derbyn yr hysbysiad yma) i ymddiheuro am ei hymddygiad (gyda chopi i’r Swyddog Monitro)

 

19. Y dylid argymell i Gyngor Gwynedd ystyried os gellid darparu cymorth i aelodau mewn perthynas â gohebiaeth a dderbynnir ganddynt mewn iaith nad ydynt yn ei deall, unai yn fewnol neu drwy gyfeirio aelodau at ffynonellau eraill priodol.

 

Apêl

 

20.  Nodwyd y caiff yr Aelod ofyn am ganiatâd i apelio yn erbyn penderfyniad y Pwyllgor i dribiwnlys apeliadau a dynnwyd o Banel Dyfarnu Cymru, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig o fewn 21 diwrnod o dderbyn y rhybudd penderfyniad i lywydd Panel Dyfarnu Cymru.  Rhaid i’r cais am ganiatâd i apelio nodi’r rhesymau dros apelio a pa un a roddir caniatâd i apelio ai peidio, ei bod yn cydsynio i’r apêl gael ei chynnal drwy gyfrwng sylwadau ysgrifenedig. (Ceir manylion pellach ar wefan y Panel Dyfarnu www.paneldyfarnu.llyw.cymru).

 

Dyddiad dod i rym unrhyw waharddiad

 

21. Yn unol â’r Rheoliadau (rh.8(6)), bydd unrhyw gyfnod atal neu atal yn rhannol yn dechrau ar y diwrnod:

 

(a) ar ôl i'r amser a ganiateir i gyflwyno hysbysiad apêl ddod i ben,

Neu, os cyflwynir apêl:

(b) ar ôl i hysbysiad ynghylch casgliad unrhyw apêl ddod i law, neu

(c) ar ôl dyfarniad pellach gan y Pwyllgor Safonau a wnaed ar ôl cael argymhelliad gan dribiwnlys apeliadau ,

p'un bynnag sy'n digwydd olaf.

 

Hysbysiad o’r Penderfyniad

 

22. Yn unol â Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau (Cymru) 2001 (fel y’i diwygiwyd) (“y Rheoliadau”) hysbysir yr Aelod, yr Achwynydd ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru o benderfyniad y Pwyllgor drwy Hysbysiad o Benderfyniad.

 

 

Dechreuodd y cyfarfod am 10.00yb a daeth i ben am 2.50yp.

 

 

Cadeirydd

 

Dogfennau ategol: