Agenda item

Ail- gyflwyniad: Newid defnydd tir i greu iard storio/ gwerthiant yn gysylltiedig a'r eiddo masnachol presennol, ynghyd â chodi ffens ddiogelwch, gosod ardal llawr caled ac addasiadau i'r fynedfa amaethyddol i greu mynedfa gerbydol i'r iard  

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd John Pughe

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gohirio er mwyn cynnal ymweliad safle

 

Cofnod:

Ail- gyflwyniad: Newid defnydd tir i greu iard storio/ gwerthiant yn gysylltiedig â'r eiddo masnachol presennol, ynghyd â chodi ffens ddiogelwch, gosod ardal llawr caled ac addasiadau i'r fynedfa amaethyddol i greu mynedfa gerbydol i'r iard

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr oedd yn cyfeirio at gynlluniau diwygiedig oedd wedi eu cyflwyno.

 

a)    Amlygodd Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd  (ac nid deiliad tŷ fel ymddangoswyd ar flaen yr adroddiad) ar gyfer newid defnydd tir i greu iard storio / gwerthiant ar dir gyferbyn ac Idris Villas, Tywyn fyddai’n gysylltiedig ag eiddo masnachol presennol sydd wedi ei leoli ar y Stryd Fawr. Byddai’r bwriad yn cynnwys codi ffens diogelwch, gosod ardal llawr caled ac addasiadau i’r fynedfa amaethyddol bresennol i greu mynedfa gerbydol addas.

 

Adroddwyd mai tir amaethyddol yw safle’r cais wedi ei leoli tu allan, ond yn cyffwrdd gyda ffin datblygu Tywyn, felly yn cael ei ystyried yn safle cefn gwlad. Datgan polisi PCYFF 1 y CDLl, bydd cynigion tu allan i ffiniau datblygu yn cael eu gwrthod oni bai eu bod yn unol â pholisi penodol yn y Cynllun neu ym mholisïau cenedlaethol neu fod y cynnig yn dangos fod ei leoliad cefn gwlad yn hanfodol.

 

Y bwriad yw sefydlu iard manwerthu allanol tu ôl i’r cyn siop ddodrefn er ehangu’r busnes ymhellach. Datgan polisi MAN 6 y caniateir cynigion am siopau graddfa fechan neu estyniad i siopau presennol sydd tu allan i ffin os gellid cydymffurfio a chwe maen prawf perthnasol. Er hynny amlygwyd nad oedd y bwriad yn cydymffurfio gyda thri o’r meini prawf hynny:

·           Nid yw’r bwriad yn cydymffurfio yn dechnegol gyda maen prawf 1 gan nad  yw’r cynnig yn ymwneud a busnes sydd eisoes yn bodoli ar y safle.

·           Byddai’r bwriad o ail leoli’r busnes a gwneud defnydd o adeilad masnachol presennol gwag yn cael ei ffafrio, fodd bynnag mae’r angen i ymestyn y defnydd i dir gwyrdd cefn gwlad yn bryder.

·           Byddai ymestyn defnydd manwerthu diwydiannol i gefn gwlad yn cael effaith niweidiol yn weledol ac ar fwynderau’r trigolion cyfagos gyferbyn, ac fe drafodir hyn ymhellach yn rhan mwynderau’r adroddiad.

 

Yng nghyd-destun materion llifogydd, amlygwyd bod rhan helaeth o’r safle’r cais o fewn parth llifogydd C1 fel y dangosir ym Mapiau Perygl Llifogydd Llywodraeth Cymru. Datgan maen prawf 4 o bolisi Strategol PS 6 y dylid lleoli datblygiadau newydd i ffwrdd o ardaloedd lle mae risg llifogydd, oni bai y gellid dangos yn glir nad oes unrhyw risg yn bodoli neu fod modd rheoli’r risg. Rhaid asesu derbynioldeb y cynnig o dan ystyriaethau polisi cenedlaethol Nodyn Cyngor Technegol (NCT) 15 Datblygu a Pherygl Llifogydd yn yr achos yma.

 

Cyflwynwyd Asesiad Canlyniadau Llifogydd fel gwybodaeth ar y cais ac fe ymgynghorwyd gyda Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) arno. Ymddengys bod yr Asesiad Canlyniadau Llifogydd wedi ystyried effaith y datblygiad ar berygl llifogydd, llwybrau llifogydd a storio gorlifdir. Nodwyd bod yr asesiad yn dangos fod perygl llifogydd i’r safle ddatblygu o lifogydd llanw, ond yn dangos y gellid rheoli’r risgiau a’r canlyniadau i lefel derbyniol.

 

Er bod gan CNC bryderon ynglŷn â’r cais, ystyriwyd bod modd eu goresgyn pe amodir dogfennau penodol. Er gwaethaf bodlonrwydd CNC ynglŷn â’r cynlluniau, rhaid oedd ystyried y mater o safbwynt gofynion perthnasol paragraff 6.2 NCT 15 sydd yn nodi yn gwbl glir “Yr unig adeg y dylid caniatáu datblygiadau newydd eraill ym mharthau C1 ac C2 yw pan fydd yr awdurdod cynllunio yn penderfynu bod cyfiawnhad i’w leoli yno.” Yn syml, fel eglurwyd yn nyfarniad gwrthodiad y cais blaenorol C22/1050/09/LL ac wrth ymateb i  Ymholiad Cyngor Cyn Cyflwyno Cais ar gyfer y bwriad, nid yw’r datblygiad yn cyfarch profion cyfiawnhad penodol y NCT ac felly yn groes i bolisïau PCYFF 1, sawl maen prawf ym mholisi MAN 6, Polisi Strategol 6 a phrofion cyfiawnhad Nodyn Cyngor Technegol (NCT) 15 Datblygu a Pherygl Llifogydd.

 

Yng nghyd-destun mwynderau gweledol, nodwyd bod y bwriad yn golygu newid defnydd rhan o gae amaethyddol i iard storio / gwerthiant fyddai’n golygu codi ffens ddiogelwch o’i amgylch, gosod ardal o lawr caled mewn rhannau a chreu mynedfa gerbydol newydd. Nodwyd pryder y byddai’r datblygiad yn cyflwyno elfen ddiwydiannol galed mewn lleoliad amlwg ac agored yn y dref. Nid oes unrhyw newidiadau wedi eu cynnwys yn y cynlluniau i’r hyn a gyflwynwyd yn y cais cynllunio gwreiddiol a wrthodwyd, felly’r un pryderon yn berthnasol am yr effaith gweledol.

 

Yng nghyd-destun materion preswyl, amlygwyd bod y cae dan sylw wedi ei leoli mewn lleoliad canolog o fewn y dref gyda chymysgedd o siopau a thai preswyl yn y cyffiniau cyfagos. Byddai’r bwriad yn cyflwyno defnydd o natur ddiwydiannol i’r cae, gyda defnydd manwerthu / storio trwm gyda mynd a dod dyddiol gan gerbydau trwm ‘HGV’ a’r potensial i achosi aflonyddwch sŵn.  Ystyriwyd fod sail i bryder  cymydog ar y cais gwreiddiol, y gallai natur y gweithgarwch, allu achosi aflonyddwch sŵn a phrysurdeb i’r cymdogion gyferbyn. O ystyried natur wledig llonydd y safle ar hyn o bryd, ystyriwyd y gall y newid defnydd a’r fynedfa newydd gysylltiedig achosi aflonyddwch ac effaith andwyol sylweddol ar breswylwyr cyfagos.

 

Wrth ystyried materion trafnidiaeth a mynediad nodwyd bod y safle yn cael ei wasanaethau gan ffordd sirol ddeuffordd dosbarth 3 gyda’r bwriad o agor mynedfa gerbydol newydd i’r datblygiad. Cyflwynwyd cynlluniau manwl o’r fynedfa a llwybrau ‘swept path’ i gerbydau a cherbydau trwm i mewn i’r safle. Derbyniwyd sylwadau gan yr Uned Drafnidiaeth i’r bwriad oedd yn nodi’r angen i gael manylion ‘swept path’ o’r cerbydau yn dod allan o’r safle er mwyn sefydlu faint fydd y lorïau yn meddiannu’r ffordd gyferbyn mewn lleoliad sy’n agos i gyffordd croesffordd. Ar sail sylwadau’r Uned Drafnidiaeth ni ellir gwarantu fod y fynedfa arfaethedig yn addas i sicrhau gweithrediad diogel o’r briffordd. Mae’r bwriad felly yn gwrthdaro a pholisi TRA 4 ac maen prawf 6 MAN 6 y CDLl a NCT 18: Trafnidiaeth.

 

Ystyriwyd bod y datblygiad yn parhau’n annerbyniol ar sail pryderon llifogydd, effaith ar fwynderau gweledol,  mwynderau'r preswylwyr cyfagos a ffyrdd. Nid oedd unrhyw newid i gynlluniau na manylion y cais ers y gwrthodiad blaenorol o dan gais C22/1050/09/LL ac felly argymhellwyd gwrthod y cais.

 

b)    Yn manteisio ar ei hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol:

·         Ei fod yn gefnogol i’r cais

·         Ei fod yn adnabod yr ardal yn dda

·         Nifer o siopau yn cau – byddi’r bwriad yn lliniaru’r problemau

·         Bod eiddo gwag ar y Stryd Fawr yn addas ar gyfer y defnydd

·         Bod y datblygiad yn un lefel isel

·         Bod y safle yn annhebygol o lifogi - wal fôr, arglawdd ac amddiffynfeydd llifogydd mewn lle ac yn ei holl flynyddoedd yn byw yn yr ardal nid oedd wedi gweld yr ardal yma yn dioddef effaith  llifogydd

·         CNC yn nodi y gellid goresgyn pryderon llifogydd os yw Asesiad Canlyniadau Llifogydd yn cael ei gynnwys yn yr amodau

·         Byddai mynediad yn cael ei wella

·         Gellid gosod amod ar gyfer amseroedd cludo

·         Bod y safle yn ddigon mawr i loriau droi – gwelededd da

·         Bod y safle yn addas i bwrpas

·         Busnes wedi ei sefydlogi yn yr ardal – y cwmni yn ased i’r dref – dim eisiau eu colli

·         Cyfle da i lenwi eiddo gwag yn y dref

·         Y cwmni yn ased i’r dref – angen adfywiad yn y dref

 

c)    Cynigiwyd ac eiliwyd cynnal ymweliad safle

 

ch)   Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau:

·        Er bod yr adroddiad yn un manwl, nid yw yn adlewyrchu’r broblem

·        Bod y datblygiad yn hanfodol i Dywyn - angen swyddi

·        Angen hybu busnesau lleol

·        Cyngor Cymuned wedi trafod y cais er nad oedd y sylwadau wedi eu cynnwys yn yr adroddiad

 

 

PENDERFYNWYD: Gohirio er mwyn cynnal ymweliad safle

 

Dogfennau ategol: