Agenda item

Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad.

 

Cofnod:

 

(Cyhoeddwyd atebion ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau ymlaen llaw.)

 

(1)     Cwestiwn Y Cynghorydd Beca Roberts

 

“Yn 2019 mi wnaethom ni fel Cyngor ddatgan Argyfwng Hinsawdd a Natur gan dderbyn bod newid eithafol yn yr hinsawdd yn effeithio yn negyddol ar ein cymunedau ni, a ledled y byd.  Mae’r risgiau newid yn yr hinsawdd yn rai go-iawn i nifer o drigolion Gwynedd - o lifogydd i dirlithriadau, ac eithafion tywydd cynnes ac oermae’r gost o anwybyddu'r argyfwng hinsawdd yn cynyddu.  Ers i ni gychwyn ein gwaith i leihau allyriadau carbon gyda Chynllun Rheoli Carbon Cyngor Gwynedd faint o garbon mae’r Cyngor wedi arbed, a allwch chi ymhelaethu ar faint o arian mae’r newidiadau yma wedi arbed i’r Cyngor?”

 

Ateb Arweinydd y Cyngor, Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn

 

“Dyma un o’r pynciau pwysicaf y gallwn ni fel Cyngor ei wynebu ac mi wnâi ddarllen yr ateb ysgrifenedig yn gyflawn gan ein bod yn credu bod hwn yn fater mor bwysig.

 

Mae’n wir ein bod fel Cyngor wedi ymrwymo i leihau effaith ein gweithgareddau ar ein hamgylchfyd ymhell cyn i ni ddatgan Argyfwng Newid Hinsawdd a Natur yn 2019.  Yn ôl yn 2010, bu i ni fabwysiadu Cynllun Rheoli Carbon er mwyn rheoli a lleihau ein hôl troed carbon.  Ers ei gyflwyno, rydym wedi arbed 103,757 tunnell o garbon o’r allyriadau sy’n cael eu creu drwy ddefnydd ynni ein hadeiladau (ysgolion, canolfannau hamdden, cartrefi preswyl, llyfrgelloedd, swyddfeydd a mwy), ein goleuadau stryd, ein fflyd a defnydd o geir, a’n gwastraff.

 

Ar ôl degawd o weithredu a llwyddo yn y maes cadwraeth ynni, roedd ôl troed carbon blynyddol ein gweithgareddau uniongyrchol 43% yn llai na’r oedd cyn i ni gychwyn ar y siwrne yma.

 

Ers 2010, rydym wedi gweithio’n ddiflino i geisio manteisio ar unrhyw gyfle posib i fod yn lleihau ein hôl troed carbon, gan gynnwys buddsoddi £7.4M mewn cynlluniau megis 613kWp o baneli solar ar 55 o’n safleoedd er mwyn creu trydan ein hunain, uwchraddio goleuadau a lampau i’r dechnoleg fwyaf cyfredol, ynysu ein hadeiladau er mwyn cadw’r gwres, gorchuddio pyllau nofio dros nos, a llawer iawn mwy. Mae’r tîm ynni ymroddgar yma hefyd yn edrych ar batrymau defnydd ynni ein hadeiladau yn gyson er mwyn adnabod gwastraff ac i sicrhau effeithlonrwydd ac yn defnyddio meddalwedd sy’n eu galluogi i reoli defnydd ynni ein hamrywiol adeiladau ar hyd a lled y sir o swyddfa’r tîm yng Nghaernarfon.

 

Yn wir, mae Tîm Ynni Cyngor Gwynedd wedi cael cydnabyddiaeth genedlaethol o’u gwaith gan iddynt ennill gwobr ‘Tîm Rheolaeth Ynni y Sector Gyhoeddus’ yng ngwobrau Energy Managers Association Prydain yn 2020.

 

Mae’r holl waith yn y maes yma wedi arwain at gyfanswm arbediad ariannol o £14.75M i’r Cyngor ers 2010.

 

Hoffwn hefyd dynnu sylw at y budd ariannol syfrdanol yr ydym yn elwa ohono erbyn heddiw, oherwydd ein llwyddiant dros y degawd diwethaf.  Pe byddem wedi parhau i ddefnyddio'r un faint o ynni ag yr oeddem yn ei ddefnyddio yn 2010, byddai ein biliau ynni wedi bod £4.3M yn uwch y llynedd. Pe byddem wedi gorfod talu’r gost ychwanegol yma, byddai wedi arwain at £4.3M yn uwch o doriadau mewn gwasanaethau rheng flaen, neu gynyddu’r Dreth Cyngor 5.4% yn uwch na’r cynnydd eleni.

 

I gloi felly, rhaid tynnu sylw at y ffaith ein bod ni fel Cyngor wedi rhoi blaenoriaeth i’r agenda yma ymhell cyn datgan Argyfwng Hinsawdd a Natur yn ôl yn 2019, a’n bod dros y blynyddoedd wedi llwyddo i wneud gwahaniaeth drwy reoli ein hôl troed carbon uniongyrchol fel cyfraniad i warchod ein hamgylchfyd ar gyfer cenedlaethau i ddod. Mae’r gwaith hynny yn parhau wrth gwrs ac yn ehangu fel byddwn yn ceisio cyrraedd nod Llywodraeth Cymru o fod yn garbon net sero erbyn 2030.  Byddwn angen bod yn fyw i’r ffaith y bydd y cyfnod nesaf yn fwy heriol fyth, wrth i ni fynd i’r afael ag allyriadau carbon sy’n deillio o’n gweithgaredd caffael, cymudo i’r gwaith ayb.”

 

Cwestiwn Atodol y Cynghorydd Beca Roberts

 

“Beth mae’r Cyngor yn ei wneud i gefnogi ac ysbrydoli pobl a busnesau Gwynedd i gymryd yr un un camau er mwyn iddyn nhw fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd?”

 

Ateb Arweinydd y Cyngor, Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn

 

“Wrth i ni roi’r Bwrdd Newid Hinsawdd at ei gilydd rai blynyddoedd yn ôl bellach, yn dilyn y penderfyniad i ddatgan argyfwng, ein blaenoriaeth ni bryd hynny oedd sicrhau bod ein gweithgaredd ni fel Cyngor, a’r hyn oedd gennym ni reolaeth drosto, yn ymgyrraedd at y nod.  Rwy’n credu mai’r cam nesaf sy’n ein hwynebu ni ydi estyn allan i’n cymunedau ac i’n busnesau ni, felly mi fydd y Bwrdd Newid Hinsawdd yn ystyried y camau hynny o hyn ymlaen, yn ogystal â cheisio cyrraedd y nod net sero 2030.  Mae hyn yn dipyn o her, cofiwch, ac mae 'na gost iddo hefyd, ond mae cael ac ysbrydoli ein cymunedau i fod yn rhan o’r prosiect pwysig yma yn mynd i fod yn flaenoriaeth i waith y Bwrdd Newid Hinsawdd wrth i ni symud ymlaen.”

 

(2)     Cwestiwn Y Cynghorydd Rhys Tudur

 

“Ar wahân i ffurfio tasglu ar gais y Pwyllgor Craffu Addysg ag Economi, pa gamau rhagweithiol mae’r Adran Addysg wedi eu cymryd i ddiweddaru Polisi Iaith Ysgolion Gwynedd fel ei fod yn fwy cydnaws â’r drefn gategoreiddio newydd ar gyfer y ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg sy’n weithredol ers Medi 2022?”

 

Ateb yr Aelod Cabinet Addysg, Y Cynghorydd Beca Brown

 

“Fel y gwelwch, mae’r ateb ysgrifenedig yn cyfeirio at nifer o lwyddiannau sirol yn fan hyn o ran y Gymraeg mewn addysg, ac nid brolio ydi hynny, ac mae angen cofio bod yr hyn sy’n digwydd hefo’r Gymraeg yng Ngwynedd yn destun edmygedd ac eiddigedd mewn siroedd cyfagos a thrwy Gymru.  Yn digwydd bod, cefais fy atgoffa o hynny yn ddiweddar mewn cyfarfod hefo Llywodraeth Cymru lle roedden nhw’n rhyfeddu at ein gallu ni i gynnal sefyllfa’r Gymraeg.

 

Mae’r cwestiwn yn cyfeirio at y drefn gategoreiddio, ond mae ein Polisi Iaith ni yn sefyll ar ei draed ei hun ac nid yw’n cael ei yrru gan y drefn categorïau, gan mai rhywbeth gweinyddol yn unig ydi’r categori i ni oherwydd, wrth gwrs, mae ein dyhead ni yma yng Ngwynedd yn sylweddol uwch na’r hyn sy’n cael ei nodi yn y categori.  Ond y pwynt pwysig wrth ddweud hynny ydi mai’r Polisi, wrth gwrs, sy’n bwysig, fel mae’r cwestiwn yn nodi, ac rydw i’n falch o fedru dweud bod yna fwriad i ddiweddaru’r Polisi Iaith er mwyn adlewyrchu’r newidiadau sydd wedi bod yn y byd addysg ac i ymateb i’n dyheadau ni o ran hybu’r Gymraeg yng Ngwynedd, dyheadau sydd, wrth gwrs, yn uchelgeisiol ac yn arloesol fel erioed.

 

Yn ogystal â ffurfio’r tasglu, mae’r Adran wedi bod yn casglu gwybodaeth a data am y ddarpariaeth ddwyieithog ar hyd ein hysgolion a bydd hynny, ynghyd â chanfyddiadau ymchwil y tasglu craffu, o gymorth i ni wrth i ni ddiweddaru’r Polisi yma er gwell, ac i adeiladu ar y llwyddiannau hanesyddol y mae cyfeiriad at rywfaint ohonynt yn yr ateb ysgrifenedig.”

 

Cwestiwn Atodol y Cynghorydd Rhys Tudur

 

“Mae’r Polisi Iaith cyfredol yn hyrwyddo cyflwyno addysg cyfrwng Saesneg.  A fu unrhyw newid sylweddol i Bolisi Iaith Ysgolion Gwynedd yn ystod y 30 mlynedd ddiwethaf mewn ymateb i newidiadau demograffig a shifft iaith yn y gymdeithas?”

 

Ateb yr Aelod Cabinet Addysg, Y Cynghorydd Beca Brown

 

“Addysg ddwyieithog rydym ni’n gynnig yn y sir yma, wrth gwrs, ac mae’r Gymraeg ar gael i bawb, ac mae pawb yn cael y Gymraeg.  Does yna ddim osgoi’r Gymraeg yma yn y sir.  Rydym ni’n gwybod bod yna waith yn digwydd hefo dwy ysgol, ond addysg ddwyieithog yn y Gymraeg a’r Saesneg, wrth gwrs, hefo’r pwyslais ar y Gymraeg, sydd yn digwydd yma.  Nid ydw i’n ymwybodol o newidiadau diweddar i’r Polisi, ond â bod yn deg, mae’r Polisi wedi bod yn hynod lwyddiannus ac yn gweithredu ar yr egwyddor glir bod y Gymraeg ar gael i bawb, a phawb yn ei chael hi.

 

Rydym yn gwybod, fodd bynnag, o weld ystadegau’r Cyfrifiad, bod yna heriau o ran y boblogaeth, ayb, ac mae hynny’n golygu bod angen i ni edrych ar yr heriau newydd rheini.  Hefyd, mae yna nifer o newidiadau wedi digwydd yn y byd addysg, felly mae’n amserol i ni gyfarch y rheini a heriau newydd o ran y boblogaeth, a bydd hynny’n codi mewn cwestiwn arall yn nes ymlaen.

 

Heb i ni fod yn edrych yn ôl ar yr hyn a fu, beth sy’n bwysig ydi beth sy’n digwydd rŵan, a beth sy’n mynd i fod yn digwydd, a beth sy’n digwydd rŵan ydi bod ni’n edrych ar y Polisi ac yn mynd i’w ddiweddaru a’i gryfhau, a bod hynny yn mynd i fod, gobeithio, yn unol â’n dyhead ni, sydd bob amser yn uchelgeisiol yn y sir yma.”

 

(3)     Cwestiwn Y Cynghorydd Richard Glyn Roberts

 

“Mae darpariaeth newydd ym maes gofal yn rhywbeth i’w groesawu, ond ai priodol yw mynegi cymeradwyaeth a chefnogaeth ddiamod, ymlaen llaw, i gynlluniau sy’n rhwymo’r cyfryw ddarpariaeth wrth ddatblygiad tai nad yw ei raddfa o reidrwydd yn gymesur â’r angen am dai yn lleol a chan gymylu a drysu’r materion hyn, gofal a thai, nes tanseilio ymlaen llaw'r ymdrech i gloriannu effeithiau cymdeithasol posibl y cyfryw gynlluniau?”

 

Ateb yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant, Y Cynghorydd Dilwyn Morgan

 

“Diolch am y cwestiwn oherwydd mae’n rhoi cyfle i mi godi ymwybyddiaeth a rhannu newyddion da am gynllun sy’n arloesol a hynod gyffrous i ni yma yng Ngwynedd, ac rwy’n falch o gefnogaeth yr Aelod i’r ddarpariaeth newydd yma.

 

Cefndir y bartneriaeth sy’n cydweithio ar y cynllun yma ydi ni, wrth gwrs, Cyngor Gwynedd, yr Adran Tai ac Eiddo a’r Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, ac efallai y byddaf yn rhoi'r cyfle, gyda chaniatâd y Swyddog Monitro, os bydd yr Aelod Cabinet Tai, y Cynghorydd Craig ab Iago, hefyd eisiau cyfrannu at yr ateb, os bydd cwestiwn atodol.  Partneriaid eraill ydi Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cymdeithas Tai Clwyd ac Alun a’r gymuned leol, ac mae hwnnw’n bwysig iawn, sef y fferyllwyr, y meddygon lleol, yn ogystal ag aelodau lleol y gymuned yn Llŷn ac Eifionydd yn ehangach.

 

Rydw i am ateb y cwestiwn fel Cadeirydd y Bwrdd Rhaglen Ail-ddatblygu Safle Penyberth, bwrdd sydd, gyda llaw, â’r hawl absoliwt i gymeradwyo neu wrthod pob penderfyniad am y safle yma.  Tra’n diolch am y cwestiwn, mae’n rhaid i mi anghytuno a chadarnhau nad ydi’r “mynegi cymeradwyaeth a chefnogaeth ddiamod o flaen llaw”, sydd yn y cwestiwn, yn ffeithiol gywir.  Felly mae’n rhaid i mi anghytuno hefo’r Aelod ar hynny, ond eto’n wir groesawu bod yr Aelod yn gefnogol i’r ddarpariaeth gofal yma fydd, wrth gwrs, yn cynnwys cymysgedd o dai gofal, darpariaeth gwelyau nyrsio, dementia a llawer mwy.  Ac rydw i am orffen trwy ddweud bod croeso i unrhyw aelod o’r Cyngor gysylltu â mi ar unrhyw fater am Penyberth, ac yn ehangach o ran yr Adran Oedolion, ac rydw i ar gael bob amser.  Diolch eto am y cwestiwn a’r cyfle i godi ymwybyddiaeth o safle Penyberth.”

 

Cwestiwn Atodol y Cynghorydd Richard Glyn Roberts

 

“Byddai paragraff olaf yr ymateb ysgrifenedig wedi bod yn ateb digonol i baragraff o gwestiwn.  Pam bod teimlad bod yna reidrwydd i ragymadroddi?”

 

Ateb yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant, Y Cynghorydd Dilwyn Morgan

 

“Rwy’n credu fy mod wedi ateb y cwestiwn atodol ar y cychwyn.  Rydw i wedi pwysleisio bod hwn yn gynllun mor arloesol ac mor gyffrous fel bod angen i ni fel Cyngor fanteisio ar unrhyw gyfle i gael y neges yna allan.  Mae’n neges mor bwysig, nid yn unig i drigolion Llŷn ac Eifionydd, ond i’n hardaloedd gwledig ni, felly dyna’r rheswm dros yr ateb llawn, ac rydw i’n hynod falch o’r ateb a’r cyfle i roi’r wybodaeth allan i’r cyhoedd.”

 

(4)     Cwestiwn Y Cynghorydd Gwynfor Owen

 

Yn dilyn cyfarfod gyda Lee Waters yng Nghaerdydd Dydd Mercher y 26ain o Ebrill 2023 i drafod pryderon diogelwch ffyrdd Llanbedr, gai ofyn i'r Arweinydd adrodd i'r Cyngor ar ganlyniad y trafodaethau hynny?

 

Ateb Arweinydd y Cyngor, Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn

 

“Roedd yn gyfarfod y gellid ei ddisgrifio fel un hanesyddol, h.y. dydi’r Dirprwy Weinidog a minnau ddim wedi bod ar y telerau gorau ers iddo ddatgan nad oedd cynllun ffordd Llanbedr yn mynd yn ei flaen, ac mae yna eiriau wedi bod rhyngom ers y cyfnod yna.  Fodd bynnag, mi gefais y cyfle i fynychu’r cyfarfod gyda’r Dirprwy Weinidog ynghyd â chynrychiolaeth o Grŵp Pobl Llanbedr, a’n Haelod Seneddol, Mabon ap Gwynfor, a’n Haelod Seneddol, Liz Saville Roberts.

 

Cyn i ni gael gair i mewn a dweud y gwir, fe wnaeth y Dirprwy Weinidog ddatgan ei fod yn cefnogi cynlluniau am ffordd, nid ffordd osgoi, ond ffordd lliniaru cyflymder isel i Lanbedr fel rhan o gynllun ehangach y Coridor Gwyrdd.  Roeddwn wedi bod mewn cyfarfod ychydig ddyddiau ynghynt ac roedd llawer o sôn am ddatblygu’r Coridor Gwyrdd.  Rydym ni’n awyddus iawn i ddatblygu’r Coridor Gwyrdd ar hyd arfordir Ardudwy, ond heb y ffordd lliniaru, doedd y Coridor Gwyrdd ddim yn mynd i weithio.

 

Mae hwn yn gam mawr ymlaen ac yn galonogol iawn ac mae’r trigolion lleol wrth eu boddau o glywed y cyhoeddiad fel y gwyddom ni.  Er hynny, rhaid rhoi rhybudd iechyd bach - does dim cadarnhad o gyllido’r cynllun, felly does 'na ddim sicrwydd ar hyn o bryd y bydd unrhyw gynllun yn cael ei ariannu.  Nid ydym chwaith yn ymwybodol o’r amserlen sydd gan y Llywodraeth mewn golwg, felly edrychwn ymlaen at unrhyw drafodaethau pellach gyda’r Dirprwy Weinidog a’i swyddogion er mwyn symud y prosiect yn ei flaen.

 

Cyn tewi, gai hefyd ddiolch i bobl Llanbedr am eu dyfal barhad ynglŷn â’r mater yma ac am weithio mor galed i sicrhau clust y Llywodraeth.  Roedd o’n cael effaith ddifrifol ar fywydau pobl Llanbedr, ac mae fy niolch i yn bersonol yn fawr iawn iddyn nhw am eu hymdrechion.”

 

Cwestiwn Atodol y Cynghorydd Gwynfor Owen

 

Fedar yr Arweinydd adrodd beth mae’n rhagweld fydd angen i’r Cyngor a Llywodraeth Cymru ei wneud o hyn ymlaen i wireddu’r cynllun?”

 

Ateb Arweinydd y Cyngor, Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn

 

“Y camau cyntaf fydd rhaid eu cymryd ydi mynd drwy’r holl broses o baratoi cynlluniau newydd, cael y caniatadau gan y rheoleiddwyr, caniatâd cynllunio, ymgymryd â’r holl ymgynghoriadau lleol, ayb, ac mae’r Llywodraeth yn mynd i gydweithio â’n Hadran Amgylchedd ni i ddatblygu’r cynlluniau hynny.  Felly dyna ydi’r gwaith sy’n mynd i ddigwydd nesaf.  Gall hynny gymryd cryn amser.  Mi fuaswn i’n tybio y bydd o leiaf flwyddyn neu ddwy cyn i ni gael y cynlluniau hynny yn eu lle, ac mae yna gost i’r peth hefyd.

 

Mae’r Llywodraeth wedi cynnig cymorth ariannol i ddatblygu’r cynlluniau hynny.  Gai ddweud nad ydw i’n dathlu mor fawr â rhai eraill oherwydd mod i’n gwybod nad oes yna arian wedi’i glustnodi.  Fel y cofiwn, wrth gwrs, mi roedd yna arian yn ei le.  Roeddem ar fin mynd allan i dendr am y cynllun gwreiddiol cyn i’r Dirprwy Weinidog wneud ei ddatganiad, felly roedd popeth yn ei le, yn cynnwys arian Ewrop, sydd bellach wedi’i golli.  Fe gofiwch hefyd i ni wneud cais i’r gronfa ‘Levelling Up’ oedd ddim yn llwyddiannus, felly’r unig ffynhonnell ariannol sydd gennym ni bellach ydi Llywodraeth Cymru.

 

Felly, y dasg i ni, mae’n debyg, o hyn ymlaen, wrth ddatblygu’r cynlluniau yna ydi pwyso ar y Llywodraeth am eu hymrwymiad hwy i ariannu’r cynllun, ac mi fydd yn gynllun ehangach na dim ond y ffordd o amgylch Llanbedr.  Roeddwn yn hynod bryderus ynglŷn â’r agwedd oedd yn yr adroddiad gwreiddiol nad oedd safle maes awyr Llanbedr yn addas ar gyfer datblygiad economaidd, am ei fod mewn lle gwledig.  I mi, mae hynny’n ddatganiad polisi difrifol iawn i ardaloedd gwledig.  Dyma’r union fath o safleoedd rydym angen eu datblygu er mwyn cynnig gwaith o safon y tu allan i amaethyddiaeth a'r tu allan i dwristiaeth.  Felly rydw i’n hynod falch bod yna ryw fath o ddatblygiad o leiaf gan obeithio y bydd yn symud yn ei flaen.”

 

(5)     Cwestiwn y Cynghorydd Huw Rowlands

 

“Mae demograffeg nifer disgyblion ysgolion Gwynedd yn dangos gostyngiad am y blynyddoedd i ddod.

 

Yn wyneb hyn, pa strategaeth sydd gan Gyngor Gwynedd er mwyn dygymod â’r sialens yma, yn enwedig yng nghyd-destun ysgolion bach a gwledig?”

 

Ateb yr Aelod Cabinet Addysg, Y Cynghorydd Beca Brown

 

“Mae hwn yn gwestiwn hynod o bwysig sy’n codi materion y dylem i gyd fod yn gwbl effro iddynt.  Un o’r pethau mwyaf trawiadol i mi wrth baratoi’r ateb ysgrifenedig oedd, o safbwynt nifer yr ysgolion cynradd sydd gennym, bod Gwynedd yn bedwerydd uchaf o holl awdurdodau Cymru, gyda dim ond Caerdydd, Caerfyrddin a Rhondda Cynon Taf gyda nifer uwch o ysgolion cynradd na ni.  O safbwynt nifer yr ysgolion uwchradd, Gwynedd yw’r trydydd uchaf (ar y cyd ag Abertawe) o holl awdurdodau Cymru, gyda dim ond Caerdydd a Rhondda Cynon Taf gyda mwy o ysgolion uwchradd na ni.  Fodd bynnag, ceir oddeutu 20,000 yn fwy o ddysgwyr cynradd, ac 20,000 yn fwy o ddysgwyr uwchradd yng Nghaerdydd o’i gymharu â Gwynedd, ac mae hynny’n dweud ei stori ei hun.

 

Peth trawiadol hefyd ydi bod y gyfradd genedigaethau wedi bod yn gostwng, a bod rhagfynegiadau Llywodraeth Cymru yn awgrymu lleihad pellach o tua 16% yn niferoedd dysgwyr 3-19 oed erbyn 2038.

 

Felly, mae yna heriau amlwg a sylweddol o’n blaenau.  Mewn ymateb i’r darlun hynod bryderus yma, mae’r Adran yn y broses o lunio Strategaeth Addysg newydd fydd yn nodi gweledigaeth, nod ac amcanion yr Adran ar gyfer mynd i’r afael â’r newidiadau mawr yma sydd ar droed o ran poblogaeth ein sir.”

 

Cwestiwn Atodol y Cynghorydd Huw Rowlands

 

“Sut fyddwch chi’n datblygu’r Strategaeth a gyda phwy fyddwch yn ymgynghori wrth ddatblygu’r Strategaeth?”

 

Ateb yr Aelod Cabinet Addysg, Y Cynghorydd Beca Brown

 

“Mae braidd yn gynamserol i mi allu rhoi llawer o fanylion i chi, ond bydd drafft yn mynd gerbron y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi ym mis Medi eleni, a byddaf yn edrych ymlaen yn arw at glywed sylwadau’r craffwyr ar y drafft.  Bydd yna ymgynghori hefo rhanddeiliaid, wrth gwrs, a blaen graffu’r Strategaeth ddrafft.  Yn gyffredinol, rwy’n meddwl ei bod yn hollbwysig bod yna joined-up thinking o ran blaengynllunio ar gyfer yr her enfawr yma sydd gennym ni, a bod hynny’n digwydd ar draws sawl adran, Economi, Tai ac Addysg, oherwydd mater i gymunedau ydi hyn yn y bôn, a sut rydym ni’n denu a chadw teuluoedd yma, ac efallai eu denu yn ôl o lefydd fel Caerdydd.

 

Mae yna andros o waith i’w wneud, ac rydym ni’n aml iawn yn brwydro yn erbyn ffactorau sydd y tu hwnt i’n rheolaeth ni, ond dydi hynny ddim i ddeud nad oes yna unrhyw beth fedrwn ni ei wneud ychwaith, a hoffwn feddwl bod yna bethau fedrwn ni eu gwneud, ac yn wir rwy’n meddwl ei fod yn un o’r darnau gwaith pwysicaf wnawn ni, felly diolch am y cwestiwn.”

 

Dogfennau ategol: