Agenda item

Cyflwyno adroddiad Arweinydd y Cyngor.

Penderfyniad:

Mabwysiadu Cynllun Llesiant Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn 2023-28.

 

Cofnod:

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor, Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, adroddiad yn gwahodd y Cyngor i fabwysiadu Cynllun Llesiant Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn 2023-28, ac ymhelaethodd Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn ymhellach ar y cynnwys.

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r Rheolwr Rhaglen am ei holl waith yn paratoi’r cynllun.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau.  Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

Nodwyd bod pryder wedi’i leisio eisoes yn y Pwyllgor Craffu Cymunedau ynglŷn â’r syniad bod y Gymraeg yn llinyn euraidd sy’n rhedeg drwy’r holl gynllun, yn hytrach nag yn amcan clir mewn bocs, a gofynnwyd am sicrwydd bod y swyddogion wedi gweithredu ar yr adborth hwnnw cyn cyflwyno’r adroddiad hwn i’r Cyngor.

 

Mewn ymateb, nododd yr Arweinydd:-

 

·         Ei bod yn fater o farn a ydi rhoi’r Gymraeg mewn bocs yn cryfhau neu wanhau’r Gymraeg. 

·         Bod y Gymraeg yn rhan annatod o bob maes y mae’r Bwrdd yn ymwneud ag o, ac nad oes angen rhoi’r Gymraeg mewn bocs.  Credai ei fod yn gryfach felly, a gallai roi sicrwydd na fyddai yna newid safbwynt o gwbl o ran y Gymraeg.

·         Bod yr holl bartneriaid wedi cyfrannu’n ariannol at brosiectau, dan arweiniad Cadeirydd y Bwrdd, Aled Jones-Griffith, yn ymwneud â’r defnydd o’r Gymraeg ar draws y sefydliadau i gyd yn eu derbynfeydd, a chredai fod yna ragor o arian i ddod i brosiectau yn y dyfodol ynglŷn â’r Gymraeg.

 

Ychwanegodd y Rheolwr Rhaglen fod yr un sylw wedi codi wrth drafod gyda’r grwpiau eraill, a’i bod yn gobeithio fod y cynllun presennol yn dipyn gwahanol i’r drafft gwreiddiol, yn sgil cryfhau’r agwedd yn ymwneud â’r iaith.

 

Holwyd beth fyddai’r sefyllfa yn sgil newid mewn arweinyddiaeth yn y dyfodol, heb bolisïau a gwarchodaeth i’r iaith.

 

Mewn ymateb, nododd yr Arweinydd nad mater iddo ef yn bersonol oedd y Gymraeg a bod y Gymraeg yn flaenoriaeth i Gyngor Gwynedd fel sefydliad.  Gan hynny, byddai pwy bynnag fyddai’n cynrychioli’r Cyngor ar y Bwrdd yn y dyfodol yn gosod safbwynt y Cyngor o ran y Gymraeg yn hollol glir.

 

Ychwanegodd y Rheolwr Rhaglen:-

 

·         Bod cylch gorchwyl y Bwrdd yn datgan yn glir bod gwaith y Bwrdd yn Gymraeg.

·         Y credai fod y prosiectau mwyaf effeithiol y mae’r Bwrdd wedi ymgymryd â hwy yn ymwneud â’r Gymraeg, lle mae’r partneriaid i gyd wedi ymrwymo iddynt.

·         Bod yna brosiect newydd ar y gweill i edrych ar anawsterau penodi i swyddi lle mae’r Gymraeg yn angenrheidiol o fewn y gwahanol sefydliadau.

 

Gan gyfeirio at baragraff 2.9 o’r blaen-adroddiad, nodwyd bod y gweithrediadau penodol i’r Gymraeg yn amlwg yn Amcan Llesiant 2, lle mae sôn am drosglwyddo’r iaith, ond y dymunid cael enghreifftiau yn Amcan Llesiant 1 ac Amcan Llesiant 3, lle nad oes amlygiad i’r iaith Gymraeg ar hyn o bryd.

 

Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Rhaglen:-

 

·         Y cytunai ei fod yn fwy clir yn Amcan Llesiant 2, ond ei fod yn treiddio drwy’r cynllun.

·         O ran Amcan Llesiant 3, bod mwy o waith i’w wneud dros yr Haf, a gellid sicrhau’r aelodau y byddai’r iaith Gymraeg yn y cynllun gweithredu maes o law.

 

Awgrymwyd mai geiriau gwag oedd dweud bod yr iaith Gymraeg yn llinyn euraidd sy’n rhedeg drwy’r cynllun, os nad ydym yn ei wneud yn amcan neu’n faen prawf y gellir ei fesur.

 

Mewn ymateb, nododd yr Arweinydd:-

 

·         Ei fod yn anghytuno â’r sylw ac yn gresynu at y cyhuddiad, ac nad geiriau gwag mohonynt.

·         Na chredai fod angen cael prosiect arbennig i’r Gymraeg yng Ngwynedd.

 

Awgrymwyd ychwanegu sylw, er bod y Gymraeg yn organig ac yn briod iaith y cymunedau at ei gilydd, bod ffigurau’r Cyfrifiad o ddegawd i ddegawd yn dangos nad yw sefyllfa’r iaith yn arbennig o ddiogel yma yng Ngwynedd chwaith, a’n bod yn dilyn taflwybr tebyg i nifer o ardaloedd eraill.

 

Nodwyd bod erthygl ddiweddar yn nodi mai Gwynedd oedd â’r bwlch mwyaf rhwng y ganran o’r boblogaeth sy’n medru’r Gymraeg yn gyffredinol a chanran y boblogaeth o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig sy’n medru’r Gymraeg.  Awgrymwyd nad oedd system addysg Gwynedd, o bosib’, yn cynnig yr un cyfle i rai o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig afael yn y Gymraeg, ac felly gymhwyso ar gyfer swyddi i’r un graddau ag aelodau’r gymdeithas yn gyffredinol, a chredid bod hynny’n eithaf damniol ac yn awgrymu y dylem newid polisi addysg, ayb.

 

Mynegwyd syndod nad oedd y cynllun yn rhoi mwy o flaenoriaeth i’r argyfwng presennol yn y maes iechyd.

 

Mewn ymateb, nododd yr Arweinydd:-

 

·         Ei fod yn derbyn y sylw a’i fod yn ymwybodol o’r argyfwng yn y maes iechyd.

·         Er mai’r Bwrdd Iechyd sy’n bennaf gyfrifol am y maes iechyd, gellid edrych ar ffyrdd o gyfrannu at ddatrys y broblem iechyd trwy bartneriaeth y Bwrdd.

 

Nodwyd bod pobl yn methu cael ambiwlans, meddyg na deintydd, a bod tlodi yn gwaethygu yn ein cymunedau o ganlyniad i’r argyfwng costau byw.  Hefyd, roedd diffyg trafnidiaeth gyhoeddus yn caethiwo pobl yn eu cymunedau, a chredid nad oedd y cynllun yn cyfarch yr holl faterion hyn.

 

Mewn ymateb, nododd yr Arweinydd:-

 

·         Er yn derbyn y pwynt, na allai’r cynllun gyfarch popeth.  Rôl y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus oedd chwilio am ffyrdd i ychwanegu at waith y cynghorau a’r sefydliadau unigol, ac nid gwneud y gwaith yma drostynt.

·         Bod yna bwynt am iechyd sy’n cyfeirio at rywbeth sy’n draws-ffiniol ac yn draws-sefydliadol, a chredid bod yna rywbeth i’r Bwrdd edrych arno.

·         Bod tlodi, fel newid hinsawdd, yn faes hynod gymhleth ac ychydig iawn o reolaeth sydd gennym ni, ac ychydig iawn o reolaeth neu arfau sydd gan Lywodraeth Cymru o ran tlodi, gan fod yr arfau yn gorwedd yn Llywodraeth San Steffan.

 

Awgrymwyd bod y symudiad tuag at sero net carbon am yrru mwy o bobl i sefyllfa o dlodi.  Roedd mwyafrif poblogaeth y byd yn ddibynnol ar fwyd sydd wedi’i gynhyrchu gan ddefnyddio gwrtaith ac roedd cwmnïau o’r tu allan yn prynu ein tiroedd ar gyfer plannu coed i wrthbwyso eu ôl-troed carbon.  Nid oedd modd cyrraedd sero net carbon yng nghefn gwlad.  Roedd amaethwyr angen diesel i’w tractors a gweithwyr angen tanwydd i’w cerbydau er mwyn cymudo i'r trefi.

 

Mynegwyd siomedigaeth mai 499 yn unig o ymatebion a dderbyniwyd i’r holiadur ar y cynllun a nodwyd bod unrhyw gydweithio rhwng Gwynedd a Môn yn diystyru De Gwynedd.

 

Mewn ymateb, nododd yr Arweinydd, yn ogystal â’r holiadur ar y wefan, bod yna waith ymgysylltu hefyd wedi digwydd trwy ddefnyddio gwaith ymgysylltu’r Cyngor yng nghyswllt Ardal Ni.

 

Ychwanegodd y Rheolwr Rhaglen:-

 

·         Bod 499 o ymatebion yn uchel o gymharu ag ymatebion i holiaduron eraill.

·         Bod mwyafrif y sesiynau ymgysylltu wyneb yn wyneb wedi’u cynnal yn Ne Gwynedd ac y cafwyd ymateb da iawn.

 

Mynegwyd siomedigaeth na ymgysylltwyd gyda disgyblion hŷn ysgolion uwchradd.

 

Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Rhaglen nad oedd yr amseru wedi gweithio o ran hynny, ond y cafwyd cytundeb bellach i fynd allan i ysgolion uwchradd yn eu tro, a bod 4 ysgol wedi arwyddo i fyny i hynny eisoes.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd mai’r Rheolwr Rhaglen oedd unig adnodd ymgynghori’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a dyna pam ein bod yn gwneud defnydd o waith ymgysylltu’r cynghorau hefyd.

 

Nodwyd bod sylw’r Arweinydd mai ychydig iawn o reolaeth sydd gennym dros faterion megis tlodi yn un gonest iawn, ac awgrymwyd y dylai geiriad aml i baragraff a chymal yn yr adroddiad fod yn fwy gwylaidd ac ymarferol, drwy nodi ‘byddwn yn ymdrechu ...’ yn hytrach na ‘byddwn yn ...’ Fel enghraifft o hynny, nodwyd bod y cynllun yn sôn am sicrhau llwyddiant a thegwch i bobl ifanc, ond roedd yr ysgolion wedi’u naddu at yr asgwrn yn ariannol, a hyn a hyn y gellid ei wneud yn unig o fewn y cyfyngiadau hynny.  Roedd yr un peth yn wir am sylwadau Cylch yr Iaith, a byddai’n braf mynegi bod yna rwystrau strwythurol na fedrwn ni wneud dim yn eu cylch.

 

Mewn ymateb, nododd yr Arweinydd nad oedd yn rhannu negyddiaeth yr aelod yn hyn o beth.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu Cynllun Llesiant Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn 2023-28.

 

Dogfennau ategol: